Nodau'r pecyn:
Cynnig syniadau newydd i athrawon wrth gyflwyno cerddi TGAU
Galluogi disgyblion i astudio ac adolygu cerddi TGAU yn annibynnol
Cynnig arweiniad i rieni a gofalwyr sy'n cefnogi eu plant wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer arholiad TGAU Llenyddiaeth Gymraeg
Mae'r pecyn yn adlewyrchu gofynion manyleb TGAU CBAC Llenyddiaeth Gymraeg tra'n cynnig amrywiaeth o brofiadau i ddisgyblion wrth astudio'r cerddi gosod.
Mae nifer o ddeunyddiau'r pecyn yn enghreifftio ymchwil diweddar yn y meysydd canlynol:
Pwysigrwydd gwybodaeth gefndirol ac adeiladu sgema
"Mae gwybod am bethau yn helpu dysgwyr i ddysgu mwy o bethau."
"Mae angen i ni wneud cysylltiadau defnyddiol rhwng y pethau cymhleth."
Cyfarwyddyd penodol
"Mae'n effeithiol ac effeithlon addysgu'r hyn sydd angen ei wybod yn benodol i'r disgybylion."
Damcaniaeth llwyth gwybyddol a cyfyngiadau'r cof gweithredol
"Ni all dysgwyr ddysgu llawer o bethau newydd ar yr un pryd."
"Mae angen i ni addysgu gydag ymwybyddiaeth o sut mae'r cof yn gweithio a pha mor hawdd yw gorlwytho'r cof â gwybodaeth."
Saib ac adalw
"Mae angen cynllunio ar gyfer ailymweld â'r hyn sydd angen ei wybod trwy amseru gofalus er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cofio."
Metawybyddiaeth, hunaneffeithiolrwydd a hunanreolaeth
"Mae angen i ddysgwyr ddewis y strategaethau cywir i ddysgu'n llwyddiannus."
"Mae angen i ddysgwyr fagu hyder yn eu gallu i ddysgu a gwybod pethau."
"Mae angen i ddysgwyr ymarfer eu gallu i ganolbwyntio a rheoli eu hemosiynau i ddysgu pethau."
Er mwyn sicrhau bod y deunyddiau'n hygyrch i ddisgyblion wrth weithio'n annibynnol, mae'r pecyn yn trafod pob cerdd ar wahân.
Mae gofynion Uned 1 (Barddoniaeth) manyleb TGAU Llenyddiaeth Gymraeg yn sail i'r gweithgareddau ar gyfer pob cerdd. Yn benodol, mae'r deunyddiau'n meithrin gallu disgyblion i ddeall a dadansoddi cerddi a chymharu cerdd gyfarwydd â cherdd anghyfarwydd.
Ar gyfer pob un o'r cerddi gosod, mae'r pecyn yn cynnwys
delweddau a 'sbardunau i ysgogi'r meddwl;
gwybodaeth am gefndir y gerdd;
nodiadau am gynnwys, arddull a mesur y gerdd;
trafodaeth am neges a themâu'r gerdd;
gweithgareddau, e.e., gemau rhyngweithiol, at ddiben adoygu
Yn ogystal, mae'r pecyn yn cynnwys clipiau sain gan ddisgyblion yn ymateb i'r cerddi yn eu geiriau eu hunain a rhestr chwarae o ganeuon y gall disgyblion wrando arnynt wrth astudio cerddi'r pecyn.
Mae'r cyflwyniad isod yn enghreifftio'r defnydd y gall athrawon a disgyblion ei wneud o'r pecyn hwn
"Mae'r adnoddau wedi bod yn help mawr i fi astudio cerddi. Weithiau mae'n anodd gwybod lle i ddechrau ond roeddwn i'n hoffi bod y rhannau ar bob cerdd yn fy arwain fi trwy gwestiynau'r papur arholiad. Roeddwn i'n hoffi bod modd gwrando ar y gerdd yn cael ei darllen hefyd achos roedd yn help i fi ddysgu'r cerddi. Mae astudio cerddi yn gallu bod yn waith caled ond roedd llawer o amrywiaeth yma ac roedd hynny'n fy helpu i ddal ati."
Ffion, Casnewydd
"Mae helpu fy mhlant i baratoi ar gyfer eu harholiadau yn bwysig iawn i fi ond dydw i ddim yn gwybod sut i helpu bob tro. Meddyg ydw i a gwyddoniaeth oedd fy mhrif ddiddordeb yn yr ysgol. Roedd y wefan yn help wrth gefnogi fy mab ac roeddwn i'n hyderus ei fod e'n canolbwyntio ar y pethau pwysig pan oedd e'n defnyddio'r wefan i adolygu. Dw i'n ffyddiog ei fod e'n fwy parod i adolygu am ei fod e'n gallu gwneud hynny ar y sgrin! Dysgais i dipyn wrth weithio gyda fe hefyd a chawson ni dipyn o hwyl yn rhoi profion i'n gilydd a gwneud rhai o'r tasgau fel dylunio tatŵ er nad yw'r un ohonon ni'n debygol o gael un yn fuan! Roedd yn ffordd hwylus o feddwl am linellau pwysig yn y cerddi."
Chris, Tregwilym
"Bu'r adnodd hwn yn gymorth mawr wrth i fi addysgu barddoniaeth TGAU am y tro cyntaf yn ystod y pandemig ac ar ôl hynny. Mae'r deunyddiau ysgogol yn tanio diddordeb dysgwyr a'r ymdriniaeth strwythuredig â'r cerddi yn gymorth wrth iddyn nhw ddysgu'r grefft o ymateb i gerdd. Roedd gallu cyfeirio fy nisgyblion at rannau penodol o'r wefan cyn neu ar ôl gwersi yn hynod ddefnyddiol wrth baratoi i gyflwyno cerdd newydd neu adolygu cerdd gyfarwydd. Rydw i'n credu bod amrywiaeth dda yn y deunyddiau ar y wefan hefyd."
Bethan, Caerdydd