Yn sgil dyfodiad nofel newydd ar y fanyleb TGAU Llenyddiaeth Gymraeg, daeth swyddogion rhanbarthol y Gymraeg at ei gilydd i greu adnodd newydd sbon i gynorthwyo ymarferwyr a dysgwyr i astudio'r nofel Llyfr Glas Nebo. Sefydlwyd gweithgor o athrawon o bob cwr o'r wlad a swyddogion rhanbarthol er mwyn creu nodiadau, deunydd ysgogol a gweithgareddau i gyd-fynd â'r nofel.
Penderfynwyd cadw at ofynion y Cymhwyster TGAU ond hefyd i gynnig profiadau pellach i ddysgwyr er mwyn cyfoethogi eu darlleniad a'u dehongliad o'r nofel.
Rhoddwyd sylw manwl i'r addysgeg wrth drafod sut mae dysgwyr yn astudio nofel a sut mae ymarferwyr yn cyflwyno nofelau i ddysgwyr.
Roedd adborth yr ysgolion yn nodi'n glir yr angen am weithgareddau ymarferol sy'n ennyn diddordeb a brwdfrydedd dysgwyr yn y nofel ond hefyd yn meithrin cariad gydol oes at lenyddiaeth.
Mae'r wefan wedi'i strwythuro yn ôl yr adrannau canlynol
Mae'r wefan wedi cael ei defnyddio dros 14,000 o weithiau erbyn hyn.
"Ers dysgu’r nofel Llyfr Glas Nebo i ddosbarthiadau TGAU, rydym fel ysgol wedi gweld y deunydd ar y wefan yn hynod ddefnyddiol. Bu’r llinell amser yn ddefnyddiol fel bod modd i’r disgyblion roi digwyddiadau yn eu trefn oherwydd yn yr arholiad, gall amser y dyfyniad ym mywydau’r cymeriadau effeithio ar gynnwys yr hyn fyddan nhw’n gallu ei drafod yn y dasg greadigol. Mae’r deunyddiau ar y cymeriadau a’r themâu hefyd wedi bod yn sbardun gwerthfawr i greu gwersi ac wedi bod yn help i’r disgyblion wrth lunio portreadau o’r cymeriadau neu i ddefnyddio dyfyniadau pwrpasol."
Luned Jones; athrawes yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw