14.5.2021

Dydd Gwener / Friday - 14.5.2021

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter:

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh Language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/17-5-21-21-5-21


Thema / Topic:

Tasg/ Task:

Ar ddydd Gwener, rydyn ni'n canolbwyntio ar Gymreictod.

Yr wythnos, hon rydych chi'n mynd i edrych ar enwogion Cymru. Eich tasg chi yw ysgrifennu ffeil o ffeithiau am rywun enwog o Gymru. Cliciwch ar y linc i weld a darllen gwybodaeth am yr enwogion.


On Friday, we focus on all things Welsh.


This week, you are going to look at Welsh celebrities. Your task is to write a fact file about a famous person from Wales. Click on the link to view and read information on Welsh celebrities.

Celf / Art:

Mae'r ddraig goch yn symbol pwysig i Gymru. Mae'r ddraig ar ein baner. Eich tasg chi yw tynnu llun o'r ddraig goch. Cliciwch ar y linc i wylio fideo ac i ddilyn cyfarwyddiadau cam wrth gam i dynnu llun draig.


The red dragon is an important symbol for Wales. The dragon is on our flag. Your task is to draw a dragon. Click on the link to follow step by step instructions on how to draw a dragon.

Addysg Gorfforol / Physical Education:

Isod, mae lluniau o amrywiaeth o fathau o symudiadau gwahanol. Ydych chi'n gallu dewis rhai (neu pob un!) o'r symudiadau isod a chyfri sawl un rydych chi'n gallu gwneud mewn 1 munud? Gofynnwch i oedolyn i'ch helpu i gadw cyfrif / amseru.

Below, are pictures of a variety of different types of movement. Can you choose some (or all!) of the movements below and count how many movements you can do in 1 minute? Ask an adult to keep count/ help you to time yourself.

Gwaith Cartref / Homework

Sillafu / Spelling:

Geiriau o fewn geiriau / Words within words:

Faint o eiriau gallwch chi eu gwneud allan o'r geiriau hyn? / How many words can you make out of these words?

anifeiliaid / cynefinoedd / y goedwig law

Darllen / Reading:

Dros y pythefnos diwethaf, rydyn ni wedi bod yn darllen am 'Gŵr y Coed' a hanes Murali a'i frawd, Shandar. Yn anffodus, mae nifer fawr o goedwigoedd glaw yn cael eu difetha. Darllenwch yr erthygl isod a dyluniwch boster yn annog pobl i achub ein coedwigoedd glaw.

During the last fortnight, we've been reading about 'Gŵr y Coed' and the story of Murali and his brother, Shandar. Unfortunately, a number of rain forests are destroyed all the time. Read the article below and make a poster, encouraging people to save our rain forests.

Mathemateg / Maths:

A - Adolygu - Rhannu / Revising - Division:

1. 5942 ÷ 2

2. 41625 ÷ 5

3. 10 052 ÷ 4

4. 3072 ÷ 6

5. 372 ÷ 12

6. 465 ÷ 15

B - Adolygu - Rhannu / Revising - Division:

1. 372 ÷ 12

2. 465 ÷ 15

3. 546 ÷ 13

4. 602 ÷ 14

5. 1275 ÷ 15

6. 1440 ÷ 15

Mwynhewch y penwythnos!