Y Cwricwlwm i Gymru – Gwybodaeth i Lywodraethwyr a chwestiynau i’w hystyried
Yn ystod tymor y Gwanwyn 2022, cynhaliwyd Sesiwn Gwybodaeth Graidd ar gyfer holl Lywodraethwyr y rhanbarth yn trafod y Cwricwlwm i Gymru ac yn rhoi rhywfaint o gwestiynau allweddol i Lywodraethwyr y dylent eu hystyried yn eu hysgolion ynghylch gweithredu’r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Y Cwricwlwm i Gymru – Sesiwn Gwybodaeth Graidd i Lywodraethwyr
Roedd amcanion y cyflwyniad yn nodi y dylai’r cyfranogwyr allu gwneud y canlynol erbyn diwedd y sesiwn:
Deall sut bydd Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru a’r diwygiadau i’w alluogi yn effeithio ar rôl Llywodraethwyr.
Deall elfennau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Bod yn ymwybodol o’r dogfennau polisi allweddol a’r canllawiau a sut maent yn cynorthwyo ysgolion.
Gallu gofyn cwestiynau effeithiol a chefnogol fel llywodraethwyr ynghylch paratoadau eu hysgolion.
Yn ychwanegol, bydd y sesiynau diweddaru arfaethedig yn y dyfodol yn cynnwys:
Rhagor o fanylion am Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru a’r broses o gynllunio’r cwricwlwm newydd.
Gwybodaeth fanylach am waith ysgolion i gynllunio ar gyfer cynnydd ac asesu.
Agweddau eraill, mewn ymateb i’r ceisiadau y byddwn yn eu cael gan Lywodraethwyr.
Mae dolenni at y cyflwyniad a’r cwestiynau ar gael isod, a bydd y cyflwyniad hefyd ar gael fel rhan o raglen Hyfforddi Llywodraethwyr gyffredinol y GCA.
Cyflwyniad - y Cwricwlwm i Gymru – Sesiwn Gwybodaeth Graidd i Lywodraethwyr
Cwestiynau Allweddol y dylai Llywodraethwyr eu Hystyried yn eu Hysgolion
Mae’r ddolen ganlynol hefyd yn darparu mynediad at ‘flog y Cwricwlwm i Gymru’ gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnig manylion yr hyn sy’n ofynnol o safbwynt cyfreithiol o fis Medi 2022 ymlaen.