Offeryn ar gyfer Hunanwerthuso gan Gyrff Llywodraethu

Gall y cymorth a’r her a ddarperir gan y Corff Llywodraethu (CLl) helpu i wella ansawdd profiadau pob dysgwr, gan sicrhau y cânt y cyfleoedd gorau i ddysgu, datblygu a thyfu.  Er mwyn parhau i gyflawni’r rôl strategol hon yn effeithiol, dylai CLl, o bryd i’w gilydd, werthuso ei wybodaeth, sgiliau, cryfderau a’r meysydd y dylid eu datblygu.  Gallu hyn helpu i nodi blaenoriaethau datblygu a bylchau mewn sgiliau, a chaniatáu dyrannu rolau/aelodaeth o grwpiau’r CLl yn y modd mwyaf effeithiol i lywodraethwyr ar sail eu setiau sgiliau. 

Diben yr offeryn hwn yw galluogi Cyrff Llywodraethu yw cynnal asesiad manwl gywir ynghylch pa mor dda maent yn arwain yr ysgol trwy bartneriaeth â’r Pennaeth a’r Uwch Dîm Arwain.  Mae wedi’i lunio gan staff y GCA â chymorth gan Grŵp Strategaeth Llywodraethwyr y GCA, sy’n cynnwys 2 gynrychiolydd o gymdeithasau llywodraethwyr ym mhob un o’r 5 awdurdod lleol.  Rydym hefyd wedi cydweithio’n agos â chydweithwyr yng Nghonsortiwm Canol De Cymru, ac rydym yn ddiolchgar iddynt am rannu eu datblygiadau.

Rhannwyd yr offeryn hwn yn bedair adran: 

Defnydd gan y Corff Llywodraethu

Lle pob Corff Llywodraethu yw penderfynu a fyddant yn cwblhau pob un o’r rhain ar yr un pryd neu ar wahân.  Bwriedir iddo fod yn brofiad cadarnhaol i’w gyflawni fel Corff Llywodraethu i sicrhau y bydd yn cynnwys pob llywodraethwr, nid rhywbeth i’w gwblhau gan 1 neu 2 o lywodraethwyr yn unig.

Gobeithio y bydd yn helpu i nodi arferion gorau a grymuso Cyrff Llywodraethu i addasu a datblygu er mwyn manteisio’n llawn ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y newidiadau i’r system addysg.  Ar ôl cwblhau’r broses, gallai unrhyw feysydd i’w datblygu a nodir gael eu defnyddio i hysbysu cynnwys y Cynllun Datblygu Ysgol.