Grŵp Strategaeth Llywodraethwyr
Grŵp Strategaeth Llywodraethwyr
Crëwyd y grŵp hwn i fod yn ddolen gyswllt rhwng y Gwasanaeth Cyflawni Addysg a Llywodraethwyr ledled rhanbarth De Ddwyrain Cymru i alluogi:
Rhannu gwybodaeth â chymdeithasau ynghylch gweithgarwch y GCA mewn perthynas â chynorthwyo ysgolion
Ymgynghori ynghylch gweithgareddau’r GCA yn ymwneud â llywodraethu ysgolion
Ateb cwestiynau gan gymdeithasau ynghylch llywodraethu ysgolion
Mae’r rhain wedi’u cynnwys yng nghylch gorchwyl y grŵp, fel y gellir gweld isod.
Aelodaeth
Debbie Harteveld Rheolwr Gyfarwyddwr, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA)
Kirsty Bevan Cyfarwyddwr, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA)
Geraint Willington Cyfarwyddwr , y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA)
Sarah Morgan Cyfarwyddwr Addysg Casnewydd (cynrychiolwyr Cyfarwyddwyr yr Awdurdodau Lleol)
Edward Pryce Cyfarwyddwr Cynorthwyol, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA)
Julie Wood Cyfarwyddwr Cynorthwyol, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA)
Mike Fisher Arweinydd Maes Gwasanaeth, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA)
Sarah Jones Arweinydd Maes Gwasanaeth, y Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA)
Cadeirydd ac Is-gadeirydd (neu gynrychiolydd enwebedig) Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion Blaenau Gwent
Cadeirydd ac Is-gadeirydd (neu gynrychiolydd enwebedig) Rhwydwaith Llywodraethwyr Caerffili
Cadeirydd ac Is-gadeirydd (neu gynrychiolydd enwebedig) Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion Sir Fynwy
Cadeirydd ac Is-gadeirydd (neu gynrychiolydd enwebedig) Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion Casnewydd
Cadeirydd ac Is-gadeirydd (neu gynrychiolydd enwebedig) Cymdeithas Llywodraethwyr Ysgolion Torfaen
Cyfarfodydd
Bydd y Grŵp yn cynnal cyfarfod bob tymor (trefnir cyfarfodydd ychwanegol ynghylch unrhyw fater penodol os bydd angen hynny), a chaiff dyddiadau cyfarfodydd pob tymor eu pennu ar gyfer y flwyddyn academaidd.
Cylch Gorchwyl
Bydd y GCA yn rhannu gwybodaeth â’r Gymdeithas trwy law’r Grŵp, yn cynnwys ei weithgarwch yn ymwneud â chynorthwyo ysgolion.
Bydd y GCA yn ymgynghori â Llywodraethwyr trwy law’r Grŵp.
Bydd Cadeiryddion y Gymdeithas yn herio’r GCA ynghylch ei weithgareddau.
Bydd Cadeiryddion y Cymdeithasau yn rhoi adroddiad i’w cymdeithas unigol ac yn ceisio safbwyntiau a chwestiynau ar gyfer cyfarfodydd y Grŵp.
Bydd bob aelod yn darparu manylion eitemau ychwanegol i’w cynnwys yn yr agenda 10 diwrnod ymlaen llaw trwy eu hanfon at ed.pryce@sewaleseas.org.uk
Caiff cofnodion y Cyfarfodydd eu cylchredeg ynghyd ag agenda’r cyfarfod nesaf.