Gwasanaethau Cefnogi Llywodraethwyr – Pwy ydym ni a beth yw ein gwaith?

Y Tîm:

Tîm Cefnogi 

Callum Roberts

James Powell

Lian Roberts

Rhian George

Uwch Swyddogion 

David Hutchings

Kim Houghton

Arweinyddion Tîm

Sarah Jones

Mike Fisher

Beth yw gwaith y tîm?

Cefnogi ysgolion a llywodraethwyr ledled rhanbarth De Ddwyrain Cymru, gan wasanaethu ardaloedd awdurdodau lleol Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen.

Darparu gwasanaeth clercod ar gyfer cyfarfodydd cyrff llywodraethu a rheoli’r broses o anfon gwahoddiadau a gwaith papur ar gyfer bob cyfarfod at bob llywodraethwr, a phrosesu a sicrhau ansawdd y cofnodion sy’n cael eu llunio ar ôl pob cyfarfod. 

Darparu cymorth ac arweiniad i bob llywodraethwyr ynghylch unrhyw ymholiad.

Cynnig rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr i bob llywodraethwr, a llawer o adnoddau ar-lein i helpu llywodraethwyr i ddatblygu eu sgiliau i gyflawni’r rôl.

Darparu cyngor a chymorth i ysgolion a llywodraethwyr ynghylch proses y Pwyllgorau Statudol. Mae hyn yn cynnwys cymorth ynghylch Cwynion am yr Ysgol, Gwahardd Disgyblion, Disgyblu ac ati.

Rhif ffôn: 01443 864963  (Oriau swyddfa: 8.30yb - 5yh)

Cyfeiriad e-bost: governor.support@sewaleseas.org.uk 

Cyfeiriad: Canolfan Porth Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7EH