Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol

Mae gwaith DARPL yn canolbwyntio ar ddysgu proffesiynol i'r rheini sy'n gweithio mewn lleoliadau addysgol i ddatblygu dealltwriaeth cyfranogwyr o wrth-hiliaeth, a ddylai arwain at ddatblygu ymarfer gwrth-hiliol. Mae'r dysgu proffesiynol wedi cael ei ddatblygu i ystyried rolau gwahanol y rheini sy'n gweithio mewn lleoliadau addysgol ac mae wedi'i deilwra i gefnogi hynny.

 

Ein gweledigaeth yw sicrhau bod y rheini sy'n gweithio ym maes addysg yn barod i ymgymryd ag ymarfer gwrth-hiliol sy'n cefnogi'r nod o fod yn Gymru wrth-hiliol erbyn 2030.

 

Mae'r gyfres i Lywodraethwyr yn edrych yn fanwl ar wrth-hiliaeth, gan archwilio camau gweithredu a materion strategol ar lefel uwch. Mae'r dysgu proffesiynol hwn yn edrych ar ddiwylliant sefydliadol, effaith hiliaeth ar lesiant a bywydau pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol eraill, a pholisïau a gweithdrefnau a all gael effaith andwyol ar y rhai o gefndiroedd amrywiol. Mae'n bwysig bod gwrth-hiliaeth yn cael ei lywio ar lefel strategol, er mwyn sicrhau bod pob lleoliad addysgol yn gwneud gwelliannau a newidiadau cadarnhaol.

 

https://darpl.cymru/cyfres-i-lywodraethwyr-sesiwn-1-myfyrio-diwylliannol-creu-diwylliant-gwrth-hiliol/

 

https://darpl-stag-cymru.stackstaging.com/cyfres-i-lywodraethwyr-sesiwn-2-polisi%cc%88au-a-gweithdrefnau/

 

https://darpl-stag-cymru.stackstaging.com/cyfres-i-lywodraethwyr-sesiwn-3-blaengynllunio/