Beth fydd Corff Llywodraethu yn ei wneud?

Mae gan Gorff Llywodraethu dair swyddogaeth graidd:

Mae rôl llywodraethwr yn rôl meddwl a gofyn cwestiynau yn bennaf, nid rôl ymarferol.  Rhaid i lywodraethwr gynnal trosolwg strategol, ac ni ddylent ymwneud â gwaith rheoli beunyddiol a chyfrifoldebau gweithredol yn yr ysgol. Mae’r pennaeth yn gyfrifol am drefniadaeth a rheolaeth fewnol yr ysgol, ac am weithredu’r fframwaith strategol a sefydlwyd gan y corff llywodraethu.

Yn syml, bydd y corff llywodraethu yn cefnogi gwaith yr ysgol. Mae’n cynnig safbwynt sy’n wahanol i safbwynt staff a gall helpu’r ysgol i gynllunio at y dyfodol a monitro i sicrhau ei bod yn gwneud beth mae’n dweud y mae’n ei wneud. Mae hefyd yn helpu i werthuso effeithiolrwydd gweithgareddau’r ysgol. Yn gryno, mae ganddo rôl ffrind beirniadol. 

Ni fydd y corff llywodraethu yn ymwneud â’r gwaith beunyddiol o redeg yr ysgol. Rhaid i chi ddeall mai cyfrifoldeb y Pennaeth yw hyn. Efallai y bydd gan aelodau’r corff llywodraethu sgiliau y gallant eu defnyddio i gefnogi’r ysgol, e.e. ym meysydd cyllid neu iechyd a diogelwch, ond mae’n bwysig cofio peidio â dweud wrth y staff sut ddylent gyflawni eu gwaith. Er bod gan bawb ohonom ni syniad o beth yw hanfod athrawon da, ni fydd llywodraethwyr yn ymwneud â llunio barnau am athrawon. Rôl y corff llywodraethu yw sicrhau bod trefniadau yn eu lle i alluogi pennaeth ac uwch staff o fonitro pa mor dda mae’r staff yn perfformio.