Meddalwedd Office 365 yn RHAD AC AM DDIM sut i gyrchu Hwb
Hwb – Platfform Dysgu Digidol Cenedlaethol Cymru
Beth yw Hwb?
Mae Llywodraeth Cymru wedi creu platfform sy’n cynnwys casgliad cenedlaethol o becynnau ac adnoddau digidol i gynorthwyo ag addysgu a dysgu yng Nghymru – Hwb.
Mae’n galluogi dysgwyr ac athrawon i gyrchu adnoddau ar-lein yn unrhyw le, ar unrhyw adeg, gan ddefnyddio ystod o declynnau.
Mae’r platfform hwn hefyd ar gael i lywodraethwyr i’w cynorthwyo â’u rôl yn y corff llywodraethu.
Mae pob llywodraethwr yng Nghymru yn cael cyfeiriad e-bost diogel yn rhad ac am ddim. Mae hwn yn rhoi mynediad i lywodraethwyr i aps Microsoft Office ar-lein, gan gynnwys: MS Teams, Outlook, Word, Excel, PowerPoint a OneDrive.
Gellir lawrlwytho’r rhain i’ch teclyn personol yn rhad ac am ddim.
Pan ddowch yn llywodraethwr yn rhanbarth y GCA, bydd y Gwasanaeth Cefnogi Llywodraethwyr yn cysylltu â chi i roi gwybodaeth i roi manylion eich cyfeiriad e-bost newydd i chi, a chymorth ynghylch mewngofnodi.
Gall cyrff llywodraethu ddefnyddio’r porth i greu grŵp Rhwydwaith Corff Llywodraethu ar gyfer eu llywodraethwyr. Bydd eich ysgol yn gallu eich hysbysu os oes rhwydwaith o’r fath eisoes ar gael ar gyfer eich Corff Llywodraethu.
Cyfeiriad y wefan yw www.hwb.llyw.cymru
I fewngofnodi, nodwch eich enw defnyddiwr (cyfeiriad e-bost Hwb) a’r cyfrinair a anfonwyd atoch chi, a gallwch ddewis cadw eich manylion mewngofnodi i’w defnyddio yn y dyfodol.