Beth yw’r GCA?

Sefydlwyd y Gwasanaeth Cyflawni Addysg ym Medi 2012. 

Mae’r GCA yn gwmni dielw a sefydlwyd gan ac sy’n eiddo i’r 5 awdurdod lleol yn Ne Ddwyrain Cymru - Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen. Mae’n darparu gwasanaethau gwella ysgolion i ysgolion ledled y rhanbarth.

Fel rhan o’r trefniadau sefydlu, daeth y Gwasanaeth Cefnogi Llywodraethwyr yn fodel rhanbarthol hefyd, ac mae holl gyrff llywodraethu a llywodraethwyr ysgolion yn ardaloedd pum awdurdod De Ddwyrain Cymru yn cael eu cefnogi gan Wasanaeth Cefnogi Llywodraethwyr y GCA.  

Diben y wefan hon yw bod yn ‘siop un stop’ ar gyfer llywodraethwyr presennol, ac ar gyfer darpar lywodraethwyr sy’n ansicr ynghylch beth yw gofynion y rôl. Rydym yn dymuno sicrhau y cewch gymaint ag y bo modd o wybodaeth am fuddion dod yn llywodraethwr ysgol, a darparu cymorth, gwybodaeth a hyfforddiant y gellir eu cyrchu’n rhwydd i’ch galluogi i gyflawni rôl llywodraethwr yn effeithiol.   

Porwch trwy’r wefan os gwelwch yn dda, ac os bydd gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch yn syth â’r tîm yn governor.support@sewaleseas.org.uk.

Ein Gweledigaeth

Cefnogi a galluogi ysgolion a lleoliadau addysg i ffynnu fel sefydliadau dysgu effeithiol, gan ddysgu oddi wrth ei gilydd a’r gymuned addysgol ehangach.


Ein gwerthoedd craidd

Uniondeb: Gwneud yr hyn sy’n iawn a chyflawni’r hyn rydym yn ei addo drwy ddarparu amgylchedd cymorth a her uchel.

Arloesedd: Rydym yn addo diwylliant ac ymagwedd arloesol. Byddwn yn herio ac yn ceisio rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn.

Cydweithio: Rydym yn gwerthfawrogi pawb ac yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni ein gweledigaeth.