A allech chi fod yn Llywodraethwr Ysgol?
Llywodraethwyr Ysgolion yw grŵp mwyaf o wirfoddolwyr yn y wlad (mae tua 22,000 o lywodraethwyr yng Nghymru).
Yn Ne Ddwyrain Cymru, mae tua 3,000 o lywodraethwyr ysgolion yn cefnogi dros 200 o ysgolion, a bob amser, bydd angen recriwtio llywodraethwyr newydd i helpu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ddyfodol plant a phobl ifanc.
Gwybodaeth ar gyfer: Darpar Lywodraethwyr Ysgol
Recriwtio llywodraethwyr ysgol
Pam ddylech chi ddod yn llywodraethwr ysgol?
I gyfrannu at addysg trwy gefnogi cymuned yr ysgol, helpu i wella safonau addysg, a sicrhau y caiff pobl ifanc y deilliannau gorau posibl
I ddatblygu sgiliau presennol a dysgu rhai newydd
I gwrdd â phobl newydd a chydweithio i gefnogi cymuned yr ysgol
I feithrin gwybodaeth am y system addysg
Pwy all ddod yn llywodraethwr ysgol?
Gall unrhyw un fod yn llywodraethwr ysgol os ydych dros 18 oed ac â diddordeb yn yr ysgol a beth sy’n digwydd ym myd addysg ac yn y gymuned leol
Bydd angen ymrwymiad o ran amser i gyflawni’r rôl, felly os oes gennych chi ddiddordeb, mae angen i chi ystyried faint o amser y bydd arnoch ei angen i fynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu a chyfarfodydd y pwyllgorau.
Beth yw buddion bod yn llywodraethwr ysgol?
Cyfrannu’n weithgar at sicrhau y caiff disgyblion yn yr ysgol yr addysg orau bosibl
Rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned
Hyfforddiant a chymorth i’ch helpu i gyflawni eich dyletswyddau
Sgiliau newydd a all fod yn ddefnyddiol mewn mannau eraill - gwaith tîm, cynllunio ariannol a strategol, recriwtio a sgiliau cyfweld
Beth fydd llywodraethwr yn ei wneud?
Mynychu cyfarfodydd a phwyllgorau, ac efallai cyfranogi mewn gweithgorau bychan o bryd i’w gilydd
Ymweld â’r ysgol
Ymgymryd â rôl sy’n gysylltiedig ag un o feysydd gwaith yr ysgol, e.e. llythrennedd
Cyfranogi ym mhroses gwneud penderfyniadau’r corff llywodraethu
Ymgymryd â hyfforddiant a datblygu
Beth ddylwn i wneud nesaf er mwyn dod yn llywodraethwr?
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn llywodraethwr ysgol, dylech gysylltu i ddechrau â’r ysgol ble’r ydych yn dymuno bod yn llywodraethwr.
Fel arall, gellir cael cymorth gan Adrannau Addysg pob un o’r Awdurdodau Lleol neu trwy gysylltu â’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg yn governor.support@sewaleseas.org.uk.