Cwestiynau Cyffredin ynghylch Llywodraethwyr

A oes arnaf i angen cymwysterau i fod yn Llywodraethwr?

Nid oes angen unrhyw gymwysterau, dim ond awydd i gefnogi’r ysgol a sicrhau’r deilliannau gorau i bob disgybl, ac ymrwymo i fynychu cyfarfodydd a chwblhau hyfforddiant gorfodol.

  

Pa hyfforddiant sydd angen i mi ei wneud a faint fydd hynny’n bara?

Dim ond 2 sesiwn hyfforddi orfodol sydd angen i bob llywodraethwyr eu cwblhau ar-lein, sef yr Hyfforddiant Sefydlu a’r Hyfforddiant ynghylch Data. Fel arfer, cânt eu rhedeg ar-lein trwy gyfrwng Teams, a byddant yn para rhwng awr ac awr a hanner yr un, yn dibynnu ar y nifer fydd yn cyfranogi a faint o gwestiynau a ofynnir.

Mae’r sesiynau hefyd ar gael ar-lein i Lywodraethwyr gwblhau’r deunyddiau yn eu hamser eu hunain.

 

Mae gen i swydd amser llawn; a fydd gen i amser i fod yn llywodraethwr?

Mae gan lawer o lywodraethwyr swyddi amser llawn. Bydd y rhan fwyaf o gyfarfodydd llywodraethwyr yn cael eu cynnal yn gynnar gyda’r hwyr felly gellir eu ffitio o amgylch ymrwymiadau diwrnod gwaith, a bydd llawer o gyflogwyr yn fodlon caniatáu i’w staff fod yn absennol er mwyn gallu mynychu cyfarfodydd os bydd rhai yn ystod y diwrnod gwaith, oherwydd maent yn sylweddol y gellir trosglwyddo’r sgiliau a ddatblygir yn sgil rôl llywodraethwr i’r gweithle.

 

A gaf i unrhyw gymorth i fy helpu i gyflawni fy rôl fel llywodraethwr?

Cewch, ar ôl cael eich penodi yn llywodraethwr, byddwch yn cael e-bost i’ch croesawu oddi wrth Dîm Cefnogi Llywodraethwyr y GCA. Bydd yr e-bost yn cynnwys gwybodaeth am eich rôl, dolenni at ddeunyddiau hyfforddi, a gwybodaeth arall a allai fod yn ddefnyddiol i chi, a darperir cyfeiriad e-bost HWB am ddim i chi hefyd. Bydd hyn yn caniatáu i chi ddefnyddio gwefan HWB Llywodraeth Cymru, sy’n borth ar gyfer athrawon, disgyblion a llywodraethwyr, a bydd yn caniatáu i chi ddefnyddio cynhyrchion Microsoft (Word, Excel ac ati) yn rhad ac am ddim.

Bydd y Tîm Cefnogi Llywodraethwyr ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener i ateb unrhyw ymholiadau y bydd gennych chi. Anfonwch neges at governor.support@sewaleseas.org.uk ac fe wnaiff aelod o’r tîm ateb eich e-bost cyn gynted ag y bo modd.

  

Sawl cyfarfod sydd angen i mi eu mynychu yn ystod y flwyddyn?

Mae’r gyfraith yn mynnu bod Cyrff Llywodraethu yn cynnal cyfarfodydd o leiaf deirgwaith y flwyddyn, unwaith bob tymor. Fodd bynnag, bydd llawer o gyrff llywodraethu yn cynnal un cyfarfod bob hanner tymor, sef 6 chyfarfod yn ystod pob blwyddyn ysgol. Yn ogystal â’r cyfarfodydd hyn, efallai y cynhelir cyfarfodydd yr is-bwyllgorau, e.e. Cyllid, a bydd yn rhaid i unrhyw aelodau o’r corff llywodraethu sy’n dewis bod yn rhan o’r pwyllgorau hyn ymrwymo i fynychu’r cyfarfodydd ychwanegol hyn.

  

Am faint all llywodraethwr wasanaethau fel aelod o gorff llywodraethu?

Fel arfer, bydd Llywodraethwr yn treulio 4 blynedd yn y swydd. Gellir penodi Llywodraethwyr i wasanaethu am gyfnodau ychwanegol; nid oes cyfyngiad ar y nifer o weithiau y gellir eu hailbenodi.

 

Beth yw’r mathau gwahanol o lywodraethwyr?

Mae gan bob Llywodraethwr yr un statws a’r un cyfrifoldebau pleidleisio (ac eithrio Cadeirydd Corff Llywodraethu, a fydd â phleidlais fwrw i wneud penderfyniadau os bydd nifer gyfartal o bleidleisiau). Mae’r mathau gwahanol o lywodraethwyr yn adlewyrchu sut caiff pob llywodraethwr ei benodi, a’u diben yw sicrhau bod aelodaeth corff llywodraethu yn cynrychioli sawl gwahanol faes.


Beth yw Llywodraethwr Cyswllt?

Bob blwyddyn, yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, penodir Cadeirydd, Is-gadeirydd ac Aelod Wrth Gefn, ynghyd ag aelodau’r is-bwyllgorau a’r llywodraethwyr cyswllt.

Mae llywodraethwyr cyswllt yn llywodraethwyr sydd â chysylltiad â meysydd pynciau penodol yn yr ysgol, a byddant yn ymgysylltu ag aelodau perthnasol o’r staff, i ddatblygu dealltwriaeth fanylach o’r maes hwnnw. Yn sgil hynny, eu rôl yw rhoi adborth i grŵp ehangach y corff llywodraethu i sicrhau y caiff yr aelodau eu diweddaru am ddatblygiadau yn y maes hwn.

 

Rwy’n rhiant-lywodraethwr ond mae fy mhlentyn wedi gadael yr ysgol erbyn hyn. A oes yn rhaid i mi ymddiswyddo?

Nac oes, gall unrhyw riant-lywodraethwr gwblhau eu 4 blynedd lawn yn y swydd hyd yn oed os bydd eu plentyn wedi gadael yr ysgol cyn diwedd y cyfnod hwn.


Mae rhiant un o blant yr ysgol wedi cysylltu â mi. Mae’n gwybod fy mod yn un o'r llywodraethwyr ac mae am i mi ymdrin â chwyn sydd ganddynt am yr ysgol. Beth ddylwn i ei wneud?

Ni ddylech chi fyth geisio ymdrin â chwyn eich hun.  Yn gyntaf, dylech gyfeirio’r rhiant at y pennaeth i geisio datrys y mater. Os na fydd hyn yn llwyddiannus, bydd angen i’r rhiant gyflwyno eu cwyn yn ysgrifenedig i Gadeirydd y Corff Llywodraethu. Bydd polisi trin cwynion yr ysgol yn nodi beth ddylai’r rhiant ei wneud. Gall ofyn i’r ysgol am gopi. Mae’n bwysig i chi beidio mynd ati i drafod unrhyw gŵyn, oherwydd, pe baech chi’n gwneud hynny, ni fuasech chi’n gymwys i fod yn rhan o unrhyw banel trin cwynion pe bai pethau’n cyrraedd y cam hwnnw, oherwydd bydd gennych chi wybodaeth am y gŵyn yn barod.