Cwynion Ysgol

Dylai cwynion gael eu rheoli gan bob ysgol unigol. 

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gyrff llywodraethu sefydlu trefn gwyno. Argymhellir bod cyrff llywodraethu yn adolygu eu gweithdrefnau cwyno yng ngoleuni’r canllawiau diwygiedig hyn, sy’n disodli canllawiau blaenorol.  


Gall cyrff llywodraethu roi trefn gwyno o'u dewis ar waith, ond mae LlC yn argymell bod cyrff llywodraethu yn mabwysiadu'r weithdrefn gwyno enghreifftiol.  Mae hwn yn cynghori, fel y gwnaeth y canllawiau blaenorol, ar broses 3 cham: 


Cam A - Cam Anffurfiol (lle gellir setlo'r rhan fwyaf yn gyflym)


Cam B - Cam Ffurfiol (yn dilyn yn gyffredinol lle na ellir setlo yn A)


Cam C - Pwyllgor Cwynion (Dylai fod yn brin)