Newyddion a diweddariadau
Gwisg Ysgol
Ar 2 Mai 2023, cyhoeddwyd canllawiau diwygiedig ar bolisïau gwisg ysgol ac edrychiad ar gyfer cyrff llywodraethu.
Mae’r canllawiau newydd yn nodi y dylai ysgolion sicrhau bod trefniadau ar waith fel bod gwisgoedd ysgol ail-law ar gael i rieni a gofalwyr eu caffael.
Gall cynlluniau ailgylchu a chyfnewid gwisgoedd amrywio. Dyma ddolen i wahanol fathau o gynlluniau y gallai ysgolion ddewis eu gweithredu.
https://www.llyw.cymru/cynlluniau-cyfnewid-ac-ailgylchu-gwisg-ysgol
Thematig Estyn – "Llywodraethwyr Ysgol – Gweithredu fel ffrindiau beirniadol ac effaith hyfforddiant llywodraethwyr”
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Diweddaru Canllawiau Statudol ar Bolisi Gwisg Ysgol
Llywodraeth Cymru: Anelir y canllawiau statudol hyn at gyrff llywodraethu ysgolion a phenaethiaid i’w helpu i ddatblygu, mabwysiadu, adolygu a gwerthuso polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Rhaid i ysgolion ystyried y canllawiau hyn wrth ystyried polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion. Mae’r canllawiau’n canolbwyntio ar:
sicrhau y rhoddir sylw teilwng i ofalu bod disgyblion o wahanol ryw a rhywedd, disgyblion o gefndiroedd ethnig a chrefyddol gwahanol, a disgyblion anabl yn cael eu trin yn gyfartal mewn perthynas â pholisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion
cost a fforddiadwyedd
ystyriaethau ymarferol sy'n gysylltiedig â chyflwyno neu newid polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion
ymgynghori â rhieni, disgyblion a’r gymuned
https://www.gov.wales/school-uniform-and-appearance-policy-guidance-governing-bodies-html
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Hyrwyddwr Cynorthwywyr Addysgu ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion – Disgrifiad rôl enghreifftiol
Llywodraeth Cymru: Darperir y ddogfen hon er mwyn rhoi dealltwriaeth i gyrff llywodraethu ysgolion yng Nghymru o fanteision penodi hyrwyddwr Cynorthwywyr Addysgu ar gyfer eu hysgolion a'r dyletswyddau y gallant eu cyflawni.
Gweithdrefnau cwyno ysgolion: Canllawiau i lywodraethwyr ar sut i ddelio â chwynion.
(Wedi'i ddiweddaru Rhagfyr 1, 2022)
Camau i’w cymryd
Mae hi’n ofynnol yn ôl y gyfraith i gyrff llywodraethu sefydlu gweithdrefn gwyno. Argymhellir bod cyrff llywodraethu yn adolygu eu gweithdrefnau cwyno yng ngoleuni’r canllawiau hyn sydd wedi’u hailwampio ac sy’n disodli’r canllawiau blaenorol. Gall cyrff llywodraethu roi gweithdrefn gwyno o’u dewis ar waith, ond argymhellir y dylent fabwysiadu’r weithdrefn gwyno enghreifftiol sydd yn Atodiad 1.
Byddwn yn ychwanegu hyn fel eitem safonol ar agendâu drafft ar gyfer Tymor y Gwanwyn 2023, ynghyd â fersiwn ddogfen Word o'r polisi model LlC.
Beth sydd wedi newid ers y canllawiau diwethaf?
Mae cyfeiriadau at Lywodraethwyr Cymru wedi'u dileu drwyddi draw.
Mae adran newydd ar ymdrin â chwynion am fwlio wedi’i chynnwys.
Mae datganiad newydd ynghylch dim goddefgarwch ar gyfer bwlio ac aflonyddu wedi ei gynnwys yn y polisi enghreifftiol.
Mae canllawiau ychwanegol wedi’u darparu ar gyfer achosion o ymchwiliadau annibynnol i gwynion am yr holl gorff llywodraethu.
Sector: Uwchradd
Disgybl-lywodraethwyr cyswllt
Yn ddiweddar rydym wedi cael ein hatgoffa bod disgwyl i Ysgolion Uwchradd benodi Disgybl-lywodraethwyr Cyswllt. Rydym yn gwybod y bydd llawer ohonoch wedi bod yn gweithredu hyn cyn-COVID, ond dyma'ch atgoffa o Ganllawiau Llywodraeth Cymru efallai fydd yn ddefnyddiol i chi:
“Disgybl-lywodraethwyr cyswllt – mae Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 yn diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005 fel y gellir penodi disgybl-lywodraethwyr cyswllt ar gorff llywodraethu pob ysgol uwchradd a gynhelir. Mae’n rhaid i bennaeth ysgol sicrhau bod gan y cyngor ysgol gyfle i enwebu hyd at ddau ddisgybl blwyddyn 11 i 13 i fod yn aelodau o’r corff llywodraethu.”
Darllen mwy > (Tudalen 6)
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Bwletin Llywodraethwyr ysgolion yng Nghymru
Rhifyn 12 – Rhagfyr 2022