Mae Cassius, disgybl ymroddedig sy’n astudio Arlwyo a Lletygarwch yng Nghwrtnewydd, newydd gwblhau rhan allweddol o’i gwrs — arholiad coginio ymarferol. Heb unrhyw gymorth, paratôdd, coginiodd a chyflwynodd Cassius fwydlen ddwy gwrs sy’n haeddu clod mawr. Roedd ei fwydlen yn cynnwys Korma Cyw Iâr blasus fel y prif gwrs, ac yna Cheesecake Biscoff moethus fel pwdin. Roedd ei annibyniaeth, ei sgiliau a’i gyflwyniad yn rhagorol, ac fe wnaeth berfformio’n wych dan bwysau.
Rydym yn hynod falch o lwyddiant Cassius ac yn edrych ymlaen at ei gamau nesaf yn ei daith gogyddol. Da iawn ti, Cassius!
Er sylw disgyblion y 6ed Dosbarth: mae gwybodaeth ar sut i gwblhau ffurflen gais i fod yn Lysgennad ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fyny yn ystafell y 6ed: dyddiad cau wythnos nesaf!! Os am gymorth, dewch i ofyn i Mr. Phillips.
For the attention of 6th form pupils: information regarding the application form to be an ambassador for Coleg Cymraeg Cenedlaethol are up in the 6th form common room; closing date next week! If you need help, please come and see Mr. Phillips.
Dyddiadau Eisteddfodau Rhanbarth Urdd Ceredigion a dyddiadau cau cofrestru i gystadlu - cofiwch bod raid bod yn aelod o’r Urdd er mwyn cystadlu. Dyma’r linc i borth aelodaeth yr Urdd - https://porth.urdd.cymru/
Dates of the Urdd Ceredigion Regional Eisteddfodau and registration closing dates for competing - remember you must be a member of the Urdd to compete. Here’s the link to the Urdd membership portal - https://porth.urdd.cymru/
Ar ran yr ysgol, hoffwn ddiolch i’r rhieni a’r gymuned ehangach am eich cefnogaeth barhaus. Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau darllen y rhifyn hwn o’r newyddlen ac wedi’i chael yn addysgiadol ac ysbrydoledig. Dymunwn benwythnos braf a hamddenol i chi i gyd.
On behalf of the school, I would like to thank all parents and members of our wider community for your continued support. We hope you enjoyed reading this edition of the newsletter and found it informative and uplifting. Wishing you all a restful and enjoyable weekend.
Diolch / Thank you,
Trystan