Cliciwch yma i weld ein digwyddiadau / Click here to view our upcoming events:
Amserlenni Arholiadau a Chanllawiau Adolygu ar gael yma/ Examination Timetables and revision Guides available here
Neges y Pennaeth:
Braint enfawr oedd croesawu Gwasanaeth Sul y Cofio yma i Ysgol Uwchradd Aberteifi am y tro cyntaf yn ein hanes. Oherwydd tywydd garw ofnadwy, gwnaed y penderfyniad anodd i symud y gwasanaeth dan do, ac roeddem yn falch iawn fod y tywydd wedi gostegu ychydig ar gyfer cyflwyno’r torch er cof am y rhai a gollwyd.
Roedd hefyd yn fraint imi yr wythnos hon weld ein disgyblion yn cystadlu yn y Cogurdd a’r Poburdd, ac ar ben hynny, cael gweld ffrwyth gwaith caled disgyblion TGAU wrth iddynt ddechrau ar yr arholiad Coginio TGAU. Wythnos hynod brysur i Miss Rhian Davies – diolch iddi am ei gwaith arbennig yn annog a chefnogi ein disgyblion.
Mae tocynnau ein sioe “Matilda” yn diflannu’n sydyn, felly os nad ydych wedi archebu eto, gwnewch hynny’n fuan rhag ichi gael eich siomi! Mi fyddwn yn gwneud cais ar gyfer eitemau i fynd mewn hamperi ar gyfer raffl yn ystod perfformiadau'r sioe yn Theatr Mwldan - mwy o wybodaeth i ddod wythnos nesaf!
Edrychwn ymlaen at allu rhannu ffrwyth gwaith y Criw Cymraeg - cân wreiddiol gyda chefnogaeth y Prifardd Ceri Wyn Jones a'r cyfansoddwr/perfformiwr Mei Gwynedd - ym mis Ionawr; diolch enfawr i Mrs Jennie Jones a Mrs Ffion Dafis-Clode am eu cefnogaeth arbennig.
Wrth i ni agosáu at ein harholiadau mewnol a’r ffug arholiadau, gobeithiwn y gallwn ddibynnu ar eich cefnogaeth fel teuluoedd i annog eich plant i adolygu a gweithio’n galed y tu hwnt i oriau ysgol. Mae’r staff wedi gweithio’n galed iawn i ddarparu adnoddau adolygu, ac rydym yn awyddus i weld pawb yn cyflawni hyd eithaf eu potensial. Yr un yw’r neges i bob disgybl – os ydych wedi rhoi 100% ymdrech, gallwch fod 100% yn falch o beth bynnag yw’r cyrhaeddiad.
Headteacher's Weekly Message
It was a great privilege to welcome the Remembrance Sunday Service to Cardigan Secondary School for the very first time in our history. Due to extremely bad weather, the difficult decision was made to move the service indoors, and we were very pleased that the weather eased slightly for the laying of the wreath in memory of those we have lost.
It was also a privilege for me this week to see our pupils competing in the Cookery and Baking competitions, and on top of that, to witness the fruits of our GCSE pupils’ hard work as they began their GCSE Cooking exam. A very busy week for Miss Rhian Davies – thank you to her for her outstanding efforts in encouraging and supporting our pupils.
Tickets for our show “Matilda” are selling fast, so if you haven’t booked yet, please do so soon to avoid disappointment! We will be running a raffle during the performances of the show at Theatr Mwldan, and will be asking if families can support us with donations for the hampers next week.
We look forward to sharing the fruits of the Criw Cymraeg’s work – an original song supported by the local poet Ceri Wyn Jones and composer/performer Mei Gwynedd – in January; a huge thank you to Mrs Jennie Jones and Mrs Ffion Dafis-Clode for their outstanding support.
As we approach our internal exams and mock exams, we hope we can rely on your support as families to encourage your children to revise and work hard beyond school hours. Our staff have worked extremely hard to provide revision resources, and we are eager to see everyone achieve their full potential. The message to every pupil is the same – if you have given 100% effort, you can be 100% proud of whatever your achievement may be.
Llawer o ddiolch,
Trystan
Heddiw, daeth ein hysgol ynghyd i ddathlu Diwrnod Plant Mewn Angen 2025 er mwyn cefnogi’r achos gwych hwn. Cafodd disgyblion y cyfle i wisgo eu dillad eu hunain, gan ychwanegu lliw a chymeriad at y diwrnod.
Diolch arbennig i’n disgyblion y Chweched Dosbarth, a drefnodd werthiant cacennau gwych yn ystod amser egwyl, gan helpu i godi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer Plant Mewn Angen. Roedd eu gwaith caled a’u brwdfrydedd yn gwneud yr achlysur yn llwyddiant mawr!
Rydym yn falch iawn o’r haelioni a’r ysbryd cymunedol a ddangoswyd gan bawb a gymerodd ran. Diolch i bawb a gyfrannodd ac a gefnogodd yr elusen bwysig hon.
Today, our school came together to celebrate Children in Need Day 2025 in support of this fantastic cause. Pupils enjoyed the opportunity to wear their own clothes, adding a splash of colour and individuality to the day.
A special thank you goes to our Sixth Form students, who organised a brilliant bake sale during breaktime, helping to raise funds and awareness for Children in Need. Their hard work and enthusiasm made the event a real success!
We are proud of the generosity and community spirit shown by everyone involved. Thank you to all who contributed and supported this important charity.
Hoffem gymryd y cyfle hwn i ddweud diolch o galon a ffarwel i Emily Evans, ein Rheolwr Partneriaeth Gymunedol, sydd wedi bod yn rhan annatod o’n cymuned ysgol dros y tair blynedd diwethaf. Mae ymroddiad, creadigrwydd a chydnawsedd Emily wrth adeiladu partneriaethau cryf wedi gadael effaith barhaol ar ein disgyblion, staff a’r gymuned ehangach. Mae ei gwaith wedi helpu i greu cyfleoedd ystyrlon ac wedi cryfhau cysylltiadau a fydd yn parhau i’n buddio am flynyddoedd i ddod.
Dymunwn bob llwyddiant i Emily yn ei cham nesaf ac rydym yn diolch iddi am bopeth y mae wedi cyfrannu yn ystod ei hamser gyda ni. Pob lwc, Emily, byddi’n cael dy golli’n fawr!
We would like to take this opportunity to say a heartfelt thank you and goodbye to Emily Evans, our Community Partnership Manager, who has been an integral part of our school community for the past three years. Emily’s dedication, creativity, and commitment to building strong partnerships have made a lasting impact on our pupils, staff, and wider community. Her work has helped create meaningful opportunities and strengthened connections that will continue to benefit us for years to come.
We wish Emily every success in her next chapter and thank her for everything she has contributed during her time with us. Good luck, Emily, you will be greatly missed!
Braint o’r mwyaf oedd cael agor ein drysau i gymdeithas Aberteifi ar gyfer Gwasanaeth y Cofio heddiw, oherwydd y tywydd garw. Mi roedd yn wych i weld cynifer yno ar ei gyfer, ac yn hynod o falch ein bod wedi gallu cyflwyno’e torchau er cof wrth y gof-golofn wedyn. Diolch o waelod calon i’r holl ddisgyblion a fu’n rhan ohono, i Mrs Toft am hyfforddi’r côr, i’n prif ddisgyblion oedd wedi anerch mor hyfryd, ac i’n holl ddisgyblion a fu’n cynrychioli enwedau gwahanol o fewn ein cymdeithas. ‘Ni’n browd iawn o bawb yma yn YUA!
It was a great honour to open our doors to the Aberteifi community for today’s Remembrance Service, especially given the rough weather. It was wonderful to see so many people there, and we were extremely proud to be able to lay our wreaths in remembrance at the cenotaph afterwards. A heartfelt thank you to all the pupils who took part, to Mrs Toft for training the choir, to our head pupils who spoke so beautifully, and to all our pupils who represented different groups within our community. We are very proud of everyone here at YUA!
Diolch enfawr i Julie John am y lluniau hyfryd.
Diolch o galon i deulu Studt Ffair Aberteifi am roi’r cyfle i ddisgyblion Canolfan y Castell fynychu’r Ffair ddydd Sadwrn pan yn dawelach. ‘Ni’n hynod o ddiolchgar ichi: diolch ar ran ein disgyblion a’r teuluoedd, a diolch enfawr i’r staff a oedd hefyd wedi dod i gefnogi. Pwy oedd wedi mwynhau mwyaf tybed?!
A heartfelt thank you to the Studt family and Cardigan Fair for giving the pupils of Canolfan y Castell the opportunity to attend the Fair on Saturday when it was quieter. We are extremely grateful to you, thank you on behalf of our pupils and their families, and a huge thank you also to the staff who came along to support. I wonder who enjoyed it the most?!
Diolch eto i Julie John am y lluniau!
Ddydd Llun, roeddem wrth ein bodd yn croesawu Cardi Iaith a Mei Gwynedd i Ysgol Uwchradd Aberteifi am ddiwrnod cyffrous o greadigrwydd a cherddoriaeth. Cymerodd disgyblion dethol a disgyblion Blwyddyn 7 ac 8 ran mewn gweithdy ysgogol, gan archwilio iaith a mynegiant drwy gerddoriaeth, i gyd yn baratoad ar gyfer sesiwn recordio ym mis Ionawr.
Daeth y diwrnod i ben gyda gig gwych, gan roi cyfle i’r disgyblion brofi perfformiad byw a dathlu eu hymdrechion creadigol. Roedd y digwyddiad hwn yn enghraifft wych o gydweithio rhwng ein Hadran Gymraeg ac Adran y Celfyddydau Mynegiannol, a’u cefnogaeth a’u brwdfrydedd a wnaeth hyn yn bosibl.
Diolch enfawr i bawb a fu’n rhan o’r profiad ysbrydoledig hwn i’n disgyblion!
On Monday, we were thrilled to welcome Cardi Iaith and Mei Gwynedd to Ysgol Uwchradd Aberteifi for an exciting day of creativity and music. Selected pupils and pupils in Years 7 and 8 took part in an engaging workshop, exploring language and expression through music, all in preparation for January’s recording session.
The day concluded with a fantastic gig, giving students the chance to experience live performance and celebrate their creative efforts. This event was a wonderful example of collaboration between our Welsh Department and Expressive Arts Department, whose support and enthusiasm made it all possible.
A huge thank you to everyone involved for making this such an inspiring experience for our pupils!
Llongyfarchiadau enfawr i Grace a gynrychiolodd Ysgol Uwchradd Aberteifi yng nghystadleuaeth Cogurdd a gynhaliwyd yng Ngholeg Ceredigion yr wythnos hon.
Sicrhaodd Grace ganlyniad anhygoel, gan ddod yn drydydd yn gyffredinol ymhlith disgyblion o Flwyddyn 7, 8 a 9 ledled Ceredigion. Camp ryfeddol!
Diolch arbennig i Miss Rhian Davies am ei hannogaeth a’i chefnogaeth wych drwy gydol y gystadleuaeth.
Da iawn Grace – rydym mor falch ohonot!
Huge congratulations to Grace who represented Ysgol Uwchradd Aberteifi in the Cogurdd competition which took place at Coleg Ceredigion this week.
Grace achieved an incredible result, coming third overall among pupils from Years 7, 8 and 9 across Ceredigion. What an amazing achievement!
A special thank you to Miss Rhian Davies for her encouragement and outstanding support throughout the competition.
Well done, Grace – we are so proud of you!
Rydym yn falch iawn o ddathlu llwyddiant anhygoel Lily ar ôl ei dychweliad diweddar i’r byd chwaraeon! Ar ôl cyfnod i ffwrdd o hyfforddi oherwydd anaf, llwyddodd Lily i sicrhau canlyniad gwych, gan gipio’r 1af safle mewn saethu 🎯, rhedeg 🏃🏻♀️ a nofio 🏊♀️, 1af yn gyffredinol yn ei chategori ac 1af fel tîm. Camp ryfeddol ac yn dystiolaeth wirioneddol o’i phenderfyniad a’i gwydnwch! Mae talent Lily hefyd wedi ennill gwahoddiad iddi gymryd rhan yng Nghystadlaethau Pistol Ysgolion Saethu Prydain 2025–26, a gynhelir yn Ellesmere College, Swydd Amwythig, yn ddiweddarach y mis hwn. Llongyfarchiadau enfawr i Lily – rydym yn hynod falch ohonot ac yn dymuno’r gorau i ti yn y pencampwriaethau sydd ar y gorwel!
We are delighted to celebrate the incredible success of Lily following her recent sporting comeback! After some time away from training due to injury, Lily achieved a brilliant result, securing 1st place in shooting 🎯, running 🏃🏻♀️, and swimming 🏊♀️, 1st overall in her category and 1st team position. What an amazing achievement and a true testament to her determination and resilience! Lily’s talent has also earned her an invitation to take part in the 2025–26 British Shooting Schools Pistol Championships, which will be held at Ellesmere College, Shropshire later this month. A huge congratulations to Lily, we are incredibly proud of you and wish you the very best in the upcoming championships!
Rydym yn hynod falch o’n disgyblion a gynrychiolodd Adran Iau Clwb Pêl-droed Tref Aberteifi yn ystod eu sbin noddi yn Tesco Aberteifi yn gynharach eleni. Talodd eu hymroddiad a’u hymdrechion ar ei ganfed wrth iddynt godi swm anhygoel o £1,200 at elusen! Llongyfarchiadau enfawr i bawb a fu’n rhan o gefnogi achos mor wych a dangos gwir ysbryd cymunedol. Mae dau siec o £600 yr un bellach wedi’u cyflwyno i Cardigan Cancer Care ac i Wales Air Ambulance, Tudalen Gymunedol a Manwerthu De Orllewin Cymru, gan gefnogi dau achos gwirioneddol deilwng. Da iawn pawb, camp anhygoel! ⚫️⚪️
We are incredibly proud of our pupils who represented the Cardigan Town Football Club Junior Section during their sponsored spin at Tesco Cardigan earlier this year. Their dedication and effort paid off as they raised an outstanding £1,200 for charity! A huge well done to everyone involved for supporting such a fantastic cause and showing true community spirit. Two cheques of £600 each have now been handed over to Cardigan Cancer Care and Wales Air Ambulance , South West Wales Community and Retail Page, supporting two truly worthy causes. Da iawn pawb, what an achievement! ⚫️⚪️
Llongyfarchiadau enfawr i’n disgybl Chweched Dosbarth, Zoe, a gafodd ei Chapiau Cymreig yr wythnos diwethaf yng Ngwobrau Blynyddol SLSA Cymru – cyflawniad gwirioneddol wych ac yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’i gwaith caled a’i hymroddiad!
Rydym hefyd yn falch iawn o rannu bod Clwb Achub Bywydau Arfordir Poppit Sands wedi sicrhau’r 5ed safle yn gyffredinol yng Ngwobr fawreddog Super Club. Mae’r canlyniad anhygoel hwn yn adlewyrchu ymrwymiad, gwaith tîm ac ymdrech pawb sy’n rhan o’r clwb. Llongyfarchiadau i’n rhieni, disgyblion a chefnogwyr sy’n parhau i wneud Clwb Achub Bywydau Arfordir Poppit Sands yn llwyddiant mor fawr. Rydym mor falch ohonoch i gyd!
A huge congratulations to our Sixth Form student, Zoe, who was awarded her Welsh Caps last week at the SLSA Wales Annual Awards Ceremony, a truly fantastic achievement and well-deserved recognition of her hard work and dedication! We’re also delighted to share that Poppit Sands Surf Lifesaving Club secured 5th place overall in the prestigious Super Club Award. This incredible result reflects the commitment, teamwork, and effort of everyone involved with the club. Well done to all our parents, students, and supporters who continue to make Poppit Sands Surf Lifesaving Club such a success. We are so proud of you all!
Mae'r Ffair Lyfrau Scholastic yn dod i Ysgol Uwchradd Aberteifi O'r 17eg hyd at y 21ain o Dachwedd, bydd disgyblion yn gallu prynu llyfrau Scholastic o'r llyfrgell. Mae hwn nid yn unig yn gyfle gwych i gael eich cyffroi am lyfrau a darllen, ond hefyd yn ffordd arbennig o gefnogi ein llyfrgell ysgol yn uniongyrchol. Mae pob pryniant yn ein helpu i ychwanegu llyfrau newydd i bawb eu mwynhau! Mae croeso i ddisgyblion ddod ag arian parod, ac mae tocynnau rhodd ar gael i'w prynu ar wefan Scholastic hefyd.
Dathlwn ddarllen gyda'n gilydd! Tocynnau Rhodd Ffair Lyfrau – https://bookfairs.scholastic.co.uk/gift-vouchers
The scholastic book fair is coming to Ysgol Uwchradd Aberteifi From the 17th - 21st of November, pupils will be able to purchase Scholastic books from the library. Not only is this a wonderful way to get excited about all things books and reading, but it’s also a great opportunity to directly support our school library. Every purchase helps us add new books for everyone to enjoy! Pupils are welcome to bring cash, and vouchers are also available to buy on the Scholastic website. Let’s celebrate reading together! Book Fair Gift Vouchers - https://bookfairs.scholastic.co.uk/gift-vouchers
Mae Diwrnod Blasu ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym myd Amaeth o flynyddoedd 10 ac 11 yng Ngholeg Llambed ar y 18fed o Ragfyr. Mi fydd trafnidiaeth yn cael ei ddaparu gan yr Ysgol. A fyddech cystal â llenwi'r ffurflen isod erbyn dydd Gwener y 21ain o Dachwedd os oes diddordeb gan eich plentyn i fynychu.
There is a taster day for pupils in years 10 and 11 who are interested in a career linked to Agriculture in Lampeter College on the 18th of December. Travel will be arranged by the school. Could you please complete the below form by Friday the 21st of November if your child would like to attend.
Fel ysgol, rydym am bwysleisio pwysigrwydd diogelwch ar-lein i’n disgyblion. Yn oes ddigidol heddiw, mae deall sut i lywio’r rhyngrwyd yn ddiogel yn hanfodol. Mae’r cylchlythyr hwn yn ymdrin â phynciau allweddol sy’n cyd-fynd â Chwricwlwm newydd Cymru, gan sicrhau bod ein disgyblion yn barod ar gyfer y byd digidol.
1. Hunaniaeth, Delwedd a Chyfrifoldeb
Mae’n bwysig i ddisgyblion ddeall sut y gall eu gweithredoedd ar-lein effeithio ar eu hunaniaeth a’u henw da. Anogwch eich plant i feddwl cyn postio ac i fod yn ofalus gyda’r wybodaeth maent yn rhannu ar-lein. Cofiwch eu hatgoffa, unwaith y bydd rhywbeth wedi’i bostio, gall fod yn anodd ei dynnu.
2. Iechyd a Lles
Gall treulio gormod o amser ar-lein effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol. Anogwch seibiannau rheolaidd oddi wrth sgriniau, a hyrwyddwch weithgareddau nad ydynt yn cynnwys technoleg. Trafodwch bwysigrwydd cydbwyso gweithgareddau ar-lein ac all-lein i gynnal ffordd o fyw iach.
3. Hawliau Digidol a Thrwyddedu
Dylai disgyblion fod yn ymwybodol o’u hawliau digidol a phwysigrwydd parchu hawliau eraill ar-lein. Mae hyn yn cynnwys deall deddfau hawlfraint a’r defnydd moesegol o gynnwys digidol. Dysgwch eich plant i ofyn am ganiatâd cyn defnyddio neu rannu gwaith rhywun arall.
4. Bwlio Ar-lein
Mae bwlio ar-lein yn fater difrifol a all gael effeithiau hirdymor. Anogwch gyfathrebu agored gyda’ch plant am eu profiadau ar-lein. Dysgwch iddynt adnabod ymddygiad bwlio a’i riportio i oedolyn dibynadwy. Pwysleisiwch bwysigrwydd caredigrwydd a pharch ym mhob rhyngweithio ar-lein.
Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn helpu ein disgyblion i lywio’r byd digidol yn ddiogel ac yn gyfrifol.
As a school we want to emphasise the importance of online safety for our pupils. In today’s digital age, understanding how to navigate the internet safely is crucial. This newsletter covers key topics that align with the new Curriculum for Wales, ensuring our students are well-prepared for the digital world.
1. Identity, Image, and Reputation It’s important for students to understand how their online actions can affect their identity and reputation. Encourage your children to think before they post and to be mindful of the information they share online. Remind them that once something is posted, it can be difficult to remove.
2. Health and Wellbeing Spending too much time online can impact mental and physical health. Encourage regular breaks from screens, and promote activities that do not involve technology. Discuss the importance of balancing online and offline activities to maintain a healthy lifestyle.
3. Digital Rights and Licensing Students should be aware of their digital rights and the importance of respecting others’ rights online. This includes understanding copyright laws and the ethical use of digital content. Teach your children to seek permission before using or sharing someone else’s work.
4. Online Bullying Online bullying is a serious issue that can have long-lasting effects. Encourage open communication with your children about their online experiences. Teach them to recognize bullying behaviour and to report it to a trusted adult. Emphasize the importance of kindness and respect in all online interactions.
By working together, we can help our students navigate the digital world safely and responsibly.
Pa mor ddoeth mae PRESENOLDEB eich plentyn? / How Wise Is Your Child’s Attendance?
Aur / Gold - Mae presenoldeb eich plentyn dros 97%. Mae’n colli llai na chwech diwrnod yn y flwyddyn ysgol. Mae’n DDOETH am bresenoldeb yn yr ysgol. Yn ogystal â phresenoldeb ardderchog, bydd eich plentyn bron yn sicr yn ennill y graddau gorau posib yn ôl y gallu, sydd yn rhoi cyfle gwych i lwyddo mewn addysg uwch a byd gwaith. / Your child’s attendance is above 97%. They are absent less than six days in the school year. They are “WISED UP” on attendance. As well as being an excellent attendee they will almost certainly achieve the best grades for their ability, giving them real opportunities in further education and the world of work.
Arian / Silver - Mae presenoldeb eich plentyn yn 95% neu fwy. Mae’n colli llai na 10 diwrnod yn y flwyddyn ysgol. Mae’n DDOETH am bresenoldeb yn yr ysgol. Mae’n debyg o ennill graddau fydd yn rhoi cyfle da i fwrw ymlaen ag addysg uwch neu lwyddo yn y gweithle. / Your child’s attendance is 95% plus. They are absent less than 10 days in the school year. We know they are “WISE” regarding attendance. They are likely to achieve grades that will give them real opportunities to continue their studies and in the world of work.
Efydd / Bronze - Mae presenoldeb eich plentyn yn 90 – 95 %. Mae’n colli hyd at 20 diwrnod ysgol mewn blwyddyn. Mis o ysgol wedi’i golli! Mae eisie bod yn DDOETHACH! Mae hyn yn mynd i’w gwneud hi’n anodd i’ch plentyn gyrraedd y potensial gorau. / Your child’s attendance is 90 – 95 %. They are missing up to 20 days school each year. A full month lost! We think they “SHOULD BE WISER!” Their absence will make it difficult for them to achieve their best.
Coch / Red - Mae presenoldeb eich plentyn rhwng 80 – 90%. Mae’n colli hyd at 40 diwrnod ysgol mewn blwyddyn! WYTH WYTHNOS! Mae’n hen bryd bod yn DDOETHACH! Mae’n colli cymaint o ysgol y bydd yn anodd cadw i fyny gyda’r gwaith dosbarth. BYDDWCH CHI YN DDOETHACH! Mae presenoldeb eich plentyn yn is na 80%. Mae eisiau i CHI fod yn ddoethach a gwneud rhywbeth am hyn NAWR! Mae’n colli cymaint o amser ysgol y bydd bron yn amhosib dal i fyny gyda gwaith dosbarth a gwaith cartref! / Your child’s attendance is between 80 – 90%. They are missing up to 40 days in the school year! EIGHT WEEKS! They “NEED TO WISE UP”! They are missing so much time from school that it will be difficult for them to keep up with lessons or work. WISE UP! Your child’s attendance is below 80%. You need to “WISE UP and TAKE ACTION NOW”! They are missing so much time from school that it will be almost impossible for them to keep in touch with lessons or work!
Gwyrdd / Green – Yn bresennol / Present
Cofrestrwyd yn yr ysgol / Registered at school
Glas / Blue – Absenoldeb Awdurdodedig / Authorised Absence
Mae’r ysgol wedi cael gwybod ac wedi derbyn yr esboniad / School informed and reason accepted
Coch / Red – Absenoldeb Heb Awdurdod / Unauthorised Absence
Heb esboniad dilys / No valid reason given
(e.e. dim cyswllt, hwyr ar ôl cau’r gofrestr 9.00y.b) / (e.g. no contact, late after register closes 9.00am)
Pinc / Pink – Hwyr / Late
Cyrhaeddodd ar ôl amser cofrestru 8.35y.b / Arrived after registration time 8.35am.
Melyn / Yellow – Heb ei Gofnodi / Not Taken
Heb gofnodi presenoldeb eto / Attendance not yet recorded
Gwyn / White – Ddim Angen / Not Required
Nid oedd disgwyl presenoldeb / Not expected to attend
Neges gan y Pennaeth / A Message from the Headteacher
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i chi am gymryd yr amser i ddarllen bwletin yr wythnos hon, ac am eich cefnogaeth gyson drwy gydol yr hanner tymor. Mae eich cyfraniad parhaus yn werthfawr iawn i ni wrth i ni gydweithio i feithrin yr amgylchedd addysgol gorau posibl i’n disgyblion.
I would like to extend my sincere thanks for taking the time to read this week’s bulletin, and for your continued support throughout the half term. Your ongoing contribution is greatly valued as we work together to foster the best possible educational environment for our pupils.
Trystan