19/09/2025
19/09/2025
Mae hi wedi bod yn wythnos prysur a chyffrous unwaith eto, yn llawn ymweliadau, gweithgareddau, ymarferion a gwersi bywiog! Hoffwn ddiolch i’r ysgolion cynradd lleol am estyn croeso i ni wrth inni ymweld â’n canolfannau cyfagos i rannu gwybodaeth am ein Noson Agored ar yr 8fed o Hydref (a chofiwch fod croeso i chi ymweld hefyd er mwyn ein gweld!). Diolch i Mrs Erin Davies ac i Mrs Hannah Worrall am gydlynu’r holl drefniadau ar gyfer yr ymweliadau, ac am y croeso arbennig a gafwyd ymhob man. Gobeithio eich bod wedi mwynhau ein Cylchlythyr Wythnosol yr wythnos hon.
It has been another busy and exciting week, full of visits, activities, rehearsals and lively lessons! I would like to thank the local primary schools for welcoming us as we visited our neighbouring centres to share information about our Open Evening on the 8th of October (and remember, you are all very welcome to come along too to see us!). Thank you to Mrs Erin Davies and Mrs Hannah Worrall for coordinating all the arrangements for the visits, and for the warm welcome we received everywhere we went. I hope you enjoyd our Weekly Newsletter this week.
Mae'n bleser mawr i mi eich gwahodd i'n Noson Agored eleni a gynhelir ar ddydd Mercher yr 8fed o Hydref, 2025 o 16.00yp – 19.00yh yn Ysgol Uwchradd Aberteifi. Yn ystod y noson bydd darpar ddisgyblion o flynyddoedd 5 a 6 a'u rhieni yn cael cyfle i weld yr ysgol ac ymweld â'r gwahanol cyfadrannau, gweld arddangosfeydd o waith y disgyblion, arddangosiadau ymarferol, arbrofion, eitemau cerddorol a llawer mwy! Hoffem hefyd estyn y gwahoddiad i'n teuluoedd presennol a hoffai fynd am dro o amgylch yr ysgol. Hyderaf y byddwch ym mwynhau’r noson, ac edrychaf ymlaen at eich croesawu i'n hysgol.
It gives me great pleasure to invite you to our Open Evening this year, which will be held on Wednesday 8th October, 2025 from 16.00-19.00pm at Ysgol Uwchradd Aberteifi. During the evening prospective pupils from years 5 & 6 and their parents will have the opportunity to view the school and visit the different faculty areas, see displays of pupils’ work, practical demonstrations, experiments, musical items and much more! We would like to also extend the invite to our current families who would like to have a walk around the school. I trust that you will find your visit informative and enjoyable, and I look forward to welcoming you to our school.
Fe fuodd tîm Blwyddyn 8 yn chwarae gyda sgwad mawr, gan ganiatáu i Aberteifi gylchdroi dau dîm yn erbyn Ysgol Bro Preseli. Dangosodd y ddau dîm gyfnodau o chwarae’n dda drwy’r trydydd ymosodol, gyda throsiadau ardderchog o’r ganolbwynt hyd at y gôl. Roedd yn ddechrau addawol i’r tymor! Seren y gêm: Lily ac Evie.
The Year 8 team fielded a large squad, allowing Cardigan to rotate two strong teams against Ysgol Bro Preseli. Both teams showcased well-executed phases of play through the attacking third, with excellent passages from the centre pass through to goal. It was a promising start to the season! Star of the game: Lily and Evie.
Chwaraeodd tîm pêl-rwyd blwyddyn 9 yn erbyn tîm cryf o Ysgol Bro Preseli heno. Datblygodd y tîm drwy gydol y gêm, gan ddangos sgiliau ymosodol ardderchog o’u llinell gefn, gan ddod â’r bêl i fyny drwy’r cwrt i’w trydydd ymosodol. Seren y gêm: Freya B a Paula
The year 9 netball team played a strong Preseli team this evening. The team developed throughout their game demonstrating excellent attacking skills from their back line, bringing the ball up well through the centre court to their attacking third. Star(s) of the game: Freya B and Paula.
Ar ddiwedd y tymor diwethaf, mynychodd Holly James, o Gyngerdd Sirol Ceredigion, wobrau chwaraeon Ceredigion. Dyfarnwyd gwobr llysgennad ifanc y flwyddyn iddi. Llongyfarchiadau mawr i Holly.
At the end of last term Holly James, CYC attended the Ceredigion sports awards. She was awarded the young ambassador of the year award. A huge congratulations to Holly.
Teithiodd timau rygbi blwyddyn 8 a 10 i ffwrdd i Ysgol Henry Richard, Tregaron.
Clôd mawr i'r Bechgyn o flwyddyn 8 a oedd ychydig yn brin ar y noson, ond cam mawr i'r cyfeiriad iawn, diolch ichi!
Chwaraeodd Blwyddyn 10 yn dda drwy gydol y gêm gyda pherfformiadau da iawn gan lawer, yn enwedig Louie Murphy, Rhys Price a Leon Thomas. Roedd rhai cyfnodau chwarae wedi'u gweithredu'n dda gan arwain at ganlyniad cyfartal o 12-12.
Yr wythnos nesaf bydd y timau rygbi yn chwarae yn erbyn Ysgol Penglais oddi cartref, tra bydd y merched yn chwarae gartref yn erbyn yr un ysgol.
The year 8 and 10 rugby teams travelled away to Ysgol Henry Richard, Tregaron.
The year 8 team were missing some players but credit to the boys who played, showing great team play throughout the match.
Year 10 played well throughout the match with some very good performances from many, in particular Louie Murphy, Rhys Price and Leon Thomas. There were some well executed periods of play resulting in a 12-12.
Next week the rugby teams will play Penglais away whilst the girls will play at home against Penglais.
Ymwelodd disgyblion Addysg Gorfforol Blwyddyn 12 â Phrifysgol Aberystwyth heddiw. Cawsant gyfle i gymryd rhan mewn profion ffitrwydd labordy ochr yn ochr â darlith ffisioleg. Diolch i’r holl staff a gymerodd ran – roedd hwn yn gyfle gwych i’n disgyblion ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth.
Pupils from the year 12 Physical Education class visited Aberystwyth University today. They were given opportunities to participate in laboratory fitness testing alongside a physiology lecture. Thank you to all of the staff involved, this was a fantastic opportunity for our pupils to develop their knowledge and understanding.
Llongyfarchiadau mawr i Teigrod Aberteifi ar eu llwyddiant: bu criw o ddisgyblion wrthi’n cystadlu yn Lerpwl dros y dyddiau diwethaf, ac wedi llwyddo i gipio’r drydedd wobr. Da iawn nhw i gyd, a diolch enfawr i Mr Emyr James am gydlynu, hyfforddi a gofalu amdanynt!
Huge congratulations to Aberteifi Tigers for their success: a group of pupils have been competing in Liverpool over the past couple of days, and did so well to achieve third place. Well done to all, and huge thanks to Mr Emyr James for arranging, training, supporting and taking care of everyone!
Mae Mia Lloyd, 18 oed, cyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Aberteifi wedi cael ei henwi’n dderbynnydd gwobr Plentyn Dewrder eleni. Heddiw, mae Mia yn Llysgennad Ieuenctid i Ysbyty Plant Arch Noa, yn codi ymwybyddiaeth ac arian. Mae hi wedi cynrychioli Cymru mewn athletau para, gan ddod yn bedwerydd mewn disgen yng Ngemau’r Gymanwlad Ieuenctid 2023. Dywedodd sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol Gwobrau Plentyn Cymru, Blanche Sainsbury, “Fel bob amser, mae Gwobrau Plentyn Cymru eleni wedi bod yn anhygoel. Roedd yn noson wirioneddol anghofiadwy – dathliad pwerus o ddewrder, gwydnwch a gobaith. “Ni fyddai dim ohono wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth ddiysgog ein noddwyr, ffrindiau a chefnogwyr anhygoel, y mae eu haelioni a’u cred yn ein gweledigaeth yn parhau i’n hysbrydoli. “Gyda’n gilydd, rydym wedi creu rhywbeth arbennig - cymuned sy’n dod at ei gilydd i anrhydeddu arwyr ifanc Cymru a rhoi noson na fyddant byth yn ei hanghofio i’w teuluoedd.” Llongyfarchiadau enfawr i ti Mia. Rwyt ti’n ysbrydoliaeth fawr ac yn fodel rôl gwych i ni i gyd.
Mia Lloyd, 18, a former pupil of Ysgol Uwchradd Aberteifi has been named this year’s recipient of the Child of Courage award. Today, Mia is a Youth Ambassador for Noah’s Ark Children’s Hospital, raising awareness and funds. She has represented Wales in para athletics, placing fourth in discus at the 2023 Youth Commonwealth Games. Child of Wales Awards founder and CEO Blanche Sainsbury said, “As always, this year’s Child of Wales Awards has been incredible. It was a truly unforgettable evening – a powerful celebration of courage, resilience, and hope. “None of it would have been possible without the unwavering support of our incredible sponsors, friends, and supporters, whose generosity and belief in our vision continue to inspire us. “Together, we’ve created something special - a community that comes together to honour Wales' young heroes and give their families a night they will never forget.” A huge congratulations to you Mia. You are such an inspiration and a fantastic role model to us all.
Mynychodd pump o ddisgyblion Blwyddyn 12 y sesiwn sefydlu e-sgol ddydd Gwener 12 Medi yn Aberystwyth. Mae'r disgyblion yn astudio Mathemateg Bellach a Chymraeg fel rhan o'u cyfres o bynciau Safon Uwch. Pwrpas y sesiwn oedd cwrdd â'u tiwtoriaid a myfyrwyr eraill o bob cwr o Geredigion a meithrin perthnasoedd cadarnhaol. Rydym yn falch iawn o allu cynnig ystod eang o gyrsiau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Aberteifi i ddiwallu anghenion ein pobl ifanc. Diolch i Mr O’Sullivan am drefnu'r digwyddiad.
Five Year 12 pupils attended the e-sgol induction on Friday 12th September in Aberystwyth. The pupils are studying Further Maths and Welsh as part of their suite of A Level subjects. The purpose of the session was to meet their tutors and other students from across Ceredigion and build positive relationships. We are really pleased to be able to offer a wide range of A Level courses at Ysgol Uwchradd Aberteifi to meet the needs of our young people. Thank you to Mr O’Sullivan for arranging the event.
Mae dwy ysgol ac un Cylch Meithrin yng Ngheredigion wedi elwa'n ddiweddar o fuddsoddiad gwerth £9 miliwn gan gyllid Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, y Grant Lleihau Maint Dosbarthiadau Babanod, Rhaglen gyfalaf ar gyfer Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar ac Awdurdod Lleol Ceredigion.
Mae'r rhain yn cynnwys:
Ysgol Uwchradd Aberteifi
Ysgol Gynradd Aberteifi
Cylch Meithrin Nawmor, Cenarth
Bu Llywodraethwyr, Cynghorwyr a Swyddogion Awdurdodau Lleol yn ymweld ag Ysgol Uwchradd Aberteifi i weld y gwaith a wnaed i drawsnewid yr ysgol uwchradd. Adeiladwyd estyniad i greu bloc addysgu newydd tri llawr yn cynnwys wyth ystafell ddosbarth, tair ystafell TGCh, stiwdio TGCh, toiledau, dwy ystafell i grwpiau bach, tair swyddfa gyfadran a gofod ar gyfer cylchdroi. Crëwyd hefyd stiwdio ddrama bwrpasol a dau labordy gwyddoniaeth newydd o'r radd flaenaf.
Buont hefyd yn ymweld ag Ysgol Gynradd Aberteifi sydd wedi derbyn buddsoddiad sylweddol i wella'r ddarpariaeth gynradd gydag ystafell ddosbarth feithrin newydd, dwy ystafell ddosbarth ychwanegol, bloc cyswllt gydag ystafell staff, toiledau, prif dderbynfa ystafell rieni ac ystafell waith i’r staff.
Roedd yr ymweliad hefyd yn cynnwys taith o amgylch Cylch Meithrin Nawmor, sy’n gyfleuster gofal plant newydd yn Ysgol Gynradd Cenarth. Mae'r lleoliad gofal plant yn cynnig gofal cofleidiol i blant 2–4 oed, lle nad oedd darpariaeth o'r blaen, ac mae'n cynnig darpariaeth Dechrau'n Deg a lleoedd gofal plant a ariennir trwy'r rhaglen Cynnig Gofal Plant 30 awr i Gymru. Ariannwyd y prosiect hwn yn llawn gan Raglen Grant Cyfalaf Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth ychwanegol gan Mudiad Meithrin a'i grant Sefydlu a Symud i sefydlu'r Cylch Meithrin newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Wyn Thomas, Aelod Cabinet Ceredigion dros Ysgolion a Dysgu Gydol Oes: "Mae wedi bod yn wych gweld dysgwyr a staff yn mwynhau eu cyfleusterau newydd o'r radd flaenaf ar draws y tri lleoliad, sef Ysgol Gynradd ac Ysgol Uwchradd Aberteifi, yn ogystal â’r cyfleusterau gwych yng Nghylch Meithrin Nawmor, Cenarth. Diolch yn fawr i bawb a fu’n rhan o wireddu’r gwelliannau hyn, gan sicrhau bod ein dysgwyr yn gallu dysgu a datblygu mewn amgylchedd bwrpasol a chroesawgar."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: “Rwy'n hynod ddiolchgar i bawb a fu'n rhan o ddarparu'r cyfleusterau newydd gwych hyn i bobl ifanc a theuluoedd yn Aberteifi a Chenarth. Mae'r buddsoddiad hwn, trwy ein Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, wedi darparu cyfleusterau modern a chynhwysol sy'n sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at addysg o ansawdd uchel.
“Mae pob dysgwr yn haeddu ffynnu a chyrraedd ei botensial llawn, a bydd y cyfleusterau hyn yn helpu i sicrhau eu bod yn cael y cyfle hwnnw yma yn eu cymuned leol. Diolch i Gyngor Sir Ceredigion, staff yr ysgol, a'n holl bartneriaid am wneud hyn yn bosibl.”
Agorwyd y tri phrosiect yn swyddogol ar 12 Medi 2025, gan ddarparu amgylcheddau gofal a dysgu modern, cynhwysol ac ynni-effeithlon i blant a phobl ifanc.
Two schools and one Cylch Meithrin in Ceredigion have recently benefitted from a £9 million investment by the Welsh Government Sustainable Communities for Learning Programme, the Reducing Infant Class Sizes Grant, the Capital programme for Childcare and Early Years, and Ceredigion Local Authority.
These include:
Ysgol Uwchradd Aberteifi
Ysgol Gynradd Aberteifi
Cylch Meithrin Nawmor, Cenarth
School Governors, Councilors and Local Authority Officers visited Ysgol Uwchradd Aberteifi to see the work done to transform the secondary school. An extension was built to create a new three-storey teaching block containing eight classrooms, three ICT rooms, an ICT studio, toilets, two rooms for small groups, three faculty offices and space for rotation. A dedicated drama studio and two new state-of-the-art science laboratories were also created.
They also visited Ysgol Gynradd Aberteifi which has received significant investment to improve the primary provision with a new nursery classroom, two additional classrooms, a link block with a staff room, toilets, main reception, parents' room and a work room for the staff.
The visit also included a tour of Cylch Meithrin Nawmor, which is a new childcare facility at Cenarth Primary School. The childcare setting offers comprehensive care for children aged 2–4, where there was no provision before, and offers Flying Start provision and childcare places funded through the 30 hour Childcare Offer programme for Wales. This project was fully funded by the Welsh Government's Childcare Offer Capital Grant Programme, with additional support from Mudiad Meithrin and its Setup and Succeed grant to establish the new Cylch Meithrin.
Councillor Wyn Thomas, Ceredigion Cabinet Member for Schools and Lifelong Learning, said: “It has been great to see learners and staff enjoying their new state of the art facilities across the three locations, including Ysgol Gynradd and Ysgol Uwchradd Aberteifi, as well as the fantastic facilities at Cylch Meithrin Nawmor Cenarth. Thank you to everyone who has been involved in delivering these improvements, ensuring that our learners can learn and develop in a purposeful and welcoming environment.”
Cabinet Secretary for Education, Lynne Neagle said: "I'm incredibly grateful to everyone involved in delivering these wonderful new facilities for young people and families in Cardigan and Cenarth. This investment, through our Sustainable Communities for Learning Programme, has delivered modern and inclusive facilities that ensure every learner has access to high-quality education.
“Every learner deserves to thrive and reach their full potential, and these facilities will help ensure that they are given that opportunity right here in their local community. Thank you to Ceredigion County Council, school staff, and all our partners for making this possible."
The three projects were officially opened on 12 September 2025, providing modern, inclusive and energy-efficient care and learning environments for children and young people.
Noson Wobrwyo 24/09/2026 / Prize Evening 24/09/2026
PTA Sign up night 25/09/2025 at 18.30pm at the Black Lion, Cardigan
Diwrnod Pontio Blwyddyn 6 01/10/2025 / Year 6 Transition Day 01/10/2025
Noson Agored 08/10/2025 / Open Evening 08/10/2025 16:00-19:00y.p/pm
Noson Rieni Blwyddyn 7 22/10/2025 / Year 7 Parents' Evening 15:30-18:00y.p/pm
Hanner Tymor Y Hydref / October Half Term 27/10/2025-31/10/2025
Oes gennych chi newyddion i'w rhannu? Cysylltwch â swyddfa@aberteifi.ceredigion.sch.uk
Do you have news to share? Get in touch swyddfa@aberteifi.ceredigion.sch.uk
Diolch / Thank you
Trystan