“Cenhadaeth ein cenedl yw codi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol."
Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae Cwricwlwm i Gymru yn sail i'r holl ddiwygiadau cyfredol, i'n galluogi i wireddu'r genhadaeth genedlaethol o wella addysg yng Nghymru. Yn hynny o beth, mae'n rhoi cyfle unigryw i bob ysgol a lleoliad greu cwricwlwm newydd ar gyfer dyfodol ein plant a'n pobl ifanc.
Creu gweledigaeth ar gyfer eich ysgol fydd y man cychwyn ar gyfer dylunio'r cwricwlwm newydd hwn. Nid 'Sut y bydd hi os gwnawn pethau'n well?' yw'r cwestiwn i'w ofyn i chi eich hun, ond 'sut y gallai fod pe byddem yn gwneud pethau yn wahanol?’
“Pe byddwn wedi gofyn i bobl beth yr oedd arnynt ei eisiau, byddent wedi dweud ceffylau cyflymach."
“If I had asked people what they wanted, they would have said faster horses."
Henry Ford
Beth ydym yn ei olygu wrth weledigaeth?
Bydd creu'r weledigaeth hon yn golygu dychmygu dyfodol gwahanol i'ch ysgol.
Ymateb a Myfyrio
Mae'n ddefnyddiol cael cyd-ddealltwriaeth o ystyr 'gweledigaeth’.
Dewiswch eiriau allweddol yr ydych yn eu cysylltu â gweledigaeth, ac yna eu defnyddio fel man cychwyn i greu eich diffiniad eich hun.
Dyma rai syniadau ar gyfer geiriau y gallech eu defnyddio:
Dychymyg
Gobaith
Gweddnewid
Doethineb
Gwerth
Darganfod
Mae hefyd yn ddefnyddiol cytuno ar egwyddorion allweddol i seilio eich gweledigaeth arnynt.
Ymateb a Myfyrio
Pa negeseuon y gellid eu tynnu o'r lluniau isod?
A allent ysbrydoli egwyddorion eich gweledigaeth?
Awgrymiadau:
Mae angen i ni ofalu am ein dysgwyr a'u meithrin
Mae angen i ni gadw llygad am gyfleoedd newydd
Mae angen i ni edrych tuag allan
Awgrymiadau:
Mae angen i ni anelu'n uchel
Mae angen i ni hedfan i'r un cyfeiriad
Rydym i gyd yn dechrau o leoedd gwahanol
Awgrymiadau:
Mae angen i ni weld y darlun cyfan
Mae angen i ni fod yn ddewr a mentro
Mae angen i gymorth fod ar gael i'n helpu
Ymateb a myfyrio
Mae'r rhan fwyaf o sefydliadau o'r sectorau cyhoeddus a phreifat yn rhannu eu gweledigaeth ar eu gwefannau.
Dilynwch y dolenni ar y dde i edrych ar enghreifftiau o ffyrdd y mae'r sefydliadau hyn yng Nghymru yn cyflwyno eu gweledigaeth.
Ystyriwch y cwestiynau canlynol:
A yw eu gweledigaeth yn cael ei chyfleu'n glir?
Beth y mae eu datganiad o weledigaeth yn ei gynnwys?
Sut fyddai'r sefydliad yn gwneud iddo ddigwydd?
A oes yna unrhyw syniadau a allai fod yn ddefnyddiol ar gyfer gweledigaeth eich ysgol?
Sut y gallech fynd ati i greu gweledigaeth ar gyfer eich ysgol?
Bydd yr ymchwil a wnaed yn y gweithgaredd blaenorol wedi rhoi cyfle i chi fyfyrio ar bwysigrwydd datganiad o weledigaeth clir, a fydd yn eich galluogi i wneud penderfyniadau wrth i chi baratoi i greu eich gweledigaeth eich hun.
Ymateb a myfyrio
Ystyriwch y pedwar cwestiwn isod, a rhestrwch atebion posibl. Mae yna rai awgrymiadau a allai fod yn ddefnyddiol yn y gwymplen. Efallai yr hoffech ystyried hefyd yn y fan hon sut y bydd y weledigaeth hon yn cael ei chyfleu a'i hadolygu, fel ei bod wedi'i hymgorffori ym mywyd bob dydd eich ysgol.
Beth sydd angen i ni ei wybod cyn creu gweledigaeth?
Beth yw'r cyd-destun cenedlaethol ?
Beth yw ein cyd-destun lleol ?
Sut mae'r byd wedi newid ?
Pa gwestiynau sydd angen i ni eu gofyn?
Beth yw ein dyfodol fel ysgol ?
Sut fydd ein hysgol yn edrych mewn 5 mlynedd ?
Beth sydd ei angen ar ein dysgwyr ?
Beth ddylsai gael ei gynnwys?
Nodau
Gwerthoedd
Cenhadaeth
Ymrwymiad
Pwy allai fod yn rhan o'r broses?
Yr holl staff
Dysgwyr
Rhieni
Llywodraethwyr
Y gymuned
Sut y gallwch sicrhau bod gweledigaeth y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei hadlewyrchu yn y weledigaeth ar gyfer eich ysgol?
Gweledigaeth Cwricwlwm i Gymru
Mae gweledigaeth Cwricwlwm i Gymru yn cael ei hegluro yng nghanllawiau Cwricwlwm i Gymru. Fe'i hymgorfforir gan y pedwar diben, sy'n cynrychioli dyheadau ac uchelgeisiau pob dysgwr yng Nghymru.
“Gweledigaeth ar y cyd yw’r Pedwar diben, a dyma'r dyhead ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Wrth wireddu’r rhain, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, yn hyrwyddo lles personol a chenedlaethol, yn herio anwybodaeth a ffug-wybodaeth, ac yn annog dysgwyr i chwarae eu rhan fel dinasyddion effro a beirniadol."
Cwricwlwm i Gymru
Gweledigaeth ar gyfer eich ysgol
Rhaid ystyried Cwricwlwm i Gymru yn fframwaith sy'n eich caniatáu i ddehongli yng nghyd-destun eich ysgol. Bydd eich gweledigaeth felly yn unigryw er mwyn diwallu anghenion eich dysgwyr.
Gan ddechrau gyda gweledigaeth genedlaethol y pedwar diben, bydd angen i ysgolion:
“ddatblygu gweledigaeth ar gyfer cwricwlwm mewn ysgol”
a
“ datblygu cwricwlwm sy'n gwireddu'r weledigaeth honno.”
Cwricwlwm i Gymru
“Cwricwlwm yr ysgol yw popeth mae dysgwyr yn ei brofi ar drywydd y pedwar diben."
Cwricwlwm i Gymru
Bydd myfyrio ar benawdau a nodweddion y pedwar diben yn galluogi ysgolion i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o weledigaeth Cwricwlwm i Gymru.
Ymateb a myfyrio
Gan ddefnyddio'r adnoddau hyn, ystyriwch y cwestiynau canlynol.
Beth y mae'r pedwar diben yn ei olygu ar gyfer ein dysgwyr ni?
Sut y gallwn gefnogi ein dysgwyr i'w gwireddu?
Bydd y cyfle hwn i fyfyrio'n fanylach ar y pedwar diben yn darparu sylfaen ar gyfer creu gweledigaeth eich ysgol.
Gan adeiladu ar y sylfaen hon, bydd yn ddefnyddiol gofyn cwestiynau am y gwerthoedd a'r sgiliau y bydd eu hangen ar eich dysgwyr i fanteisio ar gyfleoedd yn y dyfodol ac i wynebu heriau yn y dyfodol.
“Mae'n ymwneud â sicrhau bod unigolion yn datblygu cwmpawd dibynadwy, a'r sgiliau llywio i ddod o hyd i'w ffordd eu hunain trwy fyd cynyddol ansicr, cyfnewidiol ac amwys."
“It’s about making sure that individuals develop a reliable compass and the navigation skills to find their own way through an increasingly uncertain, volatile, and ambiguous world."
“It’s about making sure that individuals develop a reliable compass and the navigation skills to find their own way through an increasingly uncertain, volatile, and ambiguous world."
Andreas Schleicher, OECD
Ymateb a myfyrio
Dyma ychydig enghreifftiau o newidiadau cymdeithasol ac amgylcheddol cyfredol. Ystyriwch y newidiadau hyn a'u goblygiadau ar gyfer eich dysgwyr yn y dyfodol.
Pa wybodaeth, sgiliau a gwerthoedd y mae angen iddynt eu datblygu wrth addasu i'r newidiadau hyn ac ymdrechu i greu atebion arloesol i'r heriau a fydd yn codi?
Efallai yr hoffech ystyried newidiadau ychwanegol, a gallai rhai ohonynt fod yn arbennig o berthnasol i'ch cynefin.
Sut y bydd y ddealltwriaeth hon yn cael ei hadlewyrchu yn eich gweledigaeth wrth i chi baratoi eich dysgwyr i wireddu'r pedwar diben mewn byd sy'n newid yn gyflym?
“Ni allwn ddatrys ein problemau â’r un meddwl yr oeddem yn ei ddefnyddio i'w creu."
“We cannot solve our problems with the same thinking we used when we created them."
Albert Einstein
Yn Cwricwlwm i Gymru, mae'r sgiliau sy'n ofynnol i wynebu heriau'r dyfodol yn cael eu grwpio yn sgiliau cyfannol. Rhaid defnyddio'r rhain ledled pob maes o'r cwricwlwm, a'u datblygu o fewn ystod eang o ddysgu ac addysgu. Maent yn sail i'r pedwar diben ac, o'r herwydd, mae'n rhaid eu hystyried wrth greu gweledigaeth ar gyfer y cwricwlwm yn eich ysgol.
Sgiliau sy’n hanfodol i'r pedwar diben
Creadigrwydd ac arloesi
Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
Effeithiolrwydd personol
Cynllunio a threfnu
Sut y bydd gweledigaeth eich ysgol yn cwmpasu anghenion eich holl ddysgwyr?
Mae Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm a gynlluniwyd yng Nghymru i Gymru. Mae'n gosod y disgwyliadau cenedlaethol ar gyfer gwella'r addysg i bob dysgwr. Dylid ei ystyried yn fframwaith sy'n rhoi ymreolaeth a hyblygrwydd i ysgolion a lleoliadau gynllunio eu cwricwlwm eu hunain sy'n diwallu anghenion eu dysgwyr eu hunain. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ysgolion fod yn ymwybodol o dirwedd gymdeithasol, ddiwylliannol, ieithyddol ac economaidd eu hysgol a'u cymuned.
Ymateb a myfyrio
Ystyriwch y graffiau hyn, sy'n darparu data am gymuned ysgol ar sail cod post.
Sut y mae'r wybodaeth hon yn gwella ein dealltwriaeth o gymuned yr ysgol hon?
Sut y mae'r well ddealltwriaeth hon yn egluro anghenion y dysgwyr yn yr ysgol hon?
Sut y gellir defnyddio'r wybodaeth a gafwyd o'r ymarfer hwn yn sylfaen ar gyfer creu gweledigaeth yr ysgol hon?
Mae'r wybodaeth yn deillio o www.streetcheck.co.uk ac mae'n un ffordd bosib o archwilio natur unigryw cymuned ysgol.
Mae yna nifer o ffynonellau gwybodaeth eraill, megis data Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, a allai fod yn ddefnyddiol i chi wrth greu gweledigaeth i ddiwallu anghenion eich dysgwyr.
Rhaid i'r weledigaeth yn eich ysgol fod ar gyfer cwricwlwm eang a chytbwys, sy'n hygyrch i bob dysgwr. Mae'n gosod y dysgwr yng nghanol yr holl benderfyniadau, a rhaid iddo sicrhau'r cyfleoedd gorau posibl i symud ymlaen tuag at y pedwar diben.
Mae meithrin dyheadau ar gyfer pob dysgwr yn hanfodol er mwyn gwireddu gweledigaeth Cwricwlwm i Gymru, a rhaid i weledigaeth ysgol ar gyfer ei chwricwlwm alluogi pob dysgwr i wireddu ei botensial.
Ymateb a myfyrio
O ystyried yr heriau cyfredol sydd wedi dod i fodolaeth yn sgil Covid-19, sut y byddwch yn sicrhau eich bod yn cynnwys yr ysgol gyfan a'i chymuned wrth greu gweledigaeth a rennir ar gyfer pob dysgwr yn eich ysgol?