Y weledigaeth ar gyfer maes dysgu a phrofiad y Dyniaethau

"Mae maes dysgu a phrofiad y Dyniaethau yn ceisio deffro ymdeimlad o ryfeddod er mwyn tanio'r dychymyg ac ysbrydoli'r dysgwyr i gynyddu eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a'u doethineb. Mae'r Maes hwn yn annog y dysgwyr i ymgysylltu â'r materion pwysicaf sy'n wynebu dynoliaeth, er enghraifft cynaliadwyedd a newid cymdeithasol, ac yn helpu i feithrin y sgiliau angenrheidiol i ddehongli a chyfleu'r gorffennol a'r presennol."

"Mae'r Maes yn cynnwys daearyddiaeth; hanes; crefydd, gwerthoedd a moeseg; astudiaethau busnes ac astudiaethau cymdeithasol. Mae'r disgyblaethau hyn yn rhannu nifer o themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, er bod ganddynt eu corff penodol eu hunain o wybodaeth a sgiliau. Gall y dysgwyr hefyd gael eu cyflwyno i ddisgyblaethau cyflenwol eraill, er enghraifft y clasuron, economeg, y gyfraith, athroniaeth, gwleidyddiaeth, seicoleg a chymdeithaseg, fel y bo'n briodol."

Cwricwlwm i Gymru

Dyniaethau - darganfod pwy ydym ni a beth allwn ni fod

Mae'r dyniaethau yn ein helpu i ddeall pobl a chymdeithasau eraill trwy eu hieithoedd, eu hanes a'u diwylliant, ac maent yn datgelu'r modd y mae pobl wedi ceisio gwneud synnwyr moesol, ysbrydol a deallusol o'r byd. Mae dysgu trwy'r dyniaethau yn cefnogi'r dysgwyr i ymdrin â gwybodaeth newydd mewn modd beirniadol a rhesymegol, ac i adnabod tuedd. At hynny, mae'r dyniaethau’n annog dysgwyr i feddwl yn greadigol. Yn y pen draw, maent yn helpu'r dysgwyr i resymu ynghylch bod yn ddynol, i ofyn cwestiynau am ein byd a, thrwy wneud hyn, i ddatblygu i fod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus, a fydd yn gallu rhesymu, dadansoddi a datrys problemau yn y dyfodol.

Mae maes dysgu a phrofiad y Dyniaethau yn darparu cyfle rhagorol i roi profiad dysgu dilys, cyfoethog a pherthnasol i'r dysgwyr. Dyluniwyd yr MDPh i gefnogi ysgolion i ddatblygu dull mwy cysylltiedig o ddysgu a fydd yn cefnogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth gynyddol soffistigedig o gysyniadau y tu fewn i’r dyniaethau. Dylai’r dysgu hwn alluogi pob dysgwr i weithredu tuag at yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth.

Er mwyn galluogi dysgwyr i ddeall natur gymhleth ac amrywiol cymdeithasau’r gorffennol a’r presennol, mae angen dod i gysylltiad cyson â straeon ardal y dysgwyr, yn ogystal â stori Cymru a’r byd ehangach.

“Mae fy nynoliaeth i wedi'i rwymo wrth eich dynoliaeth chi, oherwydd dim ond gyda'n gilydd y gallwn fod yn ddynol."

“My humanity is bound up in yours, for we can only be human together."

Desmond Tutu

Ymateb a Myfyrio

Yn eich barn chi, i ba raddau y mae'r Dyniaethau yn darparu cyfleoedd i feithrin nodweddion y pedwar diben?

Bydd y ddogfen ar y dde yn eich helpu i weld y cysylltiadau rhwng nodweddion allweddol y pedwar diben a'r profiadau rydych chi'n eu cynllunio.

Ein Maes Dysgu a Phrofiad Pedwar Diben.pdf

Bydd ystyried y nodweddion sydd o dan benawdau'r pedwar diben yn arwain at ddealltwriaeth fanwl o weledigaeth Cwricwlwm i Gymru. Rhaid i'r sgwrs hon ddigwydd ym mhob maes dysgu a phrofiad.

Ymateb a Myfyrio

Mae Cwricwlwm i Gymru, o ran ei natur, yn holistaidd ac yn rhyng-gysylltiedig. Trefnwch y datganiadau yn y rhestr chwarae ar y dde, sydd wedi'u cymryd o ganllawiau'r Dyniaethau, o dan bob un o'r pedwar diben er mwyn dechrau gweld sut i ddatblygu'r Maes wrth i'r dysgwyr wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.

Mae hyn yn cynnig cyfle i gydweithio yn y Meysydd a rhyngddynt, wrth i ni gynllunio ein cwricwlwm holistaidd.

Cliciwch ar y ddelwedd ar y dde i fynd i'r rhestr chwarae. Bydd angen mewngofnodi i Hwb.

Dylai profiadau dysgu ym mhob Maes ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr symud ymlaen tuag at y pedwar pwrpas.

Sut y gall maes dysgu a phrofiad y Dyniaethau gefnogi iechyd a lles?

Mae pandemig Covid-19 yn newid ein cymdeithas, ac mae cadw pellter cymdeithasol yn ‘normal’ newydd, ‘ffyrlo’ yn derm newydd, a thechnoleg yn blatfform newydd ar gyfer ein rhyngweithiadau cymdeithasol. Mae bywyd, mewn sawl ffordd, wedi newid y tu hwnt i adnabyddiaeth, ac yn wahanol iawn i'r hyn yr oedd y mwyafrif ohonom wedi'i brofi o'r blaen. Mae MDPh y Dyniaethau yn cynnig cyfle i feithrin gwybodaeth y dysgwyr am hunaniaeth, cymunedau, cymdeithasau, dylanwadau cymdeithasol, a normau a gwerthoedd cymdeithasol, ynghyd â'u dealltwriaeth ohonynt. Mae’r dyniaethau'n cefnogi dealltwriaeth o ddinasyddiaeth, hawliau, parch a chydraddoldeb, ac yn cyfrannu at y penderfyniadau y mae'r dysgwyr yn eu gwneud, yn unigol ac ar y cyd. Mae'r broses o wneud penderfyniadau, yn y pen draw, yn cael effaith ar yr heriau a'r cyfleoedd y mae dynoliaeth yn eu hwynebu heddiw, yng Nghymru a'r byd ehangach.

Cysyniadau newydd

  • Disgwylir i'r holl ddysgwyr yng Nghymru astudio astudiaethau busnes a chymdeithasol fel rhan bwysig o'r broses o ddeall y Dyniaethau.

  • Bydd crefydd, gwerthoedd a moeseg yn orfodol o 3-16 oed, a datblygwyd hyn mewn cydweithrediad â CYSAG.

  • Dylid annog y dysgwyr i feithrin eu hymdeimlad o hunaniaeth, ac i ehangu eu gorwelion trwy edrych ar eu safbwynt lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Cynefin_Cymraeg.mp4

Cynefin

Cynefin - Dyma lle yr ydym yn teimlo ein bod yn perthyn, lle mae'r bobl a'r tirweddau o'n cwmpas yn gyfarwydd, ac y mae'r hyn sydd i'w weld ac i'w glywed yn galonogol o adnabyddus.

Cysyniad newydd cyffrous arall ym maes dysgu a phrofiad y Dyniaethau yw ein hannog i feithrin ymdeimlad o le ac ymdeimlad o berthyn yn ein dysgwyr, fel sy’n cael ei ymgorffori yn y gair cynefin.

Mae meithrin ymdeimlad o le a chynefin nid yn unig yn hyrwyddo dealltwriaeth y dysgwyr o Gymru, ei chymunedau, ei diwylliant a'i hanes, ond, wrth archwilio hyn trwy safbwyntiau gwahanol, gall hefyd gefnogi dealltwriaeth o amrywiaeth ddiwylliannol a moesegol yng Nghymru. Yn y pen draw, bydd hyn yn arfogi'r dysgwyr â'r sgiliau a'r wybodaeth i feithrin ymdeimlad o berthyn sy'n eu galluogi i gyfrannu mewn modd cadarnhaol at eu cymunedau ac, ar yr un pryd, werthfawrogi eu cymuned ryngwladol ehangach.

Stori Cymru

Dylai stori Cymru fod wrth wraidd unrhyw gwrs Dyniaethau ar bob lefel yng Nghymru. Mae'r straeon hyn yn hyrwyddo dealltwriaeth o sut mae pobl Cymru, ei chymunedau, hanes, diwylliant, tirwedd, adnoddau a diwydiannau yn cydberthyn â gweddill y byd. Dylid annog dysgwyr i ddeall yr amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru. Bydd profiadau o'r fath yn helpu dysgwyr i werthfawrogi sut mae Cymru yn rhan o gymuned ryngwladol ehangach, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a fydd yn eu hannog i gyfrannu'n gadarnhaol tuag at eu cymunedau.

“Cymru yw cartref ein dysgwyr, a dylai map o’u gorffennol fod mor gyfarwydd iddynt â’r ffordd adre o’r ysgol.”

“Wales is the home of its learners, and a map of their past should be as familiar to them as the way home from school."

Dr. Elin Jones, Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru (2013)

Lleol, cenedlaethol, rhyngwladol

Mae cynefin a stori Cymru yn rhoi ymdeimlad o hunan i ddysgwyr, o ble maen nhw'n dod ac o werthoedd eu cenedl. Bydd darparu'r sylfaen gadarn hon a'r teimlad o berthyn yn helpu dysgwyr i edrych yn hyderus ar y gymuned ryngwladol ehangach fel aelodau creadigol, uchelgeisiol a gwerthfawr o gymdeithas.


"Dim ond dwy rodd barhaol y gallwn obeithio eu rhoi i'n plant. Gwreiddiau yw un o'r rhain, ac adenydd yw'r llall."

"There are only two lasting bequests we can hope to give our children. One of these is roots, the other, wings."

Johann Wolfgang von Goethe

Ymateb a Myfyrio

  • Beth sy'n llunio eich cynefin, a sut y gall hwn fod yn wahanol ar gyfer eich dysgwyr?

  • Sut y gallech ddechrau hyrwyddo'r broses o ddysgu am gynefin yn eich ysgol?

  • Sut y byddwch yn gwybod beth y mae hyn yn ei olygu i'ch dysgwyr?

Yr hyn sy'n bwysig

Mae'r dysgu hanfodol sy'n ofynnol i wireddu'r pedwar diben ym mhob MDPh wedi'i grynhoi yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.

Maent yn darparu'r cysyniadau allweddol ar gyfer dysgu rhwng 3 ac 16 oed.

Mae'r pum datganiad o'r hyn sy'n bwysig yn y Dyniaethau yn rhyng-gysylltiedig, a dylid mynd i'r afael â nhw mewn modd holistaidd.

Dyniaethau_Yr_Hyn_Sy_n_Bwysig.mp4

Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ym maes y Dyniaethau fel a ganlyn:

  • teg ac aflinol

  • holistaidd a rhyng-gysylltiedig

  • ni ddylid mynd i'r afael â nhw ar eu pen eu hunain

  • yn anelu at integreiddio pob agwedd ar ddysgu

  • wedi'u cynllunio i fynd i'r afael â nhw trwy holl bynciau'r Dyniaethau a chan y pynciau hynny

Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn y Dyniaethau yn unigryw i fframwaith y Cwricwlwm i Gymru, a hynny oherwydd bod y ddau ddatganiad cyntaf yn ymwneud â meithrin sgiliau sy'n cefnogi'r dysgwyr wrth iddynt astudio'r dyniaethau; mae'r ddau ddatganiad nesaf yn canolbwyntio'n eang ar drosglwyddo gwybodaeth; ac mae'r datganiad olaf yn alwad i weithredu.

Gyda'i gilydd, mae'r pum datganiad o'r hyn sy'n bwysig yn annog y dysgwyr i fod yn chwilfrydig ynghylch ein byd naturiol cymhleth a'n cymdeithasau amrywiol, ac i fyfyrio ar y modd y maent yn canfod ac yn dehongli profiadau dynol, yn y gorffennol ac yn y presennol, ac, yn y pen draw, i fyfyrio ar sut i gymryd camau bwriadus, moesegol fel dinasyddion cyfrifol yng Nghymru.

Ymateb a Myfyrio

Gan ddefnyddio'r adnodd, dewiswch un neu ragor o'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig o'r gwymplen, ac ewch ati i greu cynrychioliad gweledol a/neu destunol i atgyfnerthu eich dehongliad unigol neu gyfunol o'r datganiad, ac o'r syniadau y mae'n eu cwmpasu. Sut y caiff y syniadau hyn eu hadlewyrchu yn eich gweledigaeth ar gyfer y Dyniaethau?

Efallai y byddwch am ddefnyddio'r profformas maint A3 sydd ar y dde neu greu eich rhai eich hun ar ôl darllen y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig isod.

FP Notemaking Sheet Cym.pdf

Mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Bydd taith y dysgwyr trwy’r Maes hwn yn ysgogi ymholi a darganfod, wrth iddyn nhw gael eu herio i fod yn chwilfrydig ac i gwestiynu, i feddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth. Mae meddwl ymholgar yn ysgogi ffordd greadigol a newydd o feddwl, a thrwy hyn gall dysgwyr feithrin dealltwriaeth ddyfnach o’r cysyniadau sy’n sail i’r dyniaethau, a sut i’w cymhwyso mewn cyd-destunau lleol, cenedlaethol a byd eang. Gall meddylfryd o’r fath fod o gymorth i ddysgwyr ddeall profiadau pobl a’r byd naturiol yn well.

Bydd dulliau gweithredu disgyblaethol addas, gan gynnwys dyniaethau digidol, yn gymorth i ddysgwyr gasglu, cyfiawnhau, cyflwyno, dadansoddi a gwerthuso ystod o dystiolaeth. Bydd dehongli a chyfuno gwybodaeth o gymorth i ddysgwyr adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd eisoes a llywio ymhellach eu dealltwriaeth o’r byd. Trwy feddwl yn feirniadol am eu canfyddiadau, gall dysgwyr wedyn ddod i gasgliadau gwybodus, ond hefyd ddod i ddeall mai dim ond casgliadau rhannol neu amhendant a geir weithiau ac y gellir eu dehongli mewn gwahanol ffyrdd. Bydd angen iddyn nhw fyfyrio’n ofalus er mwyn gwella eu methodoleg ac ehangu neu ddyfnhau eu hymholiad.

Mae ymholi yn fwy nag ymarferiad academaidd; mae’n galluogi myfyrio sydd o gymorth i ddysgwyr ddeall y cyflwr dynol. Yn ei dro, gall hyn ychwanegu ystyr at fywydau’r dysgwyr, a chyfrannu at eu hymdeimlad o le a bydolwg.

Mae’r agwedd hon o’r Maes hwn yn ysgogi archwilio cysyniadau gan gynnwys cwestiynu, tystiolaeth, gwerthuso, moeseg a barn.

Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd.

Rydyn ni’n profi a gwneud synnwyr o’r byd trwy amrywiaeth o ddigwyddiadau a phrofiadau. Mae’r dyniaethau yn annog dysgwyr i adolygu’n feirniadol y ffyrdd mae’r digwyddiadau a’r profiadau hyn yn cael eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli. Wrth iddyn nhw ddatblygu eu safbwyntiau gwybodus eu hunain, ynghyd â chydnabod barn eraill, gall dysgwyr hefyd ddatblygu hunan-ymwybyddiaeth.

Gall dysgu sut y gall gwahanol fydolygon a ffactorau ddylanwadu ar eu canfyddiadau a’u dehongliadau eu hunain, yn ogystal â rhai pobl eraill, annog dysgwyr i ddatblygu gwerthfawrogiad o sut mae cyd-destun yn dylanwadu ar greu naratif a ffyrdd o gyfleu. Trwy archwilio sut a pham y gall dehongliadau wahaniaethu, ac wrth ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o ystod o ddehongliadau a ffyrdd o gyfleu, elfennau a gasglwyd o amrywiaeth o dystiolaeth, bydd dysgwyr mewn sefyllfa well i werthuso pa mor ddilys yw’r rhain.

Mae’r agwedd hon o’r Maes hwn yn ysgogi archwilio cysyniadau, gan gynnwys archwilio ystyr, dod i farn, cwestiynau athronyddol a phwysig bywyd, ffyrdd o gyfleu, safbwyntiau, dehongliadau, arwyddocâd a dilysrwydd.

Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol.

Gall profi rhyfeddod y byd naturiol gyfrannu at ddatblygiad ysbrydol a lles y dysgwyr, a bod yn gymorth i ennyn ynddyn nhw ymdeimlad o le ac o berthyn, fel sy’n cael ei ymgorffori yn y gair cynefin.

Gall meithrin chwilfrydedd fod o gymorth i ddysgwyr ddeall a gwerthfawrogi sut a pham mae lleoedd, tirwedd ac amgylchedd yn newid, yn lleol, yng Nghymru yn ogystal ag yn fyd-eang. Yn ei dro, gall hyn alluogi dysgwyr i adnabod beth sy’n gwneud lleoedd a gofodau yn wahanol ac i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r cysylltiadau sydd rhwng pobl a’u hamgylchedd, a hynny mewn cyd-destun cyfoes a hanesyddol. O ganlyniad, mae dysgwyr mewn sefyllfa well i wneud cyswllt rhwng y gorffennol a’r presennol ac i ddychmygu dyfodol posibl.

Bydd datblygu dealltwriaeth o sut y gall gweithredoedd dynol yn y gorffennol a’r presennol effeithio ar y berthynas rhwng y byd naturiol a phobl yn dwysáu ymwybyddiaeth dysgwyr o’r modd y mae’r gweithredoedd hyn yn dylanwadu ar gynaladwyedd ein byd yn y dyfodol. Bydd hyn hefyd yn annog dysgwyr, fel cynhyrchwyr a defnyddwyr, i ddeall eu heffaith hwy eu hunain ar y byd naturiol. Yn ogystal, gall archwilio amrywiaeth o gredoau, athroniaethau a bydolygon am y byd naturiol fod o gymorth i ddysgwyr sylweddoli sut mae’r rhain yn dylanwadu ar y modd y mae pobl yn rhyngweithio â’r byd.

Mae’r agwedd hon o’r Maes hwn yn annog dysgwyr i archwilio cysyniadau gan gynnwys y berthynas rhwng pobl a’r byd naturiol, achos ac effaith, newid a pharhad, arwyddocâd, lle, gofod a phrosesau ffisegol.

Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl.

Gall gwerthfawrogi hunaniaeth, treftadaeth a chynefin ddylanwadu’n emosiynol ac yn ysbrydol ar ddysgwyr, a bod o gymorth i greu ymdeimlad o hunan ac o berthyn. Trwy ddeall eu hunain, mae dysgwyr yn meithrin eu hunaniaeth, ac ymwybyddiaeth o sut y gallan nhw, fel unigolion, siapio’r cymunedau y maen nhw’n byw ynddyn nhw. O ganlyniad, daw dysgwyr i ddeall y gall y dewisiadau y mae pob un ohonon ni’n eu gwneud gael effaith sylweddol ar gymdeithas, boed yn ddewisiadau unigol neu ar y cyd.

Trwy ymwybyddiaeth gyson o’u stori leol a stori Cymru yn ogystal â’r stori fyd-eang, gall dysgwyr ddod i ddeall natur gymhleth, luosog ac amrywiol cymdeithasau, yn y gorffennol a’r presennol.

Dros amser, mae lleoedd, cymunedau a chymdeithasau yn esblygu, gan brofi parhad a newid sydd wedi effeithio ar fywydau’r dysgwyr eu hunain ac ar fywydau pobl eraill, ac mae’r effaith yn parhau. Wrth iddyn nhw archwilio hyn, gall dysgwyr ddod i werthfawrogi sut mae’r esblygiad hwn yn cael ei sbarduno gan y rhyngweithio sydd rhwng ystod o ffactorau, gan gynnwys prosesau amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol, ynghyd â gweithredoedd pobl, credoau crefyddol ac anghrefyddol a bydolygon. Gall hefyd fod o gymorth iddyn nhw ddatblygu dealltwriaeth o achosion, canlyniadau ac arwyddocâd y newidiadau a’r rhyng-berthnasau sydd wedi ffurfio cymdeithasau ar wahanol lefelau o ddatblygiad.

Gall profiadau yn y Maes hwn annog dealltwriaeth feirniadol o sut mae cymdeithasau wedi cael eu trefnu, eu strwythuro a’u harwain, yn lleol, yng Nghymru ac yn fyd-eang. Caiff cymdeithasau eu nodweddu gan amrywiaeth o normau a gwerthoedd diwylliannol, ieithyddol, economaidd, cyfreithiol a gwleidyddol. Maen nhw hefyd yn ddeinamig, gan sbarduno ac ymateb i newidiadau, ar raddfa leol, genedlaethol a byd-eang. Gall dysgwyr archwilio’r cysylltiadau a’r rhyng-ddibyniaethau rhwng y cymdeithasau hyn, yn y gorffennol a’r presennol, yng nghyd-destun globaleiddio byd-eang. Gall ymwneud pellach eu hannog hefyd i archwilio a meithrin dealltwriaeth oddefgar ac empathetig o’r amrywiol gredoau, gwerthoedd, traddodiadau ac egwyddorion sydd wrth wraidd ac yn llywio cymdeithas ddynol.

Mae’r agwedd hon o’r Maes hwn yn annog dysgwyr i archwilio cysyniadau gan gynnwys cronoleg, newid a pharhad, amrywiaeth, achos ac effaith, cydgysylltiad, cymuned, hunaniaeth a pherthyn, awdurdod a llywodraethiant.

Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol.

Gall profiadau yn y Maes hwn fod o gymorth i ddysgwyr feithrin dealltwriaeth o’u cyfrifoldebau fel dinasyddion Cymru a’r byd rhyng-gysylltiedig ehangach, ynghyd â phwysigrwydd creu dyfodol cyfiawn a chynaladwy iddyn nhw eu hunain a’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang. Mae archwilio’r dyniaethau’n annog dysgwyr i fod yn ddinasyddion a defnyddwyr gweithredol, gwybodus a chyfrifol sy’n gallu uniaethu â’u cymunedau a chyfrannu atyn nhw, yn ogystal â gallu mynd i’r afael â heriau a chyfleoedd y gorffennol, y presennol a’r dyfodol sy’n wynebu’r dysgwyr, eu cymunedau, Cymru yn ogystal â’r byd ehangach.

Bydd y Maes hwn yn annog dysgwyr i ddeall natur ryng-gysylltiol cynaladwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol; cyfiawnder ac awdurdod; a’r angen i fyw mewn cymdeithas decach a mwy cynhwysol, ynghyd â chyfrannu ati. Bydd profiadau yn y Maes hwn hefyd o gymorth i ddysgwyr feithrin ymwybyddiaeth o’u hawliau, anghenion, pryderon a’u teimladau hwy eu hunain a phobl eraill, a sut mae’r fath ymwybyddiaeth yn cyfrannu at greu byd cynaladwy a rhyng-gysylltiedig.

Gall cwestiynu a gwerthuso ymatebion i heriau a chyfleoedd, ymatebion sydd eisoes yn bodoli, helpu dysgwyr i ddatblygu fel dinasyddion byd-eang hunanymwybodol, gwybodus ac egwyddorol sy’n myfyrio’n feirniadol ar eu credoau, gwerthoedd a’u hagweddau eu hunain ac eraill. Bydd profiadau yn y Maes hwn hefyd o gymorth i ddysgwyr ystyried effaith eu gweithredoedd wrth iddyn nhw wneud dewisiadau ac arfer eu hawliau a’u cyfrifoldebau democrataidd. Bydd y profiadau hyn hefyd yn tanlinellu’r angen i’r dysgwyr allu cyfiawnhau eu penderfyniadau wrth weithredu mewn ffordd gymdeithasol, gwleidyddol, economaidd ac entrepreneuraidd. Gall hyn alluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang, gan ddangos ymrwymiad i gyfiawnder, amrywiaeth a diogelu’r amgylchedd, ynghyd â dealltwriaeth ohonyn nhw. Trwy ymateb i heriau, a manteisio ar gyfleoedd i weithredu’n gymdeithasol a chynaladwy, gall dysgwyr greu ystyr a diben yn eu bywydau eu hunain.

Mae’r agwedd hon o’r Maes hwn yn annog dysgwyr i archwilio cysyniadau gan gynnwys dinasyddiaeth, awdurdod a llywodraethiant, rhyng-gysylltu, cyfiawnder a chydraddoldeb, menter, hawliau, a gweithredu a chyfrifoldeb cymdeithasol.

Ac yn Olaf...

  • Beth yr ydych am i'ch dysgwyr ei gofio ynghylch y Dyniaethau yn eu bywydau yn y dyfodol?

  • Sut y bydd y profiadau dysgu yr ydych yn eu cynllunio yn y Dyniaethau yn eich ysgol yn paratoi'r dysgwyr ar gyfer eu dyfodol?

  • Pa gyfraniad y mae pob disgyblaeth yn ei wneud i'r MDPh hwn?

  • Chwiliwch am gyfleoedd i gydweithio ar syniadau i'w defnyddio pan fyddwch yn creu'r weledigaeth ar gyfer eich MDPh.

Gweddnewid Eich Cwricwlwm

Mae’r adnodd ‘Gweddnewid eich cwricwlwm’ wedi cael ei ysgrifennu gan dîm Cwricwlwm i Gymru ERW i arwain ysgolion trwy y camau cynnar o ddatblygu eu cwricwlwm. Gallai fod o gymorth i chi fel unigolyn, rhwydwaith neu ysgol i ddechrau cynllunio eich cwricwlwm eich hun wrth i chi ystyried y maes dysgu a phrofiad hwn mewn perthynas â’r canllawiau ehangach.

Mae’r GEC hefyd ar gael ar-lein yma: 🌐 Gweddnewid Eich Cwricwlwm


GEC Cymraeg V4.pdf