Beth yw cydweithio?

Cydweithio yw'r ffordd yr ydym yn cysylltu ag eraill i gyfnewid syniadau, profiadau ac arferion sy'n hwyluso gwell dysgu. Mae cydweithio yn gofyn am weithio gyda bwriad penodol, cytundeb i anelu at ddibenion neu nod cyffredin, ac i ffordd gyffredin o gyflawni hynny.

Yr hyn sy'n wych am gydweithio pwrpasol wedi'i gynllunio yw ei fod yn arwain at ymdeimlad dilys o gyfrifoldeb a rennir am ddatblygiad ein holl ddysgwyr.

O ganlyniad i ddatblygiadau technolegol y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â'r angen yn ystod y misoedd diweddar, mae nawr yn bosibl i dimau gydweithio'n fyd-eang ar brosiect neu dasg, a hynny mewn amser real. Mae'r cyfnod hwn wedi chwyldroi cwmpas a maint gwaith cydweithredol.

Egwyddorion Allweddol Cydweithio

  • Mae cydweithio yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu proffesiynol a dylid ei hyrwyddo'n weithredol yn yr ysgol, gyda chymuned ehangach yr ysgol a thu hwnt.

  • Mae tîm yr ysgol yn gweithio gyda’i gilydd i groesawu newid, rhannu adnoddau a chefnogi ei gilydd wrth adeiladu cwricwlwm sy’n diwallu anghenion pob dysgwr ac sy’n ddilys i’r cyd-destun lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

  • Mae cydweithio effeithiol yn galluogi'r ysgol i gymryd agwedd aml-ddisgyblaethol tuag at ddysgu. Mae adrannau a disgyblaethau yn cydweithredu i sefydlu cysylltiadau dwfn yn y dysgu.

  • Mae cydweithio yn un o'r egwyddorion addysgegol allweddol a nodir yng Nghwricwlwm i Gymru, sy'n galluogi pawb sy'n cymryd rhan i ddeall a gwerthfawrogi gwahaniaeth ac amrywiaeth.

  • Mae cynnwys dysgwyr wrth wneud penderfyniadau am eu dysgu yn sicrhau bod cwricwlwm ysgol yn canolbwyntio ar y dysgwr. Mae hyn yn digwydd mewn sawl ffurf, ac mae'n golygu bod dysgwyr yn cymryd mwy o gyfrifoldeb wrth iddynt symud ar hyd y continwwm dysgu ac wrth iddynt drosglwyddo o flwyddyn i flwyddyn ac o ysgol i ysgol.

  • Bydd gweithio gyda lleoliadau, ysgolion a sefydliadau addysg bellach yn darparu cyfleoedd pwysig i rannu’r dysgu a datblygu profiadau cyd-gysylltiedig ar gyfer dysgwyr.

Myfyrio ac Ymateb

Yn unigol, mewn grwpiau neu'n rhithiol, trafodwch yr ystyriaethau allweddol yn nogfen ERW, Gweddnewid Eich Cwricwlwm.


🌐 Gweddnewid Eich Cwricwlwm

Pam y mae angen i ni gydweithio?

Mae cydweithio yn ganlyniad addysgol pwysig, ac mae'r gallu i weithio'n effeithiol gydag eraill yn sgil cyflogadwyedd allweddol. Mae cydweithio yn sylfaenol i ddysgu ac mae wrth wraidd system hunan-wella ysgolion. Mae cydweithio effeithiol yn meithrin ymddiriedaeth a hyder ymhlith yr holl randdeiliaid mewn ysgol. Mae'n cynhyrchu syniadau newydd a ffyrdd newydd o feddwl, a hynny trwy ddefnyddio gwybodaeth, mewnwelediad a phrofiadau byw bywyd yn yr ysgol. Gall ddatgelu a chreu cyfleoedd ar gyfer gweithio ar y cyd, sy'n helpu i ymestyn a ffocysu adnoddau cyfyngedig ac, yn aml, amser, i gyfeiriad ein dysgwyr.


"Ar ein pennau ein hunain gallwn wneud cyn lleied, gyda'n gilydd gallwn wneud cymaint."

"Alone we can do so little; together we can do so much."

Helen Keller

Mae cydweithio ymhlith ysgolion ac athrawon, trwy Gymunedau Dysgu Proffesiynol, rhwydweithiau a thimau, yn ein galluogi ni, yr ymarferwyr a'r arweinwyr, i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer meysydd dysgu ac ar gyfer ein hysgol gyfan. Dim ond trwy gydweithio'n effeithiol y gellir meithrin ymdeimlad dilys o gyfrifoldeb a rennir am ddatblygu cwricwlwm unigryw yn yr ysgol.

Nid oes unrhyw syndod bod y gwaith o ddatblygu cwricwlwm newydd ar gyfer lleoliadau ac ysgolion yng Nghymru wedi cael ei wneud trwy broses gydweithredol rhwng Llywodraeth Cymru, consortia rhanbarthol ac ymarferwyr mewn ysgolion, oherwydd “… trwy ddysgu gyda'n gilydd gallwn adeiladu Cymru well” – Kirsty Williams

Cwricwlwm Cydweithredol

Yn Cwricwlwm i Gymru, mae egwyddorion cyd-awduro yn ganolog i'r gwaith o ddatblygu methodoleg ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm mewn ysgol neu leoliad. Mae'r cwricwlwm ei hun yn fframwaith a ysgrifennwyd gan athrawon, ac mae'n cydnabod nad oes neb yn gwybod mwy am ddysgu na'r proffesiwn addysgu yng Nghymru. Felly, mae'n dilyn bod ysgolion yn datblygu eu cwricwlwm unigryw eu hunain ar gyfer amgylchiadau unigryw eu hysgol.

Mae'n bwysig cofio mai Cwricwlwm ar gyfer Cymru yw hwn, a bod ei natur holistaidd yn creu cyfle cyffrous a phwrpasol ar gyfer cydweithio rhwng dysgwyr, rhieni, gofalwyr a'r gymuned leol er mwyn iddynt gyfrannu at y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm. Mae'r canllawiau hefyd yn awgrymu y dylai ysgolion ymgysylltu ag amrywiaeth eang o arbenigwyr a rhanddeiliaid a all gyfrannu a chynghori. Os caiff y cyfle hwn i gysylltu ag eraill er mwyn cyfnewid syniadau, profiadau ac arferion, ei reoli mewn modd adeiladol, bydd yn cyfrannu at gwricwlwm cyfoethocach a gwell dysgu i bawb.

Dylai'r cam cyntaf yn y broses gydweithredol hon ganolbwyntio ar ymgysylltu ag egwyddorion trosfwaol y gwaith o gynllunio a datblygu'r cwricwlwm, egwyddorion sy'n fframio'r broses gweddnewid. Dylai hyn ddigwydd ar lefel ysgol gyfan, o leiaf.

Roedd adroddiad gan yr OECD a gyhoeddwyd yn 2017 yn nodi y bydd ar Gymru angen math gwahanol o addysgwr proffesiynol yn y dyfodol; un sydd â chyfrifoldeb mwy sylweddol ac sy'n deall y ‘pam’ a'r ‘sut’ yn ogystal â'r ‘beth’.


🌐 The Welsh Education Reform Journey

Ailddychmygu ein hysgolion

Cynlluniwyd y fframwaith Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu i fod yn set o brosesau i gefnogi ysgolion i addasu i ofynion y cwricwlwm newydd i Gymru. Mae Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu yn galluogi ysgolion i feddwl am y ffordd y gallant sicrhau cynnydd. Mae'n amlwg bod athrawon yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau'r newid hwn, a hynny am fod angen arweinwyr ac athrawon sy'n hunan-wella mewn ysgolion sy'n hunan-wella.

“Rhaid i ysgol gael ei phoblogi gan ddysgwyr ar bob lefel. Mae angen i bob un ohonynt feddu ar feddwl ymchwilgar, rhaid eu hannog a'u gwobrwyo, a rhaid iddynt rannu chwilfrydedd beirniadol.” – Yr Athro Mick Waters, Cynhadledd Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu Caerdydd 2018

Mae canllawiau Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu yn hyrwyddo dysgu mewn timau a chydweithredu rhwng yr holl staff, fel a ganlyn:

  • Cydweithio a dysgu ar y cyd, naill ai wyneb yn wyneb neu trwy ddefnyddio TGCh, gan ganolbwyntio ar wella profiadau dysgu, deilliannau'r dysgwyr a/neu ymarfer y staff

  • Ymarferwyr yn cydfyfyrio ar y modd y gellir sicrhau bod eu dysgu eu hunain yn fwy pwerus

  • Ymarferwyr yn dysgu sut i gydweithio fel tîm effeithiol

  • Ymarferwyr yn teimlo'n gyfforddus yn gofyn am gyngor y naill gan y llall

  • Nodi bod ymddiriedaeth a pharch y naill at y llall yn werthoedd craidd

  • Annog ysgolion i ddyrannu amser ac adnoddau eraill ar gyfer cydweithredu a dysgu ar y cyd

🌐 Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu


Mae'r Safonau Proffesiynol yng Nghymru yn disgrifio'r sgiliau, y wybodaeth a'r ymddygiad sy'n nodweddu arfer rhagorol ac sy'n cefnogi twf proffesiynol. Mae yna bum safon broffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth sy'n amlinellu pum elfen hanfodol gwaith pob athro. Un o'r pum safon hyn yw cydweithio, sy'n galluogi addysgeg effeithiol i ledaenu.

Mae'r athro'n manteisio ar gyfleoedd i weithio mewn modd cynhyrchiol gyda phob partner wrth ddysgu, a hynny er mwyn ehangu effeithiolrwydd proffesiynol.

  • Mynd ati i ofyn am gyngor a chymorth wrth wynebu her newydd

  • Gweithio gyda chyd-weithwyr yn yr ysgol

  • Cefnogi a datblygu eraill

  • Galluogi gwelliant er mwyn sicrhau arfer tra effeithiol parhaus

🌐 Safonau Proffesiynol

Beth yw cydweithio llwyddiannus?

Mae cydweithio llwyddiannus yn dibynnu ar natur perthnasoedd yn yr ysgol neu'r lleoliad. Er mwyn sefydlu ethos lle mae cydweithio yn effeithiol, rhaid i arweinwyr fuddsoddi amser yn creu diwylliant o gydweithio pwrpasol, lle mae gan bawb gyfle i gyfrannu ac mae yna gyd-ymddiriedaeth a pharch. Dylai gyfranwyr deimlo bod eu llais nhw wirioneddol yn cael eu clywed. Maent yn cynllunio cydweithio sy'n canolbwyntio ar y dysgwr gydag ymrwymiad i weithio gyda'i gilydd tuag at y nod penodol o gefnogi llwyddiant dysgwyr. Maent yn creu cymuned dysgu proffesiynol sy'n frwdfrydig dros ddysgu ac sy'n ceisio'n barhaus i wella fel sefydliad sy'n dysgu.

Mae diwylliant cydweithredol effeithiol yn gwneud y canlynol:

  • Meddu ar weledigaeth ysgol gyfan a rennir, sy'n canolbwyntio ar anghenion y dysgwr

  • Annog a chefnogi rhannu, hyfforddi a mentora yn yr ysgol ac ar draws rhwydweithiau

  • Ysgogi sgyrsiau am addysgeg a dysgu parhaus

  • Gweithio tuag at bwrpas a rennir, a chynnwys athrawon a dysgwyr yn y broses o wneud penderfyniadau

  • Rhoi gwerth ar ddatblygiad proffesiynol i bawb, ac adeiladu ymddiriedaeth yn y system

I’r gwrthwyneb, gall diwylliant cydweithredol aneffeithiol :

  • Arwain at unigedd

  • Greu ymdeimlad negyddol ac anghysondeb

  • Negyddu ymreolaeth

  • Fod yn ddiffygiol o ran cyfeiriad a phwrpas

  • Ymateb i ddylanwadau allanol yn hytrach nag anghenion dysgwyr

Mae fy mhrofiadau wedi dangos imi, po fwyaf o bobl sy'n dod i ddeall disgyblaethau ei gilydd, y mwyaf ffrwythlon a chynhyrchiol y mae'r sgwrs yn tueddu i fod."

“My experiences have shown me that, in education, the more people get to understand each other’s disciplines, the more fertile and productive the conversation tends to become."

Ken Robinson

Gyda phwy y mae angen i ni gydweithio?

Myfyrio ac Ymateb

  1. Lluniwch restr o'r rheiny yr ydych yn cydweithio â nhw ar hyn o bryd.

  2. Yn ystod y broses o gynllunio'r cwricwlwm newydd ar gyfer eich ysgol, pwy y gallech ei ychwanegu at y rhestr hon er mwyn cryfhau eich gweledigaeth? Beth y byddai pob unigolyn neu sefydliad yn ei ychwanegu at brofiad y dysgwr?

Cydweithredu â'r Dysgwyr

Nid yw cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar y dysgwr yn cael ei arwain gan y dysgwr. Fodd bynnag, mae proses gweddnewid y Cwricwlwm i Gymru yn ymwneud â chyd-awduro cwricwlwm ysgol lleol sy'n addas i'w ddysgwyr, ac mae llais y dysgwyr wrth ei gynllunio yn sylfaenol i'w lwyddiant mewn ysgolion.

Hyd nes y byddant mewn sefyllfa well i ddeall yr hyn nad ydynt yn ei wybod eto, arweinwyr ac athrawon sydd yn y sefyllfa orau i gynllunio profiadau sy'n ymestyn eu dysgwyr ac yn eu danfon ar daith ddysgu. At hynny, wrth i'r dysgwyr wneud cynnydd, bydd arnynt angen y cyngor a'r arweiniad, yn ogystal â'r profiadau dysgu a baratoir gan yr arbenigwyr yn nisgyblaethau'r pynciau.

Fodd bynnag, dylai'r dysgwyr gymryd rhan lawn yn eu proses ddysgu – y pam a'r sut, gofyn cwestiynau, awgrymu cyd-destunau a dod o hyd i ffyrdd arloesol o gyrraedd craidd y dysgu. Mae rhoi cyfle iddynt rannu eu dysgu yn arwain at ddealltwriaeth ddofn ac yn rhoi gwerth arnynt fel dysgwyr.

Mae cynnwys y dysgwyr yn y gwaith o gyd-adeiladu eu profiadau dysgu hefyd yn hybu hyder, yn gwella sgiliau datrys problemau, yn cefnogi'r broses o wneud penderfyniadau ac yn annog creadigrwydd.

Mae'r egwyddorion a'r dibenion sy'n sail i'r Cwricwlwm i Gymru yn cynnwys symud i ffwrdd oddi wrth drosglwyddo gwybodaeth, tuag at addysgeg sy'n canolbwyntio ar y broses ddysgu, a honno, yn ei thro, yn rhoi iddynt y sgiliau a'r prosesau meddwl y mae arnynt eu hangen i gymryd mwy a mwy o ran.

Ni all gwrando'n ofalus ar yr hyn y mae'r dysgwyr yn ei ddweud am eu hysgolion, ac am yr hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio o ran y ffordd y gallant ddysgu, ddim ond gwella'r deilliannau a chyfrannu at y gwaith o fynd i'r afael â thangyflawniad.

ERW Pioneer Case Study - Dwr y Felin Teaching and Learning - Cym.docx

Astudiaeth Achos 1: Ysgol Gyfun Dŵr y Felin

Datblygu Addysgu a Dysgu trwy gydweithio yn yr ysgol.

" Mae gwir gryfder ein hystafell ddosbarth yng nghydweithio dysgwyr, nid yng ngwybodaeth un arbenigwr."

"The true strength in our classroom lies in the collaboration of learners, not in the knowledge of one expert."

Dr Seuss

Sut i sicrhau bod dysgwyr yn cymryd rhan

Mae yna lefelau gwahanol o ran cyfranogiad dysgwyr, a gellir eu galluogi i gymryd rhan yn y broses o gynllunio'r cwricwlwm mewn ffyrdd gwahanol ac ar adegau gwahanol. Gellir rhoi gwybodaeth i'r dysgwyr, ymgynghori â nhw, neu adael iddynt wneud eu penderfyniadau eu hunain a nodi eu meysydd a'u cwestiynau eu hunain i'w hystyried wrth gynllunio'r cwricwlwm.

Gallai cynnwys y dysgwyr yn uniongyrchol yn y gwaith o gynllunio'r cwricwlwm gynnwys y camau canlynol:

  • Galluogi'r dysgwyr i wneud dewisiadau ynghylch yr hyn y maent yn ei ddysgu, a sut

  • Casglu adborth ansoddol yn dilyn profiadau dysgu, sy'n llywio'r broses barhaus o gynllunio'r cwricwlwm

  • Ystyried safbwyntiau'r dysgwyr yn ddyddiol yn yr ystafell ddosbarth trwy addysgeg gyfranogol

  • Sicrhau bod adborth yn cael ei roi i ddysgwyr a staff ar ganlyniadau cyfraniadau llais y dysgwr, a bod hyn yn cael ei ystyried yn yr amser a ddyrennir ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm

Cwricwlwm i Gymru

Myfyrio ac Ymateb

  1. Sut mae cydweithio yn digwydd yn eich ysgol neu leoliad?

  2. Beth yw cryfderau'r arferion cydweithredol sy'n bodoli ar hyn o bryd yn eich ysgol neu leoliad?

  3. Pa feysydd ar gyfer datblygiad cydweithredol y gallwch eu henwi yn eich ysgol neu leoliad? Sut y byddai meithrin cydweithrediad yn y meysydd hyn yn effeithio ar eich dysgwyr?

"Yr adnodd mwyaf gwerthfawr sydd gan athrawon yw ein gilydd. Heb gydweithio mae ein twf yn gyfyngedig i'n safbwyntiau ein hunain."

"The most valuable resource that all teachers have is each other. Without collaboration our growth is limited to our own perspectives."

Robert John Meehan

Astudiaeth Achos 2 ar Gydweithio.docx

Cydweithio yn yr ysgol gyfan ac mewn adrannau

Ar lefel yr ysgol, dylai strwythurau a systemau hyrwyddo a hwyluso cydweithio. Wrth gynllunio'r cwricwlwm, bydd yn rhaid creu amser a gofod ar gyfer cydweithio proffesiynol ar bob lefel yn yr ysgol. Mae angen i'r ymarferwyr allu meithrin perthnasoedd cryf sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth. Mae angen iddynt sicrhau bod y broses gydweithredol yn fuddiol i'r naill a'r llall, a theimlo'n rhydd i gymryd risg a gwneud camgymeriadau, a hynny yn yr un modd ag y byddem yn disgwyl i'r dysgwyr archwilio a gwneud camgymeriadau er mwyn meithrin eu dealltwriaeth.

Ar lefel adrannol/maes, bydd yna angen tebyg am y systemau a'r strwythurau hyn, am brotocolau clir, ac am systemau ar gyfer rhoi adborth, cynllunio ac adolygu.

Astudiaeth Achos 2: Ysgol Gynradd

Myfyrdod dirprwy bennaeth ar gydweithio ysgolion.

Cydweithio ysgol i ysgol

Wrth gynllunio ac adeiladu'r cwricwlwm, dylai ysgolion a lleoliadau greu cyfleoedd ar gyfer cydweithio rhwng ysgolion mewn clystyrau a rhwydweithiau, yn ogystal â ledled y rhanbarth ehangach a Chymru. Bydd cyrchu syniadau newydd trwy gydweithredu dros ardal ehangach yn creu syniadau newydd, yn adeiladu rhwydweithiau mwy, ac yn meithrin cyfleoedd newydd cyffrous o ran dysgu proffesiynol.

Astudiaeth Achos 3: Ysgol Gynradd

Enghraifft o gydweithio rhwng ysgolion clwstwr Ysgol Uwchradd Tregwyr, Abertawe.

CY6181 Gower Partnership Case Study_Cym.docx

Sicrhau Dysgu ar gyfer y Dyfodol

A ninnau wedi delio â chyfyngiadau symud Covid-19, ac yn parhau i gynllunio ar gyfer profiadau dysgu cyfunol, mae ymarferwyr wedi gorfod ystyried y ffyrdd y maent yn cynnwys y dysgwyr yn agosach yn eu dysgu. Efallai bod y cyfle i archwilio ffordd newydd o weithio hefyd wedi cyflwyno posibiliadau newydd i ni, a fydd yn parhau ymhell ar ôl i Covid-19 ddarfod. Bydd y ffordd yr ydym yn trefnu ein hystafelloedd dosbarth ac yn cynllunio ein profiadau dysgu yn arwain at fwy o annibyniaeth ar gyfer ein dysgwyr, a bydd yn golygu y bydd yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn cyfathrebu â nhw'n rheolaidd ac mewn modd pwrpasol; bydd y ddwy strategaeth hyn yn arwain at ddysgu ac addysgu o ansawdd, fel yr amlinellir yn y Cwricwlwm i Gymru, Cenhadaeth Ein Cenedl, ac Ysgolion fel Sefydliadau sy'n Dysgu.

Cydweithio â rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach

Mae yna hen ddihareb yn Affrica sy'n dweud, "Mae'n cymryd pentref i fagu plentyn," ac yn yr un modd, mae angen i ysgolion weithio gyda'u rhieni, gofalwyr a'r gymuned ehangach i feithrin eu hysgolion i ddiwallu eu hanghenion cymunedol penodol. Mae'r rhan fwyaf o'r hyn a ddysgir gan blant ac oedolion yn digwydd y tu allan i'r ystafell ddosbarth trwy brofiadau byw; felly, wrth ddatblygu eu cwricwlwm, dylai ysgolion a lleoliadau gynnwys dysgwyr, rhieni, gofalwyr, asiantaethau partner a'r gymuned leol i gynllunio a darparu cyd-destunau a phrofiadau dysgu dilys. Bydd perthnasoedd cadarnhaol a ffurfiwyd trwy gydweithio effeithiol, ystyrlon gyda rhieni, gofalwyr a chymuned ehangach yr ysgol yn galluogi gwell dealltwriaeth o sut i gefnogi pob dysgwr ar eu taith ddysgu.

Ymchwil a Darllen

📚 Visible Learning – John Hattie (2008) ISBN: 8601404531293

🌐 https://visible-learning.org/

🌐 Leading collaborative professionalism (dolen i'r papur ymchwil)

🌐 Education Endowment Fund Toolkit

🌐 ‘9 Things Every Teacher Should Know’ Dylan Wiliam TES (2016)

📚 What Every Teacher Need to Know About Psychology – David Didau and Nick Rose (2016) ISBN-10: 1909717851 ISBN-13: 978-190971785


Bydd y dolenni isod yn mynd â chi at ddetholiad o astudiaethau achos Estyn ac ERW sy'n canolbwyntio ar gydweithio â rhieni a'r gymuned ehangach.


Mae Ysgol Gynradd Penllergaer yn Abertawe yn cynnwys rhieni, disgyblion ac athrawon wrth greu eu cwricwlwm cyfoethog, arloesol:

https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/cynnwys-rhieni-disgyblion-ac-athrawon-i-greu-cwricwlwm-cyfoethog-ac-arloesol?_ga=2.212104340.1012795703.1595949372-992519761.1568621281

Mae Cylch Meithrin Ynys y Plant yng Ngheredigion yn defnyddio eu cysylltiadau sefydledig cryf â'r gymuned i ddarparu cyfleoedd i gyfoethogi profiadau dysgu plant:

https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/ymweliadau-ar-gymuned-leol-yn-darparu-cyfleoedd-i-gyfoethogi-profiadau-dysgu-plant?_ga=2.40801826.1012795703.1595949372-992519761.1568621281


Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Llanfaes ym Mhowys yn gwella addysg dinasyddiaeth trwy greu ymwybyddiaeth o ddementia trwy allgymorth cymunedol:

https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/creu-ymwybyddiaeth-o-ddementia-trwy-ryngweithio-disgyblion-ac-estyn-allan-ir


Mae Ysgol Coedcae yn Sir Gaerfyrddin yn defnyddio cysylltiadau cymunedol allanol i gefnogi strategaeth gynhwysiant lwyddiannus:

https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/ymateb-graddedig-hynod-effeithiol-syn-hyrwyddo-cynhwysiant-yn-llwyddiannus


Mae Ysgol Gynradd Craigfelen yn Abertawe yn gweithio gyda phartneriaid fel Llywodraeth Cymru Coleg Gŵyr a Phrifysgol Cymru'r Drindod Saint David (UWTSD), i wella medrau entrepreneuraidd dysgwyr a gwella safonau:

https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/ehangu-medrau-entrepreneuraidd-disgyblion-gwella-safonau?_ga=2.6074803.1012795703.1595949372-992519761.1568621281


Mae Clwstwr Ysgolion Aberdaugleddau yn Sir Benfro yn cydweithio â Chanolfan Darwin i ddatblygu prosiect gwyddoniaeth arloesol:

https://porth.erw-rhwyd.cymru/repository/resource/2675c2ad-e548-433e-8c92-0fb31efb3779/cy


Mae Ysgol Gymraeg Aberystwyth yn gweithio gyda PCYDDS i ddatblygu dulliau dysgu:

https://porth.erw-rhwyd.cymru/repository/resource/413346b1-3b29-415e-8274-ca4ed52de643/cy


Mae Ysgol Gynradd Llanandras ym Mhowys yn meithrin partneriaethau effeithiol i wella deilliannau dysgu a lles:

https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/meithrin-partneriaethau-effeithiol-i-wella-deilliannau-dysgu-lles?_ga=2.123143627.1504972134.1599465233-1469422891.1568016899