"Mae Gordon Ramsey, Heston Blumenthal a'r holl gogyddion byd-enwog eraill yn eu cael hi lawer yn haws nag athrawon. Mae ganddyn nhw'r moethusrwydd o ddewis rysáit sengl i wneud dysgl berffaith. Waeth faint fyddai athrawon (a llunwyr polisi) yn ei hoffi i fod yn wir, does y fath beth â rysáit sy'n gweithio ym mhob amgylchiad mewn byd addysg yn bodoli."

"Gordon Ramsey, Heston Blumenthal and all the other world-famous chefs have it much easier than teachers. They have the luxury of choosing a single recipe to make a perfect dish. No matter how much teachers (and policy-makers) would like it to be true, in education there is no such thing as a recipe that works in all circumstances."

Dr. Pedro De Bruyckere (Gwyddonydd Addysg ac Awdur)

Ymateb a Myfyrio

  • Beth yw addysgeg?

  • Pe byddech yn ysgrifennu datganiad yn egluro addysgeg, beth fyddech yn ei ysgrifennu?

Mae addysgeg yn cwmpasu mwy na'r 'addysgu' sy'n digwydd yn yr ystafell ddosbarth.

Mae'n ymwneud â dewis y dulliau hynny mewn modd meddylgar yng nghyd-destun dibenion y cwricwlwm, ac anghenion a cham datblygu'r plant a'r bobl ifanc.

Mae'n gofyn am gyfuno gwybodaeth a sgiliau damcaniaethol ac ymarferol â dealltwriaeth fanwl o'r hyn y mae ei angen i hyrwyddo dysgu effeithiol mewn cyd-destunau penodol.

Yn ei hanfod, mae addysgeg wrth wraidd yr hyn sy'n gwneud athro rhagorol.

Mae addysgeg wrth wraidd y cwricwlwm.

Wrth gynllunio eu cwricwlwm, dylai ysgolion ystyried y dulliau addysgegol y bydd angen iddynt eu rhoi ar waith i gefnogi dysgwyr i wireddu'r pedwar diben.

Dylai ysgolion geisio datblygu gweledigaeth gref o ddysgu ac addysgu sy'n rhoi ystyriaeth i 'pam' a 'sut', yn ogystal â 'beth’.

Mae hyn yn golygu ein bod yn chwilio am hanfod y dysgu yn ein hystafelloedd dosbarth. Mae hyn yn ymwneud yn rhannol â hanfodion cynnwys (gwybodaeth y mae'n rhaid i chi ei haddysgu), ond yn bennaf mae'n ymwneud â'r broses ddysgu a chymhwyso dysgu (y modd yr ydych yn addysgu a pham y mae angen i ddysgwyr ddeall yr wybodaeth hon), gan fyfyrio bob amser a symud dysgwyr ymlaen tuag at y pedwar diben.

“Nawr, barn y Weinyddiaeth yw y bydd gwybodaeth ddamcaniaethol yn fwy na digon i'ch cael chi trwy'ch arholiad, a dyna, wedi'r cyfan, yw pwrpas ysgol."

“Now, it is the view of the Ministry that a theoretical knowledge will be more than sufficient to get you through your examination, which, after all, is what school is all about.”

Yr Athro Umbridge, y Weinyddiaeth Hud

Ymateb a Myfyrio

  • Beth yw eich gweledigaeth o ran dysgu ac addysgu?

  • Beth yw'r gwahaniaethau mewn cwricwlwm sy'n seiliedig ar ddatblygu'r dibenion yn ein dysgwyr yn hytrach na deilliannau?

Yr Egwyddorion Addysgegol

Bydd angen i ysgolion sicrhau bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth ddofn a thrylwyr o'r egwyddorion addysgegol a'r ymchwil sy'n sail iddynt. Caiff y broses o gynllunio cwricwlwm ar gyfer pob dysgwr ei hategu gan ddeuddeg o egwyddorion addysgegol, sy'n datgan bod dysgu ac addysgu da yn …

  1. canolbwyntio’n gyson ar ddibenion cyffredinol y cwricwlwm

  2. rhoi her i’r holl ddysgwyr trwy eu hannog i gydnabod pwysigrwydd ymdrechu'n barhaus i gyflawni disgwyliadau sy'n uchel, ond sydd o fewn eu cyrraedd

  3. defnyddio cyfuniad o ddulliau, gan gynnwys addysgu uniongyrchol

  4. defnyddio cyfuniad o ddulliau, gan gynnwys y rheini sy'n hybu sgiliau datrys problemau, sgiliau creadigol, a’r gallu i feddwl mewn modd beirniadol

  5. golygu gosod tasgau a dewis adnoddau sy’n adeiladu ar wybodaeth a phrofiad blaenorol ac yn ennyn diddordeb

  6. creu cyd-destunau dilys ar gyfer dysgu

  7. dilyn egwyddorion asesu ar gyfer dysgu

  8. ymestyn oddi mewn ac ar draws y Meysydd

  9. atgyfnerthu yn rheolaidd y sgiliau trawsgwricwlaidd, sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, ac yn darparu cyfleoedd i'w hymarfer

  10. annog dysgwyr i gymryd cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain

  11. hybu datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a pherthnasoedd cadarnhaol

  12. hybu cydweithio.

Ymateb a Myfyrio

  • Beth yr ydych yn ei wneud / gallech ei wneud i hyrwyddo ac ymgorffori'r 12 egwyddor addysgegol?

  • Pa un neu rai o'r egwyddorion hyn sydd fwyaf effeithiol yn eich ysgol?

  • A yw'r dulliau addysgegol yn amrywio o un maes dysgu i'r llall?

  • Sut y bydd eich gweledigaeth ar gyfer dysgu yn adlewyrchu'r deuddeg egwyddor addysgegol?

  • Pa amgylchedd dysgu y mae angen i chi ei greu i gefnogi eich gweledigaeth ar gyfer dysgu yn llawn?

Rhaglen dysgu proffesiynol ar-lein yw Egwyddorion ar gyfer Rhagoriaeth ERW, wedi'i seilio ar y 12 egwyddor addysgegol. Dyluniwyd y rhaglen gan athrawon ar gyfer athrawon, gyda'r nod o ddarparu'r canlynol i athrawon ac arweinwyr:

  • Y sgiliau i amlygu lefel uwch o ddealltwriaeth o'r 12 o egwyddorion addysgegol a nodir yn nogfennaeth canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru.

  • Y ddealltwriaeth i gydweithio'n effeithiol â chyd-weithwyr yn eu hysgol eu hunain ac mewn ysgolion eraill er mwyn codi safonau.

  • Y gallu i greu ethos rhagweithiol yn yr ysgol, lle mae dealltwriaeth ddyfnach o werthoedd ac egwyddorion sylfaenol addysgeg yn llywio arfer ystafell ddosbarth ac yn dylanwadu ar ein holl ddulliau o addysgu ar gyfer ein dysgwyr.

Mae'r Egwyddorion ar gyfer Rhagoriaeth yn rhoi'r offer i athrawon archwilio egwyddor addysgegol yn fanwl, myfyrio ar ymchwil, ac ystyried sut y gellid defnyddio'r wybodaeth a'r adnoddau a gyflenwir i gael effaith gadarnhaol ar ddysgwyr yn yr ystafell ddosbarth.

Mae addysgeg effeithiol yn dibynnu ar ddealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant a phobl ifanc. Mae'n golygu archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr.

Cwricwlwm i Gymru

Ymateb a Myfyrio

  • A ydym yn ystyried datblygiad plentyn a'r ymennydd wrth feddwl am ddulliau addysgegol?

Mae athrawon yn newid ymenyddiau!

Er nad ydym yn aml yn meddwl amdanom ein hunain fel rhai sy'n gallu newid ymennydd rhywun, pan fyddwn yn addysgu, cawn effaith enfawr ar ddatblygiad gwybyddol ein dysgwr.

Mae datblygiadau diweddar mewn niwrowyddoniaeth addysgol yn helpu addysgwyr i ddeall y rôl hanfodol yr ydym yn ei chwarae wrth feithrin galluoedd yr ymennydd sy'n bwysig i ddysgu a hunanreolaeth dysgwyr.

Mae ein hymennydd yn wirioneddol ryfeddol; yn wahanol i gyfrifiaduron, sydd wedi'u hadeiladu i fanylebau penodol ac sy'n derbyn diweddariadau meddalwedd o bryd i'w gilydd, gall ein hymennydd dderbyn diweddariadau caledwedd ynghyd â diweddariadau meddalwedd. Mae gwahanol lwybrau'n ffurfio ac yn mynd yn segur, yn cael eu creu ac yn cael eu taflu i ffwrdd, yn ôl ein profiadau.

Pan fyddwn ni'n dysgu rhywbeth newydd, rydyn ni'n creu cysylltiadau newydd rhwng ein niwronau. Rydym yn ailweirio ein hymennydd i addasu i amgylchiadau newydd. Mae hyn yn digwydd yn ddyddiol, ond mae hefyd yn rhywbeth y gallwn ei annog a'i ysgogi.


Niwrowyddoniaeth yw'r astudiaeth o'r ymennydd a'r system nerfol. Mae niwrowyddonwyr yn gweithio tuag at ddatblygu dealltwriaeth o strwythur, datblygiad a swyddogaethau'r ymennydd

Niwroplastigedd yw gallu'r ymennydd i newid a thyfu trwy gydol oes rhywun. Tan yn ddiweddar, roedd gwyddonwyr o'r farn bod hyn yn bosibl yn ystod plentyndod cynnar yn unig. Ar ôl hynny, credai gwyddonwyr fod yr ymennydd yn “ymsolido” ac yn dod yn sefydlog o ran ei arferion. Fodd bynnag, mae ymchwil wedi dangos bod yr ymennydd yn parhau i newid hyd yn oed yn ystod henaint.

Mae'r berthynas rhwng niwroplastigedd a dysgu yn un hawdd i'w chrynhoi — pan fyddwn yn dysgu, byddwn yn ffurfio llwybrau newydd yn yr ymennydd. Mae gan bob gwers newydd y potensial i gysylltu niwronau newydd a newid dull gweithredu diofyn ein hymennydd.

Wrth gwrs, nid yw pob dysgu'n cael ei greu yn gyfartal — nid yw dysgu ffeithiau newydd o reidrwydd yn manteisio ar niwroplastigedd anhygoel yr ymennydd, ond yn sicr mae dysgu iaith newydd neu chware offeryn cerdd newydd yn gwneud hynny. Trwy'r math hwn o ddysgu y gallwn o bosibl ddarganfod sut i ailweirio'r ymennydd mewn modd pwrpasol.

Mae'r graddau yr ydym yn cymhwyso galluoedd yr ymennydd, sydd bron yn hudol, hefyd yn dibynnu ar y graddau yr ydym wedi buddsoddi mewn hyrwyddo niwroplastigedd.

Ymateb a Myfyrio

  • I ba raddau yr ydym yn hyrwyddo niwroplastigedd? Trafodwch yr wybodaeth a geir yn y clip.

Niwroplastigedd

  • Gofal

  • Creu

  • Emosiwn

  • Gwahanu

“Mae’n haws adeiladu plant cryf nag atgyweirio oedolyn sydd wedi'i dorri.”

“It’s easier to build strong children than to repair a broken adult.”

Frederick Douglass, Diddymwr Americanaidd

Ymateb a Myfyrio

  • Beth yw'r cysylltiad rhwng niwroplastigedd a lles?

Mae hyn yn arwyddocaol oherwydd ei bod yn dangos y gellir newid emosiynau negyddol a chyflyrau meddyliol heriol. Maent yn batrymau tanio niwral sydd wedi ffurfio dros amser trwy gael eu hailadrodd, ac os dechreuwn ailadrodd patrymau gwahanol yn lle hynny, byddwn dros amser yn newid strwythur yr ymennydd.

Nododd arweinwyr meithrinfeydd ac ysgolion cynradd fod ethos, egwyddorion ac addysgeg y cyfnod sylfaen presennol yn gryfder sylweddol o ran arfer addysgol cyfredol yng Nghymru. Bydd cwricwlwm sy'n seiliedig ar feysydd dysgu a phrofiad yn lle pynciau yn galluogi ysgolion i adeiladu ar arfer 'Sylfaen' llwyddiannus ym mlynyddoedd canol a diweddarach addysg gynradd a thu hwnt.

Mae gan Gymru rai cryfderau go iawn y gallwn adeiladu arnynt – yn enwedig yr addysgeg sy'n sail i'r cyfnod sylfaen.

Cefnogi dysgu trwy Egwyddorion ac Addysgeg y Cyfnod Sylfaen

Mae addysgeg y cyfnod sylfaen yn rhan o'r weledigaeth ar gyfer y cwricwlwm newydd i raddau helaeth. Dylid defnyddio ei egwyddorion a'i addysgeg i gefnogi dysgu a darparu sylfaen gadarn ar gyfer dylunio'r cwricwlwm trwy gynnwys:

  • Cyfleoedd dysgu ymarferol sy'n adeiladu ar brofiadau blaenorol, ac yn eu cefnogi i ddatblygu i fod yn ddysgwyr annibynnol

  • Profiadau sy'n eu galluogi i fabwysiadu amrywiaeth o rolau, gan gynnwys arwain grwpiau bach, dysgu mewn parau, neu weithio mewn tîm

  • Mathau gwahanol o weithgareddau chwarae, ac ystod o weithgareddau wedi'u cynllunio, gan gynnwys rhai sy'n cael eu dechrau gan y dysgwr

  • Gweithgareddau sy'n caniatáu iddynt ddefnyddio'u synhwyrau, yn ogystal â bod yn greadigol ac yn ddychmygus

  • Darpariaeth barhaus ac wedi'i chyfoethogi a gweithgareddau â ffocws, a hynny yn yr amgylcheddau dysgu dan do ac awyr agored

  • Cwricwlwm sy'n briodol yn ddatblygiadol lle mae'r Meysydd yn ategu ei gilydd ac yn cydweithio

  • Adnoddau gwahanol, gan gynnwys TGCh

  • Tasgau a heriau sy'n eu hannog i ddatrys problemau a thrafod.

Nid bod yn atgynhyrchiad union o'i gilydd yw bwriad y deuddeg Egwyddor Addysgegol ac addysgeg y Cyfnod Sylfaen, ond yn hytrach bod yn adlewyrchiad.

Ymateb a Myfyrio

  • Ewch ati i greu diagram Venn 3 rhan, a chyfatebwch y 12 egwyddor addysgegol ac addysgeg y cyfnod cylfaen

  • Ychwanegwch y Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu i ddatblygu eich dealltwriaeth gysylltiedig ymhellach.

Dewch i Siarad am Addysgeg!

Cyflwynwch Gymuned Dysgu Proffesiynol Addysgegol. Gallai'r Gymuned Dysgu Proffesiynol hon ganolbwyntio ei hymchwil ar faes dysgu ac addysgu penodol i wella deilliannau dysgwyr.


Mae ymchwil weithredu yn golygu "... archwilio a myfyrio ar y strategaethau addysgu a fydd yn cefnogi'r dysgu orau mewn cyd-destun penodol, ac ymchwilio i effaith hyn ar ddysgwyr."

Cwricwlwm i Gymru

Ymateb a Myfyrio

  • Yn eich ysgol, i ba raddau ydych yn ystyried canfyddiadau ymchwil addysgol amrywiol ar addysgeg?

  • Sut y gallai cynnal ymchwil weithredol yn eich ystafell ddosbarth gefnogi eich ysgol i wella addysgeg?