“Mae datblygiad mathemateg wedi mynd law yn llaw â datblygiad gwareiddiad ers y cychwyn cyntaf. Mae’n ddisgyblaeth wirioneddol ryngwladol, ac mae o’n cwmpas ni i gyd ac yn sail i gynifer o agweddau ar ein bywydau bob dydd.”

Cwricwlwm i Gymru

Mathemateg a Rhifedd mewn byd sy'n newid

Mae ein byd sy'n newid yn gyflym a'r heriau sy'n wynebu dynoliaeth yn amlygu'r ffaith bod yna angen sylfaenol i ddysgwyr ddatblygu rhesymu a dealltwriaeth fathemategol a fydd yn eu galluogi i fod yn greadigol, yn feirniadol ac yn ddyfeisgar wrth ddatrys problemau ein byd.

Wrth i wybodaeth rifiadol ddod ar gael yn haws, ac wrth i ddata chwarae rhan gynyddol amlwg yn ein bywydau bob dydd, bydd angen gwybodaeth, sgiliau a gwerthoedd a fydd yn cael eu datblygu yn y Maes hwn i drin a dehongli'r wybodaeth hon mewn modd doeth, a'i defnyddio i wneud penderfyniadau gwybodus.

Rhifedd yw cymhwyso mathemateg i ddatrys problemau yng nghyd-destunau bywyd go iawn. Bydd deall y berthynas hon rhwng mathemateg a rhifedd yn hanfodol i feithrin hyder, cadernid a brwdfrydedd wrth i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth ddofn o berthnasedd y Maes hwn i'w bywydau bob dydd.

Creu newid mewn diwylliant

“Y nod yw cyflwyno’r Maes fel bod newid mewn diwylliant gyda dysgwyr yn meithrin agwedd gadarnhaol a gwydn tuag ato.”

Cwricwlwm i Gymru

Er mwyn gwireddu'r dyhead hwn, bydd angen i ysgolion ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr ymgysylltu'n gadarnhaol â mathemateg a rhifedd.

Ymateb a Myfyrio

Gwyliwch y fideo byr hwn o ddysgwyr sy'n siarad ac yn meddwl yn fathemategol wrth iddynt archwilio patrymau rhif.

Ystyriwch y cwestiynau canlynol:

  • Sut y byddech yn disgrifio'r agweddau at fathemateg sy'n cael eu hamlygu yn y fideo hwn?

  • Beth sy'n galluogi'r dysgwyr hyn i fwynhau agweddau o'r fath?

  • I ba raddau y byddai meithrin agweddau tebyg yn gofyn am newid diwylliant yn eich ysgol?

“Mae mathemateg yn bwnc sy'n darparu ar gyfer meddwl yn fanwl gywir, ond pan gyfunir yr union feddwl manwl gywir hwnnw â chreadigrwydd, didwylledd, dychymyg a hyblygrwydd, daw'r fathemateg yn fyw.”

“Mathematics is a subject that allows for precise thinking, but when that precise thinking is combined with creativity, openness, visualization, and flexibility, the mathematics comes alive.”

Jo Boaler

Wrth i chi fyfyrio ar y newid hwn mewn diwylliant, efallai yr hoffech ddechrau dychmygu sut olwg a allai fod ar ddysgu mewn mathemateg a rhifedd yn eich ysgol.

Ymateb a Myfyrio

Edrychwch ar y delweddau a'r cwestiynau isod, ac ystyriwch sut y gallent fod yn fan cychwyn i hwyluso'r newid hwn mewn diwylliant.

Sut yr ydych yn cefnogi dysgwyr i weithio gyda'i gilydd pan fyddant yn archwilio cysyniadau, rhesymu a datrys problemau?

Sut yr ydych yn cynllunio i ddysgwyr gymhwyso eu sgiliau rhifedd i sefyllfaoedd mewn bywyd go iawn?

Sut yr ydych yn creu amgylchedd dysgu deniadol a chyffrous?

Sut yr ydych yn galluogi dysgwyr i wneud cysylltiadau o fewn a rhwng cysyniadau mathemategol?

Bydd creu newid mewn diwylliant yn gofyn am newid ym mhwyslais y dysgu a'r addysgu sy’n rhoi ystyriaeth nid yn unig i beth yr ydym yn ei addysgu, ond hefyd i sut a pham yr ydym yn ei addysgu mewn Mathemateg a Rhifedd.

Dull newydd – dysgu trwy'r pum hyfedredd

Mae Cwricwlwm i Gymru wedi datblygu pum hyfedredd newydd a fydd yn ffurfio dull newydd o ddysgu yn y Maes hwn. Mae pob un o'r pum hyfedredd yn dra chysylltiedig ac yn gyd-ddibynnol. Nid oes yna hierarchaeth gan eu bod i gyd yr un mor bwysig.

Dyma'r pum hyfedredd:

  • Dealltwriaeth gysyniadol

  • Cyfathrebu gan ddefnyddio symbolau

  • Rhuglder

  • Rhesymu rhesymegol

  • Cymhwysedd strategol.

Mae cynnydd yn y Maes hwn yn cynnwys datblygu'r pum hyfedredd hyn. Bydd dysgwyr yn eu datblygu ar adegau gwahanol, ac efallai y byddant yn datblygu sawl un ar yr un pryd. Er enghraifft, wrth i blentyn ddod i adio rhifau dau ddigid gyda rhuglder, bydd yn datblygu ei ddealltwriaeth gysyniadol o werth lle.

Mae'r fframwaith rhifedd anstatudol diwygiedig yn darparu dilyniant dysgu awgrymedig ar gyfer y pum hyfedredd. Rhaid cefnogi dysgwyr i'w cymhwyso a'u cysylltu â'i gilydd mewn ystod o gyd-destunau bywyd go iawn ar draws y cwricwlwm.

🌐 Fframweithiau’r sgiliau trawsgwricwlaidd

Mae'r pum hyfedredd yn sylfaenol ar gyfer cynorthwyo dysgwyr i symud ymlaen tuag at y pedwar diben, a dylent fod yn sail i bob penderfyniad wrth gynllunio profiadau dysgu mathemateg a rhifedd.

Ymateb a Myfyrio

  • Darllenwch y disgrifiadau o bob un o'r pum hyfedredd, a'u paru â'r pennawd cywir.

  • Ystyriwch eu goblygiadau ar gyfer dysgu mewn mathemateg a rhifedd yn eich ysgol.

Cymraeg - 5 Proficiencies matching activity

Ymateb a Myfyrio

Mae'r fideo hwn yn dangos un enghraifft o'r modd y gallai'r pum hyfedredd ymddangos wrth ddatrys hafaliad llinol.

Efallai yr hoffech ystyried y canlynol:

  • Sut y mae'r fideo'n amlygu cydgysylltiad y pum hyfedredd?

  • Sut yr ydych yn meddwl y byddant yn galluogi dysgwyr i feithrin dealltwriaeth ddyfnach o gysyniadau mathemategol?

Gweithio tuag at y pedwar diben mewn Mathemateg a Rhifedd

Mae gweledigaeth Cwricwlwm i Gymru wedi'i hamlinellu yn y pedwar diben, gan alluogi pob dysgwr i ddod yn:

  • Dysgwyr uchelgeisiol a galluog

  • Dinasyddion egwyddorol a gwybodus

  • Cyfranwyr mentrus, creadigol

  • Unigolion iach a hyderus.

Dylai profiadau dysgu ym mhob Maes ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr wneud cynnydd tuag at y pedwar diben hyn.

Ymateb a Myfyrio

Ystyriwch y brawddegau yn yr adnodd ar y dde. Maent wedi'u haddasu o'r cyflwyniad i'r canllawiau Mathemateg a Rhifedd.

  • I ba un o'r pedwar diben y mae pob brawddeg yn berthnasol?

Cynigir awgrymiadau yma, ond mae rhai yn berthnasol i fwy nag un, ac felly gallai eich trafodaethau arwain at atebion gwahanol. Mae hyn yn enghraifft o natur gydgysylltiedig Cwricwlwm i Gymru.

Cymraeg Mathemateg a Rhifedd - Tasg y pedwar diben
Ein Maes Dysgu a Phrofiad Pedwar Diben.pdf

Bydd ystyried y nodweddion sydd o dan benawdau'r pedwar diben yn arwain at ddealltwriaeth ddofn o weledigaeth Cwricwlwm i Gymru. Rhaid cynnal y drafodaeth hon ym mhob Maes.

Ymateb a Myfyrio

Gan ddefnyddio'r adnodd ar y chwith, archwiliwch ffyrdd y bydd dysgu a phrofiadau ym maes Mathemateg a Rhifedd yn cefnogi'r broses o ddatblygu pob un o'r nodweddion.

Beth sy’n bwysig mewn Mathemateg a Rhifedd?

Mae'r dysgu hanfodol sy'n ofynnol i wireddu'r pedwar diben ym mhob MDPh wedi'i grynhoi yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.

Mae'r rhain yn darparu'r cysyniadau allweddol ar gyfer dysgu rhwng 3 ac 16 oed.

Mae yna bedwar datganiad o'r hyn sy'n bwysig ym maes dysgu a phrofiad Mathemateg a Rhifedd. Maent yn gydgysylltiedig, a dylid rhoi sylw iddynt mewn modd holistaidd.

“Mae’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn wedi’i fynegi mewn pedwar datganiad sy’n cefnogi a chadarnhau ei gilydd, ac ni ddylid eu hystyried fel datganiadau ar wahân. Gyda’i gilydd maen nhw’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.”

Cwricwlwm i Gymru

Datganiadau o'r hyn sy'n bwysig mewn Mathemateg a Rhifedd

Defnyddir y system rifau i gynrychioli a chymharu'r perthnasoedd rhwng rhifau a meintiau.

Mae algebra yn defnyddio systemau symbolau i fynegi strwythur perthnasoedd mathemategol.

Mae geometreg yn canolbwyntio ar berthnasoedd sy'n ymwneud â siâp, gofod a safle, ac mae mesur yn canolbwyntio ar feintioli ffenomenau yn y byd ffisegol.

Mae ystadegau yn cynrychioli data, mae tebygolrwydd yn modelu siawns, ac mae'r ddau yn cefnogi casgliadau a phenderfyniadau gwybodus.

Mae'r datganiad cyntaf o'r hyn sy'n bwysig yn cyfeirio at bwysigrwydd y system rifau, ac mae'r dysgu sy'n deillio o'r datganiad hwn yn sail i'r dysgu yn y tri datganiad arall. Dywed Cwricwlwm i Gymru, “Nid oes modd deall algebra, geometreg nac ystadegaeth heb ddealltwriaeth flaenorol o rif a chyfeiriadau cyson at rifau, cyfrifiadau a’r system rifau.”

Ymateb a Myfyrio

Darllenwch y sail resymegol dros y datganiad hwn o'r hyn sy'n bwysig, ac ewch ati i greu adnodd gweledol sy'n adlewyrchu eich dealltwriaeth o'r dysgu gofynnol. Gallech ddewis defnyddio lluniau, diagramau, symbolau a geiriau allweddol.

🌐 Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

Gellid gwneud yr un gweithgaredd gyda'r datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig, a hynny er mwyn sicrhau dehongliad cytbwys o natur gydgysylltiedig y pedwar datganiad.

Creu eich gweledigaeth ar gyfer Mathemateg a Rhifedd

Fel cam nesaf, efallai y byddwch am ddechrau creu gweledigaeth ar y cyd ar gyfer Mathemateg a Rhifedd yn eich ysgol neu leoliad. Gallai hon gael ei chyflwyno ar ffurf datganiad a fydd yn mynegi eich uchelgeisiau a'ch dyheadau ar gyfer y dysgwyr yn eich ysgol neu leoliad.

Gan ddefnyddio eich dealltwriaeth o weledigaeth y Maes hwn, ynghyd â'ch myfyrdodau o’r gweithgareddau uchod, ewch ati i ddwyn syniadau ynghyd i fod yn sail i drafodaeth â'ch cyd-weithwyr wrth i chi adeiladu eich gweledigaeth.

Ymateb a Myfyrio

Gall y cwestiynau hyn fod yn fan cychwyn defnyddiol:

  • Beth sy’n wirioneddol bwysig i ddysgwyr eich cyd-destun yn y Maes hwn?

  • Beth yr ydych yn dymuno i'ch dysgwyr ei gofio am Fathemateg a Rhifedd yn eu bywydau yn y dyfodol?

  • Sut y bydd y pedwar diben yn llywio eich gweledigaeth?

Gweddnewid Eich Cwricwlwm

Mae’r adnodd ‘Gweddnewid eich cwricwlwm’ wedi cael ei ysgrifennu gan dîm Cwricwlwm i Gymru ERW i arwain ysgolion trwy y camau cynnar o ddatblygu eu cwricwlwm. Gallai fod o gymorth i chi fel unigolyn, rhwydwaith neu ysgol i ddechrau cynllunio eich cwricwlwm eich hun wrth i chi ystyried y maes dysgu a phrofiad hwn mewn perthynas â’r canllawiau ehangach.

Mae’r GEC hefyd ar gael ar-lein yma: 🌐 Gweddnewid Eich Cwricwlwm


GEC Cymraeg V4.pdf