"Mae Cenhadaeth ein Cenedl yn gosod lles wrth wraidd ein cwricwlwm newydd, ac yn cefnogi ein plant a'n pobl ifanc i fod yn unigolion iach, hyderus"
Kirsty Williams, 2019
Gweledigaeth
Mae Cwricwlwm i Gymru yn dod ag iechyd a lles i galon addysgu a dysgu, ac mae'n adlewyrchiad clir o'r pwysigrwydd y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i'w roi ar gefnogi iechyd a lles holl blant a phobl ifanc Cymru, 'nawr ac yn y dyfodol. Erbyn hyn, mae gan athrawon ac ymarferwyr mewn ysgolion a lleoliadau ar hyd a lled Cymru amser a gofod i ganolbwyntio ar iechyd a lles eu dysgwyr, a hynny oherwydd y cwricwlwm, ac nid yn ychwanegol iddo. Mae'r newid pwyslais hwn yn rhoi cyfle cyffrous a heriol i ymarferwyr gynllunio cwricwlwm ymatebol sy'n cefnogi anghenion unigryw eu dysgwyr ac yn eu galluogi i ddeall sut y mae cydrannau gwahanol iechyd a lles yn rhyng-gysylltiedig. O gydnabod bod iechyd a lles da yn alluogwyr allweddol ar gyfer canlyniadau dysgu llwyddiannus, mae meddu ar ddealltwriaeth glir o natur holistaidd y maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles yn hanfodol os yw ymarferwyr am achub y cyfle ar gyfer newid cadarnhaol y mae'r Maes hwn yn ei ddarparu, a gwneud y mwyaf ohono.
Ymateb a Myfyrio
Trafodwch neu crëwch fap meddwl i ystyried yr hyn y mae eich lleoliad eisoes yn ei ddarparu i gefnogi iechyd a lles pob dysgwr.
Faint o hyn sydd wedi'i gynnwys yn y cwricwlwm cyfredol ac yn cael ei ddarparu ar gyfer pob dysgwr?
Faint ohono sy'n ychwanegol, ac sy'n cael ei gyrchu gan rai dysgwyr yn unig?
Cydweithio
Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru'r 21ain ganrif yn wynebu heriau sylweddol i'w hiechyd a'u lles. Dylai gweledigaeth ysgol gyfan ar gyfer Iechyd a Lles gwmpasu'r modd y bydd ethos ac amgylchedd cynhwysol, a chynllun cwricwlwm dilys, yn cael effaith gadarnhaol ar bob agwedd ar fywyd y dysgwr, 'nawr ac yn y dyfodol. Bydd datblygu gweledigaeth sy'n treiddio i bob agwedd ar fywyd yr ysgol yn fwyaf effeithiol pan ymgymerir â hi ar y cyd yn yr ysgol neu'r lleoliad, ledled y clwstwr a chyda chymuned ehangach yr ysgol, a hynny gan sicrhau bod yna gyd-ddealltwriaeth yn bodoli fod yn rhaid i'r Maes hwn fod yn flaenoriaeth i bawb. Dylai cyd-gynllunio'r maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles ddarparu darlun cynhwysfawr o anghenion cymuned yr ysgol gyfan, gan fynd i'r afael ag anghenion unigryw eich dysgwyr chi. Bydd angen i'r broses hon gynnwys ystyriaeth ofalus o anghenion, o'r sylfaenol i'r cymhleth, yn cynnwys anghenion ffisiolegol ac anghenion o ran diogelwch a sicrwydd, perthyn, parch ac, yn olaf, y dysgu sy'n angenrheidiol i gyflawni potensial llawn a chreadigrwydd.
Erthygl 3: Dylai pawb sy'n gweithio gyda phlant bob amser wneud yr hyn sydd orau ar gyfer pob plentyn
Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), a fabwysiadwyd yn ffurfiol gan Lywodraeth Cymru yn 2004
Gall yr adnoddau canlynol hefyd eich helpu i nodi anghenion iechyd a lles penodol eich dysgwyr:
🌐 Health and Attainment in a Primary Education Network
🌐 Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion
Ymateb a Myfyrio
Beth yw anghenion iechyd a lles sylfaenol eich dysgwyr?
Sut y mae eich cwricwlwm yn mynd i'r afael â diogelwch a sicrwydd?
Sut y mae eich profiadau dysgu arfaethedig yn mynd i'r afael ag anghenion seicolegol dysgwyr?
Nawr, ystyriwch eich dealltwriaeth ysgol gyfan o'r byd y mae eich dysgwyr yn byw ynddynt. Er mwyn i'r cwricwlwm Iechyd a Lles fod yn wirioneddol ddilys, mae angen iddo gysylltu â bywyd y dysgwr. Y ffordd orau o gasglu'r wybodaeth hon yw trwy gysylltiad a deialog, ond mae yna ffyrdd eraill o gefnogi'r broses o ddylunio profiadau ystyrlon.
Wedi'i saethu mewn un shot parhaus, mae'r ffilm fer hon sy'n canolbwyntio ar iechyd meddwl, yn mynd â ni ar daith o amgylch bywydau mewnol trigolion pentref bach. (film Saesneg)
Ar ôl ystyried yr ystadegau yn y cyflwyniad sleidiau hwn, ynghyd â chynnwys y fideo:
Pa heriau pellach a allai fod yn wynebu eich dysgwyr?
Sut y mae'r anghenion hyn yn berthnasol i'r CCUHP?
🌐 Comisiynydd Plant Cymru: UNCRC
Yn olaf, meddyliwch am y cwestiynau canlynol:
 phwy yr ydych yn cydweithio ar hyn o bryd i gefnogi iechyd a lles y dysgwyr?
 phwy arall y gallech gydweithio i ddatblygu'r maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles?
Iechyd a Lles a'r pedwar diben
Dylai profiadau dysgu ym mhob Maes ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr wneud cynnydd tuag at y pedwar diben. Bydd ystyried y nodweddion sydd o dan benawdau'r pedwar diben yn arwain at ddealltwriaeth ddofn o weledigaeth Cwricwlwm i Gymru.
Gan fod Cwricwlwm i Gymru yn gwricwlwm wedi ei selio ar ddibenionl, mae'n hanfodol deall y berthynas rhwng y maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles a'r pedwar diben, ac ystyried ffyrdd y mae'r Maes hwn yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr wneud cynnydd tuag atynt. Y pedwar diben yw'r weledigaeth a'r dyhead a rennir ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Ar yr olwg gyntaf, byddai'n rhwydd gwneud y camgymeriad o feddwl ei bod yn amlwg y bydd y maes dysgu hwn, yn syml, yn helpu'r dysgwyr i fod yn iach ac yn hyderus. Fodd bynnag, o'i ddarllen a'i ystyried yn fwy manwl, mae'n amlwg bod y MDPh hwn hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi dysgwyr i fod yn egwyddorol, yn ddoeth, yn hyderus, yn greadigol, yn uchelgeisiol ac yn alluog.
Mae ymgyfarwyddo â'r nodweddion sy'n dod o dan y penawdau yn allweddol i ddeall y pedwar diben.
Ymateb a Myfyrio
Tynnwch sylw at y nodweddion gan nodi cysylltiad clir â'r maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles. Ar beth yr ydych yn sylwi?
Ym mha fodd y gallech ddatblygu'r nodweddion a amlygwyd yn y pedwar diben trwy'r maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles?
Sut y gallech ddatblygu'r nodweddion sy'n weddill?
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
‘Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.’
(Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015)
Mae'r ddeddf LlCD yn unigryw i Gymru ac yn amlygu ymrwymiad i wella lles ar gyfer pawb. Mae'r ddeddf hon nid yn unig yn llywio'r dyheadau lefel uchel ar gyfer diwygio addysgol, ond hefyd yn arwain y broses o ddiwygio'r cwricwlwm ar lefel leol. Mae'r saith nod yn y ddeddf yn cysylltu'n eglur â'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig a nodweddion y pedwar diben, a dylai ysgolion ystyried y saith nod hyn wrth greu eu gweledigaeth ysgol gyfan ar gyfer y maes dysgu a phrofiad Iechyd a Lles.
Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig
Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn crynhoi'r dysgu hanfodol sy'n ofynnol i wireddu'r pedwar diben ym mhob MDPh. Maent yn darparu'r cysyniadau allweddol ar gyfer dysgu rhwng 3 ac 16 oed.
Dylai ysgolion a lleoliadau ystyried y pum datganiad o'r hyn sy'n bwysig i Iechyd a Lles mewn modd holistaidd, a dylent eu cynnwys yng nghynllun eu cwricwlwm, a hynny'n annibynnol ac yn gyd-ddibynnol.
Mae yna bum datganiad o'r hyn sy'n bwysig ym MDPh Iechyd a Lles:
Ymateb a Myfyrio
Ar ôl darllen pob datganiad o'r hyn sy'n bwysig yn llawn, gall fod yn ddefnyddiol mynd ati ar y cam hwn i greu dehongliad gweledol a/neu destunol o bob un i gadarnhau eich dealltwriaeth bersonol neu gyfunol o'r dysgu gofynnol.
Os ydych wedi creu eitem weledol ar gyfer pob un o'r pum datganiad o'r hyn sy'n bwysig, a allwch ddechrau nodi pethau cyffredin a chysylltiadau?
Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig yn cefnogi ac yn ategu ei gilydd. Bwriedir iddynt fod yn ‘lensys’ y gellir archwilio pynciau a materion gwahanol trwyddynt, gan roi hyblygrwydd i ymarferwyr nodi'r rhai sy'n berthnasol i anghenion eu dysgwyr, eu lleoliad neu ysgol, a'u cymuned.
Ymateb a Myfyrio
Mae'r MDPh Iechyd a Lles yn ymwneud â phob plentyn. Mae'r gweithgaredd hwn yn rhoi cyfle i chi feddwl am arwyddocâd posibl hynny i'r weledigaeth ar gyfer iechyd a lles yn eich ysgol neu leoliad. Mewn grwpiau bach, defnyddiwch y templed i saernïo 'stori' dysgwr yn eich ysgol, ac yna dewch â'r delweddau yr ydych wedi eu creu ynghyd er mwyn i chi drafod y modd y mae eich cwricwlwm yn diwallu anghenion amrywiol y disgybl ar hyn o bryd, a pha newidiadau y gallai fod yn ofynnol i chi eu gwneud er mwyn mynd i'r afael â'i holl anghenion, a'i gefnogi i gyflawni'r pedwar diben. Fel man cychwyn, meddyliwch am y canlynol:
Lle mae'r dysgwr yn byw, a'i amgylchiadau economaidd-gymdeithasol
Dynameg y teulu a rhwydweithiau cymorth
Y grwpiau cymdeithasol y mae'n perthyn iddynt/wedi'i eithrio ohonynt?
Ei ethnigrwydd/iaith/ffydd
Y rhywedd a/neu'r rhywioldeb y mae'n uniaethu â hi/ag ef
Ei brofiad yn yr ysgol, gan gynnwys anghenion ychwanegol
Ei ddoniau, ei gyfleoedd, ei ddyheadau, ei heriau
Ei iechyd
Y Camau Nesaf
Nawr eich bod wedi meithrin gwell dealltwriaeth o weledigaeth ac egwyddorion allweddol Cwricwlwm i Gymru, efallai yr hoffech drafod y camau nesaf â'ch cyd-weithwyr. I wneud hyn, gallech:
Gynnal trafodaeth am anghenion cyfredol eich dysgwyr
Ystyried y modd y gall cymuned gyfan yr ysgol gyfrannu at ddiwallu'r anghenion hyn
Lledaenu'r weledigaeth hon i'ch cymuned ehangach
Nodi partneriaid y gallech gydweithredu â nhw.
Ac yn Olaf
Iechyd a lles yw'r allwedd i sut yr ydym yn teimlo amdanom ein hunain a'r modd yr ydym yn edrych ar ein bywydau. Mae iechyd a lles da yn ein galluogi i fyw bywydau llawn, cynhyrchiol, ac i wneud cyfraniadau cadarnhaol i gymdeithas. Mae'n effeithio ar sut yr ydym yn meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu. Mae'n ein helpu i benderfynu sut yr ydym yn delio â straen, yn uniaethu ag eraill, ac yn gwneud dewisiadau. Mae pob dysgwr yn haeddu cwricwlwm cynhwysol sy'n ei alluogi i ddatblygu perthnasoedd iach, i fod yn gadarnhaol yn ei hunaniaeth ei hun ac i ddatblygu cymwyseddau ar gyfer hyrwyddo a chynnal ei les ei hun a lles eraill mewn byd sy'n newid yn gyflym.
Ni ddylid gadael hyn i siawns.
Er mwyn mynd ati i ddatblygu eich dealltwriaeth o bwysigrwydd iechyd a lles yn amgylchedd yr ysgol gyfan ymhellach, gellir ymgymryd â rhagor o waith ymchwil a sesiynau myfyrio i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus. Gallai'r fideos a'r cyhoeddiadau canlynol fod yn fan cychwyn defnyddiol:
🎞 Dan Siegel – The Integrated Mind
Yr awdur a'r athro clinigol, Dan Siegel, yn archwilio perthnasoedd wrth feithrin lles.
🎞 Rita Pierson – Every kid needs a champion
Rita Pierson yn galw ar addysgwyr i gredu yn eu myfyrwyr a chysylltu â nhw ar lefel bersonol, ddynol, go iawn.
🌐 'The Right Way A Children's Rights Approach in Wales'
🌐 Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru
Trawsnewid eich Cwricwlwm
Ysgrifennwyd yr adnodd Trawsnewid eich Cwricwlwm gan dîm ERW ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru, a hynny er mwyn helpu i'ch arwain trwy gamau cyntaf y broses o ddatblygu'r cwricwlwm. Efallai yr hoffech ddefnyddio'r gweithgareddau a awgrymir i fyfyrio ar y MDPh Iechyd a Lles trwy ystyried eich arferion presennol a nodi newidiadau a fyddai'n eich helpu i lunio eich gweledigaeth ar gyfer y Maes hwn.
Mae’r GEC hefyd ar gael ar-lein yma: 🌐 Gweddnewid Eich Cwricwlwm