Dod â gwyddoniaeth a thechnoleg ynghyd

Mae Cwricwlwm i Gymru yn dod â gwyddoniaeth a thechnoleg ynghyd yn y Maes hwn, gan alluogi'r dysgwyr i weithio ar draws ffiniau disgyblaethau a meithrin gwerthfawrogiad o berthnasedd gwyddoniaeth a thechnoleg yn eu bywyd bob dydd.

Trwy feithrin sgiliau, gwybodaeth a gwerthoedd yn y Maes hwn, bydd y dysgwyr yn ymdrechu i ysgogi newid, a hynny gydag ymdeimlad o barch a chyfrifoldeb ar y cyd.

Bydd deall natur y dysgu rhyng-gysylltiedig mewn gwyddoniaeth a thechnoleg yn arwain at ddealltwriaeth ddyfnach o'r byd. Bydd hyn yn darparu sylfaen gadarn i ddysgwyr ymateb mewn modd creadigol ac arloesol i'r heriau cynyddol sy'n wynebu dynoliaeth.

“Rydym yn ceisio prif-ffrydio gwyddoniaeth a thechnoleg yn rhan o'n diwylliant.”

“We are trying to mainstream science and technology as part of our culture.”

Yr Athro Tom Crick

Dylai'r maes dysgu a phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg ddarparu'r dysgwyr â chyfleoedd dilys, cyd-destunol i feithrin eu chwilfrydedd wrth iddynt chwilio am atebion i broblemau byd-eang newydd. Mae'r pandemig Covid-19 yn amlygu'r angen i gydweithio, ynghyd â'r ddibyniaeth ar atebion gwyddonol a thechnolegol ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Ymateb a Myfyrio

  • Trafodwch y ffordd orau o ddod â gwyddoniaeth a thechnoleg ynghyd yn y maes dysgu a phrofiad hwn.

Mae gwyddoniaeth a thechnoleg yn arwain datblygiadau ac, fel y cyfryw, maent yn creu'r dyfodol. Mae newidiadau cymdeithasol cyfredol yn digwydd yn gyflym iawn, ac maent yn mynnu hyblygrwydd, ynghyd â natur ddyfeisgar a chadarnhaol, er mwyn ymateb yn gyflym i ffyrdd newidiol o fyw ac i ofynion amgylcheddol ac economaidd.

Gyda hyn mewn golwg, ystyriwch y modd y mae angen newid y dysgu a gynigir mewn ysgolion ar gyfer y Maes hwn.

Y ffordd orau o ragweld y dyfodol yw trwy ei greu."

"The best way to predict the future is to create it."

Abraham Lincoln

Ymateb a Myfyrio

Dyma ychydig o enghreifftiau o newidiadau cymdeithasol ac amgylcheddol cyfredol. Ystyriwch y newidiadau hyn a'u goblygiadau i'ch dysgwyr yn y dyfodol.

  • Pa wybodaeth, sgiliau a gwerthoedd y mae ar ddysgwyr eu hangen wrth iddynt arwain datblygiadau a chreu atebion arloesol i'r heriau a fydd yn codi?

Efallai yr hoffech ystyried newidiadau ychwanegol, a gallai rhai ohonynt fod yn arbennig o berthnasol i'ch ardal leol.

Vision task CfW Cymraeg.pdf

Beth sy'n newydd?

Dyma rai o'r egwyddorion allweddol sy'n sail i'r dysgu yn y Maes hwn, ac a fydd yn galluogi'r dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.

  • Mae dysgu am elfennau cyffredin ledled gwyddoniaeth a thechnoleg yn galluogi'r dysgwyr i drosglwyddo eu dysgu ar draws y Maes hwn a llunio cysylltiadau cryf, gan arwain at ddealltwriaeth ddofn.

  • Mae rhoi'r dysgu mewn cyd-destun trwy brofiadau dilys yn rhoi ystyr, ac mae'n hanfodol ar gyfer cymhwyso gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth.

  • Mae ailfeddwl cyfrifiant fel bod data ac algorithmau yn trawstorri'r Maes a'r cwricwlwm ei hun yn paratoi'r dysgwyr ar gyfer heriau yn y dyfodol mewn cymdeithas sy'n llawn data.

  • Bydd meithrin safbwynt moesegol wrth ddysgu mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn galluogi'r dysgwyr i wneud penderfyniadau doeth a gwybodus.

Ymateb a Myfyrio

“Ydy’r ffaith ein bod ni’n gallu yn golygu y dylen ni?”

Cwricwlwm i Gymru

  • Myfyriwch ar y cwestiwn hwn.

  • Sut y byddwch yn ystyried goblygiadau moesegol datblygiadau mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg?

Gweledigaeth ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Wrth i chi fyfyrio ar y dull o ddod â gwyddoniaeth a thechnoleg ynghyd, efallai y byddwch am ddechrau meddwl am greu gweledigaeth ar gyfer y Maes hwn.

Dyma ddwy enghraifft o ddatganiadau o weledigaeth ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg, sy'n mynegi'r uchelgais a'r dyheadau ar gyfer pob dysgwr.

Gweledigaeth 1

Mae prif-ffrydio gwyddoniaeth a thechnoleg yn rhan o'n diwylliant, lle caiff chwilfrydedd, natur ymholgar a chreadigrwydd eu meithrin wrth chwilio am atebion a gwelliant. Bydd pob dysgwr yn meithrin gwerthfawrogiad a dealltwriaeth o foeseg, yn sail i ganfyddiadau, darganfyddiadau ac arloesedd, ac yn fodd i'w barnu.

Gweledigaeth 2

Ein gweledigaeth yw y bydd dysgu am wyddoniaeth a thechnoleg gyda'i gilydd yn ysbrydoli ein pobl ifanc i fod yn feddylwyr beirniadol, yn ddatryswyr problemau, yn gydweithredwyr, yn ddylunwyr ac yn arloeswyr medrus. Trwy ddealltwriaeth o'r modd y mae ein byd yn gweithio, bydd ein dysgwyr yn mwynhau darganfod ac yn tanio eu creadigrwydd a'u dychymyg, gan ychwanegu gwerth at gymdeithas fwy teg a chyfiawn.

Ymateb a Myfyrio

Ystyriwch a chymharwch y ddwy weledigaeth:

  • Pa eiriau sy'n atseinio gyda chi ac sy'n berthnasol i'ch ysgol/lleoliad?

  • Pa un a ffefrir gennych, a pham?

  • Pa eiriau y byddech yn dymuno eu cynnwys mewn datganiad o weledigaeth ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn eich ysgol?

Gweithio tuag at y pedwar diben mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Dylai profiadau dysgu ym mhob Maes ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.

Ymateb a Myfyrio

Ystyriwch y brawddegau yn yr adnodd ar y dde. Maent wedi'u haddasu o'r cyflwyniad i'r canllawiau i Wyddoniaeth a Thechnoleg.

  • I ba un o'r pedwar diben y mae pob brawddeg yn berthnasol?

Efallai bod rhai yn berthnasol i fwy nag un ohonynt, sy'n enghraifft bellach o natur gydgysylltiedig Cwricwlwm i Gymru.



Gwyddoniaeth a Thechnoleg.docx
Gwyddoniaeth a Thechnoleg Pedward Diben.docx

Bydd ystyried y nodweddion sydd o dan benawdau'r pedwar diben yn arwain at ddealltwriaeth ddofn o weledigaeth Cwricwlwm i Gymru. Rhaid cynnal y drafodaeth hon ym mhob Maes.

Ymateb a Myfyrio

Gan ddefnyddio'r adnodd ar y dde, archwiliwch ffyrdd y bydd dysgu a phrofiadau yn y maes Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn cefnogi'r broses o ddatblygu pob un o'r nodweddion.

Ein Maes Dysgu a Phrofiad Pedwar Diben.pdf

Yr hyn sy'n bwysig mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae'r dysgu hanfodol sy'n ofynnol i wireddu'r pedwar diben ym mhob MDPh wedi'i grynhoi yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.

Mae'r rhain yn darparu'r cysyniadau allweddol ar gyfer dysgu rhwng 3 ac 16 oed.

Mae yna chwe datganiad o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg; maent yn gyd-ddibynnol a dylid mynd i'r afael â nhw mewn modd holistaidd.

Datganiadau o'r hyn sy'n bwysig

Mae bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion yn hanfodol ar gyfer deall a rhag-weld ffenomenâu.

Mae meddylfryd dylunio a pheirianneg yn cynnig ffyrdd technegol a chreadigol o ddiwallu anghenion a dymuniadau cymdeithas.

Mae'r byd o'n cwmpas yn llawn o bethau byw sy'n dibynnu ar ei gilydd i oroesi.

Mae mater a'r ffordd y mae'n ymddwyn yn diffinio ein bydysawd ac yn llunio ein bywydau.

Mae grymoedd ac egni yn darparu sylfaen ar gyfer deall ein bydysawd.

Cyfrifiadureg yw'r sylfaen ar gyfer ein byd digidol.

Mae'r datganiad cyntaf o'r hyn sy'n bwysig mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn ymwneud â bod yn chwilfrydig a chwilio am atebion. Mae'r dysgu ar gyfer y datganiad hwn yn treiddio i'r pum datganiad arall, a dylid ei roi mewn cyd-destun trwy'r profiadau dysgu ledled y Maes.

Ymateb a Myfyrio

Darllenwch y sail resymegol ar gyfer y datganiad hwn o'r hyn sy'n bwysig, ac ewch ati i greu cynrychioliad gweledol a/neu destunol sy'n adlewyrchu eich dealltwriaeth o'r dysgu gofynnol.

🌐 Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

Gellir gwneud yr un gweithgaredd gyda'r datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig er mwyn sicrhau dehongliad cytbwys o natur ryng-gysylltiedig y chwe datganiad.

Creu eich gweledigaeth ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Fel cam nesaf, efallai y byddwch am ddechrau creu gweledigaeth a rennir ar gyfer Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn eich ysgol neu leoliad. Gallai hon gael ei chyflwyno fel datganiad a fydd yn mynegi eich uchelgeisiau a'ch dyheadau ar gyfer eich dysgwyr.

Gan ddefnyddio eich dealltwriaeth o weledigaeth y Maes hwn, ynghyd â'ch myfyrdodau o'r gweithgareddau uchod, ewch ati i gasglu syniadau ynghyd yn sail i drafodaeth â'ch cyd-weithwyr wrth i chi lunio eich gweledigaeth.

Ymateb a Myfyrio

Gall y cwestiynau hyn fod yn fan cychwyn defnyddiol:

  • Beth sy'n wirioneddol bwysig ar gyfer eich dysgwyr yn eich cyd-destun?

  • Beth yr ydych am i'ch dysgwyr ei gofio ynghylch Gwyddoniaeth a Thechnoleg yn eu bywydau yn y dyfodol?

  • Sut y bydd y pedwar diben yn llywio eich gweledigaeth?

Gwella bywydau trwy Wyddoniaeth a Thechnoleg


Ac yn olaf...

Gall dysgu yn y Maes hwn chwarae rôl hanfodol wrth alluogi'r dysgwyr i gyfrannu at well cymdeithas trwy wella ansawdd eu bywydau a bywydau pobl eraill. Bydd hyn yn cynyddu eu hymdeimlad o gyfrifoldeb, yn gwella eu llesiant ac yn cynyddu eu hunanhyder fel dinasyddion cydwybodol yng Nghymru a'r byd.

I adael y byd yn lle ychydig yn well, boed hynny gan blentyn iach, darn o ardd, neu gyflwr cymdeithasol wedi ei waredu: i wybod bod hyd yn oed un bywyd wedi anadlu yn haws oherwydd eich bod wedi byw - dyna beth yw llwyddiant."

“To leave the world a bit better, whether by a healthy child, a garden patch, or a redeemed social condition; to know that even one life has breathed easier because you have lived - that is to have succeeded.”

Ralph Waldo Emerson

Gweddnewid Eich Cwricwlwm

Mae’r adnodd ‘Gweddnewid eich cwricwlwm’ wedi cael ei ysgrifennu gan dîm Cwricwlwm i Gymru ERW i arwain ysgolion trwy y camau cynnar o ddatblygu eu cwricwlwm. Gallai fod o gymorth i chi fel unigolyn, rhwydwaith neu ysgol i ddechrau cynllunio eich cwricwlwm eich hun wrth i chi ystyried y maes dysgu a phrofiad hwn mewn perthynas â’r canllawiau ehangach.

Mae’r GEC hefyd ar gael ar-lein yma: 🌐 Gweddnewid Eich Cwricwlwm


GEC Cymraeg V4.pdf