Dysgu ieithoedd gyda’i gilydd

“Mae dysgu a phrofiad yn y Maes hwn… yn anelu at annog dysgwyr i drosglwyddo’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu am sut mae ieithoedd yn gweithio mewn un iaith er mwyn dysgu a defnyddio ieithoedd eraill."

Cwricwlwm i Gymru

Mae'r maes dysgu a phrofiad hwn wedi'i seilio ar y dybiaeth bod unrhyw ddysgu mewn un iaith – boed hynny'n feithrin geirfa, gramadeg, sgiliau neu werthfawrogiad o lenyddiaeth – yn gallu cefnogi dysgu ym mhob iaith ddilynol.

Bydd cydweithio effeithiol yn sicrhau dull cyson ledled y Maes, gan hwyluso'r broses o ddysgu iaith ar gyfer ein holl ddysgwyr, cynyddu eu hyder, a thanio eu brwdfrydedd dros ddysgu ieithoedd gydol eu hoes.

“Cawn ein hunain ar drothwy sy’n arwain allan o fan lle canfyddir ieithoedd fel unedau wedi eu hynysu oddi wrth ei gilydd..... i fan mwy agored lle gwelir ieithoedd mewn perthynas â’i gilydd…”

“We find ourselves on a threshold that leads out to a place where languages are perceived in isolation from one another... to a place where languages are seen in relation to one another...

Yr Athro Mererid Hopwood

Mae maes dysgu a phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn eang ei natur ac yn cwmpasu'r disgyblaethau canlynol:

  • Cymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg

  • Cymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg

  • Saesneg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg

  • Saesneg mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg

  • Ieithoedd Rhyngwladol

  • Ieithoedd Clasurol

  • Llenyddiaeth

  • Llythrennedd ar draws y cwricwlwm

  • Saesneg fel Iaith Ychwanegol

  • Ieithoedd y cartref a'r gymuned

  • Ieithoedd dieiriau, e.e. Iaith Arwyddo Prydain, Systemau Cyfathrebu Uwch.

Ymateb a Myfyrio

Mae tirwedd ieithyddol Cymru yn dod yn fwyfwy amrywiol, a gall fod yn eithaf cymhleth, e.e. nid yw canran helaeth o'r dysgwyr mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg yn clywed nac yn defnyddio'r Gymraeg gartref. Mae yna hefyd ddysgwyr nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg gartref.

Mae'n bwysig eich bod yn adnabod tirwedd ieithyddol eich ysgol wrth i chi gynllunio eich cwricwlwm i fodloni anghenion ieithyddol eich dysgwyr.

  • Beth yw tirwedd ieithyddol eich ysgol?

  • Sut y bydd hyn yn effeithio ar eich darpariaeth ieithyddol?

  • I ba raddau y byddwch yn defnyddio'r wybodaeth hon i ddethol cynnwys, cyd-destunau ac addysgegau addas ar gyfer eich dysgwyr?

Mae gan faes dysgu a phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu rôl o ran gwireddu nodau, targedau ac uchelgeisiau cenedlaethol.

Bydd gwell sgiliau llythrennedd yn galluogi'r dysgwyr i gael mynediad at y cwricwlwm a chyfleoedd yn y dyfodol.

Bydd disgwyliadau uchel ar gyfer lleoliadau Cymraeg a Saesneg yn paratoi'r dysgwyr i fod yn ddefnyddwyr hyderus o'r Gymraeg.

Bydd dysgu am ieithoedd yn cefnogi'r dysgwyr i adeiladu ar eu dwyieithrwydd er mwyn dod yn amlieithog.

Gweledigaeth newydd ar gyfer dysgu ieithoedd

Mae hon yn enghraifft o ddatganiad o weledigaeth ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, sy'n mynegi'r uchelgais a'r dyheadau ar gyfer dysgwyr yn y Maes hwn.

Dathliad o ieithoedd a diwylliannau, sy'n cofleidio Cymru ddwyieithog mewn cyd-destun rhyngwladol. Bydd pob dysgwr yn meithrin safbwynt ehangach, ynghyd ag agwedd gadarnhaol at ddysgu ieithoedd, a bydd yn gallu gwneud cysylltiadau rhwng ieithoedd.

Ymateb a Myfyrio

  • Dewiswch y geiriau sy'n bwysig i chi o'r datganiad o weledigaeth hwn

  • A yw'r geiriau a ddewiswyd gennych yn cael eu hadlewyrchu yn y fideo o blant o Japan yn canu Calon Lân?

  • Pa eiriau y byddech yn dymuno eu cynnwys mewn datganiad o weledigaeth ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn eich ysgol?

Dull newydd o ddysgu ieithoedd

Wrth i ffyrdd newydd o feddwl am ddysgu ieithoedd ddod i'r amlwg yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, felly hefyd y mae'r Cwricwlwm i Gymru yn ein gwahodd ni, ymarferwyr, i fyfyrio ar ddull newydd o ddysgu ieithoedd.

Dyma rai o egwyddorion allweddol y dull newydd hwn sy'n sail i'r dysgu yn y Maes hwn, ac a fydd yn galluogi'r dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.

  • Mae dwyn pob iaith ynghyd yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd trosglwyddo gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth o un iaith i'r llall.

  • Mae dysgu am ieithoedd yn adeiladu ar yr hyn sy'n gyffredin a'r hyn sy'n wahanol rhyngddynt.

  • Mae gwneud cysylltiadau rhwng ieithoedd yn hwyluso cynnydd mewn iaith ryngwladol ar gam cynnar.

  • Mae myfyrio ar y berthynas rhwng ieithoedd, diwylliannau a hunaniaethau yn rhoi ystyr a phwrpas i'r broses o ddysgu iaith.

  • Trwy fynd ati i ddysgu iaith fel un continwwm, mae delwedd gadarnhaol ohonynt eu hunain fel defnyddwyr nifer o ieithoedd yn cael ei meithrin ymhlith y dysgwyr.

  • Mae cyflwyno sgiliau newydd megis cyfryngu a thrawsieithu yn gwella gallu'r dysgwyr i ychwanegu gwerth at gymdeithas amrywiol sy'n esblygu.

I gyd-fynd â'r dull newydd hwn o ddysgu ieithoedd, mae yna derminoleg sy'n ymgorffori egwyddorion allweddol y Maes.

Ymateb a Myfyrio

Cliciwch ar y ddelwedd ar y dde i fynd at restr chwarae sy’n profi eich dealltwriaeth o’r derminoleg hon. Bydd angen eich bod wedi mewngofnodi i Hwb. Mae yna opsiwn i gwblhau'r gweithgaredd yn Gymraeg trwy glicio ar y gwymplen ar bwys y gair ‘English’ ar y cornel de uchaf

  • Ystyriwch ystyr y termau, a chyfatebwch nhw i'r diffiniadau cywir.

  • Meddyliwch am eu goblygiadau ar gyfer dysgu ieithoedd yn eich ysgol a'ch lleoliad.

Gweithio tuag at y pedwar diben ym maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Dylai profiadau dysgu ym mhob Maes ddarparu cyfleoedd i ddysgwyr wneud cynnydd tuag at y pedwar diben.

Ymateb a Myfyrio

Ystyriwch y brawddegau yn yr adnodd ar y dde. Maent wedi'u haddasu o'r cyflwyniad i'r canllawiau i Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu.

  • I ba un o'r pedwar diben y mae pob brawddeg yn berthnasol?

Ceir awgrymiadau yma, ond mae rhai yn berthnasol i fwy nag un ac felly bydd eich trafodaethau chi o bosib yn arwain at atebion gwahanol. Mae hyn yn enghraifft o natur gydgysylltiedig Cwricwlwm i Gymru.

Cymraeg LLC + four purposes Final

Bydd ystyried y nodweddion sydd o dan benawdau'r pedwar diben yn arwain at ddealltwriaeth ddofn o weledigaeth Cwricwlwm i Gymru. Rhaid cynnal y drafodaeth hon ym mhob Maes.

Ein Maes Dysgu a Phrofiad Pedwar Diben.pdf

Ymateb a Myfyrio

Gan ddefnyddio'r adnodd ar y chwith, archwiliwch ffyrdd y bydd dysgu a phrofiadau yn y maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn cefnogi'r broses o ddatblygu pob un o'r nodweddion.

Yr hyn sy’n bwysig ym maes Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae'r dysgu hanfodol sy'n ofynnol i wireddu'r pedwar diben ym mhob MDPh wedi'i grynhoi yn y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig.

Mae'r rhain yn darparu'r cysyniadau allweddol ar gyfer dysgu rhwng 3 ac 16 oed.

Mae'r pedwar datganiad o'r hyn sy'n bwysig o ran Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn gydgysylltiedig iawn, a dylid mynd i'r afael â nhw mewn modd holistaidd.

“Dylid ystyried y pedwar datganiad yn holistaidd wrth gynllunio cwricwlwm y lleoliad neu’r ysgol. Maen nhw’n dibynnu ar ei gilydd, gyda phob un yn cefnogi datblygiad y tri arall.”

Cwricwlwm i Gymru

Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd

Mae deall ieithoedd yn allweddol i ddeall y byd o’n hamgylch.

Mae mynegi ein hunain drwy ieithoedd yn allweddol i gyfathrebu.

Mae llenyddiaeth yn tanio’r dychymyg ac yn ysbrydoli creadigrwydd.

Mae’r datganiad cyntaf o'r hyn sy'n bwysig yn Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn berthnasol i bob dysgwr ym mhob lleoliad yng Nghymru. Yn achos y datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig yn y Maes hwn, mae yna ganllawiau penodol ar gyfer Cymraeg/Saesneg, ar gyfer Cymraeg mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg, ac ar gyfer ieithoedd rhyngwladol.

Y datganiad cyntaf o'r hyn sy'n bwysig yw'r man lle caiff yr holl ieithoedd eu dwyn ynghyd, ac mae'r dysgu sy'n deillio o'r cysyniad hwn yn treiddio i'r tri datganiad arall. Felly, mae'n bwysig deall y cysyniadau allweddol a fynegir o fewn y datganiad “Mae ieithoedd yn ein cysylltu â’n gilydd”.

Ymateb a Myfyrio

Darllenwch y sail resymegol ar gyfer y datganiad hwn o'r hyn sy'n bwysig, ac ewch ati i greu adnodd gweledol sy'n adlewyrchu eich dealltwriaeth o'r dysgu sy'n ofynnol. Gallech ddewis defnyddio darluniau, diagramau, symbolau a geiriau allweddol.

🌐 Sail resymegol ar gyfer y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

Gellir gwneud yr un gweithgaredd gyda'r datganiadau eraill o'r hyn sy'n bwysig er mwyn sicrhau dehongliad cytbwys o natur gydgysylltiedig y pedwar datganiad.

Llais cryfach mewn cymdeithas trwy Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Ac yn olaf...

Gall dysgu yn y Maes hwn chwarae rhan hollbwysig o ran gwella llesiant a safbwyntiau'r dysgwyr, gan arwain yn y pen draw at gymdeithas fwy cynhwysol a chydlynus.

“Talwch sylw i iaith. Y bwlch o ran iaith yw un o'r ffactorau allweddol sy'n arwain at dangyflawni yn ddiweddarach mewn bywyd, yn enwedig ymhlith dysgwyr difreintiedig."

“Pay attention to language. The gap in language is one of the key factors which lead to underachievement later in life, especially among underprivileged learners."

Syr Alasdair Macdonald

Creu eich gweledigaeth ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

Fel cam nesaf, efallai y byddwch am ddechrau creu gweledigaeth a rennir ar gyfer Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn eich ysgol/lleoliad. Gallai hon gael ei chyflwyno fel datganiad sy'n mynegi eich uchelgeisiau a'ch dyheadau ar gyfer eich dysgwyr yn eich ysgol/lleoliad.

Gan ddefnyddio eich dealltwriaeth o weledigaeth y Maes hwn, ynghyd â'ch myfyrdodau o'r gweithgareddau uchod, ewch ati i gasglu syniadau ynghyd yn sail i drafodaeth â'ch cyd-weithwyr wrth i chi adeiladu eich gweledigaeth.

Ymateb a Myfyrio

Gall y cwestiynau hyn fod yn fan cychwyn defnyddiol:

  • Beth yw anghenion ieithyddol eich dysgwyr yn eich ysgol/lleoliad?

  • Beth sy'n wirioneddol bwysig ar gyfer eich dysgwyr yn eich cyd-destun?

  • Beth yr ydych am i'ch dysgwyr ei gofio ynghylch Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu yn eu bywydau yn y dyfodol?

  • Sut y bydd y pedwar diben yn llywio eich gweledigaeth?

Gweddnewid Eich Cwricwlwm

Mae’r adnodd ‘Gweddnewid eich cwricwlwm’ wedi cael ei ysgrifennu gan dîm Cwricwlwm i Gymru ERW i arwain ysgolion trwy y camau cynnar o ddatblygu eu cwricwlwm. Gallai fod o gymorth i chi fel unigolyn, rhwydwaith neu ysgol i ddechrau cynllunio eich cwricwlwm eich hun wrth i chi ystyried y maes dysgu a phrofiad hwn mewn perthynas â’r canllawiau ehangach.

Mae’r GEC hefyd ar gael ar-lein yma: 🌐 Gweddnewid Eich Cwricwlwm


GEC Cymraeg V4.pdf