Pa un a ydych yn y cam ymgysylltu neu'r cam cynllunio o ddatblygu, dylai'r gwaith o gynllunio ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm i Gymru ddechrau ar lefel yr ysgol gyfan. Mae'n bwysig bod pawb yng nghymuned eich ysgol yn rhannu'r un weledigaeth ar gyfer egwyddorion a dibenion allweddol y fframwaith, ynghyd â'r un ddealltwriaeth ohonynt, a hynny mewn perthynas â diwallu anghenion unigryw eich dysgwyr. Wrth gynllunio’r daith i ddiwygio, mae’r pwyslais ar gyfer ysgolion ar ddechrau o’r pedwar diben ac archwilio’r hyn y maent yn ei olygu ar gyfer yr holl ddysgwyr ym mhob agwedd ar y cynllun, ac yna neilltuo amser i ddatblygu syniadau am bob agwedd ar bob cam.

Gallai'r ddewislen gyntaf o weithdai ysgol gyfan gefnogi ysgolion a lleoliadau gyda dysgu proffesiynol, am eu bod yn canolbwyntio ar yr agweddau ysgol gyfan sy'n sail i'r sylfeini y gellir adeiladu cwricwlwm lleol arnynt. Bydd y gweithdai yn cefnogi ysgolion, neu hyd yn oed glystyrau o ysgolion, wrth iddynt gynllunio ar gyfer diwygio, a gallant ddarparu sbardunau ar gyfer diwrnodau HMS neu sesiynau dysgu proffesiynol a gynlluniwyd. Mae pob gweithdy yn dechrau gyda gweledigaeth greadigol ac yn cefnogi dealltwriaeth gysyniadol o Cwricwlwm i Gymru fel cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar ddiben, ac yn darparu cyfleoedd i fyfyrio ar daith yr ysgol hyd yma o ran y disgwyliadau cenedlaethol.

Gallai cwblhau pob gweithdy gymryd cyn lleied â hanner awr at ddibenion cyfnerthu, neu gallai ffurfio rhan o'r gwaith tymor hirach o ddatblygu'r ysgol dros un neu ragor o ddiwrnodau HMS, ynghyd â chyfleoedd dysgu cyfunol a chyfleoedd i rwydweithio. Gallant hefyd gefnogi unigolion neu grwpiau naill ai fel man cychwyn neu ar gyfer atgyfnerthu'r agwedd honno ar ddatblygu'r ysgol gyfan. Gall ysgolion, lleoliadau ac ymarferwyr gyrchu'r gweithdai'n gyfan gwbl ar-lein, a hynny fel adnodd dysgu proffesiynol yn yr ysgol neu'r lleoliad, neu gallant gael eu cefnogi a/neu eu cyflwyno gan swyddogion ERW. Mae cydweithio a gwneud penderfyniadau ar y cyd wrth galon cynllun y gweithdai. Dylai ysgolion ystyried sut i gynnwys eu dysgwyr yn y broses a, lle bo hynny'n bosibl, dylid estyn cyfleoedd i gydadeiladu i'r rhieni a'r gymuned ehangach.

Bydd gweithdai pellach ar y MDaPH yn sbarduno trafodaethau ar ystyr cynnydd i bob dysgwr ac yn eich cefnogi wrth i chi ddechrau ar y broses o gynllunio eich cwricwlwm ar gyfer eich dysgwyr.