Cynllunio ar gyfer Cynnydd

Dylai cynllunio ar gyfer cynnydd bob amser ystyried cyflymder a dyfnder y dysgu, gan symud o wybodaeth lythrennol, syml i gysyniadau mwy haniaethol a chymhleth. Mae cynnydd yn digwydd pan fydd sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth yn cael eu trosglwyddo i gyd-destunau newydd sy’n gynyddol anghyfarwydd, a’u cymhwyso i’r cyd-destunau hynny, a chaiff ei alluogi pan fydd trafod, myfyrio a gwerthuso yn ffurfio rhan annatod o’r dysgu.

Felly, mae’n bwysig cofio ein bod yn ymdrin â phobl yma, ac nid cynnyrch. Nid yw cynnydd yn digwydd mewn blychau oedran neu flychau cyfnod – bydd yn digwydd pan fydd yn digwydd. Gall ein syniadau cyfredol mewn perthynas ag asesu a chynnydd gael eu haflunio’n rhwydd gan y dyfeisiau sy’n fframio ein ffordd o feddwl ac sydd wedi deillio o ddegawdau o derminoleg ac offer asesu annefnyddiol. Y dasg nawr yn gwaredu’r agweddau nad ydynt yn canolbwyntio ar y dysgwr, gan adeiladu cwricwlwm sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, ac ystyried sut y mae plant yn gwneud cynnydd.

Datblygu Cynnydd

Mae cynnydd mewn addysg yn golygu cynyddu gwybodaeth, gwella sgiliau a dyfnhau dealltwriaeth o syniadau a chysyniadau. Mae’n broses aflinol, ddargyfeiriol, sy’n digwydd ar gamau gwahanol o’r continwwm ar gyfer pob dysgwr.

Er mwn sicrhau bod dysgu ac addysgu yn galluogi cynnydd, rhaid i ni, yr ymarferwyr, wybod y canlynol:

  1. Prif egwyddorion cynnydd ym mhob maes dysgu a phrofiad ( Maes)

  2. Natur cynnydd ar gyfer y Maes hwnnw

  3. Y cysyniad o gynnydd ar hyd y continwwm dysgu

  4. Sut i greu profiadau sy’n trosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol mewn cyd-destun newydd

  5. Diben y disgrifiadau dysgu.

Ac wrth gynllunio ein cwricwlwm, mae angen i ni ystyried hanfod y dysgu ym mhob Maes ar gyfer pob datganiad o’r hyn sy’n bwysig.

Ar lefel ystafell ddosbarth (gan gynnwys y rhith-ystafell ddosbarth a'r ystafell ddosbarth awyr agored), cynnydd, yn syml, yw:


  • Beth sydd ei angen ar y dysgwr i fynd o’r fan hon i’r fan hon mewn modd llwyddiannus a chynyddol? - Adnabod y plentyn a'r angen a sut i'w cefnogi

  • Beth y mae angen i mi ei wybod? - Deall lle y mae’r plentyn mewn perthynas â lle y mae angen iddo fynd

  • Sut y gallaf gasglu’r wybodaeth honno? - Pa brosesau yr ydw i’n eu defnyddio i ennill gwybodaeth?

  • Beth ydw i’n ei wneud â’r wybodaeth? - Pa ddysgu yr ydw i’n ei gynllunio ’nawr?

  • Pwy arall a ddylai gael gwybod? - Arweinyddiaeth, athrawon, rhieni, dysgwyr, systemau cymorth

  • Pwy arall a ddylai gymryd rhan? - Systemau cymorth dysgu proffesiynol, e.e. cymedroli, hyfforddiant, cymorth mewnol ac allanol, ac atebolrwydd arweinwyr

  • Sut y gallaf wirio bod yr hyn yr wyf yn ei wneud yn gweithio? - Arweinyddiaeth

  • Pwy arall y mae angen iddo fy helpu gyda hyn? - Arweinyddiaeth

Myfyrio ac Ymateb

Ystyriwch y cwestiynau canlynol mewn perthynas â lle yr ydych ar y daith tuag at ddiwygio:

a) fel unigolyn

b) fel ysgol.

  1. I ba raddau ydych yn deall cynnydd aflinol?

  2. Sut ydych yn hwyluso trafodaeth am natur cynnydd er mwyn sicrhau dealltwriaeth a rennir?

  3. Sut ydych yn pennu mannau cychwyn dysgwyr unigol er mwyn cynllunio ar gyfer cynnydd?

  4. Sut ydych yn gwybod pan fo dysgu dwfn ar waith?

  5. Sut ydych yn cefnogi dysgwyr i wella eu heffeithiolrwydd trwy drafod, myfyrio a gwerthuso?

Egwyddorion Cynnydd a Disgrifiadau Dysgu

Mae Cwricwlwm i Gymru yn nodi’r fframwaith ar gyfer cynnydd yn ei egwyddorion ar gyfer cynnydd a’i ddisgrifiadau dysgu ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad. Mae’r disgrifiadau dysgu yn ymddangos ar bum cam cynnydd a, gyda’i gilydd, mae’r rhain yn darparu continwwm o ddysgu sy’n adlewyrchu’r dysgu hanfodol ar gyfer pob Maes wrth i’r dysgwr ddatblygu mewn perthynas â’r pedwar diben. Trwy wneud hyn, maent yn helpu amlygu llinyn clir o ddysgu o’r camau cynnar i’r pwynt pan fydd y dysgwr yn pontio i addysg ôl-16 a gwaith. Ni ddisgwylir i gynnydd ar hyd y continwwm fod yn llinol, ac ni fwriedir iddo chwaith gael ei gyflawni ar gyfradd benodol. Mae’n fwy tebygol y bydd y dysgu yn ymdebygu i alldaith, gyda seibiau, dargyfeiriadau a hyrddiau. Mae’r disgrifiadau dysgu yn gerrig milltir ar hyd ffordd, yn hytrach nag yn ffin rhwng dwy ffordd wahanol o feddwl. Er gall fod yna gysyniadau trothwy sy’n cynrychioli symudiad arwyddocaol yn nealltwriaeth y dysgwr, nid yw’r rhain yn gysylltiedig ag oedrannau penodol, ac ni fyddant chwaith yn digwydd ar yr un amser mewn Meysydd gwahanol ar gyfer yr un dysgwr. Yn sail i gynnydd ar draws pob Maes y mae pum egwyddor cynnydd.

Mae’r egwyddorion cynnydd yn nodi’r modd y dylai’r dysgwyr wneud cynnydd, ac yn cyfrannu at y pedwar diben.

Mae’r cwricwlwm newydd a’r trefniadau asesu yn ei gwneud yn ofynnol i ni feithrin dealltwriaeth newydd o gynnydd a’r modd y mae’n llywio’r gwaith o gynllunio ac asesu’r cwricwlwm ar gyfer y diben o sicrhau cynnydd y dysgwr.

Cefnogir yr egwyddorion cynnydd hyn gan y disgrifiadau dysgu, sy’n darparu canllawiau manylach ar gynnydd ym mhob maes dysgu a phrofiad, a’r hyn y mae’n ei olygu i’r dysgwr wneud cynnydd trwy gydol y continwwm dysgu.

Dylid eu defnyddio’n rhan o drafodaethau mewn clystyrau a rhwydweithiau o ysgolion er mwyn llunio ymagweddau cydweithredol at y cwricwlwm, asesu a chynnydd y dysgwyr.

Mae'r egwyddorion cynnydd fel a ganlyn:

  • Ehangder a dyfnder gwybodaeth cynyddol

  • Dyfnhau’r ddealltwriaeth o’r syniadau a’r disgyblaethau yn y Meysydd

  • Mireinio a soffistigeiddrwydd cynyddol wrth ddefnyddio a chymwyso sgiliau

  • Creu cysylltiadau a throsglwyddo dysgu i gyd-destunau newydd

  • Cynyddu effeithiolrwydd.

Mae’r disgrifiadau dysgu yn disgrifio hanfod dysgu yn y Meysydd ar draws y pum cam cynnydd.

Disgrifiadau dysgu:

  • Maent yn dangos cynnydd priodol, ond caniatáu lle i ysgolion fod yn arloesol ac yn ymatebol i sefyllfaoedd sy'n newid

  • Nid ydynt yn cynnwys disgwyliadau cyffredin o berfformiad

  • Maent yn sicrhau bod asesu ffurfiannol yn rhan annatod o’r broses o newid arfer ac addysgeg

  • Nid ydynt yn annog rhestrau gwirio

  • Maent yn bersonol i’r Maes hwnnw, a gall lefel y penodoldeb amrywio

  • Maent yn rhoi mynegiant i'r pedwar diben

  • Maent yn ystyried ‘hanfod’ y dysgu – yr hyn y mae angen i blant ei ddysgu, y modd y gallant ei ddysgu a pham

  • Maent yn gyfrwng ar gyfer newidiadau yn y dulliau dysgu ac asesu, yn unol ag athroniaeth Cwricwlwm i Gymru.

Bwriad y disgrifiadau dysgu yw arwain ymarferwyr i ddatblygu dysgu sy’n galluogi’r dysgwyr i wneud cynnydd tuag at ddysgu yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig. Ni fwriedir iddynt fod yn fan cychwyn nac yn gyfrwng terfynol ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm.

Myfyrio ac Ymateb - Cynnydd a Disgrifiadau Dysgu

  • Sut beth yw cynnydd?

  • Sut beth yw dysgu ac asesu?

  • Sut? Pam? Beth? Pryd?

  • Beth yw’r camau nesaf ar gyfer dysgu?

  • Sut ydych yn gwybod bod y dysgwr yn deall?


  1. Dewiswch un datganiad o’r hyn sy’n bwysig o unrhyw faes dysgu a phrofiad.

  2. Dechreuwch trwy edrych ar gam cynnydd 1 yn unig, gan ragweld sut olwg fydd ar y dysgu hwn ar gam cynnydd 5. Ystyriwch beth fydd y camau rhyngddynt.

  3. ’Nawr meddyliwch am un trywydd datblygu o’r datganiad hwn o’r hyn sy’n bwysig, ac ystyriwch sut beth y gallai’r dysgu fod a sut beth y gallai’r asesu fod.

  4. Nesaf, ystyriwch un disgrifiad o’r dysgu ar un cam cynnydd, a meddyliwch am yr hyn y byddai ei angen mewn perthynas â dysgu ac asesu.

  5. Yn olaf, gan ystyried y dysgu ei hun yn dystiolaeth, beth y byddai’r dysgwr yn ei wneud i ddangos bod ganddo ddyfnder dysgu?

"Dysgu ei hun yw'r dystiolaeth – … caiff asesu ffurfiannol ei annog, ei fynnu bron, fel ffynhonnell y data."

"Learning itself is the evidence - ….formative assessment is encouraged, almost required, as the source of data."

Harlen 2016

Beth sydd yn y bwlch?

Mae camau cynnydd, fel rhan o gylch parhaol o ddysgu, yn cefnogi cynllunio ar gyfer cynnydd tuag at y pedwar diben. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod mai dysgu a chynnydd yw’r hyn sy’n digwydd rhwng y disgrifiadau dysgu. Dyma lle y mae hanfod y dysgu yn bodoli, a’r dasg y mae’n rhaid i ysgolion ac ymarferwyr ei chyflawni. Beth, felly, sy'n digwydd yn y bwlch i ennyn cynnydd?

Ni fydd y dysgwyr yn symud yn syml o un cam cynnydd i’r nesaf. Byddant yn symud i’r cam cynnydd nesaf trwy’r profiadau dysgu teg a dilys a ddarperir, y wybodaeth a’r sgiliau y maent yn eu casglu, a’r adborth ffurfiannol y maent yn ei gael. Nid yw hyn wedi’i ysgrifennu yn y fframwaith am ei fod yn unigryw i’r dysgwr, y grŵp, y lleoliad a’r gymuned.



Yn y model hwn, mae'r dysgwr yn gallu amlygu dyfnder gwybodaeth a'r gallu i drosglwyddo sgiliau yng ngham cynnydd 3. Er mwyn arddangos yr un peth yng ngham cynnydd 4, mae angen i ni gydweithredu â'r dysgwr i lenwi'r bwlch. Dyma lle y mae angen i ni ystyried yn ofalus 'sut' a 'pham', a meddu ar ddealltwriaeth fanwl o bob elfen o'r cwricwlwm, yn ogystal â'r modd y maent yn gysylltiedig â'i gilydd. Yn bwysigaf, mae angen i ni gofio bod cynnydd bob amser tuag at y pedwar diben.

Myfyrio ac Ymateb

  • Beth ydych yn ei asesu ar hyn o bryd? Sut? A yw’n gwneud gwahaniaeth i’r dysgu? Sut ydych yn gwybod?

  • Beth ydych yn ei wneud nad yw’n gwneud gwahaniaeth i’r dysgwyr? Ar gyfer pwy ydych yn gwneud hyn?

  • Beth sy’n gwneud y gwahaniaeth, yn ôl eich dysgwyr? Pryd oedd y tro diwethaf i chi ofyn iddynt? Pryd oedd y tro diwethaf i chi ofyn i chi eich hun?

  • Faint o'ch amser ydych chi'n ei roi i’ch dysgwyr sy’n eu symud tuag at eu dysgu nhw? A yw’n flaenoriaeth?

  • Sut ydych yn creu amgylchedd cadarnhaol i sicrhau cynnydd?

🌐 Cefnogi cynnydd dysgwyr: canllawiau asesu



Mae'n debyg ein bod ni i gyd wedi gweld y cyflwyniad 'Chwain mewn Jar' erbyn hyn, sef cofio peidio â rhoi caeadau ar gyflawniad. Yn y fideo hwn, mae awdur Growth Mindset, Carol Dweck, yn esbonio The Power of Yet, sut y mae credu y gallwch wella yn effeithio ar eich gallu i lwyddo.

Mae angen i asesu ‘yr hyn sy’n bwysig’ fod yn egwyddor arweiniol, ac, er bod hynny’n ymddangos yn ddadansoddiad amlwg, nid yw bob amser yn adlewyrchu’r hyn yr ydym yn ei wneud mewn ysgolion heddiw. Mae cwricwlwm sy’n rhoi pwyslais ar ddiben yn gofyn am asesiad sy’n rhoi pwyslais ar ddiben, gan adlewyrchu a gwella’r dysgu yn hytrach na thynnu oddi wrtho mwy nag erioed.

Er mwyn sicrhau’r newid, mae angen i ni edrych y tu hwnt i unrhyw a phob rhwystr canfyddedig. Ar hyn o bryd, mae’r dyfodol yn ansicr ar gyfer ysgolion, ond mae addysgu, dysgu ac asesu effeithiol a phwrpasol yn hanfodol ar gyfer sicrhau llwyddiant ein holl dysgwyr.

Ac yn olaf...

Os yw eich amserlen waith eisoes yn llawn, ni allwch gyflwyno llwyth newydd o ddeunydd at eich arferion a pharhau i fod yn effeithiol. Sawl gwaith ydych wedi clywed rhywun yn dweud, "Rwy’n gwneud llawer o bethau, ond nid yn dda iawn, lle gallwn fod yn gwneud ychydig o bethau yn arbennig o dda"? Sawl gwaith ydych wedi meddwl hyn amdanoch eich hun? Nid yw newid yn golygu ychwanegu. Mae’n golygu mireinio.

Dechrau

Stopio

Parhau

Newid

Dechrau

Beth ydych yn mynd i ddechrau ei wneud o ganlyniad i rywbeth yr ydych wedi'i ddysgu hyd yn hyn?

  • Rydw i'n mynd i ddechrau …

  • Mae'n bwysig oherwydd …

Er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, bydd angen i mi …

Stopio

Beth ydych yn mynd i stopio ei wneud o ganlyniad i rywbeth yr ydych wedi'i ddysgu hyd yn hyn?

  • Rydw i'n mynd i stopio

  • Mae'n bwysig oherwydd …

Er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, bydd angen i mi …

Parhau

Beth ydych yn mynd i ddal ati i'w wneud o ganlyniad i rywbeth yr ydych wedi'i ddysgu hyd yn hyn?

  • Rydw i'n mynd i barhau

  • Mae'n bwysig oherwydd …

Er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, bydd angen i mi …

Newid

Beth ydych yn mynd i'w wneud yn wahanol o ganlyniad i rywbeth yr ydych wedi'i ddysgu hyd yn hyn?

  • Rydw i'n mynd i newid

  • Mae'n bwysig oherwydd …

Er mwyn gwneud i hyn ddigwydd, bydd angen i mi …

Ymchwil a darllen

📚 Visible Learning – John Hattie (2008) ISBN: 8601404531293

🌐 https://visible-learning.org/

📚 Embedded Formative Assessment: (Strategies for Classroom Assessment That Drives Student Engagement and Learning) – Dylan William (2017) ISBN: 193400930X

🌐 https://www.dylanwiliam.org/Dylan_Wiliams_website/Welcome.html

📚 Priestley M, Biesta GJJ and Robinson S (2015) Teacher Agency: An Ecological Approach. London: Bloomsbury Academic. ISBN-10: 1474297366

📚 Assessment for Learning Without Limits – Alison Peacock (2016) ISBN-10: 0335261361

🌐 https://learningwithoutlimits.educ.cam.ac.uk/

📚 The Yes Brain Child: How to Cultivate Resilience, Encourage Curiosity, and Inspire Passion and Purpose in Your Child's Life – Dan Siegel (2018) ISBN-10: 1471167879

🌐 https://www.drdansiegel.com/

📚 This Much I Know about Love Over Fear … Creating a Culture for Truly Great Teaching – John Tomsett (2015) ISBN-10: 1845909828

📚 In Search of Deeper Learning – Jal Mehta and Sarah Fine (2019) ISBN-10: 0674988396

📚 The Learning Rainforest: Great Teaching in Real Classrooms – Tom Sherrington (2017) ISBN-10: 1911382357

📚 Rebuilding Our Schools from the Bottom Up: Listening to Teachers, Children and Parents – Fiona Carnie (2018) ISBN-10: 1138211885