"Weithiau, ni allwn daro'r hoelen ar ei phen, a hynny am fod pob un o'n bysedd wedi'u lapio o amgylch swp o bethau eraill nad ydynt yn bwysig."
"Sometimes we can't quite put our finger on something because we've got all of our fingers wrapped around a bunch of other things that are not important."
Craig D. Lounsbrough
Cyflwyniad
Mae Cwricwlwm i Gymru yn ymgorffori’r rhagdybiaeth fod cwricwlwm tra effeithiol yn cydnabod na all cwricwlwm, addysgeg ac asesu fodoli’n annibynnol o'i gilydd. Felly, mae’n dilyn bod yn rhaid ystyried addysgeg ac asesu fel rhan annatod o'r gwaith o gynllunio cwricwlwm yr ysgol.
Mae arfer asesu effeithiol yn hanfodol i’r broses ddysgu, gan alluogi pob dysgwr i wneud cynnydd. Diben asesu yn fframwaith Cwricwlwm i Gymru yw, yn ei hanfod, i gefnogi cynnydd tuag at y pedwar diben. Bydd yn ofynnol i ysgolion a lleoliadau sicrhau bod ymarferwyr yn datblygu cyd-ddealltwriaeth o beth yw cynnydd, ar draws y lleoliad, er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio ar gyfer dysgu. Dylai ysgolion ganiatâu i’w hunain i beidio ag ymymryd ag unrhyw arferion asesu nad ydynt yn cyfrannu at hyn.
Gyda chymorth a her priodol, bydd dysgwyr nid yn unig yn gwneud cynnydd, ond hefyd yn dysgu adnabod eu cyflawniadau unigol a nodi eu camau nesaf o ran dysgu’n annibynnol. Mae Cwricwlwm i Gymru yn gosod ffocws yr asesu mewn ysgolion ar asesu ffurfiannol, sy’n digwydd tra bo’r dysgu’n digwydd ac sy’n rhoi ystyriaeth i’r plentyn cyfan – eu gwybodaeth, eu sgiliau, eu profiadau, eu hagweddau, eu gwerthoedd a’u llesiant.
Bellach mae gan ysgolion yr awdurdod i gynllunio cwricwlwm ar gyfer eu cyd-destun nhw ac anghenion unigol eu dysgwyr nhw, gan gynnwys y dysgwyr yn llawn yn y broses ar yr un pryd. Disgrifiodd yr Athro Louise Hayward y diwygio fel 'symud diwylliant yr ysgol o fesur i fwydo'. Felly, dylai profiadau dysgu ganolbwyntio ar 'dwf', gan sicrhau bod yna gyfle ar gyfer ehangder a dyfnder dysgu sy'n galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ar eu cyflymder eu hunain er mwyn cyflawni eu gwir botensial.
Yn bwysig, ni ddylai’r asesu:
gael ei ddefnyddio i lunio barn unwaith ac am byth ar oedran penodol neu adeg benodol
gael ei ddefnyddio i ddibenion atebolrwydd allanol
arwain at fatricsau ar gyfer asesu’r pedwar diben neu’r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig
gael ei gyfyngu i ‘ddata’ – dysgu ei hun yw’r dystiolaeth.
Trawsnewid Asesu a Chynnydd
Wrth gynllunio’r daith i ddiwygio, mae’r pwyslais i ysgolion ar ddechrau o’r pedwar diben ac archwilio’r hyn y maent yn ei olygu ar gyfer yr holl ddysgwyr ym mhob agwedd ar y cynllun, ac yna neilltuo amser i ddatblygu syniadau am bob agwedd ar bob cam. Mae hyn yn golygu na ddylai ysgolion:
symud yn rhy gyflym tuag at weithredu
ddefnyddio dulliau neu dystiolaeth arwynebol i gwmpasu’r dibenion
ôl-gymhwyso arfer cyfredol i fodloni gofynion Cwricwlwm i Gymru
geisio cyfateb pob disgrifiad o’r dysgu i gynlluniau sy’n bodoli, ac yna cynllunio’r cynnwys i ffitio’r bylchau canfyddedig
fuddsoddi mewn cynigion cwricwlwm ac asesu parod ‘oddi ar y silff’
ystyried y broses o gynllunio’r cwricwlwm yn ddigwyddiad ‘unwaith ac am byth’
asesu’n uniongyrchol yn unol â’r disgrifiadau o’r dysgu
"Rydym yn dechrau trwy geisio sicrhau bod y pethau pwysig yn fesuradwy, ac yn diweddu trwy sicrhau bod y mesuradwy yn bwysig."
"We start out by wanting to make the important things measurable, and end up making the measurable important."
Dienw
Beth yw’r prif newidiadau?
Asesu Ffurfiannol
Mae'r pwyslais 'nawr ar asesu ffurfiannol – mae dulliau asesu sy'n symud y dysgu yn ei flaen yn cael blaenoriaeth dros ddulliau asesu sy'n barnu cyrhaeddiad.
"Mae ymarfer ffurfiannol, yn bartneriaeth fyfyriol rhwng yr athro a'r dysgwr, sy'n arwain ac yn llywio'r addysgeg ac sy'n symud dysgwyr ymlaen ... o ran deall a defnyddio'r wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau y mae eu hangen i wella eu dysgu eu hunain ... wedi'i gynyddu i'r eithaf pan fydd athrawon yn gweld y dysgu trwy lygaid y myfyrwyr, a phan fydd myfyrwyr yn gweld y dysgu trwy eu llygaid eu hunain fel athrawon".
(Hattie and Yates 2014)
FfLlRh
Nid yw’r FfLlRh yn statudol mwyach o dan Cwricwlwm i Gymru. Bydd cynnydd y dysgwyr yn cael ei asesu ar draws y cwricwlwm, nid llythrennedd a rhifedd yn unig.
Bydd ysgolion yn datblygu ac yn gweithredu trefniadau asesu, mewn perthynas â’u cwricwlwm, sy’n asesu:
y cynnydd a wneir gan y dysgwyr
y camau nesaf yn eu cynnydd, ac
yr addysgu a’r dysgu y bydd eu hangen i sicrhau’r cynnydd hwnnw.
Diwedd Cyfnod
Nid oes deilliannau neu lefelau ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 na Chyfnod Allweddol 3. Yn lle hynny, bydd ysgolion yn gwneud eu trefniadau asesu eu hunain ar gyfer y dysgwyr, i’w hasesu trwy gydol y flwyddyn ar gyfer y continwwm dysgu o 3 i 16.
Trefniadau Adrodd
Dylai'r broses o adrodd i rieni fod yn broses werth chweil. Bydd yn rhaid i ysgolion ystyried sut y mae eu trefniadau adrodd yn cyfrannu at y broses asesu ffurfiannol a dysgu parhaus, gan gynnwys y rhieni yn y broses fel eu bod yn gallu cymryd rhan yn y gwaith o gefnogi cynnydd y dysgwyr. Gall ysgolion ddewis cyfathrebu trwy fwy nag un adroddiad neu ar fwy nag un achlysur yn ystod y flwyddyn os ydynt yn dymuno rhoi naws fwy cyfredol a chynhwysol i'r broses.
Cymedroli
Datblygu dealltwriaeth gytun o gynnydd tu fewn ac ar draws ysgolion.
Ni fydd ysgolion yn cwrdd mwyach i gytuno ar lefelau. Byddant yn cwrdd i ddatblygu dealltwriaeth o’r hyn y mae cynnydd yn ei olygu mewn ysgolion ac ar draws ysgolion, gan gynnwys disgwyliadau o ran pa mor gyflym y gall y dysgwyr, gan gynnwys dysgwyr ADY, wneud cynnydd.
Pontio
Bydd angen i’r trefniadau pontio sicrhau llif parhaus o ddysgu ar hyd y continwwm i gefnogi cynnydd y dysgwyr tuag at y pedwar diben. Dylai fod yna ffocws ar gyfathrebu’n effeithiol rhwng ymarferwyr, y dysgwyr a’u rhieni/gofalwyr, gan gefnogi’r holl ddysgwyr wrth iddynt symud rhwng grwpiau gwahanol, dosbarthiadau gwahanol, blynyddoedd gwahanol a lleoliadau gwahanol.
Egwyddorion Allweddol i Ysgolion
Bydd angen i ysgolion feddwl am natur ryng-gysylltiedig dysgu, addysgu ac asesu wrth greu eu cwricwlwm a chynllunio ar gyfer ei gyflwyno. Bydd hyn yn golygu cydweithio i ystyried y modd y bydd eu cynllun yn diwallu anghenion unigol y dysgwyr dros amser, wrth iddynt wneud cynnydd tuag at y pedwar diben. Dylai fod gan ymarferwyr yr awdurdod i ddefnyddio ystod eang o addysgeg effeithiol a phriodol, gan gynnwys y rhai sy’n cefnogi’r agweddau cymdeithasol ac emosiynol ar ddysgu. Dylai’r dulliau addysgu a ddewisir annog y dysgwyr i ysgwyddo cyfrifoldeb cynyddol am eu dysgu eu hunain, gan ddeall lle y maent, lle y mae angen iddynt fynd a sut i gyrraedd yno, a dylid cynnwys eu safbwyntiau wrth greu’r cwricwlwm ac wrth gynllunio eu profiadau dysgu.
Ymateb a Myfyrio
Ystyriwch y canlynol mewn perthynas â lle yr ydych ar hyn o bryd ar y daith tuag at ddiwygio:
a) fel unigolyn
b) fel ysgol.
Beth yw eich dealltwriaeth o’r berthynas rhyng-gysylltiedig rhwng dysgu, addysgu ac asesu?
Sut ydych chi’n cynllunio cyfleoedd ar gyfer dysgu yn seiliedig ar gryfderau, anghenion a dyheadau unigol y dysgwyr? I ba raddau ydych yn ystyried eu hanghenion cymdeithasol ac emosiynol? Pa rwystrau i ddysgu sy'n bodoli ar hyn o bryd a sut y mae'r rhain yn cael eu rheoli?
Beth yw eich anghenion dysgu proffesiynol mewn perthynas â dysgu, addysgu ac asesu? Beth yw'r ffordd orau o ddiwallu'r rhain ar hyn o bryd?
Sut a phryd ydych chi'n asesu dysgwyr a beth yw effaith eich arferion asesu ar ddysgu a chynnydd tuag at y pedwar diben?
Sut ydych yn sicrhau bod pob dysgwr yn gwybod beth y mae’n ei ddysgu, a pham? Pa mor dda y maent yn deall eu cynnydd eu hunain, i ble y mae angen iddynt fynd nesaf, a beth y mae’n ofynnol iddynt ei wneud i gyrraedd yno?
Sut y gwyddoch fod eich dysgwyr yn meithrin hyder ac annibyniaeth wrth wneud cynnydd tuag at y pedwar diben?
Sut ydych yn cefnogi cyfathrebu effeithiol a rheolaidd â rhieni a gofalwyr i gefnogi cynnydd y dysgwyr? Sut y mae hyn yn digwydd yn achos teuluoedd nad oes ganddynt fynediad digidol?
I ba raddau ydych chi'n cydweithio gydag ysgolion eraill i ddatblygu dysgu, addysgu ac asesu? A chyda gweithwyr proffesiynol eraill i ddatblygu dysgu, addysgu ac asesu ar gyfer dysgwyr ag ADY?
"Mae afonydd yn gwybod hyn: does dim brys. Fe gyrhaeddwn ni ryw ddydd."
"Rivers know this: there is no hurry. We shall get there some day."
A.A. Milne Winnie the Pooh
Sut y mae newid yn digwydd?
Mae’n anochel bod diwygio’r cwricwlwm yn golygu newid, ond, weithiau, nid ydym yn treulio digon o amser yn ystyried sut i reoli newid. Dyma rai pethau y dylech eu cadw mewn cof cyn ymgymryd ag unrhyw newid sylweddol i’r broses asesu yn amgylchedd eich ysgol. Efallai y bydd angen gofyn cwestiynau ychwanegol wrth i ni barhau i weithio mewn modd 'cyfunol' dros y misoedd i ddod.
Sut y mae newid yn digwydd yn eich ysgol?
Pwy sy’n rhan o’r broses?
Pa ddulliau newid a ddefnyddir?
Sut yr ydym yn cysoni asesu â dysgu dwfn ac ystyrlon?
Beth yw hyn yn ymarferol?
Sut y gallwn ddysgu gan eraill?
Sut y mae arferion asesu cyfredol yn cymharu â’r athroniaeth sy’n sail i’r Canllawiau Asesu a Chynnydd?
"Mae pob plentyn yn arlunydd nes iddo gael gwybod nad yw'n arlunydd".
"Every child is an artist until he is told he is not an artist".
John Lennon
Dylai asesu fod:
yn rhesymol
yn bwrpasol
yn effeithiol
yn rhan annatod o’r dysgu
yn gadarnhaol
ar gyfer y dysgwr
Ymateb a Myfyrio - Polisi ac Arferion Asesu
I ba raddau y mae asesu yn eich ysgol neu ystafell ddosbarth:
yn gylchol
yn organig
yn gysylltiedig â llwyddiant
yn ansoddol
yn fyfyriol
wedi’i yrru gan barodrwydd
yn gysylltiedig ag ymgysylltu
yn llinol
wedi’i gynllunio ymlaen llaw
yn gysylltiedig â methiant
yn feintiol
yn grynodol
yn cael ei lywio gan oedran
yn gysylltiedig â chynnwys neu gynlluniau
Ymateb a Myfyrio - Adolygiad o Asesu ar gyfer Dysgu
Yn y dasg hon, cewch eich annog i gymharu eich arferion asesu â’r rhestr o arferion effeithiol yng ngholofn dde'r tabl. Gwnewch gynrychioliad gweledol trwy lunio graddfa pum pwynt ar gyfer pob arfer. Os byddwch yn cyflawni'r dasg hon mewn grŵp neu fel ysgol, gallai pob cyfranogwr roi sgôr i ddynodi lle mae'r ysgol, yn ei farn ef, ar y raddfa o 0-5 er enghraifft, gyda 0 yn cynrychioli model sy'n cydymffurfio'n llwyr a 5 yn cynrychioli model sy'n llywio'r dysgu yn llwyr. Yna, mae’n bosibl y byddech am drafod pa arferion y mae angen eu gwella, a chynllunio’r camau nesaf.
Cliciwch ar y saeth i ehangu.
Dylai pob asesiad lywio’r dysgu a’r addysgu. Mae Cwricwlwm i Gymru yn caniatáu i ysgolion roi’r gorau i unrhyw arferion nad ydynt yn cyfrannu at hyn.
Ymateb a Myfyrio - Dysgu, Addysgu ac Asesu
Mae unrhyw achos o bontio i gwricwlwm newydd yn gofyn am arweinyddiaeth a dysgu proffesiynol.
Ystyriwch y rhestr gyferbyn.
Pwy sy'n gyfrifol am bob un o'r elfennau hyn yn yr ysgol a sut y maent yn cyd-fynd â'r safonau proffesiynol ar gyfer arweinwyr, athrawon a chynorthwywyr addysgu? A oes gan aelodau eraill o gymuned yr ysgol, fel llywodraethwyr, rôl?
Pa ran sydd gan y dysgwyr i'w chwarae wrth ddatblygu'r elfennau hyn?
A oes yna unrhyw bwyntiau i'w hychwanegu at y rhestr?
Datblygu diwylliant dysgu
Pedwar diben
Asesu ffurfiannol
Cwestiynu medrus
Ymgysylltu gweithredol
Herio
Cynllunio myfyriol
Deall cynnydd
Pontio
Hunanreoli
Gwydnwch
Annibyniaeth
Dysgu gweladwy
Cyd-destun yr ysgol gyfan
Arloesi a chymryd risg
Y camau nesaf a chymorth
Atgyfnerthu
Anghenion unigol
Deall grwpiau
Cynhwysiant a thegwch
Hanfod – sut a pham
Ethos a'r amgylchedd
Adborth
Cyd-ddealltwriaeth o gynnydd
Ehangder a dyfnder
Profiadau dysgu owrpasol
Amser
Lles
Egwyddorion cynnydd
Cynllunio'r cwricwlwm
Gwybodaeth, sgiliau a phrofiad
Sgiliau cyfannol