Yn ogystal â’r digwyddiadau sydd ar gael drwy’r cynnig dysgu proffesiynol, a nodir isod, gall ymgynghorwyr Partneriaeth gynnig cymorth uniongyrchol i’ch helpu i gyflawni’ch blaenoriaethau penodol. Cysylltwch â Heulwen i drafod anghenion cymorth penodol:
Heulwen: heulwen.lloyd@partneriaeth.cymru
Y Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu Newydd
Cynulleidfa Darged: Mae’r Rhaglen Ymsefydlu hon yn un ar gyfer unigolion sydd newydd gael eu penodi i rôl Cynorthwyydd Addysgu â gwybodaeth ddatblygol am eu rôl a’u cyfrifoldebau, a dealltwriaeth yn hynny o beth.
Mae hon yn rhaglen genedlaethol a gyflwynir trwy ddysgu o bell ar lwyfan digidol ac a ategir gan weithgareddau rhyngweithiol. Gellir ymgymryd â’r hyfforddiant ar adeg sy’n gyfleus i’r cynorthwywyr addysgu a’u lleoliad.
Cefnogi Cynorthwywyr Addysgu newydd i feithrin gwell dealltwriaeth o’r lleoliad addysgol y maent yn gweithio ynddo a’u cyfrifoldebau yn rôl gweithiwr proffesiynol ym myd addysg Gymraeg. Bydd unigolion yn datblygu’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol i fod yn gynorthwyydd addysgu llwyddiannus yn eu lleoliad.
Manylion y Digwyddiad:
Darperir yr holl weithgareddau yr ymgymerir â nhw yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog.
Bydd yn cynnwys cyfuniad o weithgareddau, astudiaeth hunangyfeiriedig, cymorth ar-lein a gweminarau, a bydd yr elfennau hyn yn cwmpasu’r canlynol:
Cyd-destun Addysg Gymraeg – fy rôl a’m cyfrifoldebau.
Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
Cwricwlwm i Gymru a fframweithiau ategol.
Addysgeg datblygu fy nghrefft i gefnogi dysgwyr.
Heulwen Lloyd
Arweinydd Prosiect – Dysgu Proffesiynol Cynorthwywyr Addysgu
heulwen.lloyd@partneriaeth.cymru
Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu wrth eu Gwaith
Cynulleidfa Darged: Ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu sydd wedi bod yn eu swydd ers dwy flynedd neu ragor.
Rhaglen genedlaethol ar gyfer Cynorthwywyr Addysgu a fyddai’n croesawu diweddariad ar gyd-destun newidiol y proffesiwn. Mae hwn ar gael i bob ysgol a lleoliad, gyda’r gweithgareddau’n cael eu cyflwyno yn Gymraeg, yn Saesneg neu’n ddwyieithog. Cyfuniad o weithgareddau, astudiaethau hunangyfeiriedig, cymorth, myfyrdod a rhwydweithio.
Meithrin ymwybyddiaeth o’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu, y strategaethau perthnasol cyfredol i gefnogi ymarfer, ac amrywiaeth o syniadau a strategaethau i ysbrydoli proffesiynoldeb yn ôl yn yr ysgol.
Annog y broses o sefydlu a gwella Rhwydweithiau proffesiynol a chydweithrediad ymhlith cynorthwywyr addysgu mewn ysgolion a rhwng ysgolion.
Manylion y Digwyddiad:
Bydd y rhaglen genedlaethol hon yn cael ei darparu’n rhanbarthol gan Partneriaeth. Rhaglen wyneb yn wyneb deuddydd o hyd, neu bedair sesiwn ar-lein dwy awr o hyd.
Bydd y pedwar modiwl yn archwilio:
1. Cyd-destun Addysg Gymraeg – fy nghyfrifoldebau yn fy rôl o fod yn weithiwr proffesiynol ym maes addysg Gymraeg
2. Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu
3. Cwricwlwm i Gymru a fframweithiau cynorthwyol
4. Addysgeg datblygu fy nghrefft i gefnogi dysgwyr.
Bydd y rhaglen hon hefyd yn cael ei chynnig dros bedwar sesiwn prynhawn ar-lein, Ionawr – Mawrth 2024.
Dolen i gofrestru: i ddilyn
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Heulwen Lloyd
Arweinydd Prosiect – Dysgu Proffesiynol Cynorthwywyr Addysgu
heulwen.lloyd@partneriaeth.cymru
Cylch 12 y Rhaglen Ddatblygu Genedlaethol ar gyfer Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch
Cynulleidfa Darged: Bwriad y Rhaglen hon ar gyfer Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch yw cefnogi’r Cynorthwywyr Addysgu mwyaf profiadol sy’n dymuno datblygu eu sgiliau ymhellach, a nodi eu parodrwydd ar gyfer y rhaglen asesu Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch.
Ceir mynediad i’r rhaglen trwy broses ymgeisio genedlaethol a chaiff ei gydlynu gan gonsortia rhanbarthol, sy'n defnyddio ystod o bartneriaid hwyluso, mewn cydweithrediad ag Awdurdodau Lleol. Bydd y rhaglen ddatblygu hon yn cynnwys pedwar modiwl:
Modiwl 1 Dysgu Proffesiynol, Cyd-destun Cenedlaethol a Chydweithio
Modiwl 2 Dylanwadu ar Ddysgu, Mireinio Addysgu a Chydweithio
Modiwl 3 Hybu’r Dysgu a Chydweithio
Modiwl 4 Arweinyddiaeth, Arloesi a Chydweithio
Gofynnir i ymgeiswyr gwblhau tasgau ysgrifenedig byr, gan roi darlun cyflawn o’u gwaith wrth iddynt arddangos elfennau o’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
Mae’r tasgau hyn a elwir yn Fyfyrdodau Dysgu Proffesiynol yn cael eu cofnodi trwy gydol y rhaglen, a’u cyflwyno ar ôl y sesiwn olaf i gefnogi’r rhaglen asesu Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch.
Er mwyn bod yn gymwys am y Rhaglen ar gyfer Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, rhaid i ymgeiswyr:
Feddu ar brofiad digonol a sgiliau arbenigol i amlygu tystiolaeth o arfer hynod effeithiol parhaus yn unol â’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
Meddu ar gymwysterau lefel 2 gofynnol*, neu fod yn barod i’w hennill. (Gall ymgeiswyr heb gymwysterau Lefel 2 wneud cais am y rhaglen hon ond rhaid iddynt gyrraedd Lefel 2 cyn yr asesiad).
Meddu ar rywfaint o brofiad o arwain y dysgu ar gyfer dosbarthiadau cyfan. Mae’n bosibl y bydd Cynorthwywyr Addysgu sydd â phrofiad cyfyngedig o hyn yn gweld bod modd trefnu digon o gyfleoedd i addysgu dosbarthiadau o fewn amserlen y rhaglen. Gofynnir i benaethiaid gadarnhau bod ymgeiswyr wedi cael neu y byddant yn cael y cyfleoedd hyn.
Cael cefnogaeth lawn eu Pennaeth, y bydd gofyn iddo gymeradwyo’r cais.
Manylion y Digwyddiad:
Bydd y rhaglen yn rhedeg o fis Ionawr 2026 i dymor yr hydref 2026, ac mae’r dyddiadau penodol i’w cadarnhau. Bydd cyflwyno'r rhaglen yn gyfuniad o astudio hunangyfeiriedig, cefnogaeth ar-lein a gweminarau. Bydd y gweminarau wedi'u cynllunio i fynd i'r afael ag agweddau craidd ar y rhaglen ac i ddelio â chwestiynau. Ni fydd pob gweminar yn para mwy na dwy awr a bydd yn digwydd yn ystod y diwrnod ysgol. Bydd angen i ysgolion ryddhau ymgeiswyr o'u cyfrifoldebau am yr amseroedd hyn, yn yr un modd ag y byddent pe bai ymgeisydd yn mynychu cwrs wyneb i wyneb.
Dolen gofrestru:
https://forms.office.com/e/MUQpp9Pidm
Heulwen Lloyd
Arweinydd Prosiect – Dysgu Proffesiynol Cynorthwywyr Addysgu
heulwen.lloyd@partneriaeth.cymru
Rhaglen Genedlaethol i Hyfforddi Aseswyr Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch
Cynulleidfa Darged: Y rhai sydd â phrofiad amlwg o weithio’n effeithiol gyda chynorthwywyr addysgu: Uwch- arweinydd, Athro, cynorthwyydd addysgu profiadol sydd wedi ennill Statws CALU neu rôl yn eich Consortia rhanbarthol.
Mae’r Consortia Gwella Ysgolion Rhanbarthol yn chwilio am ymarferwyr i ymuno â’r tîm sy’n ymwneud â’r Rhaglen Asesu Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch (CALU) ar ran Llywodraeth Cymru.
O fod yn asesydd, bydd gofyn i chi gynnal asesiadau mewn ysgolion ledled eich rhanbarth o ymgeiswyr sydd wedi cwblhau’r Rhaglen ar gyfer Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, ac sy’n symud ymlaen i gael eu hasesu.
I fod yn gymwys i ymgymryd â rôl asesydd ar gyfer Darpar Gynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, bydd angen i chi:
Feddu ar ddealltwriaeth o rôl Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch.
Bod yn gyfarwydd â’r Safonau Proffesiynol ar gyfer Cynorthwyo Addysgu.
Bod yn uwch-arweinydd neu’n athro â phrofiad amlwg o weithio’n effeithiol gyda chynorthwywyr addysgu NEU
Fod â rôl yn eich Consortia rhanbarthol neu fod yn gynorthwyydd addysgu profiadol sydd â statws CALU.
Rhaid i chi hefyd:
Feddu ar sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig da, gan gynnwys lefel o gymhwysedd i allu cwblhau’r asesiad yn ddigidol.
Cael cymeradwyaeth eich Pennaeth/Rheolwr Llinell, a’r Corff Llywodraethu lle bo’n berthnasol.
Mae’r gallu i gynnig darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol.
Manylion y Digwyddiad:
Er mwyn cyflawni’r rôl hon, byddai angen i aseswyr ymrwymo i’r canlynol:
Hyfforddiant Cenedlaethol ar gyfer aseswyr newydd yn unig (3 sesiwn hanner diwrnod ar-lein)
Hyfforddiant Diweddaru rhanbarthol (sesiwn hanner diwrnod ar-lein)
O leiaf 2 asesiad
Presenoldeb yn y sesiwn gymedroli ranbarthol (hanner diwrnod)
Ymrwymo i gymryd rhan yn Rhaglen Asesu Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch ar gyfer 2024-25 a 2025-2026.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Heulwen Lloyd
Arweinydd Prosiect – Dysgu Proffesiynol Cynorthwywyr Addysgu
heulwen.lloyd@partneriaeth.cymru