Yn ogystal â’r digwyddiadau sydd ar gael drwy’r cynnig dysgu proffesiynol, a nodir isod, gall ymgynghorwyr Partneriaeth gynnig cymorth uniongyrchol i’ch helpu i gyflawni’ch blaenoriaethau penodol. Gweler yr adran Cymorth Pwrpasol isod, am enghreifftiau o’r math o gymorth sydd ar gael. Cysylltwch â Jo neu Kate i drafod anghenion cymorth penodol:
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr canol uwchradd
Mae’r rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y canlynol:
Addysgu a dysgu – rhannu addysgeg pwnc-benodol, adnoddau ac enghreifftiau gan ysgolion eraill i gefnogi arweinwyr canol i ysgogi gwelliannau yn eu hadrannau eu hunain
Cwricwlwm – elfennau gorfodol Cwricwlwm i Gymru a darparu arweiniad ymarferol ar sut y gall arweinwyr canol weithredu’r negeseuon hyn yn effeithiol i gefnogi athrawon yn eu hadrannau
Cymwysterau – diweddariadau gan Cymwysterau Cymru a chyfresi arholiadau TGAU penodol CBAC. Cyfleoedd i drafod diwygiadau ehangach i gymwysterau
Arweinyddiaeth – cefnogi arweinwyr canol i gyflawni eu rolau yn effeithiol, gan roi sylw i brosesau sicrhau ansawdd, hunanwerthuso, gweinyddu TGAU a Safon Uwch a chynllunio gwelliant
Bydd gan bawb ddealltwriaeth well o rôl yr arweinydd canol o ran sicrhau ac ysgogi gwelliant yn eu meysydd cyfrifoldeb
Bydd gan bob arweinydd canol ddealltwriaeth well o’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm a chymwysterau
Bydd pob arweinydd canol yn trafod ac yn clywed enghreifftiau o strategaethau addysgu a dysgu cyfredol ac effeithiol sy’n briodol i’w pynciau
Bydd pob arweinydd canol yn cael cyfle i rannu a chlywed enghreifftiau o arfer effeithiol mewn perthynas â naill ai arweinyddiaeth ganol, addysgu a dysgu neu ddiwygio’r cwricwlwm/cymwysterau
Cyswllt- Joanne.Hudson-Williams@partneriaeth.cymru
Manylion y Digwyddiad:
Penaethiaid Mathemateg – Sir Benfro a Sir Gâr
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
09:30 – 14:30
23/09/2025 - Registration link: https://forms.gle/C6YbGM3XkUARMBsDA
02/02/2026 - Registration link: https://forms.gle/2ixW6qWkuYynZ3X7A
01/07/2026 - Registration link: https://forms.gle/j5CLU3E87dXXoFBk9
Penaethiaid Mathemateg – Abertawe
Egwlys Gymunedol Glannau, Abertawe SA1 8QY
09:30 – 14:30
22/09/2025 - Registration link: https://forms.gle/NQyS2Ejv1TJkhBmY9
30/01/2026 - Registration link: https://forms.gle/5wXSfc6U7DS5EroZ9
26/06/2026 - Registration link: https://forms.gle/jghAaYDcEFG6u5xE7
Mae sgìl trawsgwricwlaidd gorfodol rhifedd yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu cael mynediad i ehangder cwricwlwm ysgol a’r cyfoeth o gyfleoedd y mae’n eu cynnig, gan roi’r sgiliau gydol oes iddyn nhw er mwyn gwireddu’r pedwar diben.
Mae rhifedd yn chwarae rhan hollbwysig yn ein bywydau bob dydd, ac yn iechyd economaidd y genedl. Mae’n hollbwysig, felly, bod profiadau mathemateg a rhifedd mor ddifyr, cyffrous a hygyrch â phosibl i ddysgwyr, a bod y profiadau hyn wedi’u hanelu at sicrhau bod dysgwyr yn datblygu gwydnwch mathemategol.
Bydd y cyfle dysgu proffesiynol hwn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr rhifedd uwchradd wneud y canlynol:
Datblygu sgiliau arwain trwy archwilio strategaethau ar gyfer arwain, monitro a gwerthuso
Dyfnhau eu dealltwriaeth o ffyrdd o wella rhifedd ar draws y cwricwlwm
Cydweithio ag arweinwyr rhifedd eraill trwy rwydweithio
Rhannu arferion da
Archwilio cynnydd mewn rhifedd sy’n galluogi dysgwyr i wneud cynnydd tuag at y pedwar diben
Jo Hudson-Williams, Tom Basher, Kate Andrews
Manylion y Digwyddiad:
Diwrnod 1:
29/09/2025
09:30 – 15:00
Neuadd Y Gwendraeth, Drefach, Llanelli SA14 7AG
https://forms.gle/cwNjkXcTY63WesHP8
Diwrnod 2:
29/06/2026
09:30 – 15:00
Neuadd Y Gwendraeth, Drefach, Llanelli SA14 7AG
https://forms.gle/RiyJpDMNU6FtYDaP9
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr Mathemateg a Rhifedd mewn ysgolion a lleoliadau cynradd.
Bydd y rhwydwaith Arweinwyr Mathemateg a Rhifedd Cynradd tymhorol yn rhoi cyfle i bawb rannu, trafod a gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o Fathemateg a Rhifedd yn ogystal â’r sgiliau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd y MDaPh yma yn eu hysgolion. Bydd ymarferwyr yn datblygu gwybodaeth addysgegol sy’n cefnogi’r broses o ddarparu Mathemateg a Rhifedd mewn modd effeithiol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd.
Bydd y rhai sy’n bresennol yn ymgysylltu â Mathemateg a Rhifedd a bydd ganddynt ddealltwriaeth well ohonynt er mwyn cynllunio eu cwricwlwm lleol.
Bydd gan y rhai sy’n bresennol ddealltwriaeth ddyfnach o gynnydd trwy'r pum hyfedredd
Bydd y rhai sy’n bresennol yn datblygu gwybodaeth addysgegol er mwyn cefnogi proses effeithiol o gynllunio a gweithredu
Bydd y rhai sy’n bresennol yn datblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i ddod yn arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad adfyfyriol er mwyn monitro a gwerthuso yn effeithiol
Bydd y rhai sy’n bresennol yn penderfynu ar gynnwys y rhwydweithiau tymhorol ac yn cael cyfleoedd i rannu eu profiadau o ran Cwricwlwm i Gymru.
Manylion y Digwyddiad:
Mynychwch y rhwydwaith ar gyfer eich Awdurdod Lleol os gwelwch yn dda
Rhwydwaith Arweinwyr Cynradd - Ysgolion Cynradd Abertawe
09:15 – 15:15
Eglwys Gymunedol Glannau, Abertawe SA1 8QY
07/11/2025 - Registration link: https://forms.gle/37DApmpNc2Nh2Kxp8
09/03/2026 - Registration link: https://forms.gle/AX3NxW7ViViqpnXp7
22/06/2026 - Registration link: https://forms.gle/jSiJ7Qg82WS9aP7z8
Rhwydwaith Arweinwyr Cynradd - Ysgolion Cynradd Sir Gâr
09:15 – 15:15
Neuadd y Gwendraeth, Drefach, Llanelli SA14 7AG
17/09/2025 - Registration link: here
26/02/2026 - Registration link: here
04/06/2026 - Registration link: here
Rhwydwaith Arweinwyr Cynradd - Ysgolion Cynradd Sir Benfro
09:15 – 15:15
Ystafell 6, Archifdy Sir Benfro, Hwlffordd SA61 2PE
15/10/2025 - Registration link: https://forms.gle/ixw33NDKg6eVbr1H7
18/03/2026 - Registration link: https://forms.gle/hsq9o6vRGyPiHkVcA
25/06/2026 - Registration link: https://forms.gle/81kzKbrGDXYx6nSW7
Ymunwch â ni am ddiwrnod cydweithredol ac ymarferol o ddysgu proffesiynol, sy’n canolbwyntio ar gymhwyster TGAU Mathemateg newydd CBAC. Mae’r sesiwn ddysgu broffesiynol hon wedi’i chynllunio ar gyfer arweinyddion mathemateg ac ymarferwyr ystafell ddosbarth, sydd am wella eu dealltwriaeth o’r fanyleb ddiwygiedig a pharatoi’n effeithiol ar gyfer ei gweithredu’n llwyddiannus.
Bydd y diwrnod yn cynnig cyfleoedd i archwilio’r newidiadau allweddol i’r cymhwyster, rhannu arferion gorau, a gweithio gyda’n gilydd ar adnoddau ystyrlon sy’n cyd-fynd â model asesu CBAC a Chwricwlwm i Gymru. Bydd y rhai sy’n mynychu yn cymryd rhan mewn deialog broffesiynol ynghylch dulliau addysgu effeithiol, cynllunio dilyniant, a sut i sicrhau bod disgyblion yn barod i fodloni gofynion y TGAU newydd.
Mae cydweithio wrth wraidd y dydd. Bydd cynrychiolwyr yn cymryd rhan mewn creu adnoddau, datblygu cynlluniau gwaith, a chanolbwyntio ar rwydweithio i feithrin cysylltiadau ar draws ysgolion. P’un a ydych chi am fireinio’ch cyflwyniad, gwella cysondeb, neu glywed sut mae eraill yn mynd ati i wneud newidiadau, dyma gyfle i fireinio arferion a chryfhau darpariaeth mathemateg a rhifedd, gan sicrhau bod dysgwyr wedi’u paratoi’n llawn i lwyddo yn arholiad TGAU newydd CBAC.
Manylion y Digwyddiad:
09/12/2025
09:30 – 14:30
Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/Q79E3kzP33Q1DyqM8
Cynulleidfa darged: Ymarferwyr o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 7
Mae canllawiau’r Cwricwlwm i Gymru yn nodi’n glir bod “dysgwyr yn dangos dealltwriaeth gysyniadol drwy allu esbonio a mynegi cysyniadau, dod o hyd i enghreifftiau (neu anenghreifftiau) a thrwy allu cynrychioli cysyniad mewn gwahanol ffyrdd, gan lifo rhwng gwahanol gynrychioliadau, gan gynnwys rhai diriaethol, gweledol, digidol a haniaethol”.
Bydd y gweithdy dysgu proffesiynol undydd hwn yn rhoi cyfle i ymarferwyr gydweithio ag eraill wrth iddynt archwilio’r dull addysgeg o ddefnyddio trinolion diriaethol ynghyd â chynrychioliadau gweledol a haniaethol i alluogi dilyniant mewn mathemateg trwy’r pum hyfedredd.
Yn ystod y gweithdy, bydd ymarferwyr yn cymryd rhan mewn tasgau ymarferol yn weithredol gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau diriaethol, gan gynnwys blociau Dienes system ddegol, Cuisenaire, cownteri, teils algebra ynghyd ag adnoddau bob dydd yn ogystal â chynrychioliadau gweledol, gan gynnwys modelu bariau a fframiau pump / deg.
Mae’r gweithdy wedi’i lunio i feithrin hyder ymarferwyr wrth ddefnyddio adnoddau diriaethol yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd y dull o symud o gynrychioliadau diriaethol i gynrychioliadau haniaethol wrth feithrin dysgwyr sy’n gallu rhesymu’n fathemategol yn hyderus a throsglwyddo eu dealltwriaeth wrth ddatrys problemau.
Manylion y Digwyddiad:
21/10/2025
09:30 – 15:30
Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/HrZmCDAxSJDs3LHw8
Cynulleidfa darged: Ymarferwyr o’r Dosbarth Derbyn i Flwyddyn 7
Mae’r datganiad Geometreg a Mesurau o’r hyn sy’n bwysig yn nodi bod “mesur yn golygu y gellir meintioli nodweddion gofodol a haniaethol, gan ddefnyddio amrywiaeth o unedau safonol ac ansafonol”.
Bydd y gweithdy undydd hwn yn archwilio’r gwahanol ddulliau mesur a ddefnyddir i fesur ein byd. Bydd ffocws ar hyd, màs, cyfaint ac amser, a fydd yn cynnwys:
Archwilio sefyllfaoedd lle defnyddir gwahanol unedau o hyd
Y gwahaniaeth rhwng cyfaint a chynhwysedd
Dwy agwedd ar amser
Rôl cymharu a threfnu fel sail ar gyfer mesur
Egwyddorion anghydraddoldebau, gan ddefnyddio’r arwyddion < a >
Unedau safonol ac ansafonol
Pwysigrwydd amcangyfrif a defnyddio eitemau cyfeirio i ddeall sut y bydd dysgwyr yn gwneud cynnydd wrth ddefnyddio a chymhwyso’r mesurau hyn o’r Feithrinfa i Flwyddyn 7
Bydd y gweithdy’n cynorthwyo ymarferwyr i ddatblygu eu gwybodaeth am y pwnc ac ystyried sut y gallai dysgwyr symud ymlaen trwy’r pum hyfedredd. Bydd y defnydd o gwestiynau effeithiol yn cael ei archwilio i graffu ar ddealltwriaeth gysyniadol dysgwyr o’r mesurau, a’i herio.
Mae’r gweithdy wedi’i gynllunio ar gyfer ymarferwyr o’r Meithrin i Flwyddyn 7, felly bydd yn cynnal mathemateg trwy’r cyfnod pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.
Bydd amrywiaeth o strategaethau’n cael eu hystyried gyda’r nod o feithrin agwedd gadarnhaol tuag at fathemateg sy’n galluogi pob dysgwr i ddatblygu i fod yn unigolion sy’n gallu meddwl mewn ffordd mathemategol yn hyderus.
Manylion y Digwyddiad:
09/02/2026
09:30 – 15:30
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/hhaJuCoNXSqnGyvZ8
Gall ein cynghorwyr ni weithio ochr yn ochr â’ch arweinwyr a’ch athrawon chi mewn amrywiaeth o weithgareddau pwrpasol i gynorthwyo’ch taith wella. Gellir cyflwyno sesiynau ar amser i ddiwallu eich anghenion chi, e.e. diwrnodau hyfforddiant mewn swydd, sesiynau ar ôl ysgol, ac ati.
Er enghraifft:
cymorth gyda phrosesau hunanwerthuso/adolygiadau adrannol a chymorth dilynol ar gyfer maes dysgu a phrofiad Mathemateg a Rhifedd
adolygiad rhifedd ysgol gyfan
deall dilyniant drwy’r pum hyfedredd, cynradd ac uwchradd
addysgu rhagorol mewn Mathemateg:
datblygu cwestiynu effeithiol mewn Mathemateg a Rhifedd
cyflwyno her i bob disgybl mewn Mathemateg a Rhifedd
creu dysgwyr annibynnol mewn Mathemateg a Rhifedd
datblygu dysgwyr hyderus a chryf mewn Mathemateg a Rhifedd
ymarfer Mathemateg ac adalwad
datblygu sgiliau rhifedd dilys ar draws y cwricwlwm
cymorth i athrawon unigol, athrawon anarbenigol ac athrawon newydd gymhwyso (e.e. gwybodaeth am bynciau, addysgeg pwnc)
cymorth adrannol/clwstwr sy’n canolbwyntio ar Fathemateg a Rhifedd
datblygu adnoddau
cymorth TGAU gan gynnwys cynllunio ac adnoddau
hyfforddiant defnyddio’r dull CPA (concrit, darluniadol, haniaethol) ar gyfer athrawon, athrawon anarbenigol, athrawon newydd gymhwyso a chynorthwywyr addysgu
datblygu synnwyr rhif yn gynnar ar gyfer ymarferwyr yng nghamau cynnydd 1 a 2