Yn ogystal â’r digwyddiadau sydd ar gael drwy’r cynnig dysgu proffesiynol, a nodir isod, gall ymgynghorwyr Partneriaeth gynnig cymorth uniongyrchol i’ch helpu i gyflawni’ch blaenoriaethau penodol. Gweler yr adran Cymorth Pwrpasol isod, am enghreifftiau o’r math o gymorth sydd ar gael. Cysylltwch â Lowri neu Dyfed i drafod anghenion cymorth penodol:
Lowri (Iaith Gyntaf): lowri.davies@partneriaeth.cymru
Dyfed (Ail Iaith): dyfed.williams@partneriaeth.cymru
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr canol uwchradd
Mae’r rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y canlynol:
Addysgu a dysgu – rhannu addysgeg pwnc-benodol, adnoddau ac enghreifftiau gan ysgolion eraill i gefnogi arweinwyr canol i ysgogi gwelliannau yn eu hadrannau eu hunain.
Cwricwlwm – elfennau gorfodol Cwricwlwm i Gymru a darparu arweiniad ymarferol ar sut y gall arweinwyr canol weithredu’r negeseuon hyn yn effeithiol i gefnogi athrawon yn eu hadrannau.
Cymwysterau – diweddariadau gan Cymwysterau Cymru a chyfresi arholiadau TGAU penodol CBAC. Cyfleoedd i drafod diwygiadau ehangach i gymwysterau.
Arweinyddiaeth – cefnogi arweinwyr canol i gyflawni eu rolau yn effeithiol, gan roi sylw i brosesau sicrhau ansawdd, hunanwerthuso, gweinyddu TGAU a Safon Uwch a chynllunio gwelliant.
Bydd gan bawb ddealltwriaeth well o rôl yr arweinydd canol o ran sicrhau ac ysgogi gwelliant yn eu meysydd cyfrifoldeb.
Bydd gan bob arweinydd canol ddealltwriaeth well o’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm a chymwysterau.
Bydd pob arweinydd canol yn trafod ac yn clywed enghreifftiau o strategaethau addysgu a dysgu cyfredol ac effeithiol sy’n briodol i’w pynciau.
Bydd pob arweinydd canol yn cael cyfle i rannu a chlywed enghreifftiau o arfer effeithiol mewn perthynas â naill ai arweinyddiaeth ganol, addysgu a dysgu neu ddiwygio’r cwricwlwm/cymwysterau.
Cyswllt - lowri.davies@partneriaeth.cymru
Manylion y Digwyddiad:
Penaethiaid Cymraeg Partneriaeth (mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a dwyieithog)
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
09.30 - 15.00
29/09/2025 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/mnn3wssipBGZemGo6
30/09/2025 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/qZXKSAEnkikRKJsJ9
27/01/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/ssoe14r5RrYxix316
28/01/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/TvMQvapfG9kzB19GA
29/06/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/mw74ZQy5FVVEe46C8
Ystafell Taf, Canolfan Halliwell, Caerfyrddin SA31 3EP
06/07/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/ioGq4uZAApVZFiQJA
Cynulleidfa darged: Arweinwyr Llythrennedd Ysgolion Uwchradd
Mae sgil trawsgwricwlaidd gorfodol llythrennedd yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu cyrchu gwybodaeth. Mae’n galluogi dysgwyr i gael mynediad at ehangder cwricwlwm ysgol a’r cyfoeth o gyfleoedd y mae’n ei gynnig, gan eu harfogi â’r sgiliau gydol oes i wireddu’r pedwar diben.
Mae llythrennedd yn ganolog i bob ystafell ddosbarth effeithiol ac mae’n chwarae rhan annatod wrth alluogi dysgwyr i ymgorffori’r pedwar diben a gwella eu cyfleoedd bywyd. Felly, mae angen rhwydwaith ar ysgolion Partneriaeth sy’n hwyluso’r gwaith o gydgysylltu ac ysgogi gwella llythrennedd ar draws ysgolion uwchradd.
Bydd y cyfle dysgu proffesiynol hwn yn rhoi strategaethau a syniadau i arweinwyr llythrennedd uwchradd i ddatblygu llythrennedd ar draws y cwricwlwm a gwella ansawdd addysgu llythrennedd.
Mae diwrnod un yn nhymor yr hydref yn cael ei gynnig drwy'r cynnig DP rhanbarthol ar Ysgrifennu i Bwrpas. Yn ystod tymor y gwanwyn bydd ymarferwyr yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd grwpiau bach ar-lein i gydweithio ac adolygu. Bydd cyfarfod wyneb yn wyneb yn nhymor yr haf. Bydd ymarferwyr ar draws y digwyddiadau yn cydweithio ag eraill, gan rannu arfer dda i sicrhau bod dysgwyr yn cael cyfleoedd perthnasol a phriodol mewn pynciau sy’n gyfoethog mewn llythrennedd.
Bydd pob arweinydd yn cael cyfle i rannu arfer effeithiol ynghylch strategaethau hybu llythrennedd o ansawdd uchel.
Bydd pob arweinydd yn cael y negeseuon diweddaraf am ddatblygiad llythrennedd effeithiol, a gaiff eu llywio gan ymchwil gyfredol a syniadau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd gan bob arweinydd ddealltwriaeth well o'u rolau wrth yrru a gwella llythrennedd yn eu lleoliadau.
Bydd pob arweinydd yn defnyddio'r adnoddau a'r negeseuon o'r cyfarfodydd hyn i wella ansawdd addysgu a dysgu llythrennedd yn eu lleoliadau.
Pan fydd yn briodol, bydd pob arweinydd yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosesau sicrhau ansawdd i fonitro ac arfarnu safonau llythrennedd a chynllunio ar gyfer gwelliannau.
Bydd pob arweinydd yn cael cyfleoedd i rwydweithio ag arweinwyr llythrennedd eraill ar draws rhanbarth Partneriaeth.
Manylion y Digwyddiad:
17 Mehefin 2026
09:30 – 15:30
Ystafell Gynadledda, Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
https://forms.gle/7US4xdykUTTa6YW88
Cynulleidfa Darged: Athrawon newydd gymhwyso, athrawon ar ddechrau eu gyrfa, athrawon anarbenigol, athrawon sy’n dychwelyd i addysgu’r pwnc.
Cefnogi blaenoriaethau’r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau dysgu ac addysgu rhagorol, a chefnogi ysgolion gyda datblygiad proffesiynol ar gyflwyno’r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd yr ymarferwyr yn datblygu dulliau effeithiol o addysgu agweddau ar ddarllen, ysgrifennu a llafaredd yn groyw yn Cwricwlwm i Gymru.
Bydd y cyfle dysgu proffesiynol hwn yn meithrin dealltwriaeth o sut i strwythuro gwers Gymraeg mewn modd effeithiol, gwella ansawdd y cwestiynu a’r asesu.
Bydd yr ymarferwyr yn gadael gydag amrywiaeth o strategaethau ymarferol ar gyfer yr ystafell ddosbarth i wella’r dysgu a’r addysgu.
Bydd yr ymarferwyr yn:
gadael gydag ystod o strategaethau i wella ymgysylltiad y dysgwyr, ynghyd â dulliau amrywiol i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd o ran llafar, darllen ac ysgrifennu.
datblygu hyder, sgiliau a strategaethau i gefnogi deilliannau gwell i ddysgwyr.
rhannu adnoddau a strategaethau yn adrannol.
myfyrio ar eu harfer.
cydweithio a rhwydweithio gydag athrawon Cymraeg newydd neu anarbenigol eraill ac arbenigwyr pwnc y rhanbarth.
Manylion y Digwyddiad:
Diwrnod 1 – Diwrnod o hyfforddiant
13/10/2025
09:30-15:00
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
https://forms.gle/bxKcLm34J9jLxEez8
Diwrnod 2 – Cyfle i roi’r hyfforddiant ar waith a myfyrio ar gynnydd personol
Tymor yr hydref/ gwanwyn – Ymweliad gan y swyddog pwnc i’r ysgol
Diwrnod 3 – Diwrnod o hyfforddiant
24/03/2026
09:30-15:00
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
https://forms.gle/aNLc6ySWNAyeXXG29
Cynulleidfa: Athrawon cynradd disgyblion hŷn ac athrawon uwchradd pob pwnc.
Mae’r hyfforddiant diwrnod cyfan yn addas ar gyfer unrhyw athro sydd am ddatblygu ei ddulliau addysgu ysgrifennu yn yr ystafell ddosbarth a chael mewnwelediad pellach a chyngor ymarferol ar sut i:
fodelu'n llwyddiannus
ymgorffori a defnyddio strategaethau ysgrifennu perthnasol yn eu dosbarth
gwella gwytnwch a chywirdeb iaith ysgrifenedig y dysgwyr
Bydd y sesiynau hyn yn cynnig cydbwysedd clir o theori, arfer ac enghreifftiau cyfredol o ysgolion ar draws rhanbarth Partneriaeth. Bydd yr hyfforddiant hwn yn cefnogi ysgolion i gwrdd â'r heriau o gydlynu datblygiad cynyddol sgiliau ysgrifennu ar draws gwahanol bynciau.
Manylion y Digwyddiad:
26.11.2025
09:30 – 15:30
Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr canol uwchradd
Mae’r rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y canlynol:
Addysgu a dysgu – rhannu addysgeg pwnc-benodol, adnoddau ac enghreifftiau gan ysgolion eraill i gefnogi arweinwyr canol i ysgogi gwelliannau yn eu hadrannau eu hunain.
Cwricwlwm – elfennau gorfodol Cwricwlwm i Gymru a darparu arweiniad ymarferol ar sut y gall arweinwyr canol weithredu’r negeseuon hyn yn effeithiol i gefnogi athrawon yn eu hadrannau.
Cymwysterau – diweddariadau gan Cymwysterau Cymru a chyfresi arholiadau TGAU penodol CBAC. Cyfleoedd i drafod diwygiadau ehangach i gymwysterau.
Arweinyddiaeth – cefnogi arweinwyr canol i gyflawni eu rolau yn effeithiol, gan roi sylw i brosesau sicrhau ansawdd, hunanwerthuso, gweinyddu TGAU a Safon Uwch a chynllunio gwelliant.
Bydd gan bawb ddealltwriaeth well o rôl yr arweinydd canol o ran sicrhau ac ysgogi gwelliant yn eu meysydd cyfrifoldeb.
Bydd gan bob arweinydd canol ddealltwriaeth well o’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm a chymwysterau.
Bydd pob arweinydd canol yn trafod ac yn clywed enghreifftiau o strategaethau addysgu a dysgu cyfredol ac effeithiol sy’n briodol i’w pynciau.
Bydd pob arweinydd canol yn cael cyfle i rannu a chlywed enghreifftiau o arfer effeithiol mewn perthynas â naill ai arweinyddiaeth ganol, addysgu a dysgu neu ddiwygio’r cwricwlwm/cymwysterau.
Cyswllt/Contact - dyfed.williams@partneriaeth.cymru
Manylion y Digwyddiad:
Penaethiaid Cymraeg Partneriaeth (mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog) - Abertawe
09:30 - 15:00
23/9/2025, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, Abertawe SA3 3JP - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/dN5mCnhvGuoKbmh89
21/01/2026, Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt, Abertawe SA3 3JP - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/WhzetoUEuQ97tYvv9
08/07/20, Egwlys Gymunedol Glannau, Abertawe SA1 8QY - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/6xkPm85pGfpdzsBk9
Penaethiaid Cymraeg Partneriaeth (mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwyieithog) - Sir Benfro a Sir Gâr
09:30 - 15:00
Y Llwyfan, College Road, Carmarthen SA31 3EQ
24/09/2025 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/J5EQUCDgUn3HcHnJ9
20/01/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/vbNdzTJe56A46nbv8
07/07/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/LSGkhEKhAAYW66Q26
Cynulleidfa Darged: Athrawon newydd gymhwyso, athrawon ar ddechrau eu gyrfa, athrawon anarbenigol, athrawon sy’n dychwelyd i addysgu’r pwnc.
Cefnogi blaenoriaethau’r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i sicrhau dysgu ac addysgu rhagorol, a chefnogi ysgolion gyda datblygiad proffesiynol ar gyflwyno’r Gymraeg yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd yr ymarferwyr yn datblygu dulliau effeithiol o addysgu agweddau ar ddarllen, ysgrifennu a llafaredd yn groyw yn Cwricwlwm i Gymru.
Bydd y cyfle dysgu proffesiynol hwn yn meithrin dealltwriaeth o sut i strwythuro gwers Gymraeg mewn modd effeithiol, gwella ansawdd y cwestiynu a’r asesu.
Bydd yr ymarferwyr yn gadael gydag amrywiaeth o strategaethau ymarferol ar gyfer yr ystafell ddosbarth i wella’r dysgu a’r addysgu.
Bydd yr ymarferwyr yn:
gadael gydag ystod o strategaethau i wella ymgysylltiad y dysgwyr, ynghyd â dulliau amrywiol i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i gefnogi dysgwyr i wneud cynnydd o ran llafar, darllen ac ysgrifennu.
datblygu hyder, sgiliau a strategaethau i gefnogi deilliannau gwell i ddysgwyr.
rhannu adnoddau a strategaethau yn adrannol.
myfyrio ar eu harfer.
cydweithio a rhwydweithio gydag athrawon Cymraeg newydd neu anarbenigol eraill ac arbenigwyr pwnc y rhanbarth.
Manylion y Digwyddiad:
Diwrnod 1 – Diwrnod o hyfforddiant
13/10/2025
09:30-15:00
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
https://forms.gle/bxKcLm34J9jLxEez8
Diwrnod 2 – Cyfle i roi’r hyfforddiant ar waith a myfyrio ar gynnydd personol
Tymor yr hydref/ gwanwyn – Ymweliad gan y swyddog pwnc i’r ysgol
Diwrnod 3 – Diwrnod o hyfforddiant
24/03/2026
09:30-15:00
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
https://forms.gle/aNLc6ySWNAyeXXG29
Cefnogi athrawon ac adrannau Cymraeg mewn ysgolion fydd yn cynnig Cymraeg Craidd a Chymraeg Craidd Ychwanegol.
Bydd y rhai sy'n mynychu yn gwella eu dealltwriaeth o ofynion y cwrs newydd gan gynnwys dealltwriaeth a syniadau ar sut i gyflwyno darnau darllen gan gynnwys darnau ffeithiol, proffiliau, cerddi a straeon byrion yn eu gwersi. Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar annog a hyfforddi dysgwyr i drafod yr hyn maent yn ei ddarllen ar lafar er mwyn gwella sgiliau cyfathrebu unigolion o bob gallu fel unigolion neu'n ran o grwp.
Bydd ymarferwyr yn gadael gyda llu o strategaethau ymarferol ar gyfer y dosbarth er mwyn gwella addysgu a dysgu.
Manylion y Digwyddiad:
10/11/2025
09:30–15:00
Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
https://forms.gle/BJYtQchRpPM5Zdrz7
Cyswllt/Contact - dyfed.williams@partneriaeth.cymru
Cynulleidfa Darged: Penaethiaid Adran ac Athrawon Cymraeg Craidd a Chymraeg Craidd Ychwanegol
Cefnogi athrawon ac adrannau Cymraeg mewn ysgolion fydd yn cynnig Cymraeg Craidd a Chymraeg Craidd Ychwanegol.
Bydd y rhai sy'n mynychu yn gwella eu dealltwriaeth o ofynion y cwrs newydd gan gynnwys dealltwriaeth a syniadau ar sut i ymgorffori llenyddiaeth yn eu gwersi yn ogystal a thrafod syniadau ar gyfer y dasg llafar grwp.
Bydd ymarferwyr yn gadael gyda llu o strategaethau ymarferol ar gyfer y dosbarth er mwyn gwella addysgu a dysgu.
Manylion y Digwyddiad
23/02/2026
09:30–15:00
Y Llwyfan, Ffordd y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
https://forms.gle/qgMRgy7sJ4Ez2JkG8
Cyswllt/Contact - dyfed.williams@partneriaeth.cymru
Gall ein ymgynghorwyr weithio ochr yn ochr â'ch arweinwyr ac athrawon mewn amrywiaeth o weithgareddau pwrpasol i gefnogi eich taith gwella. Gellir cyflwyno sesiynau ar amser i ddiwallu eich anghenion, e.e. diwrnodau hyfforddiant mewn swydd, sesiynau ar ôl ysgol, ac ati.
Er enghraifft:
Cefnogaeth gyda phrosesau hunanarfarnu / adolygiadau adrannol a chymorth dilynol ar gyfer yr adran Gymraeg.
Addysgu rhagorol yn y Gymraeg
Datblygu holi effeithiol yn y Gymraeg
Herio pob disgybl yn y Gymraeg
Adborth ysgrifenedig a llafar effeithiol yn y Gymraeg
Asesu ffurfiannol yn y Gymraeg
Llafaredd ar gyfer dysgu yn y Gymraeg
Datblygu sgiliau dilys yn y Gymraeg
Cefnogaeth i athrawon unigol, athrawon anarbenigol ac athrawon newydd gymhwyso
Cefnogaeth adrannol/clwstwr wedi'i ffocysu mewn darllen, ysgrifennu a llafaredd
Datblygu adnoddau
Cefnogaeth TGAU gan gynnwys cynllunio, safoni, gwersi model ac adnoddau
Cynnydd mewn patrymau iaith
Cynllunio ar gyfer blynyddoedd 7-11
Ffug-asesiadau llafar ar gyfer TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch
Gweithdai ar wahanol agweddau ar y Cymhwyster TGAU newydd
Ymagwedd ysgol cyfan tuag at Uwch Fedrau Darllen
Hyfforddiant geirfa