Yn ogystal â’r digwyddiadau sydd ar gael drwy’r cynnig dysgu proffesiynol, a nodir isod, gall ymgynghorwyr Partneriaeth gynnig cymorth uniongyrchol i’ch helpu i gyflawni’ch blaenoriaethau penodol. Gweler yr adran Cymorth Pwrpasol isod, am enghreifftiau o’r math o gymorth sydd ar gael. Cysylltwch â Jane neu Emma i drafod anghenion cymorth penodol:
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr canol uwchradd
Mae’r rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y canlynol:
Addysgu a dysgu – rhannu addysgeg pwnc-benodol, adnoddau ac enghreifftiau gan ysgolion eraill i gefnogi arweinwyr canol i ysgogi gwelliannau yn eu hadrannau eu hunain.
Cwricwlwm – elfennau gorfodol Cwricwlwm i Gymru a darparu arweiniad ymarferol ar sut y gall arweinwyr canol weithredu’r negeseuon hyn yn effeithiol i gefnogi athrawon yn eu hadrannau.
Cymwysterau – diweddariadau gan Cymwysterau Cymru a chyfresi arholiadau TGAU penodol CBAC. Cyfleoedd i drafod diwygiadau ehangach i gymwysterau.
Arweinyddiaeth – cefnogi arweinwyr canol i gyflawni eu rolau yn effeithiol, gan roi sylw i brosesau sicrhau ansawdd, hunanwerthuso, gweinyddu TGAU a Safon Uwch a chynllunio gwelliant.
Bydd gan bawb ddealltwriaeth well o rôl yr arweinydd canol o ran sicrhau ac ysgogi gwelliant yn eu meysydd cyfrifoldeb.
Bydd gan bob arweinydd canol ddealltwriaeth well o’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm a chymwysterau.
Bydd pob arweinydd canol yn trafod ac yn clywed enghreifftiau o strategaethau addysgu a dysgu cyfredol ac effeithiol sy’n briodol i’w pynciau.
Bydd pob arweinydd canol yn cael cyfle i rannu a chlywed enghreifftiau o arfer effeithiol mewn perthynas â naill ai arweinyddiaeth ganol, addysgu a dysgu neu ddiwygio’r cwricwlwm/cymwysterau.
Manylion y Digwyddiad:
Rhwydweithiau Pwnc Uwchradd: Saesneg – Sir Benfor a Sir Gâr
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
09:30 – 15:00
06/10/2025 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/hui9mrabs6xAjfAU8
13/01/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/MBmEPv1LRsoNveMJA
23/06/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/wiVhDEhzFu6DNtbQ6
Rhwydweithiau Pwnc Uwchradd: Saesneg – Abertawe
Egwlys Gymunedol Glannau, Abertawe SA1 8QY
09:30 – 15:00
02/10/2025 - Registration link: https://forms.gle/AqqfYE99n5MQbpCg7
14/01/2026 - Registration link: https://forms.gle/Z3VYsURBfFsdFB5K7
24/06/2026 - Registration link: https://forms.gle/zRJcsfztpcz6rsBy5
Cynulleidfa darged: Arweinwyr Llythrennedd Ysgolion Uwchradd
Mae sgil trawsgwricwlaidd gorfodol llythrennedd yn hanfodol er mwyn i ddysgwyr allu cyrchu gwybodaeth. Mae’n galluogi dysgwyr i gael mynediad at ehangder cwricwlwm ysgol a’r cyfoeth o gyfleoedd y mae’n ei gynnig, gan eu harfogi â’r sgiliau gydol oes i wireddu’r pedwar diben.
Mae llythrennedd yn ganolog i bob ystafell ddosbarth effeithiol ac mae’n chwarae rhan annatod wrth alluogi dysgwyr i ymgorffori’r pedwar diben a gwella eu cyfleoedd bywyd. Felly, mae angen rhwydwaith ar ysgolion Partneriaeth sy’n hwyluso’r gwaith o gydgysylltu ac ysgogi gwella llythrennedd ar draws ysgolion uwchradd.
Bydd y cyfle dysgu proffesiynol hwn yn rhoi strategaethau a syniadau i arweinwyr llythrennedd uwchradd i ddatblygu llythrennedd ar draws y cwricwlwm a gwella ansawdd addysgu llythrennedd.
Mae cyfarfod i holl gydlynwyr llythrennedd uwchradd yn nhymor yr haf. Mae croeso i gydlynwyr gysylltu â Jane Shilling, Emma Wright neu Lowri Davies am unrhyw anghenion yn ystod y flwyddyn.
Bydd pob arweinydd yn cael cyfle i rannu arfer effeithiol ynghylch strategaethau hybu llythrennedd o ansawdd uchel.
Bydd pob arweinydd yn cael y negeseuon diweddaraf am ddatblygiad llythrennedd effeithiol, a gaiff eu llywio gan ymchwil gyfredol a syniadau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth.
Bydd gan bob arweinydd ddealltwriaeth well o'u rolau wrth yrru a gwella llythrennedd yn eu lleoliadau.
Bydd pob arweinydd yn defnyddio'r adnoddau a'r negeseuon o'r cyfarfodydd hyn i wella ansawdd addysgu a dysgu llythrennedd yn eu lleoliadau.
Pan fydd yn briodol, bydd pob arweinydd yn cael cyfleoedd i gymryd rhan mewn prosesau sicrhau ansawdd i fonitro ac arfarnu safonau llythrennedd a chynllunio ar gyfer gwelliannau.
Bydd pob arweinydd yn cael cyfleoedd i rwydweithio ag arweinwyr llythrennedd eraill ar draws rhanbarth Partneriaeth.
Manylion y Digwyddiad:
Ystafell Gynadledda, Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
09:30 – 15:30
17/06/2026
Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/7US4xdykUTTa6YW88
Cynulleidfa darged: Pob athro Saesneg uwchradd, gan gynnwys athrawon newydd gymhwyso, athrawon ar ddechrau eu gyrfa ac athrawon anarbenigol.
Ymunwch â ni mewn diwrnod o ddysgu proffesiynol ar sut i gyflwyno manyleb newydd dyfarniad sengl a dwbl CBAC yn llwyddiannus, a sut i adeiladu ato yn llwyddiannus yn CA3.
Bydd y cyfle dysgu proffesiynol hwn yn sicrhau bod gan ymarferwyr ddealltwriaeth lawn o ofynion y manylebau newydd a sut y gellir eu gwireddu yn yr ystafell ddosbarth:
Bydd gan ymarferwyr ddealltwriaeth gwell o’r fanyleb pwnc newydd.
Bydd ymarferwyr yn datblygu hyder, sgiliau a strategaethau i gefnogi gwell canlyniadau i ddysgwyr.
Bydd ymarferwyr yn cael ymwybyddiaeth gliriach o anghenion penodol unedau’r TGAU a’r ffordd orau o’u diwallu nhw.
Bydd ymarferwyr wedi datblygu dealltwriaeth gliriach o ofynion y mathau o gwestiynau darllen ar gyfer yr unedau a arholir, a’r asesiad di-arholiad, a bydd ganddynt strategaethau i wella’r dysgu a’r addysgu.
Bydd gan ymarferwyr brofiad o farcio ystod o atebion enghreifftiol, y gellir eu defnyddio gyda dysgwyr i ddangos enghreifftiau o safonau.
Bydd ymarferwyr yn datblygu dealltwriaeth gliriach o ofynion ysgrifennu llenyddol ac anllenyddol a bydd ganddynt strategaethau i wella dysgu ac addysgu’r rhain yn yr ystafell ddosbarth
Bydd ymarferwyr yn gallu rhannu adnoddau a strategaethau o fewn adrannau.
Manylion y Digwyddiad:
02/12/2025
09:30 – 15:30
Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/GkB8ERf1ADGhxDG57
Gall ein cynghorwyr ni weithio ochr yn ochr â’ch arweinwyr a’ch athrawon chi mewn amrywiaeth o weithgareddau pwrpasol i gynorthwyo’ch taith wella. Gellir cyflwyno sesiynau ar amser i ddiwallu eich anghenion chi, e.e. diwrnodau hyfforddiant mewn swydd, sesiynau ar ôl ysgol, ac ati.
Er enghraifft:
cymorth gyda phrosesau hunanarfarnu / adolygiadau adrannol a chymorth dilynol ar gyfer yr adran Saesneg
cymorth TGAU ar gyfer y gwaddol presennol a’r Radd Unigol a Dwyradd newydd, gan gynnwys cynllunio, safoni ac adnoddau
adolygiad llythrennedd ysgol gyfan
addysgu rhagorol yn Saesneg
datblygu holi effeithiol yn Saesneg
cyflwyno her i bob disgybl yn Saesneg
creu dysgwyr annibynnol yn Saesneg
adborth ysgrifenedig a llafar effeithiol yn Saesneg
asesiad ffurfiannol yn Saesneg
ymarfer Saesneg ac adalwad
llafaredd ar gyfer dysgu yn Saesneg
datblygu sgiliau dilys yn Saesneg
cymorth i athrawon unigol, athrawon anarbenigol ac athrawon newydd gymhwyso
cymorth adrannol / clwstwr sy’n canolbwyntio ar ddarllen, ysgrifennu a llafaredd
datblygu adnoddau
hyfforddiant cyfeillion darllen ar gyfer cynorthwywyr addysgu a dysgwyr ar lefel Safon Uwch a TGAU
dysgu proffesiynol Darllen Uwch
gwella sgiliau ysgrifennu yng nghyfnod allweddol 3 ac ar gyfer TGAU
gweithdai ar ddatblygu agweddau ar y fanyleb TGAU newydd