Yn ogystal â’r digwyddiadau sydd ar gael drwy’r cynnig dysgu proffesiynol, a nodir isod, gall ymgynghorwyr Partneriaeth gynnig cymorth uniongyrchol i’ch helpu i gyflawni’ch blaenoriaethau penodol. Gweler yr adran Cymorth Pwrpasol isod, am enghreifftiau o’r math o gymorth sydd ar gael. Cysylltwch â David neu Stuart i drafod anghenion cymorth penodol:
David: david.bradley@partneriaeth.cymru
Stuart: stuart.jacob@partneriaeth.cymru
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr canol uwchradd
Mae’r rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y canlynol:
Addysgu a dysgu – rhannu addysgeg pwnc-benodol, adnoddau ac enghreifftiau gan ysgolion eraill i gefnogi arweinwyr canol i ysgogi gwelliannau yn eu hadrannau eu hunain.
Cwricwlwm – elfennau gorfodol Cwricwlwm i Gymru a darparu arweiniad ymarferol ar sut y gall arweinwyr canol weithredu’r negeseuon hyn yn effeithiol i gefnogi athrawon yn eu hadrannau.
Cymwysterau – diweddariadau gan Cymwysterau Cymru a chyfresi arholiadau TGAU penodol CBAC. Cyfleoedd i drafod diwygiadau ehangach i gymwysterau.
Arweinyddiaeth – cefnogi arweinwyr canol i gyflawni eu rolau yn effeithiol, gan roi sylw i brosesau sicrhau ansawdd, hunanwerthuso, gweinyddu TGAU a Safon Uwch a chynllunio gwelliant.
Bydd gan bawb ddealltwriaeth well o rôl yr arweinydd canol o ran sicrhau ac ysgogi gwelliant yn eu meysydd cyfrifoldeb.
Bydd gan bob arweinydd canol ddealltwriaeth well o’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm a chymwysterau.
Bydd pob arweinydd canol yn trafod ac yn clywed enghreifftiau o strategaethau addysgu a dysgu cyfredol ac effeithiol sy’n briodol i’w pynciau.
Bydd pob arweinydd canol yn cael cyfle i rannu a chlywed enghreifftiau o arfer effeithiol mewn perthynas â naill ai arweinyddiaeth ganol, addysgu a dysgu neu ddiwygio’r cwricwlwm/cymwysterau.
Cyswllt - david.bradley@partneriaeth.cymru
Manylion y Digwyddiad:
Penaethiaid Gwyddoniaeth - Sir Gâr a Sir Benfro
14/10/2025 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/ixaLpJC7uKxsjdLb6
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ - 10:00 – 15:00
05/03/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/XFLrFrxYPxn5r5VG8
Ystafell Cothi, Canolfan Halliwell, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EP - 10:00 – 15:00
24/06/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/iyxmB11Rjw7cYA35A
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ - 10:00 – 15:00
Penaethiaid Gwyddoniaeth - Abertawe
Ysgol Dylan Thomas, Stryd John, Crocket, Abertawe SA2 0FR
10.00 – 15:00
17/10/2025 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/xDJDu6GdwePyh2tS6
06/03/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/6fKRfW4injG4PfQj9
23/06/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/y9e2smvVZk7NwSS59
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn ysgolion a lleoliadau cynradd.
Mae ‘Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022’ yn nodi disgwyliadau cyson i ysgolion a lleoliadau ar gyfer y broses o gynllunio a gweithredu eu cwricwla.Mae Cynllun Gweithredu Cwricwlwm i Gymru yn nodi dyheadau a rennir – sy’n disgrifio sut olwg ddylai fod ar y system addysg yn yr hirdymor, o ganlyniad i ysgolion a lleoliadau yn cynllunio a gweithredu eu cwricwla. Dylai fod gan ymarferwyr y gofod i ddatblygu a defnyddio eu gwaith addysgu, eu galluedd a’u creadigrwydd i helpu i wireddu eu huchelgeisiau trwy’r cwricwlwm, ac mae galluogi lle i arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn lleoliadau cynradd drafod dysgu ac addysgu sy’n galluogi pob dysgwr i wireddu dyheadau’r pedwar diben yn allweddol.
Dim ond trwy greu cyfleoedd i ymarferwyr fod yn berchen ar y broses ddiwygio yn eu hysgolion a’u lleoliadau, iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso gan y broses honno, a theimlo eu bod wedi’u hysgogi i gyfrannu at ei datblygiad parhaus, y gallwn sicrhau llwyddiant hirdymor Cwricwlwm i Gymru.
Bydd y rhwydwaith Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad Cynradd tymhorol yn rhoi cyfle i bawb rannu, trafod a gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ran anghenion unigryw pob MDaPh gorfodol, yn ogystal â’r sgiliau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd pob MDaPh yn eu hysgolion. Bydd ymarferwyr yn datblygu gwybodaeth addysgegol sy’n cefnogi’r broses o ddarparu pob Maes Dysgu a Phrofiad mewn modd effeithiol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd.
Bydd y rhai sy’n bresennol yn ymgysylltu â phob Maes Dysgu a Phrofiad a bydd ganddynt ddealltwriaeth well ohonynt er mwyn cynllunio eu cwricwlwm lleol
Bydd gan y rhai sy’n bresennol ddealltwriaeth ddyfnach o gynnydd ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad
Bydd y rhai sy’n bresennol yn datblygu gwybodaeth addysgegol er mwyn cefnogi proses effeithiol o gynllunio a gweithredu pob Maes Dysgu a Phrofiad
Bydd y rhai sy’n bresennol yn datblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i ddod yn arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad adfyfyriol er mwyn monitro a gwerthuso pob MDaPh
Bydd y rhai sy’n bresennol yn penderfynu ar gynnwys y rhwydweithiau tymhorol ac yn cael cyfleoedd i rannu eu profiadau o ran Cwricwlwm i Gymru.
Manylion y Digwyddiad:
Mynychwch y rhwydwaith ar gyfer eich Awdurdod Lleol os gwelwch yn dda
Cyfarfodydd Rhwydwaith Cynradd - Ysgolion Cynradd Abertawe
09.30 – 14:45
Egwlys Gymunedol Glannau, Abertawe SA1 8QY
22/10/2025 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/zoC1sp9V4jcCCdkz8
11/03/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/SFeWYMwreLqaTKDL9
01/07/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/5zQezkJZmQSShp4z8
Cyfarfodydd Rhwydwaith Cynradd - Ysgolion Cynradd Sir Gâr
09.30 – 14:45
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
20/10/2025 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/PPYTCML32acoiW4f7
09/03/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/3GLzxVNzpxXwEy6R9
29/06/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/EThuqTkMU1nDyXvv6
Cyfarfodydd Rhwydwaith Cynradd - Ysgolion Cynradd Sir Benfro
09.30 – 14:45
Archifdy Sir Benfro, Hwlffordd SA61 2PE
23/10/2025 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/QwgrxS4uByRk57hNA
10/03/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/WdpPnMbGnMu7G1Cc9
30/06/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/JZ1Ay1G2BtVTaYu2A
Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar Fioleg (Datganiad o’r Hyn sy’n Bwysig 3) yn y Cwricwlwm i Gymru ac yn ystyried ble a phryd y gellir datblygu sgiliau ymchwiliol y dysgwyr yn fwyaf effeithiol. Bydd yr agweddau (llinynnau) canlynol yn darparu’r cynnwys ar gyfer y diwrnod ar draws camau cynnydd 1 i 4:
Prosesau biolegol
Ecosystemau
Amrywiad ac esblygiad
Iechyd dynol
Bydd pob un o’r rhain yn cael eu trafod yn fanwl a bydd adnoddau y gellir eu golygu yn cael eu darparu i ategu eu haddysgu a’u dysgu.
Manylion y Digwyddiad:
17/11/2025
09:30 – 15:30
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/tbzzqTWRRDrh1Qho7
Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar Ffiseg (Datganiad o’r Hyn sy’n Bwysig 5) yn y Cwricwlwm i Gymru ac yn ystyried ble a phryd y gellir datblygu sgiliau ymchwiliol y dysgwyr yn fwyaf effeithiol. Bydd yr agweddau (llinynnau) canlynol yn darparu’r cynnwys ar gyfer y diwrnod ar draws camau cynnydd 1 i 4:
Trydan a magneteg
Grymoedd
Egni
Y bydysawd
Tonnau
Bydd pob un o’r rhain yn cael eu trafod yn fanwl a bydd adnoddau y gellir eu golygu yn cael eu darparu i ategu eu haddysgu a’u dysgu.
Manylion y Digwyddiad:
23/03/2026
09:30 – 15:30
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/7Zj5R48Ht2rUysmm6
Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar Cemeg (Datganiad o’r Hyn sy’n Bwysig 4) yn y Cwricwlwm i Gymru ac yn ystyried ble a phryd y gellir datblygu sgiliau ymchwiliol y dysgwyr yn fwyaf effeithiol. Bydd yr agweddau (llinynnau) canlynol yn darparu’r cynnwys ar gyfer y diwrnod ar draws camau cynnydd 1 i 4:
Adweithiau cemegol
Priodweddau deunyddiau
Echdynnu, mireinio a dadansoddi
Bydd pob un o’r rhain yn cael eu trafod yn fanwl a bydd adnoddau y gellir eu golygu yn cael eu darparu i ategu eu haddysgu a’u dysgu.
Manylion y Digwyddiad:
13/07/2026
09:30 – 15:30
Y Llwyfan, College Road, Carmarthen SA31 3EQ
Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/mhWGEdmRegmbZu5o6
Gall ein cynghorwyr ni weithio ochr yn ochr â’ch arweinwyr a’ch athrawon chi mewn amrywiaeth o weithgareddau pwrpasol i gynorthwyo’ch taith wella. Gellir cyflwyno sesiynau ar amser i ddiwallu eich anghenion chi, e.e. diwrnodau hyfforddiant mewn swydd, sesiynau ar ôl ysgol, ac ati.
Er enghraifft:
datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg
modelau cwricwlwm i gynorthwyo’r gwaith o ddylunio a gweithredu Gwyddoniaeth
gwella llythrennedd a rhifedd drwy Wyddoniaeth
datblygu geirfa wyddonol
mapio cwricwlwm
ymchwiliadau yn y Cwricwlwm i Gymru
deallusrwydd artiffisial mewn Gwyddoniaeth
datblygu a defnyddio banciau cwestiynau mewn Gwyddoniaeth
asesu ffurfiannol mewn Gwyddoniaeth
cefnogaeth ar gyfer Gwyddoniaeth mewn lleoliadau arbennig ac yn ystod paratoi cam cynnydd 1
cefnogaeth ar gyfer manyleb TGAU newydd
adolygiadau ysgolion (cynradd)
cynorthwyo ysgolion i ddatblygu adnoddau a deunyddiau
cymorth gyda phrosesau hunanarfarnu / adolygiadau adrannol a chymorth dilynol ar gyfer yr adran Wyddoniaeth
addysgu rhagorol mewn Gwyddoniaeth
datblygu cwestiynu effeithiol mewn Gwyddoniaeth
cyflwyno her i bob disgybl mewn Gwyddoniaeth