Yn ogystal â’r digwyddiadau sydd ar gael drwy’r cynnig dysgu proffesiynol, a nodir isod, gall ymgynghorwyr Partneriaeth gynnig cymorth uniongyrchol i’ch helpu i gyflawni’ch blaenoriaethau penodol. Gweler yr adran Cymorth Pwrpasol isod, am enghreifftiau o’r math o gymorth sydd ar gael. Cysylltwch â Tom i drafod anghenion cymorth penodol:
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr canol uwchradd
Mae’r rhwydweithiau tymhorol hyn yn rhoi cyfleoedd i arweinwyr gydweithio ar draws Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin ac Abertawe. Bydd y rhai sy’n bresennol yn cael diweddariadau a hyfforddiant ar y canlynol:
Addysgu a dysgu – rhannu addysgeg pwnc-benodol, adnoddau ac enghreifftiau gan ysgolion eraill i gefnogi arweinwyr canol i ysgogi gwelliannau yn eu hadrannau eu hunain.
Cwricwlwm – elfennau gorfodol Cwricwlwm i Gymru a darparu arweiniad ymarferol ar sut y gall arweinwyr canol weithredu’r negeseuon hyn yn effeithiol i gefnogi athrawon yn eu hadrannau.
Cymwysterau – diweddariadau gan Cymwysterau Cymru a chyfresi arholiadau TGAU penodol CBAC. Cyfleoedd i drafod diwygiadau ehangach i gymwysterau.
Arweinyddiaeth – cefnogi arweinwyr canol i gyflawni eu rolau yn effeithiol, gan roi sylw i brosesau sicrhau ansawdd, hunanwerthuso, gweinyddu TGAU a Safon Uwch a chynllunio gwelliant.
Bydd gan bawb ddealltwriaeth well o rôl yr arweinydd canol o ran sicrhau ac ysgogi gwelliant yn eu meysydd cyfrifoldeb.
Bydd gan bob arweinydd canol ddealltwriaeth well o’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm a chymwysterau.
Bydd pob arweinydd canol yn trafod ac yn clywed enghreifftiau o strategaethau addysgu a dysgu cyfredol ac effeithiol sy’n briodol i’w pynciau.
Bydd pob arweinydd canol yn cael cyfle i rannu a chlywed enghreifftiau o arfer effeithiol mewn perthynas â naill ai arweinyddiaeth ganol, addysgu a dysgu neu ddiwygio’r cwricwlwm/cymwysterau.
Manylion y Digwyddiadau:
Penaethiaid Daearyddiaeth - Sir Benfro, Sir Gâr ac Abertawe
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
09.30 – 15.00
08/10/2025 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/zcjfiBinZvTst1cH7
10/02/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/LB6hbyZsLqLJxQZx5
22/06/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/SPYPmftF3YMjKnzg7
Cyswllt - Tom Basher: tom.basher@partneriaeth.cymru
Penaethiaid Hanes - Sir Benfro, Sir Gâr ac Abertawe
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
09.30 – 15.00
22/10/2025 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/pRxaMnBJTQK9aVZGA
03/02/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/eV7UeDDQhj7Jwf2V9
15/06/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/yg1sEyCyJMmZ4xeq8
Cyswllt - Tom Basher: tom.basher@partneriaeth.cymru
Penaethiaid Astudiaethau Grefyddol - Sir Benfro, Sir Gâr ac Abertawe
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
09.30 – 15.00
18/11/2025 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/TGKjeKnrACDHEf5z7
02/03/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/mUPkLU6WB9wnKCQo9
16/06/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/rmzPgYyjDGMNELBJ9
Cyswllt - Jennifer Harding-Richards: jennifer.harding-richards@swansea.gov.uk
Cynulleidfa Darged: Arweinwyr mewn ysgolion a lleoliadau cynradd
Mae ‘Cwricwlwm i Gymru: Y daith i 2022’ yn nodi disgwyliadau cyson i ysgolion a lleoliadau ar gyfer y broses o gynllunio a gweithredu eu cwricwla.
Mae Cynllun Gweithredu Cwricwlwm i Gymru yn nodi dyheadau a rennir – sy’n disgrifio sut olwg ddylai fod ar y system addysg yn yr hirdymor, o ganlyniad i ysgolion a lleoliadau yn cynllunio a gweithredu eu cwricwla. Dylai fod gan ymarferwyr y gofod i ddatblygu a defnyddio eu gwaith addysgu, eu galluedd a’u creadigrwydd i helpu i wireddu eu huchelgeisiau trwy’r cwricwlwm, ac mae galluogi lle i arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad mewn lleoliadau cynradd drafod dysgu ac addysgu sy’n galluogi pob dysgwr i wireddu dyheadau’r pedwar diben yn allweddol.
Dim ond trwy greu cyfleoedd i ymarferwyr fod yn berchen ar y broses ddiwygio yn eu hysgolion a’u lleoliadau, iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u grymuso gan y broses honno, a theimlo eu bod wedi’u hysgogi i gyfrannu at ei datblygiad parhaus, y gallwn sicrhau llwyddiant hirdymor Cwricwlwm i Gymru.
Bydd y rhwydwaith Arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad Cynradd yn rhoi cyfle i bawb rannu, trafod a gwella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o ran anghenion unigryw pob MDaPh gorfodol, yn ogystal â’r sgiliau i fonitro a gwerthuso effeithiolrwydd pob MDaPh yn eu hysgolion. Bydd ymarferwyr yn datblygu gwybodaeth addysgegol sy’n cefnogi’r broses o ddarparu pob Maes Dysgu a Phrofiad mewn modd effeithiol, gan sicrhau bod pob dysgwr yn gwneud cynnydd.
Bydd y rhai sy’n bresennol yn ymgysylltu â phob Maes Dysgu a Phrofiad a bydd ganddynt ddealltwriaeth well ohonynt er mwyn cynllunio eu cwricwlwm lleol
Bydd gan y rhai sy’n bresennol ddealltwriaeth ddyfnach o gynnydd ym mhob Maes Dysgu a Phrofiad
Bydd y rhai sy’n bresennol yn datblygu gwybodaeth addysgegol er mwyn cefnogi proses effeithiol o gynllunio a gweithredu pob Maes Dysgu a Phrofiad
Bydd y rhai sy’n bresennol yn datblygu’r sgiliau a’r ddealltwriaeth i ddod yn arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad adfyfyriol er mwyn monitro a gwerthuso pob MDaPh
Bydd y rhai sy’n bresennol yn penderfynu ar gynnwys y rhwydweithiau ac yn cael cyfleoedd i rannu eu profiadau o ran Cwricwlwm i Gymru.
Manylion y Digwyddiad:
Cyfarfodydd Rhwydwaith Cynradd
09.30 – 15:00
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
12/11/2025 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/A8UmjdVNvwPvrFqR7
10/03/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/GV8vYc5tapWyrRPQ9
08/06/2026 - Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/YK2YyzBxnKStTbkg6
Cynulleidfa Darged: Athrawon y dyniaethau o flwyddyn 4 i 8, arweinwyr y dyniaethau
Mae’r datganiad cyntaf o’r hyn sy’n bwysig yn y dyniaethau, ‘mae ymholi, archwilio ac ymchwilio yn ysbrydoli chwilfrydedd am y byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol’, yn rhoi pwyslais clir ar yr angen i ymarferwyr ddatblygu dulliau gweithredu disgyblaethol addas ar gyfer ymholi lle caiff dysgwyr eu herio i fod yn chwilfrydig ac i gwestiynu, i feddwl yn feirniadol a myfyrio ar dystiolaeth.
Mae'r sesiwn ddysgu broffesiynol hon yn ailadrodd y sesiwn lwyddiannus iawn a gynhaliwyd yn 2024 a bydd yn archwilio gwahanol rannau'r cylch ymholi a'r ffyrdd effeithiol o gefnogi eich dysgwyr i ddatblygu sgiliau ymholi, cwestiynu, dehongli, meddwl yn feirniadol a dadansoddi, a sut y gellir datblygu hyn gam wrth gam yn y cwricwlwm.
Bydd cynrychiolwyr yn datblygu dealltwriaeth glir o'r cylch ymholi.
Bydd cynrychiolwyr yn ystyried y gwahanol ddulliau gweithredu disgyblaethol i’r camau ymholi.
Bydd cynrychiolwyr yn archwilio addysgeg sy'n cefnogi'r dysgwyr i ddatblygu'r amrywiol sgiliau ymholi.
Bydd cynrychiolwyr yn ystyried sut mae’r sgiliau hyn yn cael eu datblygu gam wrth gam ar draws y cwricwlwm, gan ganolbwyntio’n benodol ar gamau cynnydd 2, 3 a 4.
Sylwadau o blwyddyn llynedd
“Yn wir, un o’r sesiynau gorau i mi ei mynychu erioed.”
“Llawer o opsiynau ymarferol i’w cofio a’u defnyddio ar unwaith sy’n ddefnyddiol i’n hysgol ni ar hyn o bryd a’i thaith ar y cwricwlwm.”
Manylion y Digwyddiad:
24/11/2025
09:30 - 15:00
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
Cyswllt cofrestru: https://forms.gle/PpnTz9hpg5MqY1D96
Gall ein cynghorwyr ni weithio ochr yn ochr â’ch arweinwyr a’ch athrawon chi mewn amrywiaeth o weithgareddau pwrpasol i gynorthwyo’ch taith wella. Gellir cyflwyno sesiynau ar amser i ddiwallu eich anghenion chi, e.e. diwrnodau hyfforddiant mewn swydd, sesiynau ar ôl ysgol, ac ati.
Er enghraifft:
cymorth gyda phrosesau hunanarfarnu / adolygiadau adrannol a chymorth dilynol ar gyfer y Dyniaethau
addysgu rhagorol yn y Dyniaethau
datblygu cwestiynu effeithiol yn y Dyniaethau
herio pob disgybl yn y Dyniaethau
creu dysgwyr annibynnol yn y Dyniaethau
datblygu ymholi yn y Dyniaethau
datblygu sgiliau digidol yn y Dyniaethau
datblygu sgiliau rhifedd dilys yn y Dyniaethau
cymorth i athrawon unigol, athrawon anarbenigol ac athrawon newydd gymhwyso
cymorth ysgol / clwstwr sy’n canolbwyntio ar ddilyniant ar draws y Dyniaethau
datblygu adnoddau
cymorth TGAU gan gynnwys cynllunio, safoni ac adnoddau