Yn ogystal â’r digwyddiadau sydd ar gael drwy’r cynnig dysgu proffesiynol, a nodir isod, gall ymgynghorwyr Partneriaeth gynnig cymorth uniongyrchol i’ch helpu i gyflawni’ch blaenoriaethau penodol. Gweler yr adran Cymorth Pwrpasol isod, am enghreifftiau o’r math o gymorth sydd ar gael. Cysylltwch â Lowri, Tom, Jo neu Dyfed i drafod anghenion cymorth penodol:
Lowri: lowri.davies@partneriaeth.cymru
Tom: tom.basher@partneriaeth.cymru
Cynulleidfa darged: Athrawon o ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion addysg arbennig
Datgloi Pŵer Metawybyddiaeth: Dysgu Disgyblion Sut i Feddwl ac i Ddysgu!
Ymunwch â ni am sesiwn dysgu proffesiynol ddiddorol sy'n canolbwyntio ar fetawybyddiaeth – yr allwedd i helpu disgyblion i ddod yn ddysgwyr mwy annibynnol, myfyriol ac effeithiol. Bydd yr hyfforddiant hwn yn archwilio strategaethau ymarferol yn yr ystafell ddosbarth i ddatblygu gallu disgyblion i gynllunio, monitro a gwerthuso eu ffordd o feddwl ar draws pynciau. P'un a ydych chi'n newydd i'r cysyniad neu'n awyddus i ymestyn eich ymarfer, bydd y sesiwn hon yn darparu mewnwelediadau ymarferol i hybu cynnydd a dyfnhau dealltwriaeth.
Agenda:
Metawybyddiaeth neu hunanreolaeth?
Yr ymchwil a phaham.
Syniadau ymarferol i ddatblygu ystafell ddosbarth metawybyddol o Flwyddyn 3 i Flwyddyn 13!
Meini prawf llwyddiant:
Diffinio metawybyddiaeth a deall y gwahaniaeth rhyngddo a gwybyddiaeth a hunanreolaeth.
Deall sut mae strategaethau metawybyddol yn gwella annibyniaeth, gwytnwch a chanlyniadau disgyblion.
Nodi gydrannau allweddol prosesau metawybyddol: cynllunio, monitro a gwerthuso.
Cydnabod cyfleoedd o fewn eu pwnc i ddangos enghreifftiau penodol o ffordd o feddwl metawybyddol a chreu fframwaith ar ei gyfer.
Archwilio dulliau ymarferol o ymgorffori sgwrs, awgrymiadau a myfyrdod metawybyddol mewn gwersi.
Dadansoddi sut y gall metawybyddiaeth gefnogi pob dysgwr, gan gynnwys y rhai â chyrhaeddiad blaenorol is.
Cynllunio i weithredu o leiaf un strategaeth metawybyddol yn eu haddysgu a gwerthuso’r effaith a gaiff ar y dysgu.
Manylion y Digwyddiad:
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
09:30 – 15:30
12/01/2026 – Saesneg
https://forms.gle/8xb7A1tG7HD1EPu98
14/01/2026 – Cymraeg
https://forms.gle/Nn6beSHX72JNJ5Qz9
Cynulleidfa Darged: Athrawon Ysgolion Uwchradd a blynyddoedd hŷn Ysgolion Cynradd/Ysgolion Arbennig
Ymunwch â ni am sesiwn dysgu proffesiynol, fydd yn cael effaith sylweddol, a gynlluniwyd ar gyfer athrawon ysgolion uwchradd a blynyddoedd hŷn ysgolion cynradd i ddefnyddio llafaredd i wella cynnydd disgyblion. Byddwch yn darganfod sut y gall siarad pwrpasol ddyfnhau dealltwriaeth, gwella cofio, a rhoi hwb i hyder yn eich ystafell ddosbarth. Bydd y sesiwn hon yn archwilio strategaethau llafaredd ymarferol i gefnogi dysgu penodol i bwnc – o drafodaethau strwythuredig i gwestiynu effeithiol ac esboniadau dan arweiniad myfyrwyr. Grymuswch eich disgyblion i feddwl, cyfathrebu a llwyddo – un sgwrs ar y tro.
Agenda:
Dysgu i siarad ac o siarad.
Dadansoddi 'llafaredd'
Strategaethau ymarferol ar draws y cwricwlwm
Meini Prawf Llwyddiant:
Deall rôl llafaredd wrth gefnogi dysgu penodol i bwnc a chynnydd disgyblion.
Nodi ystod o strategaethau llafaredd sy'n briodol ar gyfer eu pwnc a'u cam allweddol.
Adnabod nodweddion sgwrs o ansawdd uchel yn yr ystafell ddosbarth (e.e. sgwrs archwiliol, sgwrs atebol).
Cynllunio cyfleoedd ar gyfer siarad pwrpasol i wella meddwl, rhesymu a chyfathrebu yn eu gwersi.
Addasu technegau cwestiynu i annog ymatebion dyfnach a deialog rhwng cyfoedion.
Gwerthuso sut y gall llafaredd gefnogi datblygiad llythrennedd disgyblaethol a geirfa yn eu pwnc.
Ymrwymo i dreialu o leiaf un strategaeth lafaredd yn eu haddysgu a myfyrio ar ei effaith.
Manylion y Digwyddiad:
Y Llwyfan, Heol Y Coleg, Caerfyrddin SA31 3EQ
09:30 – 15:30
24/02/2026 – Saesneg
https://forms.gle/mSRctv5xkkrS1mvM7
25/02/2026 – Cymraeg
https://forms.gle/MNBzsyiLFHC6DRSg7
Mae’r rhaglen ‘Addysgu â Phwrpas’ wedi’i chynllunio gyda mewnbwn gan ymarferwyr ac arweinwyr cryf ar draws y rhanbarth i roi dealltwriaeth lefel uchel i athrawon o’r hyn y gall addysgu effeithiol ei gyflawni, yn ogystal â strategaethau ac adnoddau ymarferol sy’n galluogi athrawon i ddod yn rhagorol yn gyson ac yn gynaliadwy. Mae ein rhaglen Addysgu â Phwrpas wedi’i chreu. Gellir cyflwyno sesiynau ar amser i ddiwallu eich anghenion chi, e.e. diwrnodau hyfforddiant mewn swydd, sesiynau ar ôl ysgol, ac ati.
Er enghraifft:
her a chyflymder i bawb
cwestiynu
ymarfer adalw
dysgu annibynnol a chydweithredol
adborth effeithiol
metawybyddiaeth a hunanreolaeth
llafaredd ar gyfer dysgu