18.6.2021

Dydd Gwener / Friday - 18.6.2021

Y Siarter Iaith / The Welsh Language Charter:

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh Language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/14-6-21-18-6-21

Thema/ Topic:

Cliciwch ar y linc i wrando ar, a dysgu'r gân am drychfilod yr ardd.

Click on the link to listen to, and learn the song about garden mini-beasts.

Gwaith Llafar/ Oracy work.

Mae Cyw a'i ffrindiau wedi bod yn brysur iawn yn yr ardd heddiw! Edrychwch ar y llun isod yn ofalus ac yna atebwch y cwestiynau sydd yn dilyn. / Cyw and his friends have been very busy in the garden today! Look carefully at the picture below in order to answer the questions which follow.

Trafodwch y llun a meddyliwch am gwestiynau gwahanol i'w trafod. Mae rhai esiamplau isod. Mae geirfa i'ch helpu ar ben y llun./ Discuss the picture and think about different questions to discuss. There are some examples below. There is vocabulary to help you at the top of the picture

  • Sawl blodyn weli di?/ How many flowers can you see?

  • Pa liwiau ydy'r blodau?/ What colours are the flowers?

  • Pwy sydd yn y sied?/ Who is in the shed?

  • Sawl malwoden sydd yno?/ How many snails are there?

  • Beth sydd yn tyfu ar y coed?/ What is growing on the trees?

  • Pa ffrwythau wyt ti'n hoffi?/ What fruit do you like?

  • Sawl cwmwl sydd yno?/ How many clouds are there?

  • Pwyntiwch at y malwod yn ôl maint o'r mwyaf i'r lleiaf,/ Point to the snails according to size, from the biggest to the smallest.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd / Knowledge and Understanding of the World:

Dewch o hyd i o leiaf 5 ffaith am falwod. Mae digon o wefannau ar gael yn debyg i'r rhai isod.

Try and discover at least 5 facts about snails. There are plenty of websites available similar to the ones below.

Gwaith creadigol / Creative work:

Beth am greu malwoden lliwgar gan ddefnyddio unrhyw eitemau 'jync' o'r ? Gallwch chi hefyd ddefnyddio eitemau naturiol o'r ardd neu eitemau rydych chi'n casglu wrth fynd am dro yn yr ardal leol. Mae rhai syniadau isod.

What about creating a colourful snail using 'junk' items from around the house? You can also use natural objects from the garden or items collected from a walk in your local area. There are some ideas below.

Gwaith Cartref/ Homework:

Tasg - Niwmicon / Task - Numicon:

Isod mae llinell rif niwmicon. Rydyn ni wedi defnyddio Niwmicon ar gyfer llawer o weithgareddau mathemateg yn y dosbarth. Defnyddiwch y llinell rif i'ch helpu gyda'r dasg ganlynol.

Below is a Numicon number line. We have used Numicon for many mathematical activities in the classroom. Use the number line to help you with the following task.

Ydych chi'n adnabod gwerth y darnau niwmicon yma? Ysgrifennwch y rhif cywir yn y bocs o dan y darnau niwmicon gwahanol./ Do you recognise the value of these numicon pieces? Write the correct number in the box under each of the numicon pieces.

Defnyddiwch y llinell rif i'ch helpu adio'r darnau niwmicon i weithio allan sawl un sydd yna i gyd. Mae'r un cyntaf wedi ei gwblau i chi yn barod fel esiampl./ Use the number line to add the numicon to find out how many there are altogether. The first one has been completed for you. Write your answers in each box.