8.2.2021 - 12.2.2021

Sesiwn dal lan: Google classroom / Catch up session: Google Classroom

Sesiwn dal lan:

Bydd sesiwn dal lan byw y dosbarth yn digwydd am 11 o'r gloch ar ddydd Llun. Bydd y sesiwn hon yn digwydd ar Google Classroom. Dylech fynd mewn i’ch dosbarth ar Google Classroom am 11y.b a chlicio ar y ddolen. (Efallai na fydd y ddolen yn gweithio os ydych chi’n ei thrio cyn yr amser dechrau.)

Cofiwch ddarllen y canllawiau a’r rheolau isod cyn eich sesiwn os gwelwch yn dda.


Catch up session:

Our live catch up session will take place at 11am on Monday. The session will take place on Google Classroom. You should go into your class on Google Classroom at 11am and click on the link. (If you click on the link before this time, it might not work.)

Remember to read the instructions and the rules below before your session please.

https://drive.google.com/file/d/1ih5t8U2XVJ2GCxbGyS-M-copQLODnX2u/view

Canllawiau rhieni - Google Classroom.pdf
Rheolau Sesiynau Byw.pdf

Y Siarter Iaith / The Welsh language Charter

Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.

Remember to look on the 'Welsh language charter' page by clicking on the link below.

https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-2/8-2-21-12-2-21

Cofiwch eich bod yn gallu dangos eich gwaith i mi drwy ei uwchlwytho ar 'Seesaw' (yn union fel yr ydych wedi bod yn ei wneud gyda'ch gwaith cartref wythnosol).

Remember you can show me your work by uploading it on 'Seesaw' (as you have been doing with your weekly homework).

Wythnos 8.2.2021 - 12.2.2021 / Week 8.2.2021 - 12.2.2021

Gwasanaeth / Assembly

Cliciwch ar y linc isod i weld gwasanaeth Miss Williams. Thema ein gwasanaeth heddiw yw 'Gwneud ein gorau glas'.

Click on the link below to watch an assembly by Miss Williams. The theme of today's assembly is 'Gwneud ein gorau glas' (doing our best).

gwasanaeth gwneud ein gorau glas.mp4

Tric a Chlic:

Yr wythnos hon, beth am ganolbwyntio ar ddarllen ac adeiladu'r eirfa gwyrdd Tric a Chlic canlynol? Defnyddiwch y grid ymarfer adeiladu geirfa isod;

This week, How about concentrating on reading and building the following Green Tric a Chlic words? Use the grid below to help you build the words;

Sillafu / Spelling

Dyma rai geiriau allweddol i chi ymarfer darllen ac ysgrifennu'r wythnos hon. Cofiwch i'w hymarfer yn ddyddiol. Beth am dorri llythrennau allan o gylchgronau neu bapur newyddion i adeiladu'r eirfa? Gweler enghreifftiau isod. Mae croeso i chi hefyd ysgrifennu yn eich llyfrau gwaith.

Here are the words for you to practise reading and building this week. Remember to practise them daily. How about cutting letters out of magazines or newspapers to build the words? See examples below. You are also welcome to write them in your work books.

edrych (look) allan (out)

dyna (there) llawer (lots)

dros (over) heddiw (today)

gwneud (done) newydd (new)

geirfa_8_12_2_21.mp4

Llyfr yr wythnos / Book of the week

Llyfr yr wythnos yw 'Supertaten'. Cliciwch ar y linc isod i wrando ar y stori.

The book of the week is 'Supertaten'.Click on the link below to listen to the story.

Supertaten.mp4

Dydd Llun 8.2.2021 / Monday 8.2.2021

Iaith / Language:

Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith iaith heddiw.

Click on the video to see an introduction on what you need to do for your language work today.

4a643606b5464c9187b4a27c0b058dc3.mp4

Tasg 1 Poster 'Yn Eisiau'/ Task 1 'Wanted' poster

Gwrandewch ar stori 'Supertaten'. O na! Mae'r bysen ddrwg wedi dianc o'r rhewgell eto. Ydych chi'n gallu creu poster 'Yn Eisiau' i helpu Supertaten ei ddal. Mae'n bwysig i roi llun o'r bysen ar y poster, efallai gwobr a hefyd ddisgrifiad ohono. Defnyddiwch ansoddeiriau i ddisgrifio'r bysen a'r patrwm iaith 'Mae'r bysen yn....'. Defnyddiwch y mat ansoddeiriau isod i'ch helpu i ddisgrifio'r bysen.

e.e. Mae'r bysen yn wyrdd.

Gweler enghreifftiau o bosteri 'Yn Eisiau' isod i’ch helpu. Mae croeso i chi ddefnyddio'r templed i greu eich poster neu ewch ati i greu un eich hun.

Listen to the story 'Supertaten'. Uh oh! The naughty pea has escaped from the freezer again. Can you create a 'Wanted' poster to help Supertaten catch him. It's important to put a picture of the pea on your poster, along with a reward and a description. Use adjectives to describe the pea and use the language pattern 'Mae'r bysen yn....' ('The pea is....'). Use the adjectives mat below to help you describe the pea.

e.g. 'Mae'r bysen yn wyrdd.' ('The pea is green.')

See examples of 'Wanted' posters below to help you. You're welcome to use the template below to create your poster or you can make your own.

templed / template

Enghraifft / Example

Tasg 2 - Darllen/ Task 2 - Reading

Ydych chi'n gallu darllen enwai'r bwydydd allan o stori 'Supertaten' isod ac yna gosod nhw yn nhrefn yr wyddor? Defnyddiwch y poster 'Yr Wyddor' isod i'ch helpu. Cliciwch ar y linc isod i wrando ar gân yr wyddor.

Can you read the names of the food out of the story 'Supertaten' below and then put them in alphabetical order. Use the 'Yr Wyddor' (Welsh alphabet) poster below to help you. Click on the link below to listen to the alphabet song.

Yr_wyddor.mp4

Mathemateg / Mathematics:

Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith maths heddiw.

Click on the video to see an introduction on what you need to do for your math's work today.

9b82230b1a684e52bdce1700879c5356.mp4

Dros yr wythnosau diwethaf, rydyn ni wedi bod yn ymarfer cyfri mewn gwahanol ffyrdd. Beth am ymarfer cyfri ymlaen hyd at 30, ac yn ôl o 10. Gallech hefyd ddefnyddio'r sgwâr cant isod i adolygu cyfri fesul 2, 5 a 10.

Over the past weeks we have been practising counting in different ways. How about practising counting forwards to 30 and then back from 10. You can also use the number square below to revise counting in 2s, 5s and 10s.

Tasg 1 - Didoli siapiau 2D a 3D / Task 1 - Sort 2D and 3D shapes

Ryda’n ni'n mynd i ddysgu am siapiau 2D a 3D yr wythnos hon. Cliciwch ar y linc i chwarae gêm didoli siapiau 2D a 3D.

We are going to learn about 2D a 3D shapes this week. Click on the link to sort the 2D and 3D shapes.

Tasg 2 - Chwilio am siapiau 2D a 3D yn y tŷ/ Task 2 - Look for 2D and 3D shapes in the house


Yr wythnos hon rydyn ni'n canolbwyntio ar siapiau 2D a 3D. Ydych chi'n gallu chwilio am siapiau 2D a 3D o amgylch y tŷ? Gallwch chi ddidoli'r siapiau neu dynnu lluniau o'r siapiau. Defnyddiwch y lluniau am gymorth.


This week we're focusing on 2D and 3D shapes. Can you look for 2D and 3D shapes around the house? You can sort the shapes or draw the shapes. Use the pictures for help.

Thema / Topic:

Plannu hadau

Mae Mis Chwefror yn adeg dda i ddechrau hadu rhai planhigion. Beth am i chi blannu rhywbeth? Mae’n adeg dda i blannu pys mewn potiau nawr, a gallwch eu gwylio yn tyfu o fewn dim. Amser da gan eich bod yn darllen stori am bys hefyd. Gallwch hyd yn oed blannu pys sych os oes rhai gyda chi, rhowch nhw mewn dŵr dros y nos ac wedyn eu plannu mewn pot gyda phridd y dydd nesaf.

Tynnwch lun o beth ydych yn ei wneud fel cofnod o’ch gwaith. Tynnwch luniau o’ch hunain gyda chamera wrthi yn plannu pys, yna cadwch gofnod o luniau pan mae’r pys yn dechrau tyfu.

Gwyliwch Wibli Sochyn yn plannu er mwyn cael ychydig o gymorth. Neu medrwch wylio Adam yn yr ardd yn plannu blodau am fwy o syniadau.

Planting seeds

February is a good time to start sowing some plants. How about you plant something? It's a good time to plant peas in pots now, and you can watch them grow in no time. Perfect timing as you are reading a story about a pea. You can even plant dried peas if you have them, soak them overnight and then plant them in some soil in a pot the next day.

Draw what you are doing as a record of your work. Take pictures of yourself with a camera planting peas, then keep a record of photos when the peas start to grow.

Watch Wibli Sochyn planting, it might give you some tips. Or you can watch Adam in the Garden planting flowers for more tips.

Dydd Mawrth 9.2.2021 / Tuesday 9.2.2021

Iaith / Language:

Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith iaith heddiw.

Click on the video to see an introduction on what you need to do for your language work today.

f94246e302d24ce88dfbc63ee381db78.mp4

Tasg 1: Ail-ddweud stori / Task 1: Retelling a story

Gwrandewch ar stori 'Supertaten' unwaith eto. Ydych chi'n gallu ail-ddweud y stori yn eiriau eich hun? Gallech greu byd bach, gwneud sioe pypedau neu drafod prif ddigwyddiadau'r stori ar lafar. Gallech ddefnyddio llysiau sydd gyda chi yn y tŷ fel y cymeriadau, neu mae croeso i chi greu cymeriadau eich hun trwy dynnu lluniau, creu pypedau neu torrwch allan y rhai isod. Gallech hefyd recordio eich hun yn trafod ac yn ail-ddweud y stori ar Flipgrid. Cliciwch ar y linc isod i wylio Flipgrid Miss Thomas, ac yna ewch ati i recordio un eich hun os dymunwch. Gweler syniadau isod;

Cod dosbarth Miss Thomas: Dewisant

Listen to the story 'Supertaten' once again. Can you retell the story in your own words? You can create your own small world, create a puppet show or discuss the main events of the story out loud. You can use fruit and vegetables that you have at home for the characters, or you're welcome to make your own by drawing pictures, make puppets or use the cutouts below. You can record yourself retelling the story on Flipgrid. Click on the link below to watch Miss Thomas' Flipgrid and then record your own if you wish. See examples below;

Code: Dewisant

Byd bach / Small world

Sioe pypedau / Puppet show

Cymeriadau llysiau / Vegetable characters

Tasg ychwanegol / Additional task :

Supertaten

Ydych chi'n gallu cofnodi prif ddigwyddiadau'r stori yn y templed isod?

Gallech ddefnyddio'r templed yma ar gyfer cofnodi prif nodweddion y stori. Dechreuwch gyda'r prif gymeriadau a lleoliad y stori, ac yna beth sydd yn digwydd ar ddechrau'r stori, yn y canol, ac yna ar ddiwedd y stori.

Can you record the main events in the story on the template below?

You can use this template to record the key features in the story. Start with the main characters and the location of the story, and then move on to what happens at the beginning of the story, in the middle and then the end of the story.

Tasg 2: Darllen a deall / Task 2: Reading and understanding

Darllenwch lyfr 'Supertaten' ac yna atebwch y cwestiynau isod. Defnyddiwch y llyfr i ddarganfod yr atebion. Gallech ddweud yr atebion ar lafar neu gallech gofnodi'r atebion yn eich llyfrau gwaith.

Read the book 'Supertaten' and then answer the following questions. Use the book to help you search for the answers. You can say your answers out loud or you can record them in your workbooks.

Cwestiynau / Questions

  1. Ble mae gosodiad y stori? / What is the location of the story?

  2. Pa lysieuyn yw'r archarwr? / What vegetable is the superhero?

  3. Pa lysieuyn drwg sydd yn dianc o'r rhewgell? / What naughty vegetable escapes from the freezer?

  4. Beth ydy'r bysen ddrwg yn neud i'r brocoli? / What does the naughty pea do to the broccoli?

  5. Pa liw yw clogyn Supertaten? / What colour is Supertaten's cape?

  6. Beth ydy'r bysen ddrwg yn gwneud i'r ciwcymbr? / What does the naughty pea do to the cucumber?

  7. Mewn pa fwyd mae Supertaten yn dal y bysen ddrwg? / In what food does Supertaten catch the naughty pea?

  8. Pa fwyd sydd yn rhoi'r bysen ddrwg yn ôl yn y rhewgell ar ddiwedd y stori? / What food puts the naughty pea back in the freezer at the end of the story?

Atebion / Answers

  1. Archfarchnad / Supermarket

  2. Taten / Potato

  3. Pysen / Pea

  4. Tynnu llun dros ei wyneb / Drew on his face

  5. Coch / Red

  6. Lapio fe mewn papur tŷ bach / Wrapped him in toilet paper

  7. Jeli / Jelly

  8. Bysedd pysgod / Fish fingers

Mathemateg / Mathematics:

Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith maths heddiw.

Click on the video to see an introduction on what you need to do for your maths work today.

e59213b5e58248a3b6e18ea1e57769a4.mp4

Tasg 1 - Niwmicon / Task 1 - Numicon:

Isod mae darnau niwmicon. Rydyn ni wedi defnyddio niwmicon ar gyfer llawer o weithgareddau mathemateg yn y dosbarth. Ydych chi'n gallu nodi faint yw gwerth pob niwmicon yn y bocs?

Below are pieces of numicon. We have used numicon for many mathematical activities in the classroom. Can you write the value of each numicon in the box?

Tasg 2 - 'Codau QR ' / Task 2 - QR Codes

Beth am sganio'r codau QR isod, ac yna enwi'r siapiau 3D gwahanol rydych yn gweld?

Fedrwch chi adnabod ac enwi pob un? Mae yna restr isod o'r chwe siâp i'ch helpu os oes angen.

How about scanning these QR codes below and naming the different 3D shapes?

Can you recognise and name each one? There is a list of the shape names below to help, if needed.


*Os nad oes ap 'QR Code Reader' gyda chi, efallai bydd y camera ar y ffôn yn gweithio. Neu mae’n bosib lawr lwytho o’r 'App Store' am ddim.

*If you don't have the QR Code Reader app, the camera on your phone should work. Or, it's possible to download for free on the App Store.

Thema / Topic:

Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

QUIK_Ditectif Digihwyaden.mp4

Ditectif Digihwyaden

Mae Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn, i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol gan blant a phobl ifanc. Gwrandewch ar stori Ditectif Digihwyaden sydd yn defnyddio’r we i ymchwilio am wybodaeth.


Trafodwch beth mae Y Dylluan Ddoeth yn ei ddweud wrth Digihwyaden i'w wneud pan fydd yn teimlo’n ansicr am rywbeth mae’n ei weld ar-lein.

Safer Internet Day

Detective Digiduck

Safer Internet Day is celebrated globally in February each year, to promote the safe and positive use of digital technology by children and young people. Listen to the story of Detective Digiduck who uses the web to search for information.


Discuss what The Wise Owl tells Digiduck to do when he feels insecure about something he sees online.

Poster Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel

Beth am liwio'r poster gyferbyn i gofio am Digihwyaden yn dysgu am ddefnyddio'r rhyngrwyd yn fwy diogel? Neu, gallwch greu poster eich hunain. Cofiwch rannu eich gwaith gyda ni.

Safer Internet Day Poster

Why not colour the poster opposite to remind us how Digiduck learnt about using the internet more safely? Or, you can create your own poster. Please share your work with us.

Dydd Mercher 10.2.2021 / Wednesday 10.2.2021

Iaith / Language:

Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith iaith heddiw.

Click on the video to see an introduction on what you need to do for your language work today.

d2ca07bda1564f7ab13c033e9f6c79c5.mp4

Tasg 1-Labeli Llun / Task1-Labelling a picture

Ydych chi'n gallu labeli golygfa allan o'r stori? Mae geirfa i'ch helpu yn y tabl isod. Mae dau opsiwn gwahanol. Dewiswch yr un sydd yn addas i chi.

Can you label a scene out of the story? There is vocabulary in the table below to help you. There are two options. Choose the one that best suites you.

Tasg 2: Darllen / Task 2: Reading

Dewch i ddarllen stori 'I mewn', neu cliciwch ar yr ail linc i wrando ar Miss Thomas yn darllen y stori . Yna, ydych chi'n gallu ateb y cwestiynau isod?

Come and read the story 'I mewn' or click on the second link to listen to Miss Thomas reading the story. Then, can you answer the questions below?

I mewn.pptx
33cebbf9f6404facbc6e6fdad3feb639.mp4

Cwestiynau / Questions

  1. Beth yw enw'r stori? / What is the name of the story?

  2. Pa anifail sydd yn mynd i mewn i'r pwll yn gyntaf? / What animal goes into the pool first?

  3. Pa anifeiliaid sydd yn mynd mewn i'r pwll olaf? / What animals go into the pool last?

  4. Pa ansoddair sydd yn disgrifio'r gath? / What adjective is used to describe the cat?

  5. Pa ansoddair sydd yn disgrifio'r llew? / What adjective is used to describe the lion?

  6. Gallech chi ddarganfod gair sydd yn cynnwys y llythyren ddwbl 'll'?/ Can you find a word that contains the double letter 'll'?

  7. Pa anifal sydd yn cael ei ddisgrfio'n dal? / What animal is described as tall?

  8. Pa anifail sydd yn cael ei ddisgrifio'n fach? / What animal is described as small?

Atebion / Answers

  1. I mewn

  2. Ci / Dog

  3. Moch / Pigs

  4. Tew / Fat

  5. Cas / Nasty

  6. Llew/Pwll (Lion/pool)

  7. Mul / Mule

  8. Ci / Dog

Mathemateg / Mathematics:

Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith maths heddiw.

Click on the video to see an introduction on what you need to do for your math's work today.

833ae2b38fa044a8be5ec82a385a03cc.mp4

Tasg 1 - Mathemateg cyflym / Task 1 - Quick Maths

Faint o'r cwestiynau isod ydych chi'n gallu cwblhau o fewn 1 munud?

How many of the questions below can you complete within 1 minute?

8 + 9 = 15 + 5 = 10 - 6 = 17 + 5 = 19 - 8 = 9 + 4 =

15 - 5 = 17 + 3 = 3 - 10 = 13 + 7 = 5 + 5 = 10 - 10 =

12 + 7 = 12 - 6 = 22 - 2 = 8 + 9 = 19 - 9 = 10 + 10=

Tasg 2 - Cyfatebu enw'r siâp gyda'r llun / Task 2 - Match the name of the shape with the picture

Cliciwch ar y linc isod i gyfatebu enw'r siâp gyda llun o'r siâp cywir.

Click on the link below to match the name of a shape with the correct shape.

Tasg 3- Topmarks / Task 3 - Topmarks

Cliciwch ar y linc isod i chware gêm 'angenfilod siapiau' ar 'Topmarks'.

Click on the link below to play the game 'monster shapes' on 'Topmarks'.

Thema / Topic:

Helfa Lliw / Colour Hunt

Helfa Lliw

Heddiw beth am fynd i chwilio am eitemau sydd yn cyfatebu i’r lliwiau hyn?

Beth fedrwch chi ei ddarganfod yn y tŷ a thu allan?

Ydi’r lliwiau yn cyfatebu yn gywir neu oes ychydig o wahaniaeth yn y lliw?

Beth yw’r lliw mwyaf hawdd i gyfatebu?


Colour Hunt

Today why not look for items that match these colours?
What can you find inside and outside the house?
Do the colours match correctly or is there a slight difference in colour?
What is the easiest colour to match?

Gwrandewch ar gân Lliwiau Cyw i'ch atgoffa o'r lliwiau. Yna medrwch wneud ychydig o ddawns lliwiau gyda Huw o Cyw.

Listen to Cyw's Colours Song to remind you of the colours. Then you can do some colour dancing with Huw from Cyw.

Dydd Iau 11.2.2021 / Thursday 11.2.2021

Iaith / Language:

Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith iaith heddiw.

Click on the video to see an introduction on what you need to do for your language work today.

eb3342ab398f4ff7b68f04aaad0189f3.mp4

Tasg 1 - Dylunio archarwr / Task 2 - Design a Superhero

Mae Supertaten yn archarwr. Mae 'Supertaten' yn achub y dydd yn y stori. Ydych chi'n gallu dylunio archarwr eich hun? Gallech dynnu llun, peintio, creu collage ayyb. Ydych chi'n gallu labeli'r llun a chofnodi beth yw ei ddawn arbennig. Gallech ddefnyddio'r templed isod, neu ewch ati i greu un eich hun.

Supertaten is a Superhero. Supertaten saves the day in the story. Can you design your own superhero? You can draw a picture, paint, make a collage or model etc. Can you label your picture or write about your Superhero? Remember to make a note of his/her super talent (super power). You are welcome to use the template below or create your own.

Templed / Template

Enghraifft / Example

Tasg 2 - Darllen: Cerdd Bwyd / Task 2 - Reading: Bwyd Poem

Gwrandewch ar y gerdd 'Bwyd' gan Mair Elwyn.

  1. Trafodwch y gerdd gydag oedolyn. Pa fwydydd sydd yn y gerdd? Mae'r pennill cyntaf yn sôn am frecwast, yr ail bennill yn sôn am ginio ac mae'r trydydd pennill yn sôn am swper. Beth ydych chi wedi cael am frecwast, cinio a swper heddiw?

  2. Ydych chi'n gallu darganfod yr eirfa sydd yn odli? Trafodwch pa eiriau sydd yn odli a chwblhewch y daflen isod.

Listen to the poem 'Bwyd' by Mair Elwyn.

  1. Discuss the poem with an adult. What foods are mentioned in the poem? The first verse is about breakfast, the second verse is about lunch and the third verse is about supper. What have you had for breakfast lunch and supper today?

  2. Can you find the words that rhyme in the poem? Discuss the words that rhyme and complete the worksheet below.

4d574da168134c53b8ff5dc866422d3b.mp4

Mathemateg / Mathematics:

Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith maths heddiw.

Click on the video to see an introduction on what you need to do for your math's work today.

f18bac585e1148bbbbee77f58ded3890.mp4

Tasg 1-Ffurfio Rhifau / Task 1 - Forming Numbers

Dewch i ymarfer ffurfio rhifau hyd at 20. Edrychwch ar y llinell rhif isod i wybod ble i ddechrau ffurfio a beth yw'r ffordd gywir i ffurfio'r rhifau.

Practise forming numbers up to 20. Look at the number line below for help on where to start forming each number and the correct way to form the numbers.

Tasg 2 - Adnabod siapiau 2D a 3D / Task 2 - Recognizing 2D and 3D shapes

Edrychwch ar y daflen. Ydych chi'n gallu ysgrifennu enwau'r siapiau yn y bocs a chyfri sawl gornel sydd i bob siâp?

Look at the sheet. Can you write the name of each shape in the box and count how many corners each one has?

Tasg 3 - 'QR Codes' / Task 2 - QR Codes

Beth am sganio'r codau QR isod, ac yna enwi'r siapiau a thynnu llun o'r siapiau rydych yn gweld?

How about scanning these QR codes below and naming and drawing a picture of the different shapes?

*Os nad oes ap 'QR Code Reader' gyda chi, efallai bydd y camera ar y ffôn yn gweithio. Neu mae’n bosib lawr lwytho o’r 'App Store' am ddim.

*If you don't have the QR Code Reader app, the camera on your phone should work. Or, it's possible to download for free on the App Store.

Thema / Topic:

wl-hw-15-cardiau-ystumiau-yoga_ver_3.pdf

Cynhesu ein corff.

Cyn mynd ati i wneud y brif ymarfer, hoffwn i chi wneud rhai o'r ystumiau ioga hyn i gael cynhesu'r corff. Ceisiwch dal y siap am 10 eiliad cyn newid i siap gwahanol.

Warm up our body.

Before proceeding with the main exercise, I would like you to do some of these Yoga postures to get the body warmed up. Try holding the shape for 10 seconds before changing to a different shape.

Sillafu gyda'r Corff

Sialens ymarfer corff - Hoffwn i chi geisio sillafu eich enw drwy ddefnyddio eich corff yn unig. Edrychwch ar y daflen gyferbyn a darganfyddwch pa siapiau ydych chi'n gorfod ei wneud i sillafu eich enw. Ewch ati i sillafu eich enw cyntaf. Os yn hawdd, beth am eich holl enw?

Body Spelling

Exercise challenge - I would like you to try and spell your name using only your body. Look at the sheet opposite and find out what shapes you have to make to spell your name. Spell your first name. If that's easy, what about your full name?

Dydd Gwener 12.2.2021 / Friday 12.2.2021

Dydd Gwener di- sgrîn / Screen free Friday

Rydych chi wedi gweithio mor galed dros yr hanner tymor diwethaf – da iawn i chi gyd. Heddiw, rydyn ni’n trio annog diwrnod di-sgrîn felly mae gweithgareddau a thasgau gwahanol i chi eu cyflawni. Beth am drio cael diwrnod heb unrhyw fath o sgrîn?

Faint o’r tasgau gallwch chi eu cyflawni mewn diwrnod?

Pob lwc!

You’ve worked so hard over the last half term – well done to you all. Today, we’re trying to encourage a screen free day so there are different activities and tasks for you to complete. How about trying to have a day without any type of screen?

How many of the tasks can you complete in a day?

Good luck!


Mwynhewch yr hanner tymor!

Enjoy the half term break!

Mwynhewch yr hanner tymor! / Enjoy the half term break!

Os ydych chi’n edrych am rywbeth i’w wneud dros hanner tymor, beth am fynd trwy’r pecyn gwych hwn sydd wedi’i roi at ei gilydd gan Ymddiriedolaeth EEL – Gemau’r Gaeaf? (‘EFL Trust and Ferrero UK Joy of Moving Winter Games’.) Mae’r gemau a gweithgareddau hyn yn canolbwyntio ar iechyd a lles.

Os ydych yn cwblhau rhai o’r gweithgareddau, cofiwch bostio lluniau ar ein cyfrif Twitter a defnyddiwch yr hashnodau, #JOMWinterGames a #JoyofMoving.

Pob lwc!

If you’re looking for something to do over half term, why not work your way through this excellent pack from the EFL Trust and Ferrero UK Joy of Moving Winter Games? These games and activities focus on health and well-being.

If you complete any of the activities, please post some photos on our Twitter account and use the hashtags #JOMWinterGames and #JoyofMoving.

Good luck!


Joy of Moving Winter Games Pack_Final.pdf