Sesiwn dal lan:
Bydd sesiwn dal lan byw y dosbarth yn digwydd am 11 o'r gloch ar ddydd Llun. Bydd y sesiwn hon yn digwydd ar Google Classroom. Dylech fynd mewn i’ch dosbarth ar Google Classroom am 11y.b a chlicio ar y ddolen. (Efallai na fydd y ddolen yn gweithio os ydych chi’n ei thrio cyn yr amser dechrau.)
Cofiwch ddarllen y canllawiau a’r rheolau isod cyn eich sesiwn os gwelwch yn dda.
Catch up session:
Our live catch up session will take place at 11am on Monday. The session will take place on Google Classroom. You should go into your class on Google Classroom at 11am and click on the link. (If you click on the link before this time, it might not work.)
Remember to read the instructions and the rules below before your session please.
https://drive.google.com/file/d/1ih5t8U2XVJ2GCxbGyS-M-copQLODnX2u/view
Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.
Remember to look on the 'Welsh language charter' page by clicking on the link below.
https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-2/1-2-21-5-2-21
Cofiwch eich bod yn gallu dangos eich gwaith i mi drwy ei uwchlwytho ar 'Seesaw' (yn union fel yr ydych wedi bod yn ei wneud gyda'ch gwaith cartref wythnosol).
Remember you can show me your work by uploading it on 'Seesaw' (as you have been doing with your weekly homework).
Mae’n Wythnos Iechyd Meddwl Plant yr wythnos hon. I ddechrau’r wythnos, dewch i wrando ar wasanaeth gan Mr Dobson, sy’n esbonio mwy am thema’r flwyddyn hon.
It’s Children’s Mental Health Week this week. To start the week, listen to Mr Dobson’s assembly explaining a little more about this year’s theme.
Yr wythnos hon, beth am ganolbwyntio ar adnabod a ffurfio'r llythrennau gwyrdd Tric a Chlic? Beth am greu collage o'r llythrennau? Gweler syniadau isod:
This week, How about concentrating on recognising and forming the Green Tric a Chlic letters? How about make a collage of these letters? See ideas below:
Dyma rai geiriau allweddol i chi ymarfer darllen ac ysgrifennu'r wythnos hon. Cofiwch i'w hymarfer yn ddyddiol. Beth am ddefnyddio deunyddiau gwahanol o amgylch y tŷ neu'r byd natur er mwyn adeiladu'r eirfa? Dyma rai enghreifftiau isod:
Here are the words for you to practise reading and building this week. Remember to practise them daily. How about using different materials that you can find around the house or natural items to build the words? Here are some examples below:
Cliciwch ar y linc isod i wrando ar stori 'Cwmwl Cai'.
Click on the link below to listen to the story 'Cwmwl Cai'.
Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith iaith heddiw.
Click on the video to see an introduction on what you need to do for your language work today.
Cliciwch ar y linc isod i wrando ar stori 'Cwmwl Cai'.
Click on the link below to listen to the story 'Cwmwl Cai'.
Cwmwl Cai
Yn y stori, mae Cai yn trafod ei deimladau. Pan mae Cai yn teimlo'n unig, trist neu'n poeni am bethau, mae e’n gwneud rhywbeth i geisio gwneud ei hun i deimlo'n well e.e. edrych ar y glôb gliter, dal llaw rhywun mae'n ei garu, bwyta ei hoff fwyd, talu sylw i fanylder y byd natur ayyb. Beth ydych chi'n gwneud pan rydych chi'n teimlon unig, trist neu'n poeni am bethau fel Cai? Oes gennych chi hoff degan, bwyd neu gân sydd yn gwneud i chi deimlo'n well? Gwyliwch fideo Miss Thomas ac yna recordiwch un eich hun.
Defnyddiwch y patrwm iaith 'Pan dwi'n (teimlo'n) drist/unig/poeni, rydw i'n.......'.
e.e. 'Pan dwi'n teimlo'n drist, rydw i'n gwrando ar gerddoriaeth.'
Cliciwch ar y linc isod i weld y Flipgrid.
Cod dosbarth Miss Thomas: Dewisant
In the story, Cai discusses his feelings. When Cai feels lonely, sad or is worried about something, he tries different things to make himself feel better e.g. looks at his glitter globe, holds a loved one's hand, eats his favourite food, pays close attention to nature etc. What do you do to make yourself feel better when you feel lonely, sad or are worried like Cai? Do you have a favourite toy, food or maybe a song that makes you feel better? Watch the video by Miss Thomas and then record your own.
Use the language pattern 'Pan dwi'n (teimlo'n) drist/unig/poeni, rydw i'n .....' ('When I'm (I feel) sad/lonely/worried......I........').
e.g. 'When I'm sad I like listening to music'.
Click on the link below to watch the Flipgrid.
Code: Dewisant
Teitl y stori yw 'Cwmwl Cai'. Mae'r geiriau yma yn cychwyn gyda'r llythyren 'c'. Ydych chi'n gallu darllen yr eirfa isod ac yna didoli'r eirfa sydd yn dechrau gyda 'c' a'r rhai sydd ddim yn y tabl isod. Ydych chi'n gallu meddwl am fwy o eirfa sydd yn cychwyn gyda 'c'?
Tasg ychwanegol: Beth am geisio adeiladu brawddeg syml yn cynnwys geirfa sydd yn dechrau gyda 'c'? Gallech gofnodi eich brawddegau yn eich llyfrau gwaith neu eu hadrodd ar lafar.
The title of the story is 'Cwmwl Cai'. These words both begin with the letter 'c'. Can you read the following words below and then sort them into words that begin with 'c' and words that do not in the table below. Can you think of more words that begin with 'c'?
Additional task: How about forming simple sentences using words that begin with 'c'. You can record your sentences in your workbooks or say them out loud.
Dewch i chwarae gêm 'Olwyn lles'. Cliciwch ar y linc isod;
Come and play the 'Wellbeing wheel' game. Click on the link below;
Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith Mathemateg heddiw.
Click on the video to see an introduction on what you need to do for your mathematics work today.
Gwyliwch y linc 'clociau yn canu am yr amser'.
Watch the link 'clociau yn canu am yr amser'.
Ydych chi'n gallu darllen a nodi yr amser ar y clociau isod?
Can you read and note the time on the clocks below?
Cliciwch ar y linc i chwarae'r gêm amser.
Click on the link to play the time game.
Beth am gychwyn yr wythnos drwy ryddhau unrhyw egni negyddol sydd gennym.
Let's begin the week by releasing any negative energy we're holding within.
Gwrandewch ar eiriau'r gân hon. Mae'n sôn am ben, ysgwyddau, coesau a thraed. Cyd-gannwch i'r gân gan geisio a chyffwrdd y darnau o'r corff sy'n cael ei dweud.e.e.. pan mae'n dweud 'pen' rhaid i chi gyffwrdd eich pen.
Love to sing - move to the song
Listen to the words of this song. It say's head, shoulders, knees and toes. Try and sing along to the song and touch the body parts that are being said. i.e. when it says 'head' you have to touch your head.
I ddechrau trafod ein hemosiynau, beth am dynnu llun o sut ydym yn teimlo heddiw? Lluniwch amlinelliad o'ch corff yna cymerwch eiliad i sylwi sut mae eich corff yn teimlo. Yna ewch ati i liwio eich corff i'ch teimladau. Cliciwch ar y linc isod i weld enghraifft.
To start discussing our emotions, why not draw a picture of how we feel today? Draw an outline of your body then take a moment to notice how your body is feeling. Then colour your body to your feelings. Click on the link below to see an example.
Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith iaith heddiw.
Click on the video to see an introduction on what you need to do for your language work today.
Dewch i wrando ar gân Cyw 'Sylwi a thaweli'r meddwl'.
Come and listen to the song 'Sylwi a thaweli'r meddwl' by Cyw.
Rydyn ni'n teimlo pob math o deimladau gwahanol pob dydd. Yn y stori, mae Cai weithiau yn teimlo'n hapus, ond weithiau yn teimlo'n drist. Edrychwch ar y llun isod o wahanol deimladau. Mae rhai hapus, trist, crac, ofnus ayyb. Ydych chi erioed wedi teimlo fel hyn? Edrychwch ar y lluniau a thrafodwch gyda rhywun am gyfnod pan rydych chi wedi teimlo fel hyn.
We experience different feelings and emotions everyday. In the story, Cai sometimes feels happy, but other times feels sad. Sometimes he feels excited and other times he feels worried. Look at the pictures below of different feelings. There are some that are happy, sad, angry, scared etc. Have you felt all of these feelings? Have a look at the pictures below and discuss with someone when you have ever felt like this.
Edrychwch ar yr 'emojis' isod. Ydych chi'n gallu cyfateb yr eirfa gyda'r 'emoji' cywir?
Look at the 'emojis' below. Can you match the words with the correct 'emoji'?
Ydych chi'n gallu cwblhau'r 'Trên teimladau'? Tynnwch lun o’ch wyneb i gynrychioli'r emosiwn ar y cerbydau.
Can you complete the 'Feelings train'? Draw a picture of your face to represent each feeling on the carriages.
Ydych chi'n gallu darllen a ddarganfod yr eirfa canlynol allan o'r stori 'Cwmwl Cai' yn y grid isod?
Can you read and find the following words out of the story 'Cwmwl Cai' in the grid below?
Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith Mathemateg heddiw.
Click on the video to see an introduction on what you need to do for your mathematics work today.
Cofiwch i ymarfer cyfri fesul 2, 5 a 10.
Remember to practise counting in steps of 2, 5 and 10.
Darllenwch yr amser o dan y cloc. Ydych chi'n gallu ysgrifennu'r amser cywir ar wyneb y cloc?
Edrychwch ar y llun fel enghraifft.
Read the time underneath the clock. Can you write the correct time on the clock face?
Look at the picture as an example.
(o'r gloch = o' clock)
Fedrwch chi greu cloc neu oriawr eich hun gan ddefnyddio adnoddau o amgylch y tŷ?
Can you make a clock or a watch of your own by using recourses around the house?
Beth am gychwyn heddiw drwy wneud ychydig bach o ymarferion ioga gyda Casi?
Let's begin today by doing some yoga excersises with Casi.
Enwch 3 pheth rydych yn ddiolchgar amdanynt. Tynnwch lun neu ysgrifennwch restr o'r pethau hyn a'u rhoi mewn man amlwg e.e. rydych yn ddiolchgar am eich teulu, am gael bwyd pob dydd, am gael tŷ i fyw ynddo, am gael anifail anwes (os oes un gennych), am gael dillad i wisgo a.y.b.
Name 3 things that you're grateful for. Draw a picture or write a list of these things and place them in a prominent place e.g. you're grateful for your family, for having food, for having a house to live in, for having a pet (if you have one), for having clothes to wear etc.
Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith iaith heddiw.
Click on the video to see an introduction on what you need to do for your language work today.
Yr wythnos hon, rydyn ni wedi bod yn sôn am beth sydd yn gwneud i ni deimlo'n well pan rydyn ni'n teimlo'n drist, unig neu yn poeni am rywbeth. Eich tasg heddiw yw tynnu llun ac ysgrifennu am beth mae hapusrwydd yn meddwl i chi. Beth sy'n gwneud i chi deimlo'n hapus? Yn y stori, Mae Cai yn gosod ei hoff degan, sef bwni bach, ar ei fol ac yn ei wylio'n mynd i fyny ac i lawr gyda phob anadliad. Oes person, tegan, lle, cân penodol neu anifail sydd yn gwneud i chi deimlo'n hapus? Gweler enghraifft 'Hapusrwydd i Cai' isod;
This week, we have been discussing what makes us feel better when we're feeling sad, lonely or worried about something. Your task today is to draw a picture and write about what happiness means to you. What makes you feel happy? In the story, Cai places his favourite toy (a little bunny) on his belly and watches it go up and down with every breath. Is there a person, toy, place, particular song or animal that makes you feel happy? See Cai's example of what happiness means to him below;
Enghraifft / Example
Templed / Template
Dewch i wylio'r bennod yma o 'Shwshaswyn-Swigod' ac yna atebwch y cwestiynau isod.
Come and watch this episode of 'Shwshaswyn-Swigod' and then answer the questions below.
Ble mae'r cymeriadau yn chwarae heddiw? / Where are the characters playing today?
Sut mae'r tywydd yn y bennod? / What is the weather like in the episode?
Beth yw enw'r cwmwl? / What is the name of the cloud?
Beth yw cwch y capten? / What is the captain's boat?
Pa liw yw cot y capten? / What colour is the captain's coat?
Beth mae Fflwff yn popio yn yr awyr? / What is Fflwff popping in the sky?
Beth yw enw'r tylwyth teg? / What is the name of the fairy?
Beth mae Seren yn chwarae gyda? / What is Seren playing with?
Pa liw yw gwallt Seren? / What colour is Seren's hair?
Sawl rhuban sydd ar y cwmwl? / How many ribbons are on the cloud?
Parc / Park
Heulog / Sunny
Fflwff / Fflwff
Ymbarel / Umbrella
Melyn / Yellow
Swigod / Bubbles
Seren / Seren
Pêl / Ball
Porffor / Purple
7
Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith Mathemateg heddiw.
Click on the video to see an introduction on what you need to do for your mathematics work today.
Dewch i wrando ar gân 'amser' Cyw.
Come and listen to the 'time' song on Cyw.
Ydych chi'n gallu cyfatebu'r amseroedd isod gyda llun o'r cloc.
Can you match the times below with a picture of the clock.
Yn ystod y misoedd diwethaf mae ein gweithgareddau pob dydd wedi newid. Rydyn ni fel arfer yn yr ysgol ac yn brysur yn gwneud gweithgareddau ar amseroedd penodol. Eich tasg heddiw yw dangos beth ydych chi'n gwneud yn ystod amseroedd gwahanol adref? Defnyddiwch y grid isod neu greu grid eich hun i ddangos pa weithgareddau chi'n gwneud yn ystod yr amseroedd isod.
Gallwch chi dynnu lluniau, recordio neu ysgrifennu'r gweithgareddau rydych chi'n eu gwneud.
Edrychwch ar y cylch amser fel enghraifft.
In recent months everyday things have changed. We are usually at school and busy doing activities at set times. Your task today is to show what you do during different times at home? Use the grid below or create your own grid to show what activities you are doing during different times. You can draw pictures, record or write the activities that you do.
Look at the clock activity as an example.
Dewch i wrando ar gân Teimladau Cyw.
Come and listen to the Cyw song 'Teimladau'.
Dyma daflen sydd a 6 hwyneb gwag, o dan y wynebau mae'n dweud pa deimlad mae'r person yn ei ddangos. Allwch chi dynnu llun o'r wyneb sydd yn cyd-fynd â'r teimlad? Sut wyneb sydd gyda chi os ydych yn hapus? Ewch i edrych yn y drych yn gyntaf i weld eich wyneb chi.
On this worksheet there are 6 blank faces, underneath each face the emotion of the person is written. Can you draw the emotion on the face? What do you look like if you're happy? Go and look in the mirror to see your face first before starting to draw.
Dyma sialens a allwch ei wneud gydag aelod arall o'r teulu. Cyntaf i ddod o hyd i'r mwyaf o'r eitemau sydd ar y daflen. Efallai, os oes oedolyn ar gael, medrwch fynd am dro i chwilio am eitemau nad ydych wedi dod o hyd iddynt. Pob lwc a rhannwch eich helfa gyda ni.
Here's a challenge you can do with another family member. First to find the most of the items on the sheet. Perhaps, if an adult is available, you can go for a walk looking for items you haven't found. Good luck and share your hunt with us.
Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith iaith heddiw.
Click on the video to see an introduction on what you need to do for your language work today.
Mae'n wythnos iechyd meddwl y plant. Rydyn ni wedi bod yn trafod ein teimladau a phwysigrwydd edrych ar ôl ein hun. Mae pawb yn wahanol ac yn unigryw, ac mae'n bwysig eich bod chi'n gwybod taw chi yw chi, ac mae hynny'n ddigon. Eich tasg heddiw yw tynnu llun o'ch hun a nodwch ansoddeiriau o'ch cwmpas sydd yn disgrifio pa fath o berson ydych chi. Defnyddiwch y templed isod, neu ewch ati i wneud un eich hun. Mae croeso i chi ddefnyddio'r grid ansoddeiriau i'ch helpu.
It's children's mental health week. We have been discussing our feelings and the importance of looking after ourselves. Everybody is different and unique, and it's important to remember that you are you, and that is enough. Your task today is to draw a picture of yourself and write adjectives around yourself describing the type of person you are. You can use the template below or you can make your own. You are welcome to use the adjective grid below to help you.
Dewch i wylio pennod 'Garddio' Shwshaswyn ac yna atebwch y cwestiynau isod;
Come and listen to the 'Garddio' episode of Shwshaswyn and then answer the question below;
Ble mae'r cymeriadau yn y bennod yma? / Where are the characters in this episode?
Beth mae Seren yn gwneud? / What is Seren doing?
Pa flodyn sy'n tyfu yn yr ardd? / What flower grows in the garden?
Ar beth mae'r capten yn chwarae drwm? / What does the captain play drums on?
Pa 2 liw yw umbarel y capten? / What 2 colours are captains umbrella?
Beth arall mae'r capten yn gwneud gyda'r can ddŵr? / What else does the captain do with the watering can?
Bel mae cartref Seren? / Where does Seren live?
Yn yr ardd / In the garden
plannu hadau / planting seeds
Dant y Llew / Dandelion
Can ddŵr / Watering can
Pinc a glas / Pink and blue
Dyfrio'r pridd / Watering the soil
Tu ôl i'r cloc / Behind the clock
Dewch i wrando ar gân Cyw 'Dal ati'.
Come and listen to the Cyw song 'Dal ati'.
Cliciwch ar y fideo i weld y cyflwyniad o'r hyn sydd angen i chi ei wneud ar gyfer eich gwaith Mathemateg heddiw.
Click on the video to see an introduction on what you need to do for your mathematics work today.
Ydych chi'n gallu meddwl am amser ac ysgrifennu'r amser ar wyneb y cloc ac mewn geiriau o dan y cloc.
E.e. Mae hi'n ____________. (Mae hi'n 5 o'r gloch)
Can you think of a time and write it on the clock face and in words underneath.
I.e. It is ___________. ( It is 5 o' clock)
Ydych chi'n gallu gweld beth allwch chi wneud mewn 1 funud? Darllenwch syniadau o bethau gallwch chi drio isod. Gallwch nodi beth chi'n gwneud ar bapur, recordio fideo, neu drafod.
Can you see what you can do in 1 minute? Look at some of the ideas of things you can try below. You can write down what you do, record a video, or discuss.
Mae rhifau wedi ysgrifennu mewn prif lythrennau yn y chwilair. Ydych chi'n gallu chwilio am y geiriau isod yn y chwilair?
The numbers are written in capital letters in the word search. Can you look for the words below in the word search?
Byddwn ni'n dathlu #DyddMiwsigCymru ddydd Gwener 5 Chwefror. Rydyn ni'n edrych ymlaen i ddarganfod a dathlu'r holl fiwsig Cymraeg anhygoel sydd ganddon ni.
Mae #Miwsig yn ffordd o helpu pawb i ddysgu rhagor o Gymraeg. Dyma'r rhestr chwarae rydyn ni'n gwrando arni: https://open.spotify.com/playlist/48ivzmxylZVwn50RavxO7a?nd=1
We’ll be celebrating #DyddMiwsigCymru - #WelshLanguageMusicDay on Friday 5th February. We can’t wait to discover and celebrate amazing #Miwsig made in the Welsh language.Listening to #Miwsig is helping us learn even more Welsh.Check out the playlist we’re listening to.https://open.spotify.com/playlist/48ivzmxylZVwn50RavxO7a?nd=1
Beth am greu poster eich hunain yn barod at Ddydd miwsig Cymru? Gallwch ychwanegu llun o’ch hoff fand neu hoff gân, neu gallwch dynnu llun o sut mae eich hoff gân yn gwneud i chi deimlo. Byddwch mor greadigol a lliwgar a phosib. Cofiwch rannu eich gwaith gyda ni, unai ar ‘Twitter’ neu ei yrru ar ‘Seesaw’. Diolch, a phob lwc i chi.
Why not create your own poster ready for Welsh Language Music Day? You can add a picture of your favourite band or song, or you can draw how your favourite song makes you feel. Be as creative and colourful as possible. Remember to share your work with us, either on 'Twitter' or send it on 'Seesaw'. Thank you, and good luck to you.
Thema ein sesiwn lles yr wythnos hon yw ‘emosiynau’. Dewch i wrando ar y stori, ‘Weithiau dwi’n teimlo’n heulog’, yn cael ei darllen.
The theme of this week’s well-being session is ‘emotions’. Listen to the story, ‘Weithiau dwi’n teimlo’n heulog’, being read.
Mae’r stori yn cyfeirio at wahanol emosiynau a’r pethau sy’n gwneud i ni deimlo fel hyn. Weithiau mae’n anodd i ni ddangos ein hemosiynau a dydy rhai ddim yn hoffi trafod eu hemosiynau.
Creu cymeriadau emosiynau: Eich tasg chi yw i greu cymeriadau emosiynau fel y rhai isod gan ddefnyddio pethau sydd gyda chi yn y tŷ. Gallwch ddefnyddio y rhain pan rydych chi eisiau dangos eich emosiynau.
The story refers to different emotions and the things that make us feel like this. Sometimes, we find it hard to express and show our emotions.
Creating emotion characters: This task will help you show and explain your emotions. Make emotion characters similar to the ones below using things that you have at home.
Beth am gymryd rhan mewn sesiwn Addysg Gorfforol heddiw? Ceir nifer o syniadau am weithgareddau ar y wefan hon. Mae ail wers Meddwlgarwch Mr Dobson ar gael ar y wefan hefyd.
How about taking part in a P.E session today? There are many ideas for activities on this website. Mr Dobson’s second Mindfulness lesson is on the website too.
https://sites.google.com/hwbcymru.net/tudalen-addysg-gorfforol-ygc/hafan-home
Tasg: Cliciwch ar y ddolen er mwyn dysgu sut i arlunio wynebau yn dangos gwahanol emosiynau. Beth am greu mwgwd ‘emoji’, tynnu llun o’ch hunain yn ei wisgo a’i anfon i ni?
Task: Click on the link to learn how to draw faces showing different emotions. Why not create an ‘emoji’ mask, take a picture of yourself wearing it and send it to us?
Cofiwch am y digwyddiad hwn sy’n fyw, bob prynhawn dydd Gwener:
Remember about this event, which takes place live, every Friday:
Am 12:30 heddiw, mae’r Urdd yn cynnal disgo yn fyw o Lan-llyn i ddathlu Dydd Miwsig Cymru. Cliciwch ar y ddolen isod er mwyn ymuno mewn.
At 12:30 today, the Urdd will be holding a live disco from Glan-llyn to celebrate Dydd Miwsig Cymru. Click on the link below at 12:30 to join in.
Mwynhewch! / Enjoy!