Cofiwch edrych ar dudalen 'Siarter Iaith' yr wythnos drwy glicio ar y ddolen isod.
Remember to look on the 'Welsh Language charter' page by clicking on the link below.
https://sites.google.com/hwbcymru.net/ysiarteriaith/tymor-3/17-5-21-21-5-21
Cliciwch ar y linc i wylio y fideo.
Click on the link to watch the video.
Tasg/ Task:
Ar ddydd Gwener, rydyn ni'n canolbwyntio ar Gymreictod. Eich tasg chi yw i ateb y cwestiynau isod am Gymru. Defnyddiwch y we i'ch helpu chi i ddod o hyd i'r atebion.
On Friday, we focus on all things Welsh. Your task is to answer the questions below about Wales. Use the internet to help you find the answers.
Pa anifail sydd ar faner Cymru?
Which animal is on the Welsh flag?
2. Beth yw enw'r blodau yn y llun?
What is the name of the flowers in the picture?
3. Pa iaith ydyn ni'n siarad yng Nghymru?
Which language do we speak in Wales?
4. Beth yw enw'r mynydd uchaf yng Nghymru?
What is the name of highest mountain in Wales?
5. Beth yw enw Prifddinas Cymru?
What is the name of the Welsh capital?
Mae'r ddraig goch yn symbol bwysig i Gymru. Mae'r ddraig ar ein baner. Eich tasg chi yw tynnu llun neu greu draig goch. Cliciwch ar y linc i wylio'r camau ar sut i dynnu llun draig neu edrychwch ar y lluniau isod i greu draig.
The red dragon is an important symbol for Wales. The dragon is on our flag. Your task is to draw or create a red dragon.
Click on the link to watch a step by step guide on how to draw a dragon or look at the pictures below on how to create one.
Isod, mae lluniau amrywiaeth o symudiadau gwahanol. Ydych chi'n gallu dewis rhai (neu pob un!) o'r symudiadau isod a chyfri sawl un, neu am ba mor hir rydych chi'n gallu eu gwneud e.e. sawl hop, sgip, neu am ba mor hir rydych chi'n gallu cydbwyso ar un goes? Gofynnwch i oedolyn i'ch helpu i gadw cyfrif/ amseru.
Below, are pictures of different types of movement. Can you choose some (or all!) of the movements below and count how many or for how long you can do each e.g. how many skips, hops or for how long you can balance on one leg? Ask an adult to keep count/ help you to time yourself.
Rydyn ni wedi bod yn edrych ar drychfilod gwahanol yr wythnos hon. Dewch i chwilio am enwau'r trychfilod gwahanol yn y grid isod. Gallech chi hefyd dynnu lluniau o'r trychfilod yma a'u labelu nhw yn eich llyfrau gwaith cartref os dymunwch.
We have been looking at different minibeasts this week. Come and find the name of the different minibeasts in the grid below. You can also draw pictures of the different minibeasts in your homework books and label them if you wish.
Beth am fynd am dro i chwilio am drychfilod gwahanol? Defnyddiwch y daflen i'ch helpu. Pa rai gallwch chi eu darganfod? Mae croeso i chi dynnu lluniau a'u danfon nhw atom ni ar Seesaw.
How about going for a walk to search for minibeasts? Use the page to help you. Which ones can you find? You are welcome to take pictures and send them to us via Seesaw.
Cliciwch ar y linc i wrando ar gân 'Trychfilod yr ardd' ar Cyw.
Click on the link to listen to the 'Trychfilod yr ardd' song on Cyw.