Croeso i'r Ganolfan Iaith

Welcome to the Language Centre

Our main Canolfan Iaith (Language Centre) is Canolfan Gŵen, Maes y Gwendraeth. (‘Gŵen’ meaning ‘smile’). The Canolfan Iaith is a new building and independent from the main school. Pupils from years 3 to 6, who are newcomers to the Welsh language, attend the centre regularly over a period of ten weeks. Depending on demand there are additional Language Centres at Ysgol Llangadog and Ysgol Griffith Jones.

The Canolfan Iaith teachers will visit the new pupils at their school before the course commences. There will also be an opportunity for the parents to visit the Canolfan Iaith during the term.

Ein prif ganolfan yw Canolfan Iaith Gŵen, Maes y Gwendraeth. Adeilad newydd yw’r Ganolfan hon sydd yn annibynnol o’r ysgol uwchradd. Mae newydd-ddyfodiaid Blwyddyn 3 i 6 yn mynychu’r Ganolfan yn gyson dros ddeg wythnos o’r tymor. Yn ddibynnol ar y galw, mae’r plant yn mynychu Canolfannau Iaith yn ysgolion Llangadog a Griffith Jones hefyd.

Bydd athrawon y Canolfannau yn ymweld â’r plant newydd yn eu hysgolion cyn iddynt ddechrau yn y Ganolfan. Bydd cyfle hefyd i’r rhieni ymweld â’r Ganolfan yn ystod y tymor.

Gweithgareddau'r Canofan Iaith Activities

Canolfan Gwen (1).mp4

Gwybodaeth Defnyddiol Useful Information

Give Welsh a go challenge!.mp4

Cymraeg - Give it a go!

Her Cymraeg i'r teulu!
Welsh challenge for families!

Mae plant yn dysgu wrth gael hwyl.mp4

Children learn while having fun

Syniadau i'ch plentyn i gael hwyl wrth ddysgu Cymraeg
Ideas that make learning Welsh fun for your child

Top Tips Pecyn Croeso.pptx

Syniadau i godi hyder eich plentyn yn Gymraeg
Ideas on how to develop your child's confidence in Welsh 

Cymraeg gyda'r plant. Welsh with your Kids - give it a go!.pdf

Ymadroddion Cymraeg i'ch helpu i ddechrau arni gartref
Welsh phrases to help you get started at home

welsh-homework-no-problem.pdf

Sut i gefnogi eich plentyn gyda gwaith cartref Cymraeg
How to support your child with Welsh homework

being-bilingual.pdf

Manteision bod yn ddwyieithog
Advantages of being bilingual 

SR-44751-LlyfrynyGanolfan.pdf

Help Llaw rhyngweithiol Interactive Welsh support book

Enwogion Sir Gaerfyrddin
Famous people of Carmarthenshire

Cwestiynau Cyffredin 
Frequently Asked Questions

Ble mae Canolfan Iaith Gwên?  Where is the Language Centre?

Lleolir Canolfan Iaith Gwên mewn adeilad newydd pwrpasol ar safle ysgol Maes y Gwendraeth. Bydd cyfle i'r rhieni ddod i Ganolfan Gwên i weld y safle, cwrdd â'r athrawon a gweld yr adnoddau ardderchog.
The Language Centre is situated in a new purpose-built building at Maes y Gwendraeth school. Parents will have the opportunity to visit the Language Centre, meet the teachers and see the excellent resources.

Pwy sy’n dysgu’r plant?  Who are the teachers?

Dysgir y disgyblion gan athrawon profiadol sy'n arbenigwyr yn y maes dysgu iaith. Bydd athrawon y Ganolfan hefyd yn mynd allan i'r ysgolion i gwrdd â'r plant newydd cyn iddynt ddechrau yn y Ganolfan. Cyflwynir gweithgareddau hwylus ac amrywiol mewn awyrgylch gartrefol a gofalgar.
The children will be taught by experienced teachers that specialise in developing Welsh skills. The Language Centre teacher will initially visit the children at their school before starting at the Language Centre.

Pa weithgareddau bydd y plant yn gwneud yn y Ganolfan? 
What activities will there be at the Language Centre?  

Pwyslais yr addysgu yw i gyfathrebu yn y Gymraeg; siarad, darllen ac ysgrifennu. Cyflwynir agweddau eraill o’r cwricwlwm newydd ar draws yr addysgu gyda gweithgareddau Mathemateg a Rhifedd yn cael sylw rheolaidd. Bydd gweithgareddau creadigol TGCh, gemau a gemau buarth yn atgyfnerthu'r iaith a datblygu sgiliau ehangach.
The focus of the activities will be on developing Welsh skills: Speaking, Reading and Writing in Welsh. Other areas of the Curriculum will also be implemented regularly throughout the teaching. Maths and Numeracy will be given regular focus. Creative activities and technology will be introduced to reinforce language and develop further skills. The Welsh language will be introduced within a friendly and caring atmosphere through fun activities and varied experiences.

Pa mor hir fyddant yn mynychu’r Ganolfan? 
How long will my child attend the Language Centre?

Bydd y plant yn mynychu'r Ganolfan Iaith am gyfnod dysgu dwys, tri diwrnod yr wythnos am ddeg wythnos. Cynigir lle i ddisgyblion 7-11 oed i fynychu'r Ganolfan.
Children from the age of 7-11 will attend Language Centre for up to 3 days a week for a period of 10 weeks.

Sut fydd fy mhlentyn yn cyrraedd y ganolfan? 
How will my child travel to the Language Centre?

Trefnir cludiant i'r Ganolfan Iaith yn rhad ac am ddim mewn tacsi a drefnir gan y sir. Bydd pob plentyn yn cael eu casglu o'r ysgol gynradd yn y bore gan ddychwelyd yn ôl i'r ysgol gynradd yn y prynhawn.
Carmarthenshire Education Authority will provide transport, free of charge, from your child's primary school to the Language Centre.

Ydy’r plant yn cael cinio yn y Ganolfan? 
What about lunch at the Language centre?

Bydd rhaid i'r plant ddod â phecyn bwyd i'r Ganolfan. Bydd yr ysgol yn trefnu pecyn bwyd i'r plant hynny sy'n derbyn cinio rhad ac am ddim.
Children will need to bring their own packed lunch to the Language Centre. If children receive free school meals a packed lunch will be prepared for them by their own primary school.

Beth allwn ni ei wneud i helpu?  What can we do to help?

Gallwch helpu drwy bod yn bositif ac yn gefnogol. Cofiwch annog eich plentyn i siarad Cymraeg gyda ffrindiau. Ymunwch gyda unrhyw weithgareddau Cymraeg yn en eich ardal.
The best advice is to be positive and supportive. Encourage your child to speak Welsh with friends as much as possible. Get involved in Welsh activities in your local area.