Sylfaen Uned 8
Nodiadau / Notes
Nod/ Objective
Dysgu sut i ddefnyddio’r arddodiaid i, ar, at
Learning how to use prepositions
Patrymau / Patterns
i
Gofyn i
Dw i’n mynd i ofyn i ti
I’m going to ask you
Dw i’n mynd i ofyn iddo fe
I’m going to ask him
Dw i’n mynd i ofyn iddi hi
I’m going to ask her
Dw i’n mynd i ofyn iddyn nhw
I’m going to ask them
Rhoi
Rhaid i fi roi anrheg i chi
I’ve got to give you a present
Prynu
Dw i’n mynd i brynu anrheg iddo fe
I’m going to buy him a present
Fi i fi
Ti i ti
Fe iddo fe
Hi iddi hi
Sam i Sam
Ni i ni
Chi i chi
Nhw iddyn nhw
Ar
Dych chi’n cofio?
Mae annwyd arna i
I’ve got a cold
Edrych
Edrychwch arno fe
Look at him
Gwrando
Gwrandewch arni hi
Listen to her
Dwlu
Dw i’n dwlu arnyn nhw
I love them
Fi arna i
Ti arnat ti
Fe arno fe
Hi arni hi
Sam ar Sam
Ni arnon ni
Chi arnoch chi
Nhw arnyn nhw
At
Anfon
Anfonodd John ebost ati hi
John sent her an email
Ysgrifennu
Ysgrifennodd hi ato fe
She wrote to him
Mynd
Aeth e atyn nhw
He went to them
Cofio
Cofia fi at Sion
Give Sion my regards
Edrych ymlaen
Dw i’n edrych ymlaen at y parti
I’m looking forward to the party
Fi ata i
Ti atat ti
Fe ato fe
Hi ati hi
Sam at Sam
Ni aton ni
Chi atoch chi
Nhw atyn nhw
Geiriau gyda bob arddodiad
Words with each preposition
i
gofyn
rhoi
dangos
cynnig
gweithio
mynd (lle)
ar
edrych
gwrando
dwlu
gwenu
dibynnu
sylwi
at
mynd (person)
ysgrifennu (person)
anfon (person)
cofio
edrych ymlaen
i: (lle) – Dw i’n mynd i’r ysbyty
i: (person) – Dw i’n mynd at y doctor
Dych chi’n gallu edrych ar dudalen 80 ac 81(Help llaw yn y cwrslyfr am fwy o wybodaeth
You can also look on page 80 and 81 (Help llaw) in your coursebooks for more information