Canolradd Uned 8
Nodiadau
Nod
Iaith: ar ôl, ar bwys
Ymarfer: Rhoi cyfarwyddiadau
Mae rhai arddodiaid (prepositions) yn dod mewn dwy ran. Yn yr uned hon, ’dyn ni’n gweld ar ôl, ar bwys.
ar ôl
A: Pryd cyrhaeddaist ti’r gwaith?
B: Cyrhaeddais i am hanner awr wedi naw.
A: Gyrhaeddaist ti o flaen Cefin a Dafydd?
B: Naddo, cyrhaeddais i ar eu hôl nhw.
Cyrhaeddodd e ar fy ôl i
He arrived after me
Cyrhaeddodd hi ar dy ôl di
She arrived after you
Cyrhaeddodd hi ar ei ôl e
She arrived after him
Cyrhaeddodd e ar ei hôl hi
He arrived after her
ar ôl
ar fy ôl i
ar dy ôl di
ar ei ôl e
ar ei hôl hi
ar ein hôl ni
ar eich ôl chi
ar eu hôl nhw
Cofiwch fod h o flaen llafariaid ar ôl ei (benywaidd), ein, eu:
ei henw hi
ein henwau ni
eu henwau nhw
Ar bwys
Dych chi'n byw ar fy mhwys i.
You live close to me.
Dych chi'n gweithio ar fy mhwys i.
You work close to to me..
Dych chi'n eistedd ar fy mhwys i.
You are sitting next to me.
Dych chi'n sefyll ar fy mhwys i
You are standing next to me..
ar bwys
ar fy mhwys i (Treiglad Trwynol)
ar dy bwys di (Treiglad Meddal)
ar ei bwys e (Treiglad Meddal)
ar ei phwys hi (Treiglad Llaes)
ar ein pwys ni (Dim Treiglad)
ar eich pwys chi (Dim Treiglad)
ar eu pwys nhw (Dim Treiglad)
Cyfarwyddo
Dych chi'n coifo?
Mynediad Uned 21
Sylfaen Uned 19
Ffurfiol
Dechreuwch wrth y banc.
ewch yn syth ymlaen
trowch i’r chwith
trowch i’r dde
ewch o gwmpas y gylchfan
Anffurfiol
Dechreua wrth y banc.
cer yn syth ymlaen
tro i’r chwith
tro i’r dde
cer o gwmpas y gylchfan
Newydd
Mae’r cyfarfod newydd ddechrau.
Mae’r cyfarfod newydd orffen.
Mae’r bws newydd gyrraedd.
Mae’r bws newydd adael.
Dych chi’n gallu edrych ar dudalen 74 (Help llaw) yn y cwrslyfr am fwy o wybodaeth