Canolradd Uned 2
Nodiadau
Nod
Byth ac Erioed
Byth
’Dyn ni’n defnyddio byth i gyffredinoli (generalise) yn y presennol ac yn yr amodol (conditional). Mae’r gair byth yn cymryd lle’r gair ddim mewn brawddeg negyddol a’r ystyr yma yw never.
Dw i byth yn gweithio ar ddydd Sul
I never work on Sundays
Faswn i byth yn gweithio ar ddydd Sul
I would never work on Sunday
Erioed
’Dyn ni’n defnyddio erioed yn y gorffennol gyda wedi. Eto, mae erioed yn cymryd lle ddim mewn brawddeg negyddol.
Dw i erioed wedi gweithio ar ddydd Sul
I have never worked on Sunday
Wyt ti wedi gweithio ar ddydd Sul erioed?
Have you ever worked on Sunday?
Wyt ti wedi bod yn Llydaw erioed?
Have you ever been to Brittany?
Dw i wedi bod yno unwaith
I have been there once
Dw i wedi bod yno dwywaith
I have been there twice
Dw i wedi bod yno tair gwaith
I have been there thee times
Dw i wedi bod yno sawl gwaith
I have been there several times
Ymddiheurio
Mae sawl ffordd o ymddiheurio, dyma rai ohonynt
Mae’n flin gyda fi
Mae’n ddrwg gyda fi
Sori