Canolradd Uned 7
Nodiadau
Nod
Yr arddodiad ‘o’ a’r negyddol ‘mo’ (ohono i, ohonot ti, ohono fe,
ohoni hi, ohonon ni, ohonoch chi, ohonyn nhw)
Dysgwch yr arddodiad o. Y tro yma y bôn yw ohon- Dyma’r patrwm yn llawn:
Mae pump ohonon ni yn y dosbarth heddiw.
There are five of us in class today.
Mae pump ohonoch chi yn y dosbarth heddiw.
There are five of you in class today.
Mae pump ohonyn nhw yn y dosbarth heddiw.
There are five of them in class today.
Beth dych chi’n ei feddwl ohono fe?
Dw i’n meddwl ei fod e’n annifyr.
Beth dych chi’n ei feddwl ohoni hi?
Dw i’n meddwl ei bod hi’n fusneslyd.
Beth dych chi’n ei feddwl ohonyn nhw?
Dw i’n meddwl eu bod nhw’n gostus.
Dysgwch yr arddodiad o. Y tro yma y bôn yw ohon-
Dyma’r patrwm yn llawn:
ohono i
ohonot ti
ohono fe
ohoni hi
ohonon ni
ohonoch chi
ohonyn nhw
I greu’r negyddol gydag enw pendant (definite noun) a ffurfiau cryno (short form verbs), rhaid i ni ddefnyddio ddim + o sy’n troi yn mo.
Welais i ddim newyddion neithiwr.
I didn’t see any news last night.
Welais i mo’r newyddion neithiwr.
I didn’t see the news last night.
Mae’n digwydd gydag enwau priod (proper nouns) a rhagenwau (pronouns) hefyd:
Welais i mo Tom.
Welais i mohono fe.
Wrth siarad, mae’n bosib byddwch chi’n clywed:
mono i (mohono i)
monot ti (mohonot ti)
mono fe (mohono fe)
moni hi (mohoni hi)
monon ni (mohonon ni)
monoch chi (mohonoch chi)
monyn nhw (mohonyn nhw)
Dim ond gyda berfau cryno (concise) mae hyn yn digwydd:
Dw i ddim yn darllen y llyfr.
Dw i ddim wedi darllen y llyfr.
Fydda i ddim yn darllen y llyfr.
Faswn i ddim yn darllen y llyfr.
OND
Ddarllenais i mo’r llyfr.
Ddarllena i mo’r llyfr.
3. Cofiwch fod dau dreiglad yn digwydd yn y negyddol.
Treiglad Llaes gyda T, C, P:
Thaliff hi mohonyn nhw.
Chlywais i mo’r larwm.
Pharciais i mo’r car.
Treiglad Meddal os nad ydy’r Treiglad Llaes yn bosib:
Ddarllenais i mo’r ebost.
Fwytodd e mo’r cinio.
Welais i mohoni hi.
Dych chi’n gallu edrych ar dudalen 87/88 (Help llaw) yn y cwrslyfr am fwy o wybodaeth