Canolradd Uned 9
Nodiadau
Nod
Gorffennol yr Amodol
(dylwn i fod wedi, ddylwn i ddim bod wedi)
Dych chi’n cofio? (Sylfaen Uned 22 a 23)
Dylwn i smwddio
I should iron
Hoffwn i fynd i Ffrainc
I would like to go to France
Gallwn i redeg marathon
I could run a marathon
Dysgwch
Dylwn i fod wedi smwddio
I should have iron
Hoffwn i fod wedi mynd i Ffrainc
I would have liked to have gone to France
Gallwn i fod wedi rhedeg marathon
I could have ran a marathon
Ddylet ti ddim bod wedi mynd allan neithiwr
You shouldn’t have gone out last night
Allai fe byth bod wedi gorffen y gwaith
He couldn’t have finished the work
Allen nhw fod wedi helpu?
Could they have helped?
Ddylai hi fod wedi ymddiheurio?
Should she have apologised?
Cofiwch
Pan fyddwn ni’n defnyddio ffurfiau cryno yr amodol (the concise forms of the conditional), rhaid i ni roi’r gair bod cyn y gair wedi:
Dylwn i fod wedi mynd.
Hoffwn i fod wedi mynd.
Gallwn i fod wedi mynd.
Mae’r gair bod yn treiglo’n feddal ar ôl y ffurf gryno.
Cofiwch fod y ferf yn treiglo’n feddal yn y negyddol.
Does dim treiglad ar ôl ddim:
Ddylwn i ddim bod wedi mynd.
Allwn i ddim bod wedi mynd.
Does dim angen treiglo bod yn y gorffennol achos bod ddim yn treiglo.
Fi Dylwn i…
Ti Dylet ti…
Fe/Hi Dylai fe/hi…
Ni Dylen ni…
Chi Dylech chi …
Nhw Dylen nhw…
Fi Gallwn i…
Ti Gallet ti…
Fe/Hi Gallai fe/hi…
Ni Gallen ni…
Chi Gallech chi …
Nhw Gallen nhw…
Fi Hoffwn i…
Ti Hoffet ti…
Fe/Hi Hoffai fe/hi…
Ni Hoffen ni…
Chi Hoffech chi …
Nhw Hoffen nhw…