Canolradd Uned 3
Nodiadau
Nod
Iaith: Dw i’n meddwl fy mod i, dy fod ti, ein bod ni, eich bod chi
Ymarfer: Mynegi barn (Expressing an opinion)
Dych chi’n cofio? – Sylfaen Uned 7
Dw i’n meddwl + Mae rygbi yn iawn
=
Dw i’n meddwl bod rygbi yn iawn
I think rugby is ok
Beth dych chi’n feddwl o rygbi?
What do you think of rugby?
Ro’n i’n meddwl bod cinio ysgol yn flasus
I thought school dinners was tasty
Beth o’ch chi’n feddwl o ginio ysgol
What did you think of school dinners?
Dw i’n meddwl bod y llyfr yn dda
I think the book is good
Dw i’n meddwl ei fod e’n dda
I think that it’s good (enw gwrywaidd)
Dw i’n meddwl bod y ffilm yn dda
I think that the film is good
Dw i’n meddwl ei bod hi’n dda
I think that it’s good (enw benywaidd)
Dysgwch / Learn
Dw i’n gwybod fy mod i’n iawn
I think that I’m ok
Wyt ti’n meddwl dy fod ti’n iawn
Do you think that you’re ok
Dw i’n meddwl ein bod ni’n iawn
I think that we’re ok
Dw i’n meddwl eu bod nhw’n iawn
I think that they are ok
1. ’Dyn ni’n defnyddio bod ar ôl:
Berfau
meddwl
gwybod
gobeithio
dweud
clywed
dadlau
Ansoddeiriau
siŵr
sicr
mae’n debyg
siomedig
hapus
trist
Arall
efallai
wrth gwrs
mae’n flin gyda fi
Dw i’n gobeithio dy fod ti’n dda
I hope that you’re ok
Mae e’n siŵr ei bod hi ’n sal
He’s sure that she’s ill
Efallai eu bod nhw‘n dod heno
They might be coming tonight
2. Mae bod yn newid gyda’r rhagenwau:
Fy mod i
Dy fod ti
Ei fod e
Ei bod hi
Ein bod ni
Eich bod chi
eu bod nhw
3. ’Dyn ni’n defnyddio bod yn y presennol a’r amherffaith (imperfect) – roedd, ac ati.
Mae hi’n braf.
Dw i’n meddwl ei bod hi’n braf.
Roedd hi’n braf.
Ro’n i’n meddwl ei bod hi’n braf.
4. Ond yn y dyfodol a’r amodol (conditional), ’dyn ni ddim yn defnyddio bod.
Bydd hi’n braf.
Dw i’n meddwl bydd hi’n braf.
Basai hi’n braf.
Ro’n i‘n meddwl basai hi’n braf.