Dyfnhau dealltwriaeth o asesu a chynnydd

Dylai asesu ganolbwyntio o hyd ar wthio’r dysgu yn ei flaen trwy ddeall y dysgu sydd eisoes wedi digwydd, gan ddefnyddio hyn i sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn cael eu herio a’u cefogi’n briodol yn ôl eu hanghenion dysgu unigol.
Canllawiau Cwricwlwm i Gymru

Mae'r GoogleSite yma wedi'i greu fel adnodd Dysgu Proffesiynol hunan-gyfeiriedig, yn unol â gweminar 'Dyfnhau dealltwriaeth o asesu a chynnydd yng Nghwricwlwm i Gymru' Partneriaethau Canolbarth Cymru.

Nod yr adnodd hwn yw cefnogi ysgolion a lleoliadau gyda’u dulliau asesu a chynnydd, gan sicrhau bod cynnydd ac asesu yn rhan annatod o gynllunio cwricwlwm. Darperir adnoddau ac enghreifftiau. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi y dylai ysgolion a lleoliadau newid neu addasu unrhyw daflen enghreifftiol, i sicrhau eu bod yn adlewyrchu cwricwlwm unigol yr ysgol, ac yn bwrpasol wrth gefnogi anghenion unigolion o fewn ysgol/lleoliad. Bydd yr adnodd dysgu proffesiynol hwn yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru, ac unrhyw enghreifftiau newydd a rennir.


Trefnir yr adnodd fel a ganlyn:

Uned 1 - Canllawiau Cwricwlwm i Gymru

Uned 2 - Myfyrio ar arfer

Uned 3 - 3 prif rôl asesu

Uned 4 - Adnoddau Ychwanegol

Uned 5 - Llywodraeth Cymru: Adnoddau a deunyddiau cefnogi

Ym mhob uned, darperir cyfleoedd i fyfyrio a thrafod ynghyd ag adnoddau enghreifftiol.

Gweminar 'Dyfnhau dealltwriaeth o asesu a chynnydd yng Nghwricwlwm i Gymru'

Mehefin 2022

Weminar Asesu a Chynnydd Mehefin 2022.pdf