Uned 2
Myfyrio ar arfer
Nod Uned 2 yw myfyrio ar arfer cyfredol ac adeiladu ar y wybodaeth a'r ddealltwriaeth a gafwyd o Uned 1.
Darperir adnoddau a phwyntiau trafod i gydweithio ymhellach ar wahanol agweddau o asesu a chynnydd.
Y Sefyllfa Bresennol
Syniadau cychwynnol am asesu a chynnydd
Ble ydyn ni ar hyd y daith?
Myfyrio ac ymateb:
Beth mae asesu a chynnydd yn ei olygu i'ch ysgol/clwstwr?
Ysgrifennwch ddisgrifiad unigol neu ar y cyd o sut mae asesu a chynnydd yn edrych o fewn eich hysgol/clwstwr. Bydd hyn yn eich galluogi i adnabod a myfyrio ar sut mae asesu a chynnydd yn edrych yn eich hysgol/clwstwr ar hyn o bryd.
Rhannwch eich disgrifiadau gyda chydweithwyr a thrafodwch: a oes dealltwriaeth gyffredin o’r hyn y mae asesu a chynnydd yn ei olygu ar draws yr ysgol gyfan/clwstwr?
Beth yw eich gweledigaeth ar gyfer asesu a chynnydd o fewn eich hysgol/clwstwr?
Effallai bydd cofnodi eich atebion ar Jamboard yn helpu
Asesu fel Tasg Gydymffurfiaeth
Pwrpas asesu yng Nghwricwlwm i Gymru yw cefnogi pob unigolyn i wneud cynnydd. Mae'r weithgaredd (ar y chwith) yn gofyn i chi fyfyrio ar wahanol fathau o ddulliau asesu, a'u rhannu i ddau gategori: 'asesu fel cydymffurfiaeth' ac 'asesu sy'n llywio'r dysgu ac addysgu'.
Myfyriwch ar y dulliau asesu yr ydych yn eu defnyddio ar hyn o bryd yn eich ysgol/clwstwr. Ble maen nhw'n eistedd o ran asesu fel cydymffurfiaeth ac asesu sy'n llywio dysgu ac addysgu?
Tasg Jamboard (cofiwch ei gopio).
Tasg 1
Pa ddulliau asesu y mae eich ysgol / clwstwr yn eu defnyddio ar hyn o bryd?
Trafodwch y cwestiynau canlynol gyda'ch ysgol/clwstwr:
Pa ddulliau asesu ydyn ni'n eu defnyddio ar hyn o bryd?
Pam, sut, a phryd ydyn ni'n eu defnyddio?
Pa mor effeithiol ydyn nhw o ran cefnogi cynnydd dysgwyr?
Sut allwn ni ddefnyddio'r wybodaeth yma'n effeithiol i gefnogi cynllunio ar gyfer cynnydd?
Ar gyfer pwy ydyn ni'n asesu?
Tasg 2
Trafodwch a dewiswch ddulliau asesu addas y gall eich ysgol / clwstwr ddymuno eu cadw, eu mireinio neu eu dileu. Cofiwch: mae'n bwysig treialu, mireinio a gwerthuso dulliau newydd yn seiliedig ar ymchwil ac ymarfer (Gweler Uned 4).
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Efallai y byddwch am ddefnyddio'r dempled enghreifftiol uchod i gofnodi'ch ymatebion.
Trafodaeth am gynnydd:
Sut ydyn ni'n defnyddio'r egwyddorion cynnydd?
Sut ydyn ni'n defnyddio'r egwyddorion asesu i gefnogi cynnydd dysgwyr?
Sut ydyn ni'n meddwl am ffyrdd newydd o asesu a chynnydd yng Nghwricwlwm i Gymru? Sut?
Pa ddulliau y gallwn ni eu datblygu i gyd-adeiladu ein datblygiad o ymarfer wrth gynllunio ac asesu cynnydd?
*Mae'r cwestiynau uchod yn deillio o'r Sgwrs Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gynnydd ac asesu.
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Prif Egwyddorion Asesu
Beth mae prif egwyddorion asesu yn eu golygu i chi fel ysgol/clwstwr?
Gan adeiladu ar eich dealltwriaeth yn Uned 1, myfyriwch ac ymatebwch i bob un o'r chwech egwyddor asesu.
Llenwch y Ffurflen Microsoft i adnabod eich cynnydd presennol a'r meysydd datblygu mewn perthynas â phob egwyddor. Mae'r Ffurflen MS i'w gweld yma.
Myfyrio ac Ymateb:
Beth mae'r prif egwyddorion yn eu golygu i chi fel ysgol/clwstwr?
Beth ydych chi'n eu gwneud ar gyfer pob un o'r prif egwyddorion ar hyn o bryd?
Beth allwch chi weithredu yn y tymor byr, canolig a hir er mwyn symud ymlaen i ddatblygu'r chwech egwyddor allweddol?
Gwrando ar ddysgwyr
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Fel rhan o'ch proses o ddylunio cwricwlwm, mae'n bwysig darganfod beth yw barn eich dysgwyr am asesu a chynnydd yn eich ysgol/clwstwr.
Defnyddiwch y dempled a'r cwestiynau (ar y chwith) i holi'ch dysgwyr o'u barn o'r dulliau asesu a ddefnyddir yn bresennol, a'r hyn maen nhw'n deimlo sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i'w cynnydd.
Efallai hoffech ddewis, newid ac addasu'r cwestiynau, yn ddibynnol ar ffocws ac anghenion a gallu eich dysgwyr.
Asesu a Chynnydd
Beth mae ysgolion eraill yn ei wneud i ddatblygu asesu a chynnydd?
Astudiaeth achos yn seiliedig ar egwyddorion allweddol asesu - Ysgol Parc Jiwbilî
Enghreifftiau o sut mae ysgolion wedi mynd ati i ddatblygu cynnydd wrth gynllunio'u cwricwlwm.