Uned 4
Adnoddau Ychwanegol
Mae Uned 4 yn eich annog i fyfyrio ar y 3 prif rôl asesu, fel yr amlinellir yn Uned 3, cyn archwilio gwybodaeth pellach am y trefniadau asesu a nodir yn Fframwaith Cwricwlwm i Gymru.
Cwricwlwm i Gymru: Cynllun Asesu/Trosolwg
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Myfyrio ac Ymateb:
Myfyriwch ar yr enghreifftiau a geir yn Uned 3.
Defnyddiwch y dempled a ddarperir i nodi'r trefniadau asesu y bydd eich ysgol yn eu cyflawni yn seiliedig ar y 3 prif rôl asesu fel y gwelir yng nghanllawiau'r Cwricwlwm i Gymru.
Mae'r enghraifft yn dangos ystod o asesiadau y gall ysgol / lleoliad eu cynnal yn seiliedig ar y canllawiau asesu fel a geir yn Fframwaith Cwricwlwm i Gymru. Dylid personoli'r ddogfen hon er mwyn sicrhau ei bod yn cyd-fynd â chwricwlwm eich ysgol.
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd
Mae deialog broffesiynol barhaus o fewn a rhwng ysgolion / lleoliadau yn ganolog i adeiladu a chynnal dealltwriaeth gyffredin o gynnydd er mwyn sicrhau cydlyniad, pontio llyfn a chyflymder a her disgwyliadau. Mae'r ddeialog broffesiynol hon yn bwysig i:
ddarparu cyfleoedd parhaus i ymarferwyr fyfyrio ar eu dealltwriaeth o gynnydd a sut mae'n cael ei gyfleu yn eu cwricwlwm, gan fwydo uniongyrchol i'w cwricwlwm a dylunio asesu, cynllunio a hunan-werthuso a phrosesau gwella
darparu cyfleoedd parhaus i ymarferwyr gymharu eu ffordd o feddwl ag ysgolion a lleoliadau tebyg eraill, gan ddarparu lefel o gysondeb disgwyliad wrth gadw hyblygrwydd lleol
cryfhau dealltwriaeth o ddulliau ac arfer rhwng ysgolion a lleoliadau, gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir, Unedau Cyfeirio Disgyblion a darparwyr eraill.
Dylai arweinwyr sicrhau bod canlyniadau'r ddeialog broffesiynol gydag ysgolion a lleoliadau eraill yn cael eu rhannu a'u bwydo i drafodaethau yn eu hysgol/leoliad, ac i'r gwrthwyneb, er mwyn effeithio'n gadarnhaol ar gynllunio, dysgu ac addysgu.
Dylai'r mewnwelediad a'r ddealltwriaeth a gafwyd o ganlyniad i'r ddeialog broffesiynol hon lywio a gosod proses hunan-werthuso pob ysgol/lleoliad, i helpu i ddiffinio blaenoriaethau'r dyfodol ar gyfer arweinyddiaeth, dylunio cwricwlwm, cynllunio, dysgu ac addysgu. Ni fydd y ddeialog broffesiynol hon yn gysylltiedig â mesurau atebolrwydd allanol.
Ymateb a Myfyrio:
Beth mae datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn ei olygu i ni?
Pam fod datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn bwysig i ni?
Sut allwn ni ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn ein hysgol ac ar draws ein clwstwr?
Pwy sydd angen bod yn gynwysiedig wrth ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd yn ein hysgol ac ar draws ein clwstwr?
A oes unrhyw rwydweithiau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol a fydd yn cefnogi ein dealltwriaeth o gynnydd?
Oes unrhyw ysgolion/lleoliadau eraill y mae angen i ni ymgysylltu â nhw?
Datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Asesiadau ar fynediad
Er mwyn cefnogi gweithredu asesiadau ar-fynediad, rhaid i ysgolion a lleoliadau:
bennu a gweithredu trefniadau asesu sy'n helpu adeiladu darlun o alluoedd a doniau'r dysgwr mewn perthynas â chwricwlwm yr ysgol neu'r lleoliad
gweithredu'r asesiadau ar gyfer dysgwyr sydd newydd eu cofrestru mewn ysgol neu leoliad (ac eithrio dysgwyr Blwyddyn 6 sy'n pontio i Flwyddyn 7), gan gydnabod bod plant a dysgwyr yn cychwyn ysgolion a lleoliadau ar wahanol adegau ar draws y continwwm 3 i 16.
ymgymryd â'r asesiadau o fewn 6 wythnos i ddysgwr gychwyn ysgol neu leoliad i gefnogi dealltwriaeth o ddechrau taith y dysgwr.
defnyddio allbwn yr asesiadau i gynllunio'r camau nesaf a theilwra dysgu ac addysgu er mwyn galluogi cynnydd.
Er mwyn sicrhau bod gan ysgolion a lleoliadau'r hyblygrwydd i gysoni eu trefniadau asesiad ar fynediad gyda'u cwricwlwm, yr ysgolion/lleoliadau fydd penderfynu ar fanylion y trefniadau asesu hyn. Er hynny, mae'n rhaid i'r asesiad:
fod yn addas i ddysgwyr o wahanol oed, gallu a dawn
cefnogi sgiliau rhifedd
cefnogi sgiliau llythrennedd
cefnogi datblygiad corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant a dysgwyr
Myfyrio ac ymateb:
Pa wybodaeth yr ydym am gasglu ar gyfer ein hasesiadau ar fynediad?
Pam fod y wybodaeth hyn yn bwysig?
Sut ydyn ni'n mynd i gofnodi'r wybodaeth?
Sut allwn ni ddefnyddio'r wybodaeth er mwyn teilwra'r addysgu/cynllunio camau nesaf y dysgwyr?
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Mae'r 'trefniadau asesu ar gyfer lleoliadau meithrin nas cynhelir a ariennir' yn nodi'r meysydd asesu gorfodol ynghyd â chyfres o gwestiynau i ni eu hystyried wrth i ni arsylwi ar blant yn ystod y 6 wythnos gyntaf yn ogystal ag enghreifftiau o'r hyn y gallwn ei arsylwi a'i gofnodi o ran datblygiad, dysgu a chynnydd plant.
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Asesiadau mynediad – templedi enghreifftiol
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni a gofalwyr
Mae cyfathrebu'n effeithiol â rhieni a gofalwyr yn barhaus yn ffordd bwysig o feithrin perthnasoedd cadarnhaol er mwyn ennyn eu diddordeb mewn deialog bwrpasol ac ystyrlon. Pan mae hyn yn gweithio'n dda, gall hyn helpu cynnydd dysgwyr drwy helpu rhieni a gofalwyr i ddeall sut y gallant gefnogi'r dysgu o fewn a thu allan i amgylchedd yr ysgol.
Dylai ysgolion a lleoliadau ddatblygu a gweithredu prosesau i gefnogi cyfathrebu ac ymgysylltu dwyffordd effeithiol â rhieni a gofalwyr. Wrth ddatblygu'r prosesau hyn, dylid ystyried defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau cyfathrebu gwahanol.
O ran gwybodaeth dysgwyr unigol, dylai ysgolion a lleoliadau rannu gwybodaeth gyda rhieni a gofalwyr am:
y cynnydd y mae eu plentyn yn ei wneud
eu hanghenion cynnydd yn y dyfodol
sut y gellir cefnogi anghenion cynnydd yn y dyfodol yn y cartref
eu lles cyffredinol yn yr ysgol
Dylid rhannu gwybodaeth am ddysgwyr unigol â'u rhieni a gofalwyr o leiaf yn dymhorol ac ni ddylid gwneud hynny mewn adroddiadau ysgrifenedig mawr. Ond yn hytrach, bwydo'r wybodaeth yn ôl iddynt mewn modd hygyrch sy'n sicrhau ymgysylltad y rhieni a gofalwyr, a'u dealltwriaeth ohonynt.
Dylid darparu crynodeb o wybodaeth am ddysgwyr unigol yn flynyddol, y caiff ei hamseriad a'i fformat eu pennu gan y pennaeth ond a fydd yn cefnogi cynnydd y dysgwr yn y ffordd orau posibl. Ni ddylai'r wybodaeth a ddarperir gynnwys disgrifiadau o'r testunau a'r gweithgareddau dysgu y mae'r dysgwr wedi ymgymryd â nhw, oni wneir hynny er mwyn rhoi cyd-destun, ond dylai ganolbwyntio ar y cynnydd ei hun, ac anghenion unigol y dysgwr a'r cymorth a gafodd.
Mae'n bwysig sicrhau y gall y gynulleidfa fwriadedig ddeall gwybodaeth ac adborth yn hawdd. Dylai fod yn gryno ac ni ddylid defnyddio jargon. Gall yr egwyddorion cynnydd gynnig fframwaith trefnu a naratif cyffredin i ysgolion er mwyn iddynt gyfathrebu â rhieni a gofalwyr.
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Dogfen ddefnyddiol o bosib i adlewyrchu ar arferion
Ymateb a Myfyrio:
Sut ydyn ni'n mynd i gyfathrebu ac ymgysylltu â rhieni a gofalwyr?
Pryd mae hyn yn mynd i ddigwydd?
Pa wybodaeth allwn ni ei rannu a fydd yn gwneud gwahaniaeth i'r dysgwr?
Pwy sy'n mynd i fod yn rhan o’r broses?
Enghreifftiau o gyfathrebu â rhieni a gofalwyr
Dyma enghreifftiau sy'n dangos sut mae rhai ysgolion yn cyfathrebu ac yn ymgysylltu â'u rhieni/goflawyr
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Trosglwyddo / Pontio
Nod cynlluniau pontio yw cefnogi a gwella’r cysylltiadau rhwng ysgolion uwchradd ac ysgolion cynradd sy’n bwydo, gan ganolbwyntio’n benodol ar gydweithio i gefnogi cynnydd cydlynol gan ddysgwyr, cefnogi anghenion a lles cyffredinol dysgwyr, a sicrhau cyflymder a her briodol yn y ffordd y mae ysgolion yn ymdrin â chynnydd wrth ddatblygu eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu.
Ar gyfer y Rheoliadau Pontio 2022, rhaid i gyrff llywodraethu ysgolion uwchradd a gynhelir ac ysgolion cynradd sy’n bwydo lunio un cynllun pontio ar y cyd i gefnogi’r broses o helpu dysgwyr i bontio o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7. Gall y ddarpariaeth ar gyfer ysgolion cynradd unigol sy’n bwydo, fel rhan o’r cynllun hwnnw fod yn wahanol, ond dim ond un cynllun sydd ei angen dan ofal yr ysgol uwchradd.
Rhaid i gynlluniau pontio gael eu cyhoeddi a'u hadolygu'n flynyddol.
Manylion pellach ar gael yma.
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
Yr adnodd cenedlaethol: gwerthuso a gwella
Canllawiau Estyn - Medi / Hydref 2022
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)
![](https://www.google.com/images/icons/product/drive-32.png)